Crynodeb

  • Y Prif Weinidog yn cyhoeddi rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn y gynhadledd i'r wasg

  • Hynny'n cynnwys cadarnhad bod siopau yng Nghymru yn cael ailagor o ddydd Llun

  • Mark Drakeford hefyd yn dweud fod bwriad i lacio cyfyngiadau ar deithio a thwristiaeth erbyn Gorffennaf

  • Cyhoeddiadau hefyd ar y farchnad dai, addoldai a chwaraeon awyr agored

  • Siopau trin gwallt ymhlith y rheiny sydd hefyd yn cael paratoi i ailagor fis nesaf

  • Rhybudd gan gyn-arweinydd busnes y gallai ail don o Covid-19 "ddinistrio economi Cymru"

  • Profion coronafeirws i barhau i ddigwydd ger stadia Caerdydd ac Abertawe hyd yn oed ar ôl i'w tymhorau ailddechrau

  • Ysgolion Môn ddim am ailagor ar 29 Mehefin

  1. 'Mae'ch busnesau bach wir eich angen chi nawr'wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Ben Cottam o Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru yn dweud eu bod wedi bod yn aros yn eiddgar am y diwrnod mae siopau'n cael ailagor eto.

    Dywedodd wrth BBC Radio Wales Breakfast fod y cyfnod diweddar wedi bod yn un "poenus" ond fod busnesau wedi gwneud llawer o waith i baratoi.

    "Rydyn ni hefyd angen hyder y cyhoedd i ddod allan i'r stryd fawr a siopa gyda'r busnesau hyn," meddai.

    "Y neges gennym ni nawr yw 'mae'ch busnesau bach wir eich angen chi nawr'."

    siopau ar gauFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Trefniadau mewnol' yn gyfrifol am achosion ffatri ym Mônwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio 5 Live

    Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd system olrhain Cymru yn sicrhau bod modd adnabod unrhyw ardal ble mae coronafeirws wedi dechrau ymledu eto, a thaclo hynny'n sydyn.

    Daeth ei sylwadau'n dilyn newyddion yr wythnos hon am ffatrioedd bwyd yn Ynys Môn a Wrecsam ble cafwyd dwsinau o achosion o Covid-19.

    Dywedodd y Prif Weinidog wrth BBC Radio 5 Live eu bod yn credu mai "trefniadau mewnol y ffatri a'r heriau o gadw pellter cymdeithasol" oedd yn gyfrifol am yr achosion yn ffatri 2 Sisters ym Môn.

    Yn Wrecsam, meddai, y gred oedd bod pobl o'r tu allan wedi dod â'r haint i mewn i safle Rowan Foods, ond bod ymchwiliadau'n parhau.

    safle Rowan Foods
  3. Ail don 'yn ddigon i ddinistrio economi Cymru'wedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Mae cyn-gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru a sefydlydd un o gwmnïau fferyllol mwyaf Cymru, Syr Roger Jones, wedi dweud y byddai ail don o'r pandemig coronafeirws yn "ddigon i ddinistrio economi Cymru".

    Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd y byddai'n cymryd blynyddoedd i adfer yr economi beth bynnag.

    Ond rhybuddiodd fod yn rhaid cadw "pethau'n dynn" gan na allai Cymru fforddio ail don o'r haint.

    Disgrifiad,

    Syr Roger Jones: 'Ail don yn dinistrio economi Cymru'

  4. Gostwng Lefel Rhybudd Covid-19 o 4 i 3wedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd Lefel Rhybudd Covid-19 y wlad yn gostwng o 4 i 3.

    Ar ddechrau'r pandemig fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi'r lefelau rhybudd gyda 5 yn dynodi'r sefyllfa fwyaf difrifol, ac 1 yn dynodi'r risg isaf.

    Cafodd y penderfyniad i ostwng y lefel ei wneud yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion meddygol pob un o wledydd y DU, gan gynnwys Cymru.

    Dywedodd y llywodraeth fod hyn oherwydd "gostyngiad cyson" yn nifer yr achosion, gan rybuddio fodd bynnag "nad yw'r pandemig drosodd".

  5. 'Ansicrwydd' am wythnos ychwanegol o ysgolwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Ychydig dros wythnos cyn bod disgwyl i ysgolion ailagor, mae 'na ansicrwydd a fydd hyd y tymor ysgol yn cael ei ymestyn o wythnos ymhob ysgol.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r ysgolion eu hunain fydd yn penderfynu a fydd yr ysgolion yn agored am bedair wythnos.

    Ond dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Cerrigydrudion, Eirlys Edwards wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru: "Y broblem ydy cytundebau pobl sy'n gweithio yn y gegin neu gymorthyddion.

    "Am fod hyn yn cael ei weithredu fel agwedd wirfoddol, dydy o ddim yn eu contractau nhw i weithio yn yr wythnos olaf yma."

    Ychwanegodd nad oedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams "wedi gwneud y paratoadau... cyn gwneud y datganiad yma bythefnos yn ôl ynglŷn â gweithio am yr wythnos ychwanegol".

    Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Siân Gwenllïan bod angen "penderfyniad buan rŵan gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â'i disgwyliad hi am yr wythnos ychwanegol yma".

    ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Bethan Sayed yn cwestiynu'r rheol pum milltirwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Plaid Cymru

    Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Bethan Sayed ymhlith y gwleidyddion eraill sydd hefyd wedi cwestiynu pam fod rheol pum milltir Llywodraeth Cymru dal yn ei lle.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Llety hunan gynhaliol i gael agor gyntafwedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi pwysleisio mai dim ond rhai busnesau twristiaeth fydd yn gallu ailagor pan fydd y gorchymyn 'aros yn lleol' yn cael ei godi ddechrau Gorffennaf.

    Dywedodd y dylai'r sector "ddefnyddio'r tair wythnos nesaf i baratoi" ac y byddan nhw'n cael cymryd archebion o 13 Gorffennaf ymlaen.

    Ond fe fydd hynny ond ar gyfer llety hunan gynhaliol, fel bythynnod gwyliau a charafanau statig, neu westai sydd wedi addasu i'r pwrpas hwnnw.

  8. Ynys Môn 'ddim am agor yn syth'wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi wedi dweud ei bod hi'n "hynod bwysig" nad ydy'r ynys yn cael ei hagor i dwristiaeth yn syth, ac nad ydy'r cyhoedd yn anghofio'r canllawiau.

    Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, ychwanegodd y byddai hi o blaid cyflwyno cyfyngiadau lleol i'r ynys os oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r grym iddyn nhw orfodi.

    Petai'r cyngor sir yn cael y grym i orfodi cyfyngiadau lleol, dywedodd Llinos Medi y byddai unrhyw gyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno yn dibynnu ar achosion unigol.

    Ynys LawdFfynhonnell y llun, Gav Hardie
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ynys Lawd ger Caergybi yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr ar Ynys Môn

  9. 'Dim sail wyddonol' i'r rheol pum milltirwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn feirniadol o 'reol pum milltir' Llywodraeth Cymru ers tro - ac mae'r Aelod o'r Senedd, Andrew RT Davies wrthi eto bore 'ma yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Mr Drakeford...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Aros yn lleol' yw'r neges o hydwedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio Wales

    Pwysleisiodd y Prif Weinidog fodd bynnag fod y neges ar 'aros yn lleol' yn parhau i fod mewn grym ar hyn o bryd, hyd yn oed pan fydd siopau'n ailagor ddydd Llun.

    "Fyddwn ni ddim yn gweld pobl yn teithio pellteroedd mawr i siopau sydd ddim yn angenrheidiol," meddai.

    "Os nad ydy pethau'n digwydd fel 'dyn ni'n disgwyl, fe allwn ni wyrdroi'r mesurau yna.

    "Dwi'n meddwl ein bod ni wedi datblygu diwylliant yng Nghymru o wneud y peth iawn, ac mae'n rhaid i ni barhau i wneud y peth iawn wrth i ni roi mwy o ryddid i bobl Cymru."

  11. Llacio ar deithio a thwristiaeth - ond ddim yn sythwedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Mae Mr Drakeford hefyd wedi sôn heddiw ynglŷn â rhai o'r rheolau allai gael eu llacio ymhen ychydig wythnosau, os yw'r sefyllfa'n parhau i wella.

    Wrth siarad ar Radio Wales fore Gwener, dywedodd ei fod yn gobeithio codi'r rheol ar beidio teithio mwy na phum milltir ymhen pythefnos.

    Ond ychwanegodd y byddai pobl yn cael gwneud hynny o ddydd Llun ymlaen os oedd ganddyn nhw bryder gwirioneddol am les aelod o'r teulu.

    Mewn cyfweliad diweddarach ar Radio 5 Live, dywedodd y gallai rhannau o'r diwydiant twristiaeth baratoi i ailagor erbyn canol Gorffennaf.

    ffyrdd gwagFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fydd y rheolau ar 'aros yn lleol' ddim yn newid yn syth

  12. Siopau Cymru 'i gael ailagor o ddydd Llun'wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Rydyn ni eisoes yn gwybod rhai o'r pethau y mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford eu cyhoeddi'r prynhawn yma.

    Yn eu plith bydd caniatâd i siopau yng Nghymru ailagor o ddydd Llun ymlaen, cyn belled â'u bod nhw'n sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

    Hyd yn hyn ers dechrau'r cyfnod clo dim ond siopau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol, fel bwyd, sydd wedi bod ar agor.

    stryd fawr bangor
  13. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni heddiw.

    Byddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi ar y pandemig coronafeirws o Gymru a thu hwnt yn ystod y dydd - gan gynnwys cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru ble mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau ar lacio'r cyfyngiadau.