Crynodeb

  • Canllawiau newydd ar gyfer agor ysgolion Cymru yn cynnwys pwyslais ar ddysgu y tu allan ac mewn grwpiau bychan, gyda phlant hefyd yn bwyta wrth eu desgiau

  • Naw yn rhagor o bobl wedi marw a 38 wedi'u heintio gyda Covid-19

  • Galw i ganiatáu cleifion sydd â dementia, anhawster deall Saesneg neu broblemau cyfathrebu eraill gael aelod o'u teulu gyda nhw yn yr ysbyty

  • Mae pobl yn cael eu hannog i wisgo mygydau yma bellach pan nad ydy pellhau cymdeithasol yn bosib

  • Y gweinidog addysg yn wynebu galwadau pellach i ollwng ei chynlluniau i ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ar ddiwedd y mis

  • Galw ar ailagor y farchnad dai yn "bwyllog", 11 wythnos ers i'r argyfwng coronafeirws ddod â'r sector i stop

  1. Rheol dau fedr i aros - am y trowedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi dweud y byddai llacio'r rheol pellhau cymdeithasol o ddau fedr i un yn "broblematig".

    Wrth siarad ar raglen Breakfast Radio Wales y bore 'ma, dywedodd Dr Atherton y byddan nhw'n ystyried newid y rheol wrth i nifer y gyfradd 'R' ddod i lawr, ond dywedodd bod dau fedr "rhwng dwy neu 10 gwaith yn fwy" effeithiol nag un medr.

    O ran y newidiadau i'r cyngor am wisgo mygydau, dywedodd fod mwgwd tair haen yn llawer mwy effeithiol na mwgwd un haen, sy'n "eithaf aneffeithiol".

    Mae hynny, meddai, yn golygu haen allanol sy'n wrth-ddŵr, haen fewnol o gotwm a haen ganol o wadin.

    Ond pwysleisiodd nad oedd y dystiolaeth am unrhyw orchudd wyneb yn gryf ac nad oedd eu gwisgo yn orfodol. Mae pobl yn parhau i gael eu hannog i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus, meddai, ac nid yw chwaith yn awgrymu y dylai bobl hŷn wisgo gorchuddion.

  2. Galw am newid rheolau ymweliadau ysbyty a chartrefiwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Teuluoedd yn dweud bod pobl â dementia angen cymorth arbennig mewn ysbytai gan aelodau teulu.

    Read More
  3. Cymharu'r sefyllfa dros 5 mlyneddwedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    ONS

    Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod nifer y marwolaethau fesul wythnos yng Nghymru wedi disgyn am yr ail wythnos yn olynol i 587 yn Wythnos 22, sydd 7.5% yn uwch na chyfartaledd y bum mlynedd ddiwethaf am yr un cyfnod.

  4. Ailagor ysgolion i bawb yn 'ddifrifol o gymhleth'wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru y bore 'ma, dywedodd Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC mai "ailagor ym mis Medi fyddai'r cam doethaf a mwyaf diogel i bawb".

    "Ry'n ni yn gryf iawn o'r farn bod y trefniadau sydd angen eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod pob disgybl yn cael dychwelyd yn llawer rhy gymhleth ac astrus ac y byddai rhoi mynediad i nifer llai o blant sydd angen blaenoriaeth yn ffordd ddoethach ymlaen," meddai.

    "Byddai ailagor ar sail grwpiau penodol wedi rhoi gwell cyfle i arbrofi na cheisio cael pawb drwy'r gatiau. Mae'r logistics sydd ynghlwm â hynny mor ddifrifol o gymhleth.

    "[Y] tebygolrwydd yw dros y bedair wythnos [cyn gwyliau'r haf] y bydd staff wedi dod i gysylltiad gyda niferoedd uchel iawn o blant o wahanol gartrefi. Cawn weld beth sydd yn y canllawiau fydd yn cael eu cyhoeddi heddiw, mae yna wir ddisgwyl amdanyn nhw ers y cyhoeddiad wythnos yn ôl, ond ar hyn o bryd mae gennym ni restr hirfaith iawn o gwestiynau sydd angen eu hateb."

    ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. UCAC: 'Ailagor ysgolion yn ormod o risg'wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams yn wynebu galwadau pellach i ollwng ei chynlluniau i ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ar ddiwedd y mis.

    Daw galwad diweddaraf undeb athrawon UCAC ddoe, ar y diwrnod pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai holl ddisgyblion cynradd Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf wedi'r cwbl.

    Mewn llythyr at y gweinidog addysg mae UCAC yn dweud fod y cynlluniau presennol yn peri gormod o risg i aelodau staff, gan alw am gau'r ysgolion tan fis Medi.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddai'r newidiadau yn Lloegr yn effeithio ar y penderfyniad yng Nghymru.

  6. Croesowedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Bore da a chroeso i lif byw dyddiol Cymru Fyw ar ddydd Mercher, 10 Mehefin.

    Fe fyddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi am y pandemig yng Nghymru drwy gydol y dydd.

    Mae disgwyl y diweddariad dyddiol gan Lywodraeth Cymru am 12:30, gydag ystadegau diweddaraf yr achosion a marwolaethau Covid-19 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi am 14:00.

    Bydd datblygiadau mawr eraill y dydd i'w cael yma hefyd felly arhoswch gyda ni.