Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:50 GMT+1 17 Mehefin 2020
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.
Fe fyddwn ni nôl bore 'fory, a chofiwch fod y newyddion diweddaraf ar gael ar ein hafan yn y cyfamser.
Diolch am ddilyn, a phob hwyl i chi.
Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "dysgu gwersi" gan wledydd eraill am lacio'r cyfyngiadau
Annog pobl â symptomau canser i fynd am help er bod Covid-19 wedi amharu ar wasanaethau
Rhybudd nad yw prifysgolion yn bod yn glir â myfyrwyr ynglŷn â sut fydd y tymor yn edrych ym mis Medi
Ymgynghorydd iechyd yn dweud fod "fawr ddim" gwahaniaeth rhwng cadw pellter o 1m neu 2m
2,317 o bobl bellach wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.
Fe fyddwn ni nôl bore 'fory, a chofiwch fod y newyddion diweddaraf ar gael ar ein hafan yn y cyfamser.
Diolch am ddilyn, a phob hwyl i chi.
Ofni bydd 'addysg cenhedlaeth gyfan yn cael ei dal yn ôl yn sylweddol' oherwydd diffyg gwersi ar-lein.
Read MoreCaniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dydy un ysbyty yn ne Cymru ddim yn trin unrhyw gleifion â symptomau Covid-19, ar ôl i'r claf coronafeirws olaf yno gael ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf.
Does yr un achos yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach.
Dywedodd pennaeth GIG Cymru, Dr Andrew Goodall yr wythnos ddiwethaf bod dros 800 o gleifion sy'n cael eu hamau o fod â Covid-19 yn parhau yn ysbytai Cymru - digon i lenwi tri ysbyty mawr.
The Guardian
Mewn erthygl ar wefan y Guardian mae Jude Rogers, sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn Sir Fynwy yn gofyn 'Allai coronafeirws achosi rhwyg rhwng Cymru a Lloegr?', dolen allanol.
Tra bo'r cyfyngiadau yn cael eu llacio dros y ffin, mae rheolau llawer mwy llym yn parhau yng Nghymru, ac mae Mark Drakeford wedi mynnu na fydd yn newid tactegau, gan ddweud ei bod yn bwysig i fod yn bwyllog.
Mae gwahaniaeth yn y neges gan y llywodraethau hefyd - tra bo Llywodraeth y DU wedi newid eu slogan i "arhoswch yn wyliadwrus", "arhoswch adref" yw'r neges yng Nghymru o hyd.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod tactegau Llywodraeth Cymru yn boblogaidd yma, gyda phôl i ITV yn awgrymu bod hyder y cyhoedd yn y llywodraeth ddatganoledig wedi cynyddu o 29% ym mis Mawrth i 62% erbyn hyn.
golwg360
Mae Golwg360 yn adrodd fod Gwynedd ymhlith y siroedd sydd yn paratoi i ailagor eu gwasanaethau llyfrgelloedd, dolen allanol.
I ddechrau bydd pobl yn gorfod archebu a chasglu'r eitemau drwy gysylltu â’r llyfrgell i’w harchebu, gyda disgwyl i'r system newydd fod yn weithredol o ddechrau mis Gorffennaf.
Llywodraeth Cymru
I'ch atgoffa chi, mae modd bellach archebu prawf coronafeirws ar-lein os oes ganddoch chi symptomau.
Mae modd cael eich profi unai yn un o'r canolfannau gyrru-i-mewn, neu wrth archebu cit dros y we i brofi adref.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth i Uwch Gynghrair Lloegr ailddechrau heddiw, mae profion Covid-19 yn y Bencampwriaeth wedi datgelu bod achosion mewn chwech o'r 24 clwb yn y gynghrair.
Dywedodd Cynghrair Bêl-droed Lloegr bod wyth achos positif wedi dod o'r chwe chlwb, ac mae Brentford wedi cadarnhau mai nhw ydy un o'r clybiau hynny.
Dydy Abertawe na Chaerdydd ddim wedi cadarnhau a ydyn nhw wedi cael unrhyw brofion positif.
Mae'r Bencampwriaeth i fod yn ailddechrau'r penwythnos yma.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn eglur ynghylch pryd all busnesau twristiaeth ddisgwyl gallu masnachu eto.
Dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi'r FSB, fod y diwydiant eisoes wedi colli "llawer iawn o fasnach oherwydd effeithiau'r feirws".
"Mae llawer o fusnesau yn poeni os na chawn nhw gyfle i fasnachu yn ystod yr haf eleni, na fyddan nhw'n gallu masnachu o gwbl yn 2021," meddai.
"Mae cymaint o economiau lleol yn dibynnu'n uniongyrchol ac anuniongyrchol ar y diwydiant pwysig yma."
Mae trefi fel Aberystwyth yn dibynnu'n fawr ar y diwydiant twristiaeth
UEFA
Mae UEFA wedi cadarnhau y bydd Euro 2020 yn cael ei chwarae ym mis Mehefin a Gorffennaf 2021 gyda'r un dinasoedd yn cynnal y gemau, a'r un grwpiau.
Mae'n golygu nad oes newid i drefn Cymru, oedd i fod i chwarae'r Swistir a Twrci yn Baku, Azerbaijan, a'r Eidal yn Rhufain.
Oherwydd y pandemig fodd bynnag maen nhw wedi cyhoeddi y bydd rowndiau rhagbrofol y cystadlaethau Ewropeaidd tymor nesaf yn cael eu chwarae dros un cymal yn unig, yn hytrach na dwy.
Bydd y penderfyniad yna'n effeithio ar Gei Connah, fydd yng Nghynghrair y Pencampwyr, a'r Seintiau Newydd, Bala a'r Barri sydd yng Nghynghrair Europa.
Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi dweud bod angen benthyciad ar y corff i'w helpu i oroesi'r pandemig.
Dydy Phillips ddim wedi datgelu faint sydd ei angen, nag i bwy y byddan nhw'n gwneud y cais, ond dywedodd bod nifer o opsiynau.
Mae'r undeb yn wynebu colled sylweddol, am fod dros hanner ei hincwm blynyddol o £90m yn cael ei wneud trwy gynnal gemau rhyngwladol a digwyddiadau eraill yn Stadiwm Principality.
Ychwanegodd Phillips y byddai mwyafrif yr arian fyddai'n cael ei fenthyg yn mynd tuag at y pedwar rhanbarth - Gleision Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets.
BBC News
Mae'r pel-droediwr Marcus Rashford wedi dweud ei fod eisiau gwneud mwy i helpu'r rheiny mewn angen, yn dilyn ei ymgyrch lwyddiannus i ymestyn cynllun prydau ysgol am ddim.
Ddoe fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi tro pedol sy'n golygu y bydd plant yn Lloegr sy'n derbyn cinio ysgol am ddim nawr yn parhau i gael talebau ar gyfer hynny drwy gydol y gwyliau haf.
Roedd llywodraethau Cymru a'r Alban eisoes wedi cyhoeddi polisi o'r fath.
Mae cwmni Zip World yn dweud eu bod nhw dal yn bwriadu agor ar safle newydd yng Nghwm Cynon y flwyddyn nesaf er gwaethaf y pandemig.
Roedden nhw i fod i ddechrau gwaith adeiladu ar Fynydd Rhigos eleni, fyddai wedi cynnwys tri chwrs weiren zip, meysydd parcio a derbynfa.
Ond oherwydd Covid-19 dydyn nhw nawr ddim yn bwriadu agor nes gwanwyn 2021.
Mae gan y cwmni eisoes safleoedd yn y gogledd
Yn Beijing, mae'r awdurdodau yno wedi cyhoeddi cyfyngiadau newydd ar symud o gwmpas y ddinas yn dilyn cynnydd diweddar mewn achosion o Covid-19.
Cafodd 31 achos newydd eu hadrodd ddydd Mercher, gan ddod â chyfanswm yr wythnos hon i 137.
Cyn hyn, roedd prifddinas China wedi mynd 57 diwrnod heb unrhyw adroddiad o achos wedi'i ledaenu'n lleol.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
O'r 53 achos newydd sydd wedi'u cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae dros hanner ohonynt unwaith eto yn y gogledd.
Cafwyd 31 achos o Covid-19 ei gadarnhau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gydag 11 o'r rheiny yn Ynys Môn.
Does dim cadarnhad yn swyddogol, ond mae'n debyg bod y cynnydd hwnnw oherwydd yr achosion o'r haint gafodd eu canfod mewn ffatri ieir ar yr ynys yn y dyddiau diwethaf.
Sir Ddinbych (726.9) a Rhondda Cynon Taf (726.3) sy'n parhau i fod ar y brig yng Nghymru o ran nifer yr achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth.
Mae tua chwarter gweithlu ffatri 2 Sisters yn Llangefni bellach yn hunan ynysu
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 10 marwolaeth arall o Covid-19, a 53 achos newydd.
Cafodd 1,923 o bobl eu profi am yr haint ddoe.
Bellach mae ffigyrau ICC yn dangos cyfanswm o 1,466 marwolaeth ac 14,922 o achosion yng Nghymru - ond mae'r rheiny ond yn cynnwys achosion ble roedd prawf wedi cadarnhau bod coronafeirws ar y claf.
Mae'r 3,500 o dafarndai a chlybiau yng Nghymru - ynghyd â chaffis a bwytai - wedi cau ers 20 Mawrth.
Read MoreFacebook
Mae cartref gofal yng Nghasnewydd wedi postio fideo ar Facebook yn dangos preswylwyr yn gweld eu teuluoedd am y tro cyntaf ers i'r cyfyngiadau ddod i rym ym mis Mawrth.
Fe wnaeth Cartref Gofal Capel Grange ym Mhil agor eu paeso parcio fel bod pobl yn gallu dod yno i siarad â'u perthnasau o bellter saff.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Ms Morgan ei bod yn "llwyr ymwybodol" o'r pwysau ar y diwydiant twristiaeth yn sgil y pandemig.
Ond dywedodd bod ail don o achosion mewn ardaloedd yn Japan yn dangos ei bod yn bwysig i aros ar drywydd pwyllog.
Dywedodd y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau sydd wedi'u dylunio gyda'r diwydiant, ond bod angen cefnogaeth cymunedau hefyd cyn ailagor y diwydiant.
Ychwanegodd Ms Morgan ei bod yn bosib y bydd y mater yn cael ei ystyried fel rhan o'r cyfyngiadau nesaf i gael eu codi ymhen ychydig dros dair wythnos.
Llywodraeth Cymru
Ar addysg, cafodd Eluned Morgan gwestiwn am beth oedd yn cael ei wneud ar gyfer plant mewn ysgolion Cymraeg sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg, a'r pryder eu bod nhw'n disgyn ar ei hôl hi o ran eu gwaith.
"Ni'n deall bod rhieni yn pryderu fod plant yn cael cyfle i ddefyddio'r iaith," meddai.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod "llwyth o adnoddau" ar gael ar wefan Hwb, a bod digwyddiadau fel Eisteddfod T gan yr Urdd hefyd wedi cynnig cyfle i blant.
Ychwanegodd bod "dim rheswm i beidio sgwrsio gyda'u ffrindiau yn Gymraeg" wrth chwarae gemau dros y we, er enghraifft, a bod "dim rhaid bod yn yr ysgol i ddefnyddio'r iaith".
Dywedodd y bydd athrawon yn ymwybodol o beth fydd angen ei wneud i helpu disgyblion unwaith fyddan nhw'n dychwelyd i'r ystafell ddosbarth.