Crynodeb

  • Disgwyl cyhoeddiad y bydd siopau'n ailagor ddydd Llun

  • Ffatri ym Môn yn cau am y tro wedi 58 achos o Covid ymysg staff

  • 38 achos hefyd mewn ffatri brosesu bwyd yn ardal Wrecsam

  • Pump yn rhagor wedi marw a 48 o achosion newydd

  • Dim ond un o ysbytai maes Cymru sydd wedi trin cleifion

  1. AS yn amddiffyn gwaith Ysgrifennydd Cymruwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Ar raglen y Post Cyntaf y bore 'ma mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Fynwy, David TC Davies, wedi bod yn amddiffyn gwaith Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn ystod y pandemig

    Dywedodd Mr Davies: "Mae Simon Hart yn credu ei bod hi yn bwysig lobïo dros yr holl bobl sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth sy'n wynebu colli eu swyddi. Mae rhai o'r cwmnïau wedi dweud wrthym ni eu bod nhw yn mynd i ddechrau'r holl broses ddiswyddo nawr am nad oes cynllun gan Lywodraeth Cymru. Does dim syniad gan fusnesau pryd y byddan nhw'n gallu ail-agor.

    "Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando ar dystiolaeth wyddonol drwy'r broses ac yn cymryd nawr ei bod hi yn saff i ddechrau ail-agor siopau a chaniatáu pobl i deithio. Mae angen i Lywodraeth Cymru ail ystyried y cyfyngiad teithio 5 milltir a hefyd edrych ar gynllun i ail-agor llefydd twristiaeth."

    Pan ofynnwyd iddo a oedd hyn yn arwydd bod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth yn wael ar gyfnod pan bod pobl Cymru angen gweld cyd-weithio, dywedodd: "Rydym wedi cael mwy na 100 o gyfarfodydd rhwng gweinidogion Cymru a Llywodraeth Prydain.

    "Dydw i ddim yn derbyn nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu trafod gyda Gweinidogion Prydain. Dwi eisiau bod yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ond os yw busnesau Cymru yn dod ataf i ddweud y bydda'n nhw yn mynd i'r wal os na fydd Lywodraeth Cymru yn rhoi cynllun ar waith, mae'n rhaid dweud rhywbeth.

    "Ar y pwnc yma mae yna dipyn bach o wahaniaeth rhyngom ni a Llywodraeth Cymru. Ryda’n ni yn gweld Llywodraeth Prydain yn dilyn y gwyddonwyr ac yn dechrau ail-agor yr economi ac achub swyddi, dwi ddim wedi gweld hynny eto yng Nghymru ond gobeithio y cawn ni ddatganiad yfory."

    David TC Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    David TC Davies

  2. Dim ond un o ysbytai maes Cymru sydd wedi trin cleifionwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    O'r 17 ysbyty maes a gafodd eu sefydlu yng Nghymru mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws, dim ond un sydd wedi trin cleifion hyd yma.

    Mae Ysbyty Calon y Ddraig, sydd â thros 1,500 o welyau, wedi trin 46 o gleifion ers agor ar 20 Ebrill yn Stadiwm Principality Caerdydd.

    Mae bellach yn wag a staff wedi'u symud i safleoedd eraill nes bydd angen i ddefnyddio'r safle eto.

    Yn ogystal â'r ysbytai maes, mae yna hefyd ddwy ganolfan hefyd wedi eu sefydlu, er mwyn trin cleifion sydd wedi dioddef o'r haint.

    Fe gostiodd £166m i sefydlu'r ysbytai a darparu 6,000 o welyau yng nghyfnod brig y pandemig, gan ddyblu'r capasiti yng Nghymru.

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi amddiffyn y gwariant a'r gwaith o greu 6,000 o welyau ysbyty ychwanegol, gyda'r rhelyw heb eu defnyddio.

    "Petawn i'n gallu darogan y dyfodol yn berffaith fe fyddwn wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ar y pryd," meddai.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  3. Ymdopi gyda llifogydd mewn pandemigwedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wedi i lifogydd daro 200 o dai yn Rhondd a Cynon Taf dros nos, mae cynghorydd lleol wedi bod yn disgrifio'r pryder sydd gan bobl am aros yn eu cartrefi.

    Dywedodd y Cynghorydd Shelley Rees-Owen wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru'r bore 'ma:

    "Mae angen plan, mae angen ni eistedd lawr gyda arweinydd y cyngor a gweld... beth yn gwmws sydd wedi digwydd.

    "Mae'n debyg bod 'na broblem gyda'r pwmp dŵr, ac wedi cael gymaint o law mewn cyn lleied o amser a bod y drains yn methu copio....mae angen plan yn glou.

    "Mae'n ofnadwy dyw pobl ddim ishe bod yma, dyw pobl ddim eisiau bod yn eu tai a dyna lle mae pobl yn teimlo mwyaf saff, yn enwedig yn ystod pandemig yw yn eu cartrefi a dyw pobl Pentre ddim yn teimlo yn saff yn eu cartrefi."

    LlifFfynhonnell y llun, Wales News Service
  4. Cau ffatri yn Llangefni yn dilyn achosion Covid-19wedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    Mae cynrychiolwyr yn ffatri brosesu ieir 2Sisters yn Llangefni, Ynys Môn, yn dweud y bydd y ffatri'n cau am y tro er mwyn ceisio ymdopi gyda tharddiad nifer o achosion o Covid-19 ymysg y gweithwyr yno.

    Ddydd Mawrth fe ddaeth y newyddion fod tua chwarter y gweithlu yno yn hunan ynysu wedi i achosion o Covid-19 ddod i'r amlwg.

    Mewn datganiad fore dydd Iau, dywedodd y cwmni mai'r unig ddewis oedd cau'r safle am y tro a hynny am 14 niwrnod.

    Dywedodd y datganiad: "Ni fyddwn yn goddef unrhyw risgiau - pa bynnag mor fach ydyn nhw - i'n gweithlu teyrngar presennol ar y safle.

    "Rydym wedi gweithio'n agos dros yr wythnos ddiwethaf gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Ynys Môn, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Asiantaeth Safonau Bwyd ag undeb Unite sydd oll wedi cynnig cyngor gwych, gwybodaeth wyddonol a chefnogaeth, ac rydym yn diolch iddyn nhw am eu cyngor a'u harweiniad."

    Mae 2 Sisters Food Group yn un o gynhyrchwyr bwyd mwya'r DU.

    Mae gan y cwmni ffatri arall yn Sandycroft yn Sir y Fflint, ac yn dweud nad oes unrhyw achosion o coronafeirws yno ar hyn o bryd.

    FfatriFfynhonnell y llun, Google
  5. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i lif byw dyddiol BBC Cymru Fyw ar ddydd Iau 18 Mehefin.

    Fe fyddwn yn dod a'r diweddaraf chi am ymateb Cymru i bandemig coronafeirws drwy gydol y dydd.

    Amser cinio fe fyddwn yn troi ein sylw at ddiweddariad dyddiol Llywodraeth Cymru am sefyllfa'r pandemig.

    Yn fuan wedyn fe fyddwn yn cyhoeddi nifer yr achosion a marwolaethau Covid-19 yma yng Nghymru wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru ryddhau eu hystadegau am 14:00.

    Fe fydd y penawdau perthnasol a straeon o bob cwr o'r wlad am sefyllfa Covid-19 i gyd yma ar y llif byw i chi.

    Arhoswch gyda ni am y datblygiadau diweddaraf.