'Cydbwyso cymhleth' wrth lacio rheolauwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2020
Wrth drafod y cyfyngiadau ymhellach, dywedodd Dr Goodall fod y penderfyniad i'w llacio yn fater o gydbwyso cymhleth.
Dywedodd nad y ffactor 'R' oedd yr unig ffactor oedd angen ystyried wrth adolygu'r cyfyngiadau.
"O ystyried ein bod yn gweld llai o gleifion yn yr ysbytai, mae hi dal yn drawiadol fod hyn sy'n gyfystyr â thri ysbyty yn llawn cleifion Covid ledled Cymru, ac mae angen i ni gydnabod y pwysau mae hyn yn ei roi ar y system.
"Mae'r rhain yn gleifion nad oedd yn y gwlâu hynny dri mis yn ôl. Rwyf yn cadw llygad yn benodol ar y patrwm mewn gofal dwys.
"Felly rwy'n meddwl ei fod yn arwydd calonogol ar hyn o bryd ein bod wedi gweld y pwysau yn y maes yma yn lleihau tua 80% o'r brig yn nhermau cleifion Covid."
Dywedodd fod cael cydbwysedd o ran llacio a diogelu yn fater cymhleth.
Ychwanegodd y bydd y prif weinidog yn gorfod cydbwyso'r peryg o niwed i'r boblogaeth ehangach gyda sicrhau fod y gwasanaeth iechyd yn ddiogel.