Crynodeb

  • Chwech yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19 yng Nghymru

  • Elusen sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau yn rhybuddio bydd mwy o farwolaethau yn sgil effeithiau'r pandemig

  • Sir Ddinbych sydd bellach â'r gyfradd uchaf o achosion coronafeirws yng Nghymru gyfan

  • Canolfannau gwyddoniaeth yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu cronfa argyfwng gwerth £25m er mwyn sicrhau y byddan nhw'n goroesi cyfnod y pandemig

  • Awgrym gan weinidog yr economi y gallai'r rheol pum milltir gael ei llacio erbyn 9 Gorffennaf

  1. 'Addawol bod y ffigyrau'n dal i ostwng'wedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Dywed Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru ein bod ni "heibio'r gwaethaf yn y cyfnod cyntaf ac mae'n edrych yn addawol bod y ffigyrau yn dal i ostwng".

    Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd: "Wrth gwrs, mae'n bosib y cawn ni gyfnod pellach ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw'r mesurau yn eu lle cyhyd â phosib a pharatoi am system yn yr hydref.

    "Drwy'r cyfnod mae'r sefyllfa wedi newid mewn gwahanol rannau o Gymru ar wahanol amseroedd felly mae yna wahanol ffigyrau yn y gogledd i rannau eraill yn y de ar hyn o bryd. Ond ar y cyfan, mae'r ffigyrau'n gostwng ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd."

  2. 5,000 o swyddi i fynd yn Centricawedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2020

    golwg360

    Mae Golwg360 yn adrodd, dolen allanol bod cwmni Centrica, sy’n berchen Nwy Prydain, wedi dweud y bydd yn cael gwared â 5,000 o swyddi.

    Yn ôl y cwmni mae hyn o ganlyniad i effaith y pandemig ar fusnes oedd eisoes yn gwegian.

    Mae Centrica wedi colli hanner ei elw yn y degawd diwethaf wrth i gwmnïau ynni llai ddenu cwsmeriaid gan Nwy Prydain.

    Dywed Centrica y bydd yn cael gwared ar nifer o reolwyr y busnes ac yn lleihau biwrocratiaeth.

  3. Gohirio Marathon Eryri am flwyddynwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2020

    marathon eryriFfynhonnell y llun, SportpicturesCymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd bron i 2,500 o redwyr wedi cymryd rhan yn y ras y llynedd, a oedd yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis

    Mae trefnwyr ras Marathon Eryri wedi gohirio'r digwyddiad, a oedd fod i gael ei gynnal ar 24 Hydref eleni.

    Bydd y ras bellach yn cael ei chynnal ar 20 Hydref, 2021.

    "Yn absenoldeb unrhyw ganllawiau penodol, mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i ni ond rydym yn teimlo bod ein rhedwyr yn haeddu gwybod un ffordd neu’r llall yn yr hyn sydd eisoes yn amseroedd ansicr iawn," meddai neges gan y trefnwyr.

    "Mae’n anodd iawn rhagweld amser pan fydd chwaraeon cyfranogiad torfol yn dychwelyd a hyd yn oed yn anoddach ceisio ail ddyfalu ble byddwn ni i gyd ddiwedd mis Hydref.

    "Mae ein blaenoriaethau yn gorwedd gyda diogelwch ein rhedwyr a diogelwch ein cymuned a chredwn na fyddai cynnal y digwyddiad eleni fod er budd gorau’r naill na’r llall."

    Ychwanegodd y trefnwyr y byddan nhw'n trefnu "ras Rhithwir Eryri" ym mis Hydref eleni, gyda manylion i ddilyn.

  4. Croesowedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2020

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddydd Iau, 11 Mehefin.

    Arhoswch gyda ni am y newyddion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt drwy gydol y dydd.