Crynodeb

  • Y Prif Weinidog yn cyhoeddi rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn y gynhadledd i'r wasg

  • Hynny'n cynnwys cadarnhad bod siopau yng Nghymru yn cael ailagor o ddydd Llun

  • Mark Drakeford hefyd yn dweud fod bwriad i lacio cyfyngiadau ar deithio a thwristiaeth erbyn Gorffennaf

  • Cyhoeddiadau hefyd ar y farchnad dai, addoldai a chwaraeon awyr agored

  • Siopau trin gwallt ymhlith y rheiny sydd hefyd yn cael paratoi i ailagor fis nesaf

  • Rhybudd gan gyn-arweinydd busnes y gallai ail don o Covid-19 "ddinistrio economi Cymru"

  • Profion coronafeirws i barhau i ddigwydd ger stadia Caerdydd ac Abertawe hyd yn oed ar ôl i'w tymhorau ailddechrau

  • Ysgolion Môn ddim am ailagor ar 29 Mehefin

  1. 'Ddim yn bryd ailagor lletygarwch eto'wedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford yn dweud bod y diwydiant lletygarwch heb gael dyddiad ar gyfer ailagor eto gan mai ond "rhywfaint o le i weithio efo sydd gennym ni".

    Roedd yn ateb cwestiwn ynghylch beth oedd pwrpas i lety gwyliau ailagor os nad oedd tafarndai a bwytai ar agor hefyd.

    Dywedodd y Prif Weinidog y byddai agor gormod o bethau ar unwaith yn cynyddu'r risg fod y feirws yn ymledu eto.

    "Fe fyddwn ni'n defnyddio'r tair wythnos nesaf i drafod yn ofalus gyda'r diwydiant yna a phan mae'n saff - ond nid cyn hynny - byddwn ni'n cynllunio i ailagor y rhan honno o'r economi hefyd," meddai.

    cwrwFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Achosion ffatri: 'Ymwybodol o bryderon blaenorol'wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn am yr achosion o Covid-19 yn ffatri Rowan Foods yn Wrecsam, dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn ymwybodol o bryderon y gweithwyr yno ym mis Ebrill am ddiogelwch ac ymbellhau digonol.

    Roedd hefyd yn ymwybodol fod yr heddlu wedi eu galw i'r safle ar y pryd ond fod swyddogion y llu yn fodlon gyda'r hyn oedd yno o ran camau diogelwch.

    "Wrth gwrs, bellach mae gennym bobl sydd yn cymryd rhan mewn ffordd fwy uniongyrchol yn yr achos yma yn Rowan Foods ac fe fyddwn yn dysgu mwy wrth i'r ymchwiliad i'r achos barhau," meddai.

    "Fe fyddaf yn dod i gasgliad am os oes angen cryfhau'r rheol dau fetr pan fyddwn yn gwybod mwy am y sefyllfa yn yr achosion diweddar yn Wrecsam a Llangefni."

  3. Drakeford 'heb glywed o flaen llaw' am ostwng y lefel rhybuddwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn dweud nad oedd wedi cael gwybod o flaen llaw am y penderfyniad i ostwng Lefel Rhybudd Covid-19 y DU o 4 i 3.

    Ond dywedodd nad oedd wedi "synnu" gyda'r penderfyniad, a'i bod hi'n "galonogol" fod camau Llywodraeth Cymru a'r wybodaeth oedd yn dod gan Lywodraeth y DU "yn gyson gyda'i gilydd".

  4. Rhyddid teithio yn cynnwys pobl tu allan i Gymruwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd pobl o Gymru ac o'r tu allan yn cael teithio unrhyw le o fewn y wlad unwaith y bydd y rheol 'aros yn lleol' yn cael ei godi.

    Mae disgwyl i hynny ddigwydd ar 6 Gorffennaf.

  5. 'Angen gwella amseroedd aros' canlyniadau profion Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford fod y llywodraeth yn "sicr yn derbyn fod angen gwneud mwy a rhaid i ni wneud yn well" wrth drafod yr amser aros am ganlyniadau profion coronafeirws.

    Ychwanegodd fod y "system yn dal i lwyddo i brosesu naw allan o 10 prawf o fewn 48 awr er y ffaith fod llawer mwy o brofion yn cael eu cynnal bob wythnos".

    Mae gwyddonwyr sy'n cynghori'r llywodraeth yn dweud fod y "systemau olrhain a phrofi mwyaf llwyddiannus angen canlyniadau profion o fewn 24 awr".

    Ond mae ystadegau swyddogol yn dangos fod canlyniadau yma yn cymryd yn hirach na'r canllaw 24 awr.

    Dywedodd Mr Drakeford fod "pobl o fewn y system yn gweithio mor galed ag y gallen nhw i brosesu'r canlyniadau mor sydyn ag y gallen nhw".

    Ychwanegodd fod nifer o fesuriadau mewn grym i wella cyflymder y canlyniadau.

    "Bydd hyn, rwy'n hyderus, yn arwain at gyflymu'r amseroedd aros am ganlyniadau, hyd yn oed wrth i ni gynyddu'r nifer o brofion sydd ar gael."

    prawf covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
  6. Enghraifft o 'ymweliad ar sail trugaredd'wedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn rhoi rhywfaint o fanylion ychwanegol ynghylch yr eithriad ar deithio y tu allan i'ch ardal leol i "ymweld â pherthnasau a ffrindiau agos ar sail trugaredd".

    Dywedodd y byddai hynny'n cynnwys ymweliad i aelod o'r teulu, hyd yn oed os oedden nhw eisioes yn cael cymorth gyda bwyd a meddyginiaeth yn lleol, os oedd eu hunigrwydd er enghraifft yn achosi llawer o boen meddwl.

    Byddai'n rhaid i bobl farnu dros eu hunain, meddai, a oedd gwir angen gwneud y daith yn eu sefyllfa hwy.

  7. Ystyried 'bybls cartref' wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cymru bellach yw'r unig wlad lle dyw pobl ddim eto'n cael mynd i aros dros nos gydag un cartref arall mewn 'bybl'.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi "edrych yn ofalus" ar adael i hynny ddigwydd, ond nad oedd yn "bosib" gwneud y penderfyniad eto ochr yn ochr â'r cyhoeddiadau eraill heddiw.

    Fe fydd Llywodraeth Cymru'n troi at hynny "wythnos nesaf" fodd bynnag, ac mae'n bosib y bydd newid yn cael ei wneud cyn yr adolygiad nesaf ymhen tair wythnos.

    mark drakeford
  8. Cyfiawnhau cadw'r rheol leolwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i gwestiwn pam nad yw'r rheol Aros yn Lleol wedi cael ei llacio o dan y drefn newydd, dywedodd Mark Drakeford fod y rheol yn un arf bwysig ymysg nifer.

    "Unwaith fydd y rheol leol yn cael ei llacio fe fydd pobl yn gallu teithio i gymunedau nad ydynt wedi gweld llawer o bobl hyd yma.

    "Mae angen amser paratoi ar gyfer pethau syml fel cael trefn ar doiledau cyhoeddus i ymwelwyr a meysydd parcio.

    "Fe fydd hyn yn cymryd ychydig o amser i'w drefnu - pythefnos arall. Yn y cyfamser fe fydd yn bosib i siopau nad ydynt yn rhai hanfodol i agor eto."

    Ychwanegodd: "Pythefnos yn rhagor - un lap arall."

    Mae'r prif weinidog yn pwysleisio mai canllaw ydy'r rheol pum milltir, sy'n gallu amrywio yn dibynnu ar yr ardal leol, ond fod y gorchymyn i "aros yn lleol" dal yn rhan o'r rheolau ac felly bod modd cael eich cosbi am dorri'r rheol hwnnw.

  9. Dim newid i'r rheol ar gwrdd â phobl eraillwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn pwysleisio fodd bynnag fod angen parhau i ddilyn y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, a chyngor ar olchi dwylo a gwisgo masgiau.

    Mae hyn yn cynnwys parhau i weithio o gartref os oes modd, ac osgoi unrhyw deithiau diangen.

    Does dim newid chwaith i'r rheol sy'n dweud bod ond hawl cwrdd ag aelodau un cartref arall yn unig, a hynny yn yr awyr agored.

    "Diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru, rydyn ni wedi llwyddo i arafu lledaeniad y coronafeirws, ond allwn ni ddim rhoi’r gorau iddi nawr," meddai.

    "Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid rhag y feirws ac i ddiogelu Cymru.”

    cwrdd tu allanFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae pobl yn parhau i fod ond yn cael cyfarfod ag aelodau un cartref arall, a hynny tu allan

  10. Siopau trin gwallt 'yn cael dechrau paratoi'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ymhlith y gwasanaethau eraill allai gael eu caniatáu yn yr adolygiad nesaf ym mis Gorffennaf mae gofal personol, trin gwallt a harddwch - ond drwy apwyntiad yn unig.

    Bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal â'r sector lletygarwch ynghylch y posibilrwydd o ailagor tafarndai, caffis a bwytai yn raddol, gan gadw at reolau pellter cymdeithasol.

    Dywedodd Mr Drakeford y dylai busnesau yn y sectorau hynny ddefnyddio'r tair wythnos nesaf "i ddechrau paratoi i ailagor".

    trin gwalltFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Gallai siopau trin gwallt fod ymhlith y rhai fydd yn cael ailagor o ganol Gorffennaf

  11. Rhai busnesau twristiaeth i gael ailagor ym mis Gorffennafwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau fod bwriad yn yr adolygiad nesaf ar 9 Gorffennaf i ystyried agor rhai rhannau o'r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys llety hunan gynhwysol.

    “Rwy’n gwybod bod y diwydiant twristiaeth yn gyffredinol yn awyddus i ailagor ac i achub rhywfaint o dymor yr haf," meddai.

    "Rwyf felly’n rhoi gwybod i berchnogion llety hunangynhwysol y dylent ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i baratoi i ailagor, gan weithio gyda’u cymunedau lleol.

    "Ond rwyf am i bobl wybod nad yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae gennym rywfaint o hyblygrwydd i wneud y newidiadau hyn i’r rheoliadau, a byddant yn cael eu cyflwyno'n raddol ac yn bwyllog yng Nghymru."

    aberystwythFfynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae trefi fel Aberystwyth yn dibynnu'n fawr ar y diwydiant twristiaeth - ond dim ond rhannau o'r sector fydd yn ailagor ym mis Gorffennaf dan y cynlluniau presennol

  12. Ambell i eithriad i'r rheol pum milltirwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford hefyd wedi crybwyll rhai eithriadau i'r rheol pum milltir, fydd yn aros mewn lle am bythefnos arall o leiaf.

    Er bod gofyn o hyd i bobl aros yn lleol a pheidio â theithio mwy na phum milltir o’r cartref, bydd pobl yn cael teithio y tu hwnt i'w hardal leol i "ymweld â pherthnasau a ffrindiau agos ar sail trugaredd".

    Mae hyn yn cynnwys mynd i weld pobl mewn cartref gofal neu sefydliad troseddwyr ifanc, a theithio i bleidleisio mewn etholiadau tramor ble mae'n rhaid bod yn bresennol.

    Bydd y rheol ynghylch aros yn lleol yn cael ei godi ar 6 Gorffennaf "os bydd yr amgylchiadau’n caniatáu hynny", gyda phobl wedyn yn cael teithio ledled Cymru.

  13. Ailagor y farchnad dai a llacio cyfyngiadau chwaraeonwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae’r newidiadau eraill fydd yn dod i rym o ddydd Llun yn cynnwys:

    • Galluogi pobl i weddïo’n breifat mewn mannau addoli, gan gadw pellter cymdeithasol;
    • Ailgychwyn y farchnad dai drwy adael i bobl fynd i weld tai gwag, ac i symud tŷ os oes cytundeb i werthu;
    • Llacio’r cyfyngiadau ar gyrtiau chwaraeon awyr agored, gan gadw pellter cymdeithasol - ond DIM chwaraeon cyswllt na chwaraeon tîm;
    • Caniatâd i athletwyr elît ailddechrau hyfforddi;
    • Llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau gofal plant.
    tenisFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i safleoedd fel cyrtiau tenis gael ailagor eto gyda chyfyngiadau

  14. Cadarnhau bod siopau'n cael ailagorwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford yn cadarnhau'r cyhoeddiad ar ailagor siopau yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

    "Y peryglon iechyd yw canolbwynt ein sylw o hyd, ond gallwn nawr fynd ati’n ofalus i roi mwy o sylw i effaith economaidd a chymdeithasol ehangach y feirws," meddai.

    "Rydyn ni wedi rhoi llawer iawn o gymorth i fusnesau a swyddi wrth iddyn nhw roi’r gorau i’w gweithgarwch ystod y pandemig – a nawr rydyn ni'n dechrau cymryd y camau gofalus hyn i ailgychwyn ein heconomi."

    John LewisFfynhonnell y llun, John Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae siopau yn Lloegr eisoes wedi ailagor eu drysau gyda rheolau ar ymbellhau cymdeithasol

  15. Rhif R Cymru yn parhau o dan 1wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dechrau'r gynhadledd drwy amlinellu'r sefyllfa bresennol, ble mae Rhif R Cymru yn parhau o dan 1 a nifer yr achosion yn parhau i ostwng er bod mwy o brofion yn cael eu cynnal.

    Oherwydd hynny, meddai, mae modd llacio mwy ar y cyfyngiadau.

  16. Datganiad am lacio cyfyngiadau yn fuanwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae'r gynhadledd i'r wasg dyddiol ar fin dechrau - fe ddown ni â'r manylion i gyd i chi yma ar y llif byw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Rhif R Cymru 'yn is na phobman yn Lloegr'wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Twitter

    Mae nifer o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn tynnu sylw at ddata gan ap monitro symptomau Covid-19 yn awgrymu bod y Rhif R yng Nghymru yn is ar hyn o bryd nag phob rhanbarth yn Lloegr.

    Dyna'r rhif sydd yn dangos faint mae'r haint yn ymledu o un person i'r llall - felly mae unrhyw beth o dan 1 yn golygu bod ymlediad yr haint yn arafu.

    Mae'r wybodaeth yn dod gan ap y cwmni ZOE, sydd wedi'i gymeradwyo gan lywodraethau'r DU.

    Ond mae'r data yn seiledig ar bobl yn lawrlwytho'r ap ac adrodd am eu symptomau, gan olygu nad yw o reidrwydd yn dangos y darlun yn llawn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. '50 person di-waith am bob swydd' mewn rhai llefyddwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC News

    Mae astudiaeth wedi dangos bod dwsinau o bobl yn ymgeisio am bob swydd mewn sawl ardal o'r DU ar hyn o bryd.

    Roedd y nifer hwnnw'n codi i 50 person di-waith am bob swydd oedd yn mynd yn rhai o'r ardaloedd sydd wedi'u taro waethaf gan y pandemig, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf.

    Mae economegwyr eisoes wedi rhybuddio y gall diweithdra gynyddu'n sylweddol tua diwedd y flwyddyn wrth i raglenni fel y cynllun ffyrlo ddod i ben.

    siopau gwagFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Canolfannau profi yng Nghaerdydd ac Abertawe i aroswedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    Mae clybiau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe wedi cadarnhau y bydd y canolfannau profi Covid-19 ger eu stadiymau yn parhau i gael eu defnyddio pan fydd y tymor pêl-droed yn ailddechrau ddydd Sadwrn.

    Bydd gemau cartref y ddau glwb yn cael eu chwarae yno ond y tu ôl i ddrysau caeedig ac heb gefnogwyr.

    Dim ond chwaraewyr, dyfarnwyr, staff meddygol, darlledwyr a swyddogion eraill o'r clybiau fydd yn cael mynd i mewn.

    stadiwm dinas caerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  20. 'Y peth mwyaf anodd oedd methu bod efo nhw ar y funud olaf'wedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mehefin 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae dyn a gollodd ei wraig i Covid-19 ym mis Ebrill wedi y byddai wedi hoffi gweld y cyfyngiadau'n parhau am bythefnos arall.

    Fe gollodd Maldwyn Jones o'r Felinheli ei wraig Heather, a bu ef a'i fab David yn wael gyda'r feirws hefyd.

    "Roedd yn reit anodd. Fe ddisgynnodd fy ngwraig a gorfod mynd yn ôl mewn i'r ysbyty," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

    "Fe fuodd hi mewn am wythnos, fe ddaeth adra, roedd hi'n iawn ac wedyn rodd yn rhain mynd yn ôl mewn, ac mae'n rhaid ei bod hi wedi cael ei heintio yn anffodus."

    Dyna, meddai, oedd y tro olaf i'r teulu ei gweld.

    "Y peth mwyaf anodd i'r teulu fwy na dim oedd y ffaith nad oeddech chi yn cael mynd i'r ysbyty a dyna ydy'r amser anoddaf i bob teulu, methu bod efo nhw ar y funud olaf," meddai.

    "Roedd hyn yn galed ofnadwy ac mae'n dal i frifo.

    "Yn anffodus dyna oedd y sefyllfa efo'r firws yma a'r unig beth alla'i ddweud ydy ei bod hi wedi cael y gofal gorau."

    Ychwanegodd: "Mi fyddwn ni yn licio gweld y cyfyngiadau yn parhau am ryw bythefnos eto ond maen amlwg bod rhai cyfyngiadau yn mynd i godi heddiw."