Vaughan Gething yn ymateb i achosion ffatri Llangefniwedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2020
Llywodraeth Cymru
Mae'r gweinidog iechyd wedi bod yn ymateb i'r newyddion am y 51 achos o Covid-19 mewn ffatri brosesu ieir yn Llangefni.
Daeth y newyddion fod 51 o staff wedi eu heintio ar ddechrau'r gynhadledd ddyddiol i'r wasg.
Dywedodd Vaughan Gething fod yr achosion newydd yn tanlinellu "pwysigrwydd ymbellhau cymdeithasol a glanhau dwylo."
Ychwanegodd hefyd ei fod yn "bryderus" y gallai rhagor o achosion gael eu cadarnhau.
"Yn amlwg mae hyn yn tanlinellu nifer o bwyntiau: mae'n tanlinellu'r ffaith fod hyd yn oed gyda nifer isel o achosion o goronafeirws, nid yw wedi mynd, mae'n tanlinellu pwysigrwydd ymbellhau cymdeithasol a glanhau dwylo, ac mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd system profi, olrhain a diogelu, a fod angen i bobl ddilyn y cyngor sydd yn cael ei rannu o ran derbyn prawf a hunan ynysu.
"O gofio fod y lleoliad yn un caeedig lle byddai'r bobl hyn wedi bod yn gweithio, rwyf yn amlwg yn bryderus y gallwn weld mwy o achosion positif o goronafeirws i ddod", meddai.