Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "dysgu gwersi" gan wledydd eraill am lacio'r cyfyngiadau

  • Annog pobl â symptomau canser i fynd am help er bod Covid-19 wedi amharu ar wasanaethau

  • Rhybudd nad yw prifysgolion yn bod yn glir â myfyrwyr ynglŷn â sut fydd y tymor yn edrych ym mis Medi

  • Ymgynghorydd iechyd yn dweud fod "fawr ddim" gwahaniaeth rhwng cadw pellter o 1m neu 2m

  • 2,317 o bobl bellach wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  1. Pryder am bêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Un rheolwr yn dweud y gallai gymryd dwy flynedd i glybiau ddygymod ag effaith ariannol y pandemig.

    Read More
  2. Prifysgolion yn 'codi gobeithion myfyrwyr'wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Mae myfyrwyr wedi galw ar brifysgolion gyfathrebu'n onest ynglŷn ag effaith coronafeirws ar fywyd coleg.

    Yn ôl NUS Cymru mae rhai prifysgolion wedi ceisio codi gobeithion myfyrwyr am fynd "nôl i normal" yn gynt nag y bydd yn bosib.

    Mae corff Prifysgolion Cymru wedi cydnabod y bydd amgylchiadau yn wahanol, ond yn dweud y bydd y profiad yr un mor atyniadol ac o'r un ansawdd uchel.

    Erin Williams a Harri Lloyd Evans ydy dau o'r darpar fyfyrwyr allai gael eu heffeithio.

    Disgrifiad,

    Y darpar fyfyrwyr o Gymru sy'n 'sownd mewn limbo'

  3. Annog pobl â symptomau canser i fynd am helpwedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru'n dechrau ymgyrch i bwysleisio bod gofal canser ar gael pan fod ei angen o hyd.

    Read More
  4. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni heddiw.

    Fe fyddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi yn ystod y dydd am y pandemig coronafeirws o Gymru a thu hwnt - ond yn gyntaf, rhai o benawdau'r bore...