Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2020
Dyna'r cyfan am y tro.
Diolch am ddarllen - bydd y llif byw yn ôl bore fory ond tan hynny fe fydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw.
Hwyl am y tro.
Chwech yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19 yng Nghymru
Elusen sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau yn rhybuddio bydd mwy o farwolaethau yn sgil effeithiau'r pandemig
Sir Ddinbych sydd bellach â'r gyfradd uchaf o achosion coronafeirws yng Nghymru gyfan
Canolfannau gwyddoniaeth yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu cronfa argyfwng gwerth £25m er mwyn sicrhau y byddan nhw'n goroesi cyfnod y pandemig
Awgrym gan weinidog yr economi y gallai'r rheol pum milltir gael ei llacio erbyn 9 Gorffennaf
Dyna'r cyfan am y tro.
Diolch am ddarllen - bydd y llif byw yn ôl bore fory ond tan hynny fe fydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw.
Hwyl am y tro.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r pwysau cynyddol sy'n dod oddi wrth berchnogion tai bwyta i gael ailagor.
Dywed datganiad: "Byddwn yn dymuno nodi ein diolch a gwerthfawrogiad i'r sector am eu gwydnwch a chreadigrwydd yn ystod y pandemig a'r cyfraniad sydd wedi ei wneud wrth sicrhau fod pobl dal yn gallu cael bwyd iachus ac o ansawdd da.
"Mae'r mesurau coronafierws yng Nghymru yno i atal ymlediad y feirws ac i achub bywydau.
"Mae gweinidogion yn adolygu'r cyfyngiadau bob 21 diwrnod - ac yn penderfynu beth, os unrhyw beth, all newid.
"Fe fydd newidiadau ond yn cael eu gwneud pryd mae'n ddiogel i wneud hynny."
Mae arweinwyr y diwydiant yn dweud bod y neges fod "Cymru ar gau" yn un "anhygoel o niweidiol".
Read MorePandemig coronafeirws wedi "cael effaith anhygoel o negyddol" ar bob camp yng Nghymru "o lawr gwlad i'r brig".
Read MoreMae mwy na 2,000 o bobl yng Nghymru wedi cael dirwy am dorri'r rheolau cloi ers i'r cyfyngiadau gael eu cyflwyno ym mis Mawrth.
Mae ffigyrau gan Gyngor Prif Weithredwyr yr Heddlu yn dangos bod yr hyn sy'n cyfateb i 30 o bobl y dydd wedi cael hysbysiadau cosb am bethau fel cynnal partïon.
Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi cyhoeddi’r nifer uchaf o ddirwyon ac yna Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd 2,282 o ddirwyon eu rhoi yng Nghymru rhwng 27 Mawrth a 8 Mehefin.
Prif weithredwr Cyngor Sir Ceredigion sy'n trafod pam bod lefelau coronafeirws y sir mor isel
Read MoreCyngor Sir Conwy
Mae arweinydd cyngor Conwy wedi ysgrifennu at y prif weinidog Mark Drakeford yn gofyn iddo baratoi’r ffordd i fusnesau twristiaeth ailagor.
Mae Sam Rowlands yn gofyn i dwristiaeth gael ei ystyried yn adolygiad Llywodraeth Cymru o fesurau’r cyfnod clo ar 18 Mehefin.
“Os na fydd busnesau twristiaeth yng Nghonwy a gweddill Cymru yn gallu masnachu’r haf hwn, ni fydd llawer ohonynt yn goroesi," meddai'r llythyr.
"Mae mwy nag un mewn pedwar o bobl yn sir Conwy yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol yn y diwydiant twristiaeth.
"Os bydd ein sector twristiaeth yn methu, bydd colledion swyddi yn cael eu teimlo mewn cymunedau ledled Cymru, gyda’r holl ganlyniadau iechyd meddwl a chorfforol o ganlyniad i golli swyddi.“
Senedd Cymru
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu cefnogwyr i fynychu meysydd pêl-droed, ond gyda'r niferoedd wedi cyfyngu.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd dywedodd Jonathan Ford y byddai'n golygu fod clybiau yn gallu sicrhau ffynhonnell ariannol.
"Pe bai chi'n ystyried clwb Y Barri, sy'n enghraifft dda, maen nhw'n chwarae ym Mharc Jenner sy'n gallu dal 2,500," meddai .
"Ond maen nhw'n debygol o gael tua 500 o bobl, byddant wrth eu bodd gyda 500 o gwsmeriaid yn talu drwy'r gatiau.
"Mae 500 yn glwstwr mawr mewn lle cyfyng, ond mewn lle mwy, a gyda rheolau ymbellhau, mae modd dadlau fod modd ac y dylid ei ganiatáu."
Mae perchnogion a rheolwyr 19 o barciau carafanau yng Nghymru wedi cytuno ar nifer o ganllawiau diogelwch a hylendid ac yn pwyso am gael ailagor cyn neu ar 4 Gorffennaf.
Mae llythyr wedi ei anfon at aelodau senedd yng Nghaerdydd ac ASau Tŷ’r Cyffredin yn dweud y byddai rhagor o oedi cyn ailagor yn niweidiol i'r economi.
Y cwmnïau tu cefn i'r ymgyrch yw Parkdean Resorts, Away Resorts, Haven, Park Leisure a Haulfryn
Mae trafodaethau Brexit a'r pandemig fel delio â "dwy storm berffaith", medd y Gweinidog Amgylchedd.
Read MoreMae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod effeithiau'r coronafeirws ar eu cyllideb wedi bod yn "drychinebus".
Dywedodd Gareth Davies wrth bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru bod gohirio’r gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a’r Alban ar y funud olaf yn mis Mawrth wedi costio £10m i’r Undeb.
Ychwanegodd Mr Davies mai £90m yw trosiant blynyddol yr Undeb.
Chwaraeon Cymru
Mae pwyllgor Senedd Cymru wedi clywed bod pandemig coronafeirws wedi “cael effaith anhygoel o negyddol” ar bob camp yng Nghymru “o lawr gwlad i’r brig”.
Dywedodd Brian Davies, prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru wrth y pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Cyfathrebu bod ei sefydliad wedi cael 633 o geisiadau am gyllid brys ers dechrau'r pandemig.
Mae 280 o geisiadau wedi bod yn llwyddiannus tra bod 280 wedi'u gwrthod. Mae gweddill y ceisiadau yn dal i gael eu hystyried.
Ychwanegodd Mr Davies hefyd fod Chwaraeon Cymru wedi cadw £9m o'i gyllideb i'w wario ar ymateb i effeithiau'r pandemig.
“Mae pob camp wedi cael effaith anhygoel o negyddol,” meddai Mr Davies. “Yr hyn sy’n amlwg yw bod tymhoroldeb chwaraeon wedi golygu bod rhai chwaraeon wedi ei deimlo ar unwaith, maen nhw yng nghanol eu tymor neu roedd eu tymor ar fin cychwyn, felly iddyn nhw mae’r effaith wedi bod ar unwaith ac yn sylweddol.”
Mae Pride Cymru wedi cyhoeddi bydd y Penwythnos Mawr yng Nghaerdydd eleni yn ŵyl rithiol.
"Doedd dim modd ym mhob cydwybod allu parhau i gynllunio ar gyfer gŵyl sy'n denu dros 50,000 i Gaerdydd," meddai'r trefnwyr mewn trydariad.
Fe fydd y penwythnos rhithiol yn cael ei gynnal rhwng 24 Awst a 30 Awst.
Mae ffigyrau ar gyfer gofal dwys achosion Covid yng Nghymru yn dangos fod y nifer yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - oedd yn ganolbwynt cynnar i'r haint - wedi gostwng i chwech o'i gymharu â 46 dau fis yn ôl.
Ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf mae yna dri chlaf mewn gofal dwys o'i gymharu â 29 pan oedd y ffigyrau ar eu hanterth.
Y byrddau eraill:
• Betsi Cadwaladr 6 (anterth 25)
• Caerdydd a'r Fro 9 (anterth 37)
• Hywel Dda 3 (7 anterth)
• Bae Abertawe 5 (anterth 40)
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod chwech yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19 yng Nghymru.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 63 yn rhagor o bobl wedi cael eu heintio hefyd.
Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 1,425 o bobl wedi marw ar ôl cael yr haint yng Nghymru, gyda 14,581 wedi cael eu heintio.
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Yn ymateb i gyhoeddiad y gweinidog addysg am ganllawiau i ysgolion, dywedodd Garem Jackson, pennaeth addysg Cyngor Gwynedd ei fod o'n hyderus bod ysgolion y sir yn gallu ymateb i'r her o ailagor ar 29 Mehefin.
"Rydyn ni'n ymwybodol rŵan bod ni'n symud i dirwedd newydd yn sgil y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu y bydd grwpiau bychan o blant yn cael mynediad i'n hysgolion ni er mwyn eu lles, er mwyn dal i fyny efo'u cyfoedion ac er mwyn cael y profiad o fod efo'i ffrindiau unwaith eto. Mae 'na bwyslais ar hynny yn sicr yma yng Ngwynedd," meddai wrth Post Cyntaf.
"Mae’r paratoadau yn eu lle oherwydd yn amlwg mi oedd 'na gyhoeddiad ar y ffordd ac mae 'na beth ansicrwydd - ond mae’r paratoadau wedi bod yn mynd yn dda wrth gydweithio efo'n hysgolion ni. Mae’r paratoadau yn seiliedig yn llwyr ar brotocol ac asesiadau risg sy’n sicrhau fod lles y plant, a lles y staff yn yr ysgolion, ar flaen ein meddyliau ni ar hyd yr adeg."
Mae Llywodraeth Cymru, meddai Dr Goodall, yn trafod gyda'r byrddau iechyd ynglŷn â'r defnydd o 19 o ysbytai maes yng Nghymru.
Mae'r 19 yn cael eu cadw "wrth gefn" rhag ofn bod eu hangen ar gyfer unrhyw ail don.
Ychwanegodd bod ystyriaeth fanwl yn cael ei roi i ba rai y bydd angen eu cadw.
"Rwy’n credu na fyddai'n gwneud synnwyr i staffio'r ysbytai maes ledled Cymru," meddai.
Cadarnhaodd Dr Goodall fod yr ysbytai maes wedi costio tua £160m i'w sefydlu.