Crynodeb

  • Disgwyl cyhoeddiad y bydd siopau'n ailagor ddydd Llun

  • Ffatri ym Môn yn cau am y tro wedi 58 achos o Covid ymysg staff

  • 38 achos hefyd mewn ffatri brosesu bwyd yn ardal Wrecsam

  • Pump yn rhagor wedi marw a 48 o achosion newydd

  • Dim ond un o ysbytai maes Cymru sydd wedi trin cleifion

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni gan dîm llif newyddion Cymru Fyw am heddiw.

    Fory mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gadarnhau y bydd siopau yn cael ailagor yng Nghymru ddydd Llun ond bod rhaid sicrhau ymbellhau cymdeithasol.

    Mae bron i 100 o weithwyr mewn dwy ffatri prosesu bwyd yn y gogledd wedi cael cadarnhad eu bod wedi'u heintio.

    Ysgolion a chynghorau fydd â'r gair olaf ynglŷn ag ymestyn tymor haf yr ysgol

    a dim ond un o'r ysbytai maes, a sefydlwyd yng Nghymru, sydd wedi trin cleifion. Mae'r ysbytai wedi costio £166m.

    Bydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw gydol y nos ac fe fydd y llif newyddion i'w weld eto bore fory.

    Am heno hwyl fawr a diolch am ddarllen.

    stryd bangor
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i siopau ailagor yng Nghymru ddydd Llun

  2. AS Môn hefyd yn mynegi pryderwedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Dywed AS Môn, Virginia Crosbie, ei bod yn poeni am weithwyr y ffatri a'i bod yn dymuno adferiad llwyr a buan i'r gweithwyr sydd wedi'u heintio.

    Dywed bod yn rhaid i'r ffatri fod ar gau am cyn hired â sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a'r gymuned yn ehangach.

  3. Cyngor Môn yn ymateb i'r haint yn ffatri Two Sisterswedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Dywed Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn cefnogi partneriaid allweddol wrth iddynt ymateb i’r achosion o haint coronafeirws yn ffatri Two Sisters yn Llangefni.

    Ddydd Iau bu'n rhaid i'r ffatri sy'n prosesu cywion ieir gau am 14 diwrnod er mwyn rhoi cyfle i’r holl weithwyr hunanynysu ac i dderbyn prawf.

    Bydd y Cyngor Sir yn darparu dau leoliad priodol yn Llangefni a Chaergybi er mwyn sefydlu unedau profi ar gyfer y gweithwyr. Mae busnesau lleol wedi cael eu hysbysu am y trefniadau.

    Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Rydym yn meddwl am weithwyr y ffatri Two Sisters a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod pryderus ac ansicr hwn. Rydw i eisiau iddynt wybod ein bod yn cydweithio gyda phob asiantaeth allweddol arall er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu iddynt.”

    “Gyda nifer sylweddol o achosion o’r Coronafeirws wedi eu cadarnhau ymysg y gweithwyr - mae hyn yn flaenoriaeth, nid yn unig i ni ym Môn ond ar gyfer Gogledd Cymru i gyd. Mae ein staff yn cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n arwain ar y sefyllfa, ac yn cymryd camau positif er mwyn sicrhau datrysiad cyn gynted â phosibl.”

  4. Cofiwch am y Post Prynhawnwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Trafodaeth bellach ar yr hyn a ddisgwylir i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddweud fory yn y Post Prynhawn am 5.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Disgwyl i siopau gael agor ddydd Llun nesafwedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Mae disgwyl y bydd siopau yng Nghymru sy'n gwerthu nwyddau na sy'n angenrheidiol yn cael agor ddydd Llun nesaf.

    Fory bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyflwyno y newidiadau diweddaraf i'r cyfyngiadau yng Nghymru.

    Cafodd mân-werthwyr yng Nghymru gyfarwyddyd dair wythnos yn ôl i baratoi ar gyfer ailagor posib.

    Mae siopau yn Lloegr wedi bod ar agor ers ddydd Llun.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwysleisio yr angen i fod yn ofalus ac yn dweud mai'r flaenoriaeth yw "cadw Cymru yn ddiogel".

    Bydd hi'n ofynnol i fusnesau sicrhau pellter cymdeithasol dau metr ac mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi dweud nad yw am weld torfeydd yn hel ger siopau.

    Fe gyfeiriodd Mr Drakeford at "becyn" o fesurau yn ei gynhadledd ddiwethaf i'r wasg ac mae disgwyl iddo gyhoeddi y bydd yna rywfaint o lacio ar gyfyngiadau eraill ond fe fydd y neges "arhoswch yn lleol" yn debygol o barhau.

  6. Y wybodaeth ddiweddaraf i gyrff llywodraethu ysgolionwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Twitter

    Yn gynharach fe wnaethon ni adrodd mai ysgolion a chynghorau fydd â'r gair olaf ynglŷn ag ymestyn tymor ysgol.

    Dyma'r canllaw sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 38 o staff ffatri fwyd yn Wrecsam wedi'u heintiowedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Mae ffatri yn Wrecsam sy'n cynhyrchu bwydydd ar gyfer archfarchnadoedd ar draws y DU wedi cadarnhau bod 38 aelod o staff wedi cael prawf Covid-19 positif.

    Mae ffatri Rowan Foods yn cyflogi 1,500 o bobl.

    Mae'n darparu bwyd ar gyfer nifer o gwmnïau - yn eu plith Aldi, Asda, Sainsbury's a Tesco.

    Bydd hi'n ofynnol i unrhyw aelod o staff sydd wedi cael prawf positif hunan-ynysu am wythnos.

    Dywed llefarydd bod nifer eraill o staff yn gorfod hunan-ynysu am eu bod wedi bod mewn cysylltiad â'r rhai sydd wedi cael prawf Covid positif.

    FfatriFfynhonnell y llun, Google
  8. Nifer achosion ffatri 2 Sisters bellach yn 58wedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau mewn datganiad fod 58 o weithwyr ffatri 2 Sisters yn Llangefni bellach wedi eu heintio gyda coronafeirws.

    Mae'r corff wedi gofyn i'r gweithwyr a chontractwyr i hunan ynysu am 14 diwrnod er mwyn ceisio atal ymlediad yr haint.

    Bydd pob aelod o staff yn derbyn prawf Covid-19 ac mae canolfan brofi wedi ei sefydlu yn y dref.

    Mae canolfan oedd wedi ei hagor yn barod ym Mangor hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer y gwaith, ac fe fydd un arall yn agor yng Nghaergybi hefyd ar gyfer hwyluso'r dasg.

  9. 2 Sisters: Datganiad y Gweithgor Iechydwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Yn dilyn y newyddion fod clwstwr o achosion o Covid-19 wedi eu darganfod ymysg gweithwyr yn ffatri brosesu cywion ieir 2 Sisters yn Llangefni, mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi rhyddhau datganiad byr.

    Dywedodd llefarydd: "Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi ymweld â safle 2 Sisters yn Llangefni i sicrhau fod y cwmni'n cydymffurfio gyda deddfwriaeth iechyd a diogelwch a bod mesurau diogelwch mewn lle i amddiffyn gweithwyr rhag Covid-19."

    Ychwanegodd y llefarydd fod y Gweithgor Iechyd yn cydweithio gydag asiantaethau eraill wrth geisio ymateb gyda'r sefyllfa.

  10. Achosion Covid-19 diweddaraf: Rhagor o fanylionwedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Nifer uchaf o achosion newydd bellach ym Mônwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Mae nifer uchaf o achosion newydd o Covid-19 drwy Gymru wedi eu cofnodi ar Ynys Môn am yr ail ddydd yn olynol.

    Mae data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos fod 11 allan o'r 48 achos newydd gafodd eu cofnodi yng Nghymru wedi bod ar yr ynys.

    Roedd yr achosion hyn ymysg 25 achos newydd gafodd eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

    Daw'r newyddion wrth i 51 achos newydd o'r haint gael eu cofnodi ymysg gweithwyr ffatri 2 Sisters yn Llangefni.

    Mae 200 o weithwyr y ffatri bellach yn hunan ynysu.

  12. Cyngor i ddioddefwyr llifogyddwedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch a Chyfoeth Naturiol Cymru yn iswedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Mae gan Lywodraeth Cymru dros £2 biliwn yn ychwanegol i'w wario, ond nid oes gwybodaeth hyd yma faint o arian fydd ei angen i geisio lleihau effeithiau’r coronafeirws yng Nghymru.

    Dyna neges Pwyllgor Cyllid y Senedd sydd wedi bod yn ystyried effaith y pandemig ar gyllideb atodol Llywodraeth Cymru.

    Mae cyllidebau atodol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am wariant y llywodraeth ers dechrau'r flwyddyn ariannol newydd ac maent yn dangos unrhyw newidiadau yn yr arian a rennir ar draws gwahanol adrannau i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg.

    Daw'r rhan fwyaf o'r arian i Lywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth y DU; mae Cymru yn cael cyfran o’r cyllid hwn yn awtomatig o dan drefn cyllido ddatganoledig.

    Mae'r Pwyllgor yn pryderu nad yw'r sianeli cyfathrebu rhwng y ddwy lywodraeth mor glir ag y gallent fod ac mae am weld gwell cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i sicrhau bod cyhoeddiadau polisi mawr yn cael eu cyfathrebu'n amserol a bod eglurder ynghylch opsiynau cyllido.

    Mae'r Pwyllgor hefyd am gael mwy o wybodaeth am gynllun adfer Llywodraeth Cymru ar ôl y coronafeirws, gan gynnwys rhoi cychwyn i’r economi ac ailagor y stryd fawr yng Nghymru.

    Er i gyllid ychwanegol gael ei roi i gefnogi gwasanaethau hanfodol, mae meysydd eraill wedi gweld gostyngiadau yn eu cyllid wrth i gyllidebau gael eu hailddyrannu.

    Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chyfoeth Naturiol Cymru.

    Mae cyfanswm gwerth £256.2 miliwn wedi cael ei ailddyrannu o adrannau ar gyfer COVID, ac o’r swm hwnnw, gohiriwyd £46.6 miliwn yn y gyllideb addysg, sy'n effeithio ar CCAUC, ac mae £24 miliwn ar gyfer yr amgylchedd, ynni a materion gwledig hefyd yn cael ei ail-flaenoriaethu, sy'n effeithio ar Gyfoeth Naturiol Cymru.

  14. Adnoddau i weithwyr gofal a chleifionwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Ym mis Ebrill roedd yna adroddiad yn nodi bod cadw pellter cymdeithasol oherwydd Covid-19 yn cael "effaith sylweddol" ar iechyd meddwl y boblogaeth.

    Bellach mae nifer o adnoddau wedi cael eu paratoi i weithwyr gofal a chleifion.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Pump yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod pump yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19.

    Mae 1,471 o bobl bellach wedi marw ar ôl cael yr haint yng Nghymru.

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 48 o achosion newydd - gan gynyddu'r cyfanswm i 14,970.

    Mae'n debyg fod y ffigyrau yn uwch mewn gwirionedd oherwydd dim ond yn ddiweddar mae profion wedi dechrau cael eu cynnal ar raddfa eang.

  16. Ysgolion a chynghorau i benderfynu ar ymestyn tymor yr hafwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Ysgolion a chynghorau fydd â'r gair olaf ynglŷn ag ymestyn tymor haf yr ysgol, medd Llywodraeth Cymru.

    Credir bod trafodaethau yn parhau rhwng swyddogion y llywodraeth, undebau a chynghorau.

    Mae undebau wedi mynegi pryder bod ymestyn y tymor i 27 Gorffennaf yn creu problemau i gytundebau staff.

    Mae rhai undebau wedi cwestiynu diogelwch ac ymarferoldeb y cynnig gan rybuddio efallai na fydd digon o lanhawyr a chynorthwywyr dosbarth i agor ysgolion am wythnos ychwanegol.

    Mae cytundeb athrawon ac arweinwyr ysgolion yn weithredol yn ystod tymor ysgol a'r gwyliau fel ei gilydd.

    Mae staff cefnogi fel cynorthwywyr dosbarth, glanhawyr a staff cegin yn cael eu talu am weithio yn ystod y tymor ond mae eu cyflog wedi'i wasgaru dros 12 mis fel eu bod yn cael cyflog gydol y flwyddyn.

  17. Llywodraeth wedi ymddwyn "yn gyfrifol"wedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn "gyfrifol" drwy gydol y pandemig meddai Vaughan Gething.

    Roedd yn ymateb wedi i un o aelodau panel annibynnol SAGE o wyddonwyr ddweud wrth un o bwyllgorau'r Senedd fod y penderfyniad i lansio cynllun profi ag olrhain mor hwyr wedi bod yn "drychinebus" ac "anghyfrifol".

    Yn dilyn sylwadau beirniadol Syr Sir David King yn ystod y bore, fe amddiffynnodd Vaughan Gething y ffordd yr oedd y llywodraeth wedi bod yn gweithredu.

    Dywedodd wrth y gynhadledd ddyddiol i'r wasg: "Rwy'n credu ein bod wedi bod yn gyfrifol drwy gydol y pandemig.

    "Nid yw hyn yn golygu gyda'r fantais o edrych i'r gorffennol na fyddem wedi gwneud penderfyniadau gwahanol gyda'r wybodaeth sydd gennym heddiw.

    “A'r hyn rydym wedi ei wneud ydy adeiladu ein capasiti. Nid oedd yn fater syml o roi fflic i switsh a throi mlaen y capasiti sylweddol sydd gennym nawr - mae wedi cymryd amser i gyrraedd yma."

    Ychwanegodd ei fod yn falch iawn o'r gwaith yr oedd y GIG a llywodraeth leol wedi ei gyflawni i greu'r cynllun profi, olrhain a diogelu.

  18. Cynnig 'sicrwydd' i staff ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Vaughan Gething ei fod wedi ei ymrwymo i "ddarparu sicrwydd" i staff dysgu a rhieni sydd yn pryderu am ailagor ysgolion ar 29 Mehefin.

    Dywedodd ei fod yn "bwysig iawn" i wrando ar bryderon y rhai hynny oedd wedi dychwelyd i'r gwaith yn barod a'r bobl hynny oedd ar fin dychwelyd.

    "Yn bendant nid ydym yn gwneud dim fyddai'n creu risg annerbyniol, nid ydym yn gofyn i staff roi eu hunain mewn sefyllfa o risg.

    "Yn ein trafodaethau gydag undebau addysg, rwy'n credu fod dealltwriaeth fod niwed yn cael ei achosi i gyfleoedd plant i'r dyfodol drwy beidio ag ailgychwyn gweithgareddau addysg.

    "Rwyf i wedi fy ymrwymo i ddarparu sicrwydd i'r pryderon dealladwy sydd gan rhai o'n staff, i sicrhau fod ein holl systemau mewn lle gan weithio gyda'r gweinidog addysg a llywodraeth leol a chyflogwyr", meddai.

    YsgolFfynhonnell y llun, Reuters
  19. 'Ymyrraeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn lletchwith'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Roedd ymyrraeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru," meddai Mr Gething "yn lletchwith ac yn anaddas ond ry'n ni gyd yn dysgu o'r pandemig."

    Roedd Simon Hart AS wedi ysgrifennu at Aelodau o'r Senedd ac arweinwyr cynghorau i ofyn iddynt roi pwysau ar Mark Drakeford i ailagor y diwydiant twiristiaeth yng Nghymru.

    Yn y gynhadledd heddiw dywedodd Vaughan Gething "nad oedd Mr Hart yn un a oedd yn gorfod gwneud penderfyniadau a byddai wedi bod yn well iddo gynnal trafodaeth fwy adeiladol gyda ni.

    "Ry'n yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd sy'n gorfod cydbwyso risgiau i iechyd y cyhoedd ac effeithiau y cyfyngiadau."

  20. 'Rhai cartrefi yn gyndyn i ganiatáu profion'wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at gartrefi gofal dywedodd Mr Gething bod 30 cartref yng Nghymru lle nad oes profion wedi'u cynnal.

    "Cartrefi yw rhain," meddai, "lle nad oes achos o'r haint wedi ei gofnodi.

    "Yn ddealladwy mae nifer wedi bod yn gyndyn i ganiatáu cynnal profion am eu bod yn ofni y bydd yr haint yn cyrraedd y cartrefi er bod y risg o hynny yn isel," ychwanegodd.