Crynodeb

  • Canllawiau newydd ar gyfer agor ysgolion Cymru yn cynnwys pwyslais ar ddysgu y tu allan ac mewn grwpiau bychan, gyda phlant hefyd yn bwyta wrth eu desgiau

  • Naw yn rhagor o bobl wedi marw a 38 wedi'u heintio gyda Covid-19

  • Galw i ganiatáu cleifion sydd â dementia, anhawster deall Saesneg neu broblemau cyfathrebu eraill gael aelod o'u teulu gyda nhw yn yr ysbyty

  • Mae pobl yn cael eu hannog i wisgo mygydau yma bellach pan nad ydy pellhau cymdeithasol yn bosib

  • Y gweinidog addysg yn wynebu galwadau pellach i ollwng ei chynlluniau i ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ar ddiwedd y mis

  • Galw ar ailagor y farchnad dai yn "bwyllog", 11 wythnos ers i'r argyfwng coronafeirws ddod â'r sector i stop

  1. Naw yn rhagor wedi marwwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod naw yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19 yng Nghymru.

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 38 yn rhagor o bobl wedi cael eu heintio hefyd.

    Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 1,419 o bobl wedi marw ar ôl cael yr haint yng Nghymru, gyda 14,518 wedi cael eu heintio.

  2. Newyddion positif i dwristiaeth?wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn "gobeithio gallu dweud rhywbeth positif" ar gyfer y diwydiant ymwelwyr rhwng nawr a diwedd Gorffennaf, yn ôl Ken Skates, gweinidog yr economi.

    Yn ystod cynhadledd ddyddiol y wasg roedd hi'n ymddangos bod Mr Skates yn awgrymu 9 Gorffennaf fel dyddiad posib.

    Ar hyn o bryd ni all pobl yng Nghymru deithio mwy na phum milltir er mwyn cwrdd â rhywun yn gymdeithasol.

    beicioFfynhonnell y llun, Getty Images

    "Wrth i ni edrych i ailagor y sector twristiaeth fe fydd yn rhaid edrych eto ar y canllaw pum milltir," meddai.

    Byddan nhw'n gwneud hynny "mewn modd nad sy'n peryglu diogelwch y cyhoedd" ac "unwaith ein bod yn hyderus na fydd hyn yn difetha arolygon ar gyfer y diwydiant ymwelwyr ar gyfer 2021, drwy agor yn rhy gynnar".

    "Bydd yr arolwg ar 18 Mehefin, pan fydd y prif weinidog yn dweud rhywbeth am rannau arall o'r economi. Y dyddiad ar ôl hynny, wrth gwrs, yw 9 Gorffennaf."

  3. Prydau ysgol am ddim: 'Dylid dilyn esiampl Cymru'wedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae'r arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddilyn esiampl Cymru a pharhau i roi prydau ysgol am ddim yn Lloegr drwy gyfnod gwyliau'r haf.

    Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd ei bod "yn anghywir y bydd y system dalebau yn Lloegr yn dod i stop yn ystod gwyliau'r haf".

    "Fe fydd yn arwain at fwy o anghyfartaledd," meddai. "Felly rwy'n erfyn ar y prif weinidog [Boris Johnson] i ailystyried."

    Wrth ymateb dywedodd Mr Johnson nad ydyn nhw "fel rheol yn parhau gyda'r drefn prydau ysgol am ddim dros gyfnod gwyliau'r haf, ond rydym wrth gwrs yn ymwybodol o drafferthion sy'n wynebu teuluoedd bregus".

  4. Mygydau gorfodol 'ddim yn synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y gweinidog wrth y gynhadledd na "fyddai'n gynaliadwy nac yn synhwyrol" i'w gwneud yn orfodol i bobl wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Cafodd Ken Skates ei holi pam nad oedd Cymru yn dilyn yr un trywydd â Lloegr, lle bydd gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol.

    "Yn gyntaf mae'r cwestiwn o sut byddai hynny'n cael ei blismona, pwy fyddai'n gwneud y gwaith plismona a pwy fyddai'n gyfrifol am gynnal archwiliadau?" meddai.

    "Yna mae cwestiynau a fyddai'n arwain i bobl feddwl eu bod yn fwy diogel nag ydyn nhw oherwydd eu bod yn gwisgo mwgwd.

    "Mae'n llawer mwy effeithiol i olchi eich dwylo yn gyson a chadw pellter cymdeithasol os ydych am osgoi coronafeirws rhag ymledu."

    mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd Mr Skates y byddai ei lywodraeth yn cynnal trafodaethau gyda'r undebau ynglŷn â'r sefyllfa.

    Mae undeb Unite wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru ynglŷn â mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan ddweud y byddai iechyd gyrwyr yn cael ei beryglu gan bobl sydd yn dewis peidio gwisgo gorchuddion wyneb.

  5. Ailagor siopau yn ddibynnol ar y rhif Rwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Skates hefyd yr hoffai weld siopau sydd ddim yn hanfodol yn ailagor os yw ystadegau coronafeirws yn parhau i ostwng ar 22 Mehefin.

    Wrth ymateb i gwestiynau yng nghynhadledd ddyddiol y wasg Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Skates y byddai'n hwb fawr i'r economi, ond dywedodd ei fod yn ddibynnol ar y rhif R - cyfradd trosglwyddo coronafeirws.

    Dywedodd fod “siopau nad yw’n hanfodol” yn flaenllaw ym meddwl Llywodraeth Cymru.

  6. Llywodraeth am bwyllo cyn gwneud penderfyniadauwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd penderfyniadau ar ailagor rhannau o’r economi yn cael eu gwneud yn ysgafn, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

    Gyda siopau sydd ddim yn hanfodol ac atyniadau awyr agored ar fin agor eto yn Lloegr o'r wythnos nesaf, mae pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddilyn.

    Mae disgwyl y cyhoeddiad nesaf ar leddfu cyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru ddiwedd yr wythnos nesaf.

    Ond dywedodd Mr Skates fod dull Cymru o wneud cyhoeddiad unwaith bob tair wythnos yn helpu i roi sicrwydd i fusnesau.

    Ychwanegodd bod data arolwg yn awgrymu fod 60% o bobl yn parhau i fod yn "rhy nerfus" i adael eu cartrefi.

  7. Skates: 'Sŵau yng Nghymru ar eu hennill'wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae sŵau yng Nghymru wedi bod ar eu hennill ers datganoli, yn ôl gweinidog yr economi, Ken Skates.

    Roedd Mr Skates yn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ailagor Sŵ Mynydd Bae Colwyn yn ystod cynhadledd ddyddiol y wasg Llywodraeth Cymru.

    Mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach y bydd sŵau yn Lloegr yn cael ailagor ddydd Llun nesaf.

    Dywedodd Mr Skates fod sefydliadau'r o'r fath yng Nghymru wedi derbyn mwy o gymorth na sefydliadau tebyg yn Lloegr o ganlyniad i ddatganoli.

    Ychwanegodd y byddai amserlen ar gyfer eu hailagor yn cael ei ystyried wrth i Lywodraeth Cymru gynnal eu harolwg tair wythnosol.

    Ken Skates
  8. Gofyn am un clap olafwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae ymgyrch ar droed i drefnu un achlysur terfynol er mwyn i bobl ddangos eu cymeradwyaeth a'u diolch i weithwyr iechyd a gweithwyr gofal.

    Y bwriad yw ei gynnal ar ddydd Sul, 5 Gorffennaf - y dyddiad sy'n cael ei gydnabod fel pen-blwydd sefydlu'r gwasanaeth iechyd.

    Y noson gynt, mae galwad hefyd i bobl gynnau cannwyll er cof am y rhai a fu farw o'r haint.

    clapFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Cyn hir...wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Gweinidog yr economi, Ken Skates fydd yn arwain cynhadledd y wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru am y sefyllfa a'r mesurau diweddara' yn ymwneud â Covid-19.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Munud o dawelwch yn Senedd Cymruwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Ar ddechrau'r cyfarfod llawn rhithiol o'r Senedd fe wnaeth yr aelodau gynnal munud o dawelwch i gofio am George Floyd.

    Mae ei farwolaeth, tra yn nalfa'r heddlu fis diwethaf, wedi ysgogi ton o brotestiadau gwrth-hiliaeth ar draws y byd.

    Ar ddechrau'r cyfarfod dywedodd y Llywydd Elin Jones bod y munud o dawelwch yn cefnogi ymgyrch Black Lives Matter.

    Yn ystod y dydd bydd y cyfarfod yn clywed datganiadau ar argyfwng coronafeirws.

    Mae modd gwylio'r cyfarfod drwy glicio ar frig y dudalen yma.

    Senedd
  11. Apêl i rieni newydd...wedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    ...rannu eu profiadau ar gyfer arolwg o'r gwasanaethau ar eu cyfer mewn cyfnod heriol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Angen ymchwiliad' i achos marwolaeth nyrswedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae cwest wedi clywed fod nyrs 63 oed wedi marw gyda coronafeirws ar ôl cael ei danfon adref o'i gwaith ar un o wardiau Ysbyty Llandochau, Penarth.

    Roedd Dominga David wedi bod yn holliach cyn cael gwres uchel yn ystod shifft ar 31 Mawrth, ble bu'n eistedd gyda chlaf a gafodd prawf Covid-19 positif maes o law.

    Dominga DavidFfynhonnell y llun, Llun teulu

    Bum niwrnod yn ddiweddarach, bu'n rhaid ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gyda pheswch, twymyn a phoen yn y cyhyrau. Cafodd prawf positif am Covid-19 a bu farw ar 25 Mai.

    Nodwyd cyflyrau eraill yn ogystal â Covid-19 fel achosion marwolaeth cychwynnol, ond wrth agor a gohirio'r cwest, dywedodd Crwner Canol De Cymru, Graeme Hughes bod yna resymau i amau cysylltiad rhwng gwaith Ms David a'i marwolaeth a bod angen ymchwiliad i'r achos o'r herwydd.

  13. Cadw sŵau Cymru ar gau yn "hurt a chreulon"wedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wedi'r cyhoeddiad fod sŵau a sŵau môr yn Lloegr yn cael agor o 15 Mehefin ymlaen, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw o'r newydd am i'r un peth ddigwydd yng Nghymru.

    Mae'r blaid hefyd yn cefnogi'r alwad i sefydlu cronfa i gefnogi'r "atyniadau twristiaeth hanfodol" a diogelu creaduriaid allai fel arall orfod cael eu difa.

    Dywedodd llefarydd amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies: "Gyda dim cefnogaeth ariannol a dim ymwelwyr, bydd sŵau ac atyniadau twristiaeth awyr agored anifeiliaid eraill yn cau am byth, bydd swyddi'n cael eu colli, ac mae'n debygol y bydd angen difa anifeiliaid. Mae'n hurt a chreulon.

    “Mae'n bosib cyflwyno mesurau pellter cymdeithasol yn y llefydd yma, ac mae dal amser i'r Prif Weinidog weithredu'n ariannol hefyd... Rwy'n erfyn arni o wneud y peth cywir, a chaniatáu i sŵau ailagor."

  14. 'Dim digon o amser i ailagor ysgolion' medd undebwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Y llywodraeth i gyhoeddi canllawiau ailagor yn ddiweddarach, ond Unison Cymru'n beirniadu'r amserlen.

    Read More
  15. 'Sŵau Cymru yn barod i agor'wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Mae Sŵ Mynydd Cymru wedi cefnogi'r penderfyniad i ailagor sŵau yn Lloegr ond dywed bod rhai yng Nghymru yn dal i wynebu dyfodol ansicr.

    Trydarodd yr atyniad, sydd wedi'i leoli ym Mae Colwyn: "Pan gawn ni ailagor, nid oes dianc rhag y ffaith y byddwn wedi dioddef difrod ariannol eithafol ers cau ar 22 Mawrth a bydd y ffordd i adferiad yn hir ac yn ansicr.

    "Mae gennym y gallu i ailagor gyda mesurau pellhau cymdeithasol priodol, ond mae angen i Lywodraeth Cymru leddfu eu cyfyngiadau er mwyn caniatáu inni wneud hyn."

    Mae sŵ Wild Animal Kingdom yn y Borth yng Ngheredigion wedi rhybuddio bod pwysau ariannol yn ystod y cyfnod clo yn golygu ei bod yn wynebu gorfod ailgartrefu neu hyd yn oed roi ei hanifeiliaid i lawr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Y Wladfa: 'Y lle i fod, nawr ac yn y dyfodol'wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Jeremy Wood sy'n sôn am y cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol ym Mhatagonia

    Read More
  17. Newidiadau i wasanaethau digidol y GIG i barhau wedi'r pandemigwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Bydd rhai pethau ddim yn mynd yn ôl i'r drefn arferol, medd Prif Swyddog Meddygol Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Coelcerthi yn achosi pryder i gyngorwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Cyngor Powys

    Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Powys wedi derbyn 60 o gwynion am goelcerthi ers dechrau’r cyfyngiadau symud yng Nghymru.

    Mae hynny, meddai'r awdurdod, yn ddwbl nifer y galwadau am danau a ddechreuwyd mewn eiddo masnachol a domestig, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd (Ebrill a Mai) - pan gofnodwyd 28 yn unig.

    Mae'r cyngor yn bryderus am yr effaith y gallai'r tanau hyn fod yn eu cael ar bobl sy'n dioddef anawsterau anadlu o ganlyniad i fod yn dioddef o Covid-19, ac ar y rhai sy'n gwarchod eu hunain gartref ac sy'n methu â dianc rhag y mwg.

  19. Gêm 'gyfeillgar' Caerdydd ac Abertawewedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae Caerdydd ac Abertawe i wynebu ei gilydd mewn gêm gyfeillgar cyn ailgychwyn tymor y Bencampwriaeth.

    Bydd y gelynion pennaf yn cwrdd mewn gêm ymarfer tu ôl i ddrysau caeedig ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.

    Mae'r ddau glwb yn awyddus i gael gêm wrth iddyn nhw baratoi i ddychwelyd i'r gynghrair yn ddiweddarach yn y mis, ar ôl seibiant o dri mis oherwydd y pandemig.

    Mae Abertawe yn teithio i Middlesbrough ar 20 Mehefin, tra bod Caerdydd yn croesawu Leeds i'r brifddinas y diwrnod canlynol.

    cdydd abertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe chwaraeodd y ddau dîm yn erbyn ei gilydd ddiwethaf ym mis Ionawr, mewn gêm ddi-sgôr

  20. Nifer y marwolaethau wythnosol yn parhau i ostwngwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mehefin 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    ONS

    Mae cyhoeddiad diweddaraf yr ONS yn dangos y bu 105 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 rhwng 22-29 o Fai.

    Dyma’r nifer lleiaf ers y brig ar ddiwedd Ebrill.