Crynodeb

  • Canllawiau newydd ar gyfer agor ysgolion Cymru yn cynnwys pwyslais ar ddysgu y tu allan ac mewn grwpiau bychan, gyda phlant hefyd yn bwyta wrth eu desgiau

  • Naw yn rhagor o bobl wedi marw a 38 wedi'u heintio gyda Covid-19

  • Galw i ganiatáu cleifion sydd â dementia, anhawster deall Saesneg neu broblemau cyfathrebu eraill gael aelod o'u teulu gyda nhw yn yr ysbyty

  • Mae pobl yn cael eu hannog i wisgo mygydau yma bellach pan nad ydy pellhau cymdeithasol yn bosib

  • Y gweinidog addysg yn wynebu galwadau pellach i ollwng ei chynlluniau i ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ar ddiwedd y mis

  • Galw ar ailagor y farchnad dai yn "bwyllog", 11 wythnos ers i'r argyfwng coronafeirws ddod â'r sector i stop

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Dyna'r cyfan gan y llif byw am heddiw.

    Ar y diwrnod pryd wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ynglŷn ag ailagor ysgolion ar 29 Mehefin gyda phwyslais ar ddysgu tu allan.

    Bydd y llif byw yn ôl bore fory, ond tan hynny bydd y newyddion diweddaraf i'w gael ar brif hafan Cymru Fyw.

    Hwyl am y tro.

  2. Clustnodi £3m i ddelio gyda chost y feirwswedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Cyngor Sir y Fflint

    Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi neilltuo £3m ar gyfer delio gyda chost y pandemig Covid-19.

    Dywed swyddogion mewn datganiad ynghylch sefyllfa ariannol yr awdurdod fod y cyfyngiadau teithio a chymdeithasu wedi amharu ar sawl ffynhonnell incwm.

    Ond mae'r sefyllfa hefyd wedi galluogi'r cyngor i wneud rhai arbedion.

    Mae adroddiad arall yn dangos fod rhai prosiectau wedi eu gohirio am y tro oherwydd y feirws, gan gynnwys gwaith ailwynebu ffyrdd a gwella adeiladau yn y sir.

  3. Busnesau twristiaeth 'yn rhwystredig'wedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae pennaeth asiantaeth Twristiaeth Gogledd Cymru wedi dweud fod ei aelodau yn teimlo "rhwystredigaeth" mawr ac yn poeni am ddyfodol y diwydiant.

    Dywedodd Jim Jones fod aelodau'r grŵp yn "cynrychioli pobl sy'n cefnogi'r economi drwy gynnal y diwydiant twristiaeth.

    "Rydym angen Gorffennaf ac Awst, neu fe fydd yna broblemau eang i'r diwydiant.

    "Mae angen i ni gynllunio nawr ar gyfer pa bynnag fath o dymor sydd dal ar gael.

    "Gallwn ni ddim gadael i Loegr galifantio o'n blaenau, bod nhw ar agor i bobl tra pob ymwelwyr posib i Gymru yn dweud 'mae Cymru wedi cau, felly awn i rywle arall.'"

    Dyw Llywodraeth Cymru heb roi dyddiad eto ar gyfer ailagor y sector twristiaeth.

    Ond yn gynharach heddiw dywedodd gweinidog yr economi Ken Skates ei fod yn gobeithio "gallu dweud rhywbeth positif" i'r diwydiant twristiaeth pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio ym mis Gorffennaf.

    traethFfynhonnell y llun, Reuters
  4. Rheolau newydd i breswylwyr unigol yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Fe wnaeth Mr Johnson hefyd gyhoeddi rheolau newydd fydd yn effeitho ar bobl sy'n byw ar ben eu hunain yn Lloegr.

    O ddydd Sadwrn byddant yn gallu ffurfio 'uned gefnogol' gyda thrigolion un cartef arall.

    Bydd hyn yn golygu eu bod yn gallu ymweld â thai ei gilydd, aros y nos, a ddim yn gorfod ymbellhau o'i gilydd.

    Dyw'r rheol newydd ddim yn cynnwys pobl sydd mewn grŵp risg uchel ac wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu.

  5. Sŵau i ailagor yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Bydd atyniadau awyr agored a sŵau yn Lloegr yn cael ailagor o ddydd Llun nesa.

    Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod cynhadledd dyddiol y wasg Llywodraeth y DU.

    Dywedodd y prif weinidog Boris Johnson y byddai'n rhaid i'r atyniadau gydymffurfio gyda'r mesurau ymbellhau

    Boris Johnson
  6. 245 yn rhagor wedi marw ar draws y DUwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth San Steffan yn nodi bod 245 yn rhagor o bobl wedi marw o haint Covid-19 ar draws y DU.

    Mae nifer y rhai sydd wedi marw ar ôl iddynt gael prawf positif o'r haint bellach yn 41,128.

  7. Y Post Prynhawn ar fin cychwyn ...wedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Cofiwch am y Post Prynhawn - y manylion diweddaraf am brif straeon y dydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Dim mwy o gleifion i Ysbyty Calon y Ddraigwedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Bydd Ysbyty Calon y Ddraig ddim yn derbyn rhagor o gleifion am y tro, ond fe fydd yr ysbyty maes yng Nghaerdydd yn parhau fel safle wrth gefn rhag ofn bod yna gynnydd yn nifer achosion Covid-19.

    Cafodd yr ysbyty ar safle Stadiwm Principality ei agor ym mis Ebrill er mwyn cynorthwyo’r gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig.

    Cafodd yr ysbyty gyda 2,000 o welyau ei sefydlu er mwyn rhoi gofal i gleifion oedd yn cwblhau eu triniaeth ar gyfer Covid-19, ac er mwyn gofal diwedd oes.

    Dywedodd Len Richards prif weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, mai llwyddiant yr ysbyty, yw na chafodd ei ddefnyddio i'w gapasiti llawn.

    "Mae hynny oherwydd diolch i gymunedau'r de, sydd wedi eu chwarae eu rhan wrth atal ymlediad y feirws," meddai.

    ysbytyFfynhonnell y llun, BIPCF
  9. Ymateb y Comisiynydd Plant i'r canllawiau ar ailagor ysgolionwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae'r Comisiynydd Plant, Sally Holland, wedi croesawu mwy o eglurhad ar ailagor ysgolion.

    Mae'r ymateb llawn i'w weld isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Cyfieithu stori am Covid-19 i blantwedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Mae staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi cyfieithu stori blant am y pandemig i’r Gymraeg.

    Enw’r llyfr yw 'Ti yw fy Arwres: Sut y gall plant frwydro yn erbyn Covid-19!' ac mae wedi ei ysgrifennu ar gyfer plant rhwng chwech ac 11 oed.

    Yn y stori, mae creadur hudol o’r enw Ario yn egluro sut y gall plant ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd, a'u ffrindiau rhag y coronafeirws a sut y gallan nhw reoli eu teimladau mewn amser anodd.

    Daeth dros 50 o sefydliadau yn y sector dyngarol ynghyd er mwyn llunio'r stori wreiddiol, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig, ac Achub y Plant.

    Dywedodd Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg bod "llenyddiaeth yn arf pwerus sy'n ein helpu i drafod llawer o faterion heriol ac mae'n bwysig fod pawb yn cael y cyfle i wneud hynny yn eu hiaith eu hunain".

    ArioFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y sgriptiwr a'r darlunydd Helen Patuck luniodd y stori diolch i help dros 1,700 o blant, rhieni, darparwyr gofal ac athrawon ledled y byd

  11. Achosion gwreiddiol wedi teithio o Ewropwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae astudiaeth o achosion Covid-19 yn dweud fod yr haint wedi ei gludo i'r DU ar o leiaf 1,300 o achlysuron.

    Dywed gwyddonwyr sy'n astudio geneteg y feirws fod hyn yn chwalu'r syniad mai un claf yn unig oedd yn gyfrifol am ddechau’r haint yn y DU.

    Yn ôl consortiwm Covid-19 Genomics UK roedd y rhan fwyaf o achosion wedi dod o wledydd Ewropeaidd.

    Bach iawn oedd effaith o China, y wlad lle dechreuodd y pandemig.

    Fe wnaeth ymchwilwyr edrych ar samplau dros 20.000 o bobl gafodd eu heintio gan coronafeirws yn y DU.

    maes awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. UCAC: 'Sawl mater amlwg yn peri pryder'wedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Er ein bod ni’n croesawu cyhoeddiad y canllawiau hyn, mae ein pryderon difrifol yn parhau ynghylch natur gymhleth y dasg sy’n wynebu ysgolion mewn cyfnod difrifol o fyr, a’r lefelau uchel o risg sydd ynghlwm â’r dasg.

    “Nid yw’r canllawiau’n datgan o gwbl, neu ddim yn ddigon clir, nifer o faterion allweddol y byddem wedi’i ddisgwyl.

    "Mae awdurdodau lleol, yn naturiol, wedi dechrau ar y gwaith cyn i’r canllawiau gael eu cyhoeddi. Felly mae anghysondeb wrth wraidd y broses gynllunio, pan ellid fod wedi osgoi hynny.

    “Mae sawl mater amlwg sy’n peri pryder: cyfrifoldeb dros y ddarpariaeth gofal yn yr hybiau, mynediad cyfartal at gludiant diogel i’r ysgol, y defnydd a’r cyflenwad o PPE, a rôl y staff hynny sy’n cydfyw gyda rhywun sy’n fregus."

    Dywedodd fod yr undeb wedi gofyn i’r gweinidog addysg ailystyried y penderfyniad i ailagor ysgolion i bob disgybl cyn yr haf.

  13. 'Poen' ariannol yn wynebu Undeb Rygbi Cymruwedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Chwaraeon BBC Cymru

    Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, wedi rhybuddio am “boen” ariannol os yw gemau’n ailddechrau ond yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.

    Dyw rygbi heb gael ei chwarae ers mis Mawrth oherwydd argyfwng coronafeirws.

    Mae disgwyl i Gymru gynnal saith gêm brawf rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2021 - pedair gêm ryngwladol yr hydref a thair gêm bosib yn y Chwe Gwlad.

    Mae prif weithredwr URC, Martyn Phillips, eisoes wedi rhybuddio y byddai’r corff llywodraethu “yn edrych ar golled o £50m mewn refeniw” pe na bai Cymru’n chwarae unrhyw gemau hydref neu Chwe Gwlad.

    Ond os yw gemau'n cael eu chwarae heb i'r Undeb allu cynyddu ei refeniw o docynnau, lletygarwch a busnes cysylltiedig arall, mae Mr Davies yn ofni y bydd straen ariannol sylweddol o hyd.

  14. 'Pwyslais ar ddysgu tu allan' wrth ailagor ysgolionwedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru'n cydnabod y bydd hi'n anodd i ddisgyblion cynradd gadw pellter cymdeithasol.

    Read More
  15. NEU: 'Materion i'w datrys cyn ailagor'wedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Dywedodd Undeb NEU Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad ond y byddai wedi bod yn well ganddyn nhw weld yr ysgolion yn ailagor ym mis Medi.

    "Mae yna lot fawr o faterion i'w datrys cyn i'r ysgolion ailagor ar raddfa fwy eang, a byddwn ni hefyd yn ysgrifennu at ein haelodau gyda chanllawiau," meddai David Evans, Ysgrifennydd NEU Cymru.

    "Mae'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr na fydd addysgwyr proffesiynol yn gorfod rhoi cefnogaeth i blant gweithwyr allweddol dros yr haf.

    "Mae awdurdodau lleol mewn lle da i ddarparu trefniadau o'r fath er mwyn sicrhau fod ein gweithwyr allweddol a gweithwyr iechyd, yn cael eu cefnogi."

    ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Undeb NAHT: 'Gwerthfawrogi hyblygrwydd'wedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Dywedodd Ruth Davies, llywydd undeb NAHT Cymru, mai eu hopsiwn gorau nhw fyddai wedi gweld blynyddoedd 5 a 6 yn dychwelyd ond ychwanegodd: "Drwyddi draw rydym yn gefnogol o ymdrechion y llywodraeth ac yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd o fewn y datganiad sy'n caniatáu i arweinwyr ysgol gynllunio ar gyfer strategaeth dychwelyd sydd gam wrth gam a dros gyfnod o amser.

    "Mae dychwelyd ym Mehefin yn caniatáu i ysgolion brofi ar lefel llai ar gyfer llunio paratoadau mwy hir dymor o fis Medi.

    "Ond mae angen mwy o eglurdeb gan Lywodraeth Cymru am y cynlluniau hyn a hynny nawr yn hytrach nag yn ddiweddarach yn yr haf."

  17. Un undeb yn croesawu'r canllawiauwedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i ysgolion, dywedodd yr undeb sy'n cynrychioli penaethiaid ysgolion a cholegau - yr ASCL - eu bod yn eu croesawu.

    Dywedodd llefarydd y byddan nhw'n edrych ar y canllawiau yn ofalus "er mwyn sicrhau eu bod yn ateb yr holl gwestiynau sydd angen eu hateb".

    "Mae'n bwysig fod pawb yn cefnogi'r gorchwyl cenedlaethol yma, fel ein bod yn gallu bwrw 'mlaen gyda'r dasg angenrheidiol o gadw llygad ar les ac addysgu'r plant, a dechrau ailsefydlu normalrwydd ar ôl cyfnod hir o aflonyddwch."

  18. Covid-19: Nifer y marwolaethau'n gostwng etowedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    graff
    graff
  19. 'Problemau ymarferol' gyda'r rheol 2mwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r canllawiau yn dweud eu bod yn cydnabod mewn ysgolion cynradd nad "yw'n ymarferol i ddisgwyl i ddisgyblion gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr" ond y dylai staff geisio "peth pellter" rhwng y plant.

    Ond ar gyfer ysgolion uwchradd dylai disgyblion, lle'n bosib, gadw at y rheol 2m, meddai Llywodraeth Cymru.

    Dylai ysgolion ystyried roi addysg i grwpiau penodol am gyfnodau hirach o amser, gydag o leiaf wythnos cyn y cyfnodau - hyn yn hytrach na nifer o gyfnodau byr dros gyfnod o bedair wythnos.

    Hefyd dylai amseroedd dechrau a gorffen yr ysgol ac egwyl gael eu hamrywio rhwng grwpiau.

    Dywed y canllawiau nad oes angen offer PPE ar gyfer "ymarferiadau addysgol arferol" ond y dylid gwisgo PPE pe bai unrhyw ddisgybl yn dechrau dangos symptomau.

    Ond mae undebau addysg eisoes wedi dweud nad oes gan ysgolion ddigon o amser i baratoi ar gyfer ailagor ar 29 Mehefin, ac y byddai'n well iddyn nhw aros ar gau tan fis Medi.

  20. Datgelu mesurau y dylai ysgolion eu hystyriedwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae dysgu tu allan, dysgu mewn grwpiau bach a chael disgyblion i fwyta wrth eu desgiau ymhlith rhai o'r mesurau y dylai ysgolion eu hystyried wrth ailagor, yn ôl canllawiau newydd.

    Mae dogfen Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y dylid canolbwyntio mwy ar "lles, chwarae a dysgu awyr agored" pan fydd disgyblion yn dychwelyd.

    Mae disgwyl i bob plentyn o bob grŵp blwyddyn fod yn ôl yn yr ystafell ddosbarth o 29 Mehefin.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams fod “taro cydbwysedd” rhwng iechyd cyhoeddus cenedlaethol a “hyblygrwydd lleol” wedi bod yn allweddol.