Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "dysgu gwersi" gan wledydd eraill am lacio'r cyfyngiadau

  • Annog pobl â symptomau canser i fynd am help er bod Covid-19 wedi amharu ar wasanaethau

  • Rhybudd nad yw prifysgolion yn bod yn glir â myfyrwyr ynglŷn â sut fydd y tymor yn edrych ym mis Medi

  • Ymgynghorydd iechyd yn dweud fod "fawr ddim" gwahaniaeth rhwng cadw pellter o 1m neu 2m

  • 2,317 o bobl bellach wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  1. Simon Hart wedi 'iselhau ei hun'wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at Ysgrifennydd Cymru, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi'n siomedig fod Simon Hart wedi gorfod "iselhau" ei hun i lobïo ar ran Llywodraeth y DU.

    Daw hynny wedi i Mr Hart ysgrifennu at Aelodau'r Senedd ac arweinwyr cynghorau yng Nghymru yn annog nhw i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ailagor y sector dwristiaeth.

    Dywedodd Ms Morgan y bydd unrhyw benderfyniadau pellach yn cael eu cyhoeddi yn y gynhadledd ddydd Gwener, ac y byddan nhw'n gwneud "beth sy'n iawn i Gymru".

    "Fe fyddwn ni'n gwneud pob ymdrech i agor y sectorau sy'n sensitif yn y maes yma cyn gynted ag y gallwn ni."

    simon hart
  2. 'Elfen o hyblygrwydd' ynglŷn â'r rheol pum milltirwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Ms Morgan wrth y gynhadledd bod "elfen o hyblygrwydd" i'r rheiny sy'n byw yng nghefn gwlad ynghylch y rheol i beidio â theithio dros bum milltir.

    Roedd y gweinidog yn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag a fydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried y rheol pan fydd y canllawiau nesaf yn cael eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos.

    "Ry'n ni'n deall bod 'lleol' yng nghefn gwlad yn golygu rhywbeth gwahanol iawn o'i gymharu ag ardal ddinesig, a dyna pam bod elfen o hyblygrwydd wedi'i ddarparu," meddai.

    Ychwanegodd mai dim ond "canllaw" ydy'r rheol, ac nad yw hynny "o reidrwydd wedi'i ysgrifennu yn y rheolau".

    Dywedodd bod y llywodraeth yn ystyried y rheol ac y bydd cyhoeddiad pellach pan fydd y canllawiau nesaf yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.

  3. Annog cefnogwyr pêl-droed i gadw drawwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn y gynhadledd fe wnaeth Eluned Morgan hefyd annog cefnogwyr pêl-droed Caerdydd ac Abertawe i beidio teithio i'w gemau a chadw i ffwrdd o'r stadiwm.

    "Y penwythnos nesaf bydd Cynghrair Bêl-droed Lloegr yn ailddechrau tymor y Bencampwriaeth, a bydd Abertawe a Chaerdydd yn chwarae tu ôl i ddrysau caeedig," meddai'r gweinidog.

    "Y cyngor i gefnogwyr yw peidio â theithio a chadw i ffwrdd o'r stadiwm - ni fyddan nhw ar unrhyw amod yn cael mynediad i'r gemau."

    O'r gemau sy'n weddill yn y Bencampwriaeth, mae gan Gaerdydd bum gêm gartref yn weddill, tra bod gan Abertawe bedair.

    Caerdydd ac AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Trafod twristiaeth gyda Llydawwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Ms Morgan bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn siarad gyda gwledydd eraill er mwyn "rhannu gwybodaeth a thrafod ffyrdd newydd" o gefnogi diwydiannau.

    Dywedodd bod yr Emiradau Arab Unedig wedi darparu "dadansoddiad sector-wrth-sector" i ailagor, a bod Gwlad y Basg wedi rhannu gwybodaeth ar iechyd a diogelwch yn y gweithle.

    Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod swyddogion yn Llydaw yr wythnos hon i drafod sut i ailagor twristiaeth yn saff.

    Mae sgyrsiau hefyd wedi digwydd gyda Seland Newydd ar dwristiaeth ac addysg.

    eluned morgan
  5. 'Dilyn trywydd pwyllog yn synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Eluned Morgan wrth y gynhadledd bod Llywodraeth Cymru'n monitro effaith mae llacio'r cyfyngiadau yn ei gael ar wledydd Ewrop.

    Yn ôl y gweinidog mae ymgynghorwyr y llywodraeth wedi cyhoeddi dogfen sy'n awgrymu nad yw llacio'r cyfyngiadau wedi arwain at gynnydd sydyn yn nifer yr achosion yno.

    Dywedodd bod y rhif R - y raddfa mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned - wedi aros yn llai nag un yn y mwyafrif o wledydd Ewropeaidd, ond bod "awgrymiadau cryf o Ffrainc y gallai R fod yn cynyddu wrth i fwy o gyfyngiadau gael eu llacio".

    "Mae'r profiadau yn Ewrop yn dweud wrthym mai dilyn trywydd pwyllog i lacio'r cyfyngiadau fyddai'n synhwyrol," meddai.

  6. 'Methu ynysu ein hunain yn llwyr'wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Eluned Morgan yn dechrau drwy dalu teyrnged i'r Aelod o'r Senedd, Mohammad Asghar yn dilyn ei farwolaeth.

    Yna mae'n rhoi trosolwg o sefyllfa'r pandemig coronafeirws ar draws y byd, gydag wyth miliwn achos o'r haint wedi'i gadarnhau a bron hanner miliwn wedi marw.

    "Rhaid i ni dderbyn bod ni'n byw mewn byd rhyng-gysylltiedig, ac allwn ni ddim ynysu ein hunain yn llwyr rhagddo," meddai.

  7. Eluned Morgan yn y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan fydd yn arwain cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru heddiw.

    Mae modd gwylio'n fyw ar BBC One Wales, ac fe ddown ni â'r prif bwyntiau i chi yma ar y llif byw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cau ysgolion 'hwb' Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi y byddan nhw'n dod ag ysgolion 'hwb' y sir i ben ddiwedd yr wythnos.

    O ddydd Llun nesaf ymlaen, bydd y plant hynny sydd wedi parhau i fynd i'r ysgol yn ystod y pandemig gan fod eu rhieni'n weithwyr allweddol yn dychwelyd i'w hysgolion arferol.

    Mae Sir Ddinbych, fel sawl ardal arall, wedi bod yn defnyddio ysgolion 'hwb' dros y misoedd diwethaf, gyda phlant ardal eang i gyd yn mynychu un safle.

    Y rheswm dros y newid yw paratoi'r adeiladau syddi wedi cael eu defnyddio fel ysgolion hwb ar gyfer ailagor yn iawn i ddisgyblion ddiwedd y mis.

    Sir Ddinbych
  9. Ffigyrau 'damniol' am blant Cymru'n dysgu adrefwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi tynnu sylw at ymchwil "damniol" sy'n awgrymu bod plant Cymru ar ei hôl hi pan mae'n dod at ddysgu adref.

    Yn ôl ffigyrau gan brifysgol UCL yn Llundain, dim ond 2% o blant yng Nghymru sy'n derbyn pedair neu fwy o wersi ar-lein bob dydd, o'i gymharu â 12.5%​​yn Llundain a 7% ar draws y DU.

    O ran gwaith oedd ddim ar-lein, 14.6% o blant Cymru oedd yn cael pedair gwers neu fwy y dydd, y ffigwr ail isaf yn y DU.

    Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian, fod yr ymchwil "yn paentio darlun anhygoel o siomedig ac wedi tynnu sylw at ba mor aneffeithiol y mae mesurau addysg gartref wedi bod ar y cyfan".

    "Mae miloedd o blant yn cael eu gadael ar ôl, ac mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y rhai o'r cefndiroedd mwyaf breintiedig a'r rhai o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig ond wedi ehangu," meddai.

    ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ydy plant wedi bod yn dysgu cystal adref ag oedden nhw yn yr ystafell ddosbarth?

  10. Cyfnod cloi: Barn y pleidiau cyn adolygiad arallwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Beth yw barn prif bleidiau'r Senedd am beth ddylai gael ei gyhoeddi wedi'r adolygiad o'r cyfnod cloi?

    Read More
  11. Airbus i barhau i dalu gweithwyr oedd yn creu offer iechydwedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Mae cwmni awyrennau Airbus wedi cadarnhau y bydd yn talu cyflogau ei staff sydd wedi colli allan ar gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU am eu bod yn helpu i greu gwyntiedyddion (ventilators) i'r GIG.

    Mae hyd at 500 o staff ar safle'r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint, wedi bod yn creu darnau ar gyfer y gwyntiedyddion - offer sydd wedi bod yn allweddol yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

    Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cynllun saib o'r gwaith Llywodraeth y DU roedd yn rhaid i weithwyr gael eu cofrestru erbyn 10 Mehefin, ond roedd cannoedd o weithwyr Airbus yn dal i helpu i greu'r gwyntiedyddion bryd hynny.

    Bydd y ffatri yn atal y gwaith o greu'r offer ar ddiwedd y mis, a does dim bwriad ailddechrau'r gwaith ar greu darnau awyrennau am o leiaf mis arall.

    Ond mae Airbus wedi dweud y byddan nhw'n parhau i dalu 80% o gyflogau'r rheiny oedd yn gweithio i helpu'r GIG ond sydd wedi colli'r cyfle i gael eu rhoi ar y cynllun ffyrlo.

    AirbusFfynhonnell y llun, Ventilator Challenge UK
  12. 13 achos o Covid-19 ymysg gweithlu ffatri ym Mônwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Mae tua chwarter y gweithlu mewn ffatri prosesu ieir ar Ynys Môn yn hunan-ynysu wedi i achosion o Covid-19 ddod i'r amlwg.

    Mae cynrychiolwyr undebau yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn dweud fod 13 o achosion wedi'u cadarnhau ymysg staff a bod 110 yn hunan-ynysu.

    Dyw'r cwmni ei hun heb gadarnhau nifer yr achosion, ond dywedodd rheolwyr eu bod yn "gweithio i ddarparu amgylchedd gwaith mwyaf diogel posibl".

    Mae 2 Sisters Food Group yn un o gynhyrchwyr bwyd mwya'r DU.

    Mae gan y cwmni ffatri arall yn Sandycroft yn Sir y Fflint, ac yn dweud nad oes unrhyw achosion o coronafeirws yno ar hyn o bryd.

    2 Sisters
  13. Ffrae rhwng Hart a Drakeford yn gwaethyguwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    ITV Cymru

    Mae ITV Cymru yn adrodd bod ffrae rhwng Ysgrifennydd Cymru a Phrif Weinidog Cymru dros dwristiaeth, dolen allanol wedi gwaethygu.

    Bellach mae Simon Hart wedi ysgrifennu at Aelodau'r Senedd ac arweinwyr cynghorau yn galw arnyn nhw i roi pwysau ar Mark Drakeford i gyhoeddi amserlen ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.

    Heb hynny, meddai Mr Hart, gallai llawer o gymunedau gwledig wynebu caledi mawr.

    Ond mae Mr Drakeford wedi dweud na fydd yn plygu i bwysau gan Lywodraeth y DU, ac y bydd yn rhoi "eglurdeb" yn ei ddatganiad ddydd Gwener.

    simon hartFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart

  14. 'Pellter o 1m' yn nhafarndai a bwytai Iwerddonwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    BBC World News

    Mae Gweriniaeth Iwerddon yn ystyried cwtogi'r mesurau ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr i un ar gyfer bariau a bwytai.

    Yn ôl canllawiau drafft sydd wedi dod i'r amlwg, fe allai'r rheol gael ei addasu dan rai amgylchiadau er mwyn gadael i gwsmeriaid ddychwelyd.

    Mae disgwyl i dafarndai a bwytai gael ailagor yn y wlad ddiwedd y mis.

    Ond fe allai cyfyngiadau gynnwys arhosiad o ddim mwy na 90 munud, a gorfod archebu lle o flaen llaw cyn ymweld.

    tafarn
  15. Peryg i Lywodraeth Cymru 'redeg allan o arian'wedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Wrth siarad am yr economi, rhybuddiodd Lee Waters fod risg y gallai Cymru "redeg allan o arian" os nad oedd Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o gymorth.

    Dywedodd bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario £500m ar ben yr hyn oedd wedi dod gan y Trysorlys er mwyn helpu busnesau.

    "Rydyn ni wedi gwario £1.7bn hyd yma," meddai'r dirprwy weinidog dros yr economi a thrafnidiaeth.

    "Mae 'na derfyn i'r arian sydd gennym ni, ac i fod yn onest mae risg ein bod ni'n rhedeg allan o arian.

    "Mae gennym ni becyn cymorth cynhwysfawr ond os yw hyn yn parhau, bydd rhaid i Lywodraeth y DU ryddhau rhagor o gyllid i ddelio gyda difrifoldeb y sefyllfa 'dyn ni ynddo.

    "Dyma'r argyfwng economaidd mwyaf 'dyn ni erioed wedi'i wynebu."

  16. 'Fawr ddim o wahaniaeth' â chadw pellter 1m neu 2mwedi ei gyhoeddi 10:27 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Dywed cynghorydd coronafeirws Llywodraeth Cymru y dylid adolygu'r rheol teithio pum milltir hefyd.

    Read More
  17. Rhybuddio rhag dilyn 'camgymeriadau' Lloegrwedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae un o dirprwy weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud yr un "camgymeriadau" a Llywodraeth y DU a chyhoeddi pethau "heb feddwl y peth drwyddo".

    Dywedodd Lee Waters fod gweinidogion Cymru'n ceisio gwneud y "penderfyniadau cywir ar gyfer y tymor canol a'r tymor hir" yn hytrach na rhuthro i geisio cael "cymeradwyaeth" yn eu cynhadleddau dyddiol i'r wasg.

    Ychwanegodd eu bod yn "gobeithio" gallu cyhoeddi newyddion da i'r diwydiant twristiaeth ddydd Gwener, ond fod Cymru'n cymryd camau gwahanol i Loegr am fod y feirws yn lledaenu'n wahanol.

    "Dwi yn teimlo fod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar Lundain," meddai.

    "Fe aethon ni mewn i'r cyfnod clo ar yr un pryd a Llundain, oedd yn barod ar y blaen [o ran achosion], ac nawr mae'r cyfyngiadau'n cael eu llacio yn Lloegr i siwtio'r Rhif R yn Llundain."

    Ychwanegodd bod "risg o hyd" i Gymru gan bod y feirws yn lledaenu "o'r dwyrain i'r gorllewin", ac y byddai ond angen i'r Rhif R gyrraedd 1.2 "i gael ail don".

    "'Dyn ni'n gwybod fod y Rhif R yng ngorllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr tua 1, ac mae hynny reit ar ein ffin ni."

    Lee Waters
  18. Cyffur trin Covid-19 yn 'gam mawr ymlaen'wedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae'r darganfyddiad bod cyffur steroid dexamethasone yn gallu cael ei ddefnyddio i drin cleifion Covid-19 yn "newyddion cyffrous ac yn gam mawr ymlaen".

    Dyna oedd gan Dr Angharad Davies, sy'n feicrobiolegydd ymgynghorol, i'w ddweud wrth gael ei holi ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru y bore 'ma.

    "Mae byrddau iechyd ar draws Cymru wedi bod yn rhan o’r treialon yma a bron i 500 o gleifion wedi eu recriwtio," meddai.

    "Felly mae’r byrddau iechyd a chleifion o Gymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y gwaith ymchwil yma."

    Ychwanegodd bod "posiblrwydd cryf" y gellid arbed "miloedd o fywydau gyda’r cyffur yma".

    cyffurFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Pa gyfyngiadau gaiff eu llacio nesaf?wedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    Twitter

    Ailagor mwy o siopau, mwy o ganiatâd i deithio, chwaraeon yn yr awyr agored - a fydd cyfyngiadau ar y pethau hyn ymhlith y pethau gaiff eu llacio gan Lywodraeth Cymru'r wythnos hon?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. 'Cyfnod hir o drafferthion'wedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Fe fydd cyfnod hir yn dilyn yr argyfwng presennol ble bydd hi'n "anodd i bobl ymdopi".

    Dyna oedd y rhybudd heddiw gan Dr Victoria Winkler, cyfarwyddwr melin drafod Sefydliad Bevan, a ddywedodd bod coronafeirws wedi amlygu rhai o'r anghyfartaleddau mewn cymdeithas.

    "Mae diweithdra wedi dyblu, adroddiadau o bobl yn cael eu cicio allan o'u tai yn anghyfreithlon, 'dyn ni'n gwybod fod 'na deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd bwydo'u hunain a'u plant," meddai ar BBC Radio Wales.

    "Mae'r economi yn amlwg yn mynd i gymryd ergyd fawr ac un sydd am bara sbel. Rydyn ni'n edrych ar gyfnod hir ble bydd hi'n anodd i bobl ymdopi.

    "Mae angen bod yn ofalus wrth lacio'r cyfyngiadau."