Crynodeb

  • Y Prif Weinidog yn cyhoeddi rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn y gynhadledd i'r wasg

  • Hynny'n cynnwys cadarnhad bod siopau yng Nghymru yn cael ailagor o ddydd Llun

  • Mark Drakeford hefyd yn dweud fod bwriad i lacio cyfyngiadau ar deithio a thwristiaeth erbyn Gorffennaf

  • Cyhoeddiadau hefyd ar y farchnad dai, addoldai a chwaraeon awyr agored

  • Siopau trin gwallt ymhlith y rheiny sydd hefyd yn cael paratoi i ailagor fis nesaf

  • Rhybudd gan gyn-arweinydd busnes y gallai ail don o Covid-19 "ddinistrio economi Cymru"

  • Profion coronafeirws i barhau i ddigwydd ger stadia Caerdydd ac Abertawe hyd yn oed ar ôl i'w tymhorau ailddechrau

  • Ysgolion Môn ddim am ailagor ar 29 Mehefin

  1. Hwyl am heddiwwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Diolch yn fawr i chi am ddilyn ein llif byw ar ddiwrnod sydd wedi bod yn llawn datblygiadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r camau nesaf wrth lacio rhywfaint ar gyfyngiadau coronafeirws.

    Fe fydd y newyddion diweddaraf o Gymru ar ein gwefan drwy gydol y penwythnos, ac fe fydd y llif byw yn dychwelyd fore dydd Llun, pan fydd rhai o siopau'r wlad yn ailagor unwaith eto.

    Mwynhewch eich penwythnos, a hwyl am y tro gan griw'r llif byw.

  2. Sefydlu canolfan brofi newydd yn Wrecsamwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Bydd uned brofi coronafeirws gan y fyddin yn cael ei sefydlu yn Wrecsam heno er mwyn hwyluso'r gwaith o brofi gweithwyr yn ffatri Rowan Foods yn y dref.

    Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd unrhyw ddiweddariad pellach am nifer y gweithwyr ar y safle oedd wedi eu heintio, yn dilyn cadarnhad ddoe fod 38 achos positif ymysg y gweithlu.

    Mae cyfarfod rhwng swyddogion o Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r awdurdod lleol yn cael ei gynnal yn Wrecsam yn ystod y prynhawn, ac fe fydd yn penderfynu os oes angen mwy o fesurau ar y safle i atal ymlediad yr haint.

    ProfiFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 61 o weithwyr 2 Sisters Llangefni wedi eu heintiowedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 61 o weithwyr ffatri brosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni wedi eu heintio gyda coronafeirws bellach.

    Mae'r gweithwyr yn cael eu profi mewn canolfan yng Nghaergybi, Bangor a Llangefni.

    Hyd at hanner dydd heddiw roedd 240 aelod o staff wedi derbyn prawf Covid-19, gyda 61 yn derbyn canlyniad positif.

    Mae'r gweithwyr wedi derbyn gorchymyn i hunan ynysu ac mae'r ffatri wedi ei chau am bythefnos.

    PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Diwydiant gwyliau 'gyda rhywbeth i anelu ato'wedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Mae cadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyliau'r DU wedi dweud ei fod "wrth ei fodd" fod gan y diwydiant ddyddiad i "anelu ato" o ran ailagor yn rhannol.

    Bydd llety gwyliau hunan gynhaliol, fel bythynnod gwyliau a meysydd carafanau statig, yn cael cymryd archebion o 13 Gorffennaf ymlaen.

    Dywedodd Huw Pendleton nad oedd busnesau yn mynd i adennill tir a gollwyd o "golli pedwar Gŵyl Banc", ond o leiaf y cawn nhw rywfaint o'r gwyliau haf.

    "Yr unig feirniadaeth sydd gen i yw y gallen ni fod wedi cael awgrym o'r dyddiad agor posib yn gynt na chawson ni," meddai Mr Pendleton, sy'n rhedeg tri pharc yn Sir Benfro.

    "Ychwanegodd: "Bydd y gaeaf hwn yn heriol, waeth pa mor dda yw'r haf."

    arwydd ar gauFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ar hyn o bryd mae cyrchfannau gwyliau yng Nghymru yn parhau i fod ar gau

  5. Ysgolion Môn ddim am ailagor ar 29 Mehefinwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Ni fydd dosbarthiadau ysgolion Ynys Môn yn agor fel rhan o gynlluniau “Ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi” Llywodraeth Cymru ar 29 Mehefin medd cyngor yr ynys.

    Mae’r penderfyniad wedi’i wneud o ganlyniad i’r cynnydd diweddar mewn achosion positif o coronafeirws ar yr ynys a’r penderfyniad i gau safle 2 Sisters yn Llangefni yn dilyn nifer uchel o achosion positif ymysg y gweithlu.

    Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydw i wedi pwysleisio o’r dechrau mai iechyd a diogelwch ein plant, staff a chymunedau sy’n gorfod dod gyntaf.

    “Mae’r nifer cynyddol o ganlyniadau positif ar yr ynys a’r newyddion ddoe am gau ffatri 2 Sisters yn Llangefni wedi creu llawer iawn o ansicrwydd a phryder ar yr ynys.

    “Mae hi’n bosibl, wrth gwrs, y gallem weld cynnydd yn y lefelau trosglwyddo’r feirws yn gymunedol. O ganlyniad, dydw i ddim ar hyn o bryd yn fodlon gweld dosbarthiadau yn cael eu hagor i blant Ynys Môn.

    Ychwanegodd: “O ganlyniad i’r ansicrwydd sy’n bodoli, dwi’n meddwl mai dyma’r peth iawn i’w wneud ac mai dyma’r penderfyniad gorau er mwyn sicrhau diogelwch ein plant, ein staff yn yr ysgolion a’r gymuned ehangach.”

    FfatriFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Safle ffatri 2 Sisters yn Llangefni

  6. Hanner eisiau cadw'r cyfyngiadau tan bod Covid-19 wedi mynd'wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae arolwg diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darganfod y byddai'n well gan 48% o bobl Cymru gadw'r cyfnod clo nes bod dim siawns o gwbl o ddal coronafeirws.

    Roedd hynny'n codi i 63% ymhlith pobl sydd â chyflyrau iechyd, gyda 32% ohonynt hefyd yn poeni am ddal Covid-19.

    Fe wnaeth yr arolwg hefyd ganfod bod 25% o weithwyr allweddol yn poeni am ddal yr haint, o'i gymharu â dim ond 19% o weithwyr eraill.

    Ar y llaw arall, dywedodd 22% o weithwyr cyffredin fod ganddyn nhw bryderon ariannol, o'i gymharu ag 16% o weithwyr allweddol.

    gwisgo masgFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dim ond 20% o bobl â chyflwr iechyd oedd yn gwisgo masg wrth fynd allan

  7. Cyngor ar waredu gwastraff iechyd Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Twitter
    twitter

    Gan fod coronafeirws yn haint sydd yn ymledu'n eang, mae angen bod yn ofalus wrth gael gwared ar hancesi papur os ydych yn dangos symptomau.

    Dyma'r cyngor diweddaraf gan Gyngor Pen-y-bont:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cwestiynu 'absenoldeb' y Prif Swyddog Meddygolwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru wedi dweud ei bod hi'n "od" fod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cymryd yr wythnos hon i ffwrdd o'r gwaith, a hynny yng nghanol pandemig.

    Dywedodd Andrew RT Davies fod angen gwybod a oedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awdurdodi absenoldeb Dr Frank Atherton.

    "Mae pawb yn haeddu gwyliau a dwi'n siŵr bod y prif swyddog meddygol wedi bod yn gweithio'n galed yn ystod y cyfnod yma," meddai.

    "Ond os yw hyn yn wir, mae'r amseru yn edrych ychydig yn od o ystyried mai hon oedd wythnos un o gyhoeddiadau mawr Llywodraeth Cymru ar lacio cyfyngiadau."

    frank athertonFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Dr Frank Atherton yw Prif Swyddog Meddygol Cymru

  9. Gyrru 105 milltir yr awr ar ôl casglu tecawêwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Gyda'r ffyrdd yn fwy distaw o hyd oherwydd y cyfyngiadau teithio, mae'r heddlu'n parhau i ddal ambell i berson sy'n torri'r cyfyngiadau cyflymder - rhai yn fwy nag eraill.

    Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi dal gyrwyr yn mynd 115mya a 108mya ar yr A55 ger Penarlâg yn Sir y Fflint.

    Fe wnaethon nhw hefyd ddal un person yn mynd 105mya ar yr A55 ger Llangefni ar Ynys Môn.

    A'r esgus? Roedden nhw ar frys i gyrraedd adref ar ôl casglu tecawê.

  10. 'Ddim digon saff' i lacio'r rheol 2mwedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd yn edrych dros yr wythnos nesaf ar sut fyddai modd cyhoeddi 'bybls cartrefi' yng Nghymru.

    Gallai'r cyhoeddiad hwnnw ddod unrhyw bryd yn y tair wythnos nesaf, meddai, gan olygu y byddai pobl o un cartref yn gallu aros draw gydag un tŷ arall.

    Gyda Llywodraeth y DU yn adolygu'r rheol dwy fetr wrth ymbellhau cymdeithasol mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd yntau'n edrych yn "ofalus" ar y peth.

    "Os yw'r cyngor yn newid a'i bod hi'n saff lleihau'r rheol dwy fetr, wrth gwrs dyna wnawn ni," meddai.

    "Ond dyw hi ddim yn ddigon saff ar hyn o bryd."

  11. Gwersi cerdd i gannoedd dros y wewedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Mae 800 o ddisgyblion ar draws Môn a Gwynedd wedi bod yn derbyn eu gwersi cerdd ar-lein yn ystod cyfnod y cyfyngiadau gyda’r gwasanaeth cerdd ysgolion lleol.

    Mae’r cyfnod clo wedi dod â nifer o heriau – ac wedi gorfodi pawb i feddwl yn fwy creadigol am sut i barhau i weithio, dysgu a rhyngweithio gyda’i gilydd.

    "Gyda help awdurdodau lleol yng Ngwynedd a Môn rydym wedi llwyddo i ail gychwyn arni yn gyflym gan ddarparu ein gwersi offerynnol a llais dros Zoom a phlatfformau tebyg eraill," meddai Tudur Eames, rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

    “Mae’r adborth wedi bod yn hynod o gadarnhaol - gyda llawer o rieni yn dweud wrthym fod gwersi wedi galluogi i’w plant allu parhau i ymarfer eu sgiliau cerddorol.

    "Ond yn fwy na hynny bod y sesiynau wedi rhoi sefydlogrwydd i’w plant mewn cyfnod ansicr - a gwersi yn rhoi rhywfaint o strwythur i’r wythnos.”

    Ychwanegodd fod y newid hefyd wedi rhoi "rhywfaint o sicrwydd" i athrawon cerdd, yn enwedig gan ei bod hi'n bosib na fydd gwersi cerdd wyneb yn wyneb "yn cael ei ganiatáu am sbel".

    CerddFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwydion o Ysgol Nebo yn derbyn gwers dros y we

  12. Plaid Brexit: 'Codwch yr holl gyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Plaid Brexit

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru dywedodd Mark Reckless, arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, eu bod yn "croesawu'r ffaith bod cyfyngiadau yng Nghymru'n cael eu llacio o'r diwedd".

    "Ond rydyn ni'n credu y byddai'n well eu codi nhw'n gyfan gwbl a rhoi ffydd yn synnwyr cyffredin pobl, yn hytrach na chael Mark Drakeford yn meicro-reoli pawb," meddai.

    Mark Reckless
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Plaid Brexit ymhlith y lleisiau sydd wedi galw am lai o gyfyngiadau yn ystod y pandemig

  13. Gwledydd y DU 'yn dod yn agosach'wedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Mae Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw gan ddweud ei fod yn "dod â gwledydd y DU yn agosach" o ran eu rheolau coronafeirws.

    Dywedodd Simon Hart fod llywodraethau Cymru a'r DU wedi "gweithio gyda'i gilydd" yn ystod y pandemig a bod "mwy o eglurder" nawr i bobl a busnesau.

    "Mae'r camau sy'n cael eu cymryd gan lywodraethau'r DU yn parhau i fod yn fwy tebyg na annhebyg, a dwi'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu pob rhan o'r economi i adfer."

    simon hart
  14. Achosion diweddaraf: Rhagor o wybodaethwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Agor rhai eglwysi ac addoldai o ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Gall eglwysi ac addoldai yng Nghymru ailagor ar gyfer gweddïau preifat o ddydd Llun wrth i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau symud.

    Bydd eglwysi a all gyflawni mesurau diogelwch llym yn medru ail-agor ar gyfer unigolion a grwpiau aelwyd i weddïo.

    Ond bydd pob eglwys yn parhau ar gau ar gyfer gwasanaethau, yn cynnwys priodasau, angladdau a bedyddiadau.

    Dywed yr Eglwys yng Nghymru ei bod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y mesurau diogelwch y bydd yn rhaid i eglwysi eu gweithredu er mwyn ail-agor.

    Mae’r rhain yn cynnwys cadw pellter dau fetr rhwng pobl a sicrhau gweithdrefnau hylendid a glanhau digonol. Bydd yn rhaid i eglwysi hefyd gwblhau asesiad risg COVID cyn ail-agor.

    O ganlyniad, ni all pob eglwys ail-agor ar hyn o bryd medd yr Eglwys yng Nghymru.

    Dywedodd John Davies, Archesgob Cymru: “Rydym yn ddiolchgar am y caniatâd a roddwyd i agor eglwysi ar gyfer gweddïau preifat lle mae’n ddiogel a hefyd yn ymarferol i wneud hynny.

    "Bydd hyn yn dod â chysur a chefnogaeth i lawer o bobl, yn arbennig yn y dyddiau anodd a phryderus hyn. Er ein bod yn dal i fethu cynnal gwasanaethau, mae’n arwydd gobeithiol ein bod yn dod drwy’r pandemig hwn."

    AddoliFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Amserlen y cyhoeddiadauwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae'r gynhadledd i'r wasg bellach ar ben, ond i grynhoi, dyma amserlen y prif gyhoeddiadau gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Mwy o fanylion ar wefan y llywodraethwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae rhagor o fanylion ar y newidiadau sydd wedi'u cyhoeddi heddiw - a'r pethau sydd dal ddim yn cael eu caniatáu - bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.

  18. Pedair yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau pedair marwolaeth arall o Covid-19, a 31 achos newydd.

    Cafodd 2,773 o bobl eu profi am yr haint ddoe.

    Bellach mae ffigyrau ICC yn dangos cyfanswm o 1,475 marwolaeth a 15,001 o achosion yng Nghymru - ond mae'r rheiny ond yn cynnwys achosion ble roedd prawf wedi cadarnhau bod coronafeirws ar y claf.

    Mae'n debyg fod gwir ffigwr y rhai sydd wedi eu hentio'n llawer uwch ond mae'n anodd darganfod y nifer yma gan mai dim ond yn ddiweddar mae profi ar raddfa eithaf eang wedi digwydd.

  19. Angen i'r llywodraeth 'gynllunio'n bellach i'r dyfodol'wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Plaid Cymru

    Dylai Llywodraeth Cymru "gynllunio'n bellach i'r dyfodol" wrth ystyried llacio cyfyngiadau coronafeirws, yn ôl Plaid Cymru.

    Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, fod angen awgrym o newidiadau mwy tymor hir na'r adolygiadau bob "pythefnos neu dair wythnos", a bod angen cyhoeddi newidiadau "gam wrth gam".

    Galwodd eto ar y llywodraeth i "symud cyn gynted â phosib" wrth herio a phrofi ei thystiolaeth ei hun yn y ffordd fwyaf diogel.

    "Tra bod llacio cyfyngiadau yn newyddion da sydd yn symud i'r cyfeiriad cywir... byddwn yn parhau i alw ar y llywodraeth i gynllunio ymlaen yn bellach i'r dyfodol," meddai.

    "Rydym yn symud mewn blociau o bythefnos neu dair wythnos yma.

    "Rhaid i bobl a busnesau gael awgrym mwy tymor hir, a newidiadau cam wrth gam fel sydd mewn gwledydd eraill, gyda dyddiadau'n cael eu gosod am newidiadau tebygol - ond wrth gwrs gyda chafeat y gall pethau newid gan ddibynnu ar achosion a'r Gyfradd 'R'."

    Ychwanegodd: "Rwy'n galw eto ar y llywodraeth i symud mor gyflym ag sydd yn bosib, gan herio a phrofi ei thystiolaeth yn barhaus mewn modd tryloyw, ond yn y ffordd fwyaf diogel hefyd - ni allwn gyfaddawdu ar iechyd ac mae'r achosion yn fy etholaeth yn ein hatgoffa o hyn."

    Rhun ap Iorwerth
  20. Ceidwadwyr yn croesawu cyhoeddiad Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae Paul Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, wedi croesawu cyhoeddiad Mark Drakeford am lacio cyfyngiadau o ddydd Llun.

    Dywedodd Mr Davies: "O'r diwedd mae'r Prif Weinidog wedi deffro i alwadau'r Ceidwadwyr am gymryd agwedd ddiogel a synhwyrol i lacio'r cyfnod clo ac o'r diwedd mae wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer llacio cyfyngiadau ymhellach.

    "Tra bod angen croesawu llawer o'r cyhoeddiadau heddiw, fe allai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi mynd yn bellach.

    "Bydd y rheol greulon pum milltir - rheol sydd o fantais i bobl mewn canolfannau trefol mawr yn unig - yn cael ei llacio mewn pythefnos.

    "Pan ddim nawr a pham aros tan ddydd Llun i alluogi siopau nad ydynt yn hanfodol i ailagor pan roeddent wedi derbyn rhybudd am ailagor dair wythnos yn ôl?"

    Ychwanegodd Mr Davies: "Ni all llawer o fanwerthwyr oroesi ar gwsmeriaid lleol yn unig. Fe ddylie nhw agor ar unwaith a manteisio ar werthiant dros y penwythnos er mwyn rhoi hwb i economi Cymru."

    PD