Crynodeb

  • Pryder am ddyfodol swyddi Airbus ym Mrychdyn oherwydd y pandemig

  • Llywodraeth Cymru'n gofyn i Ryanair beidio hedfan o Gaerdydd yr wythnos hon

  • Y Sioe Frenhinol i gael ei chynnal ar-lein eleni oherwydd Covid-19

  • Tafarndai yn Aberystwyth yn rhoi'r gorau iddi yn gyfan gwbl oherwydd yr argyfwng

  1. Hwyl fawr am y trowedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Fe fyddwn ni nôl bore 'fory gyda'r newyddion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt unwaith eto.

    Diolch am ddilyn, a hwyl fawr am y tro.

  2. Llai na hanner profion yn cael canlyniad o fewn 24 awrwedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae cyfran y profion coronafeirws sy'n derbyn canlyniad o fewn 24 awr wedi gwella ychydig dros yr wythnosau diwethaf,.

    Mae data newydd yn manylu ar faint o gleifion gafodd canlyniad eu prawf o fewn 24 awr fesul wythnos ers diwedd Ebrill.

    Yr wythnos ddiwethaf cafodd 22,268 o brofion eu prosesu yn labordai Cymru.

    O'r rheiny cafodd 49.4% eu dychwelyd o fewn 24 awr, a 74.4% o fewn 48 awr.

    Daeth y perfformiad gwaethaf ar yr wythnos hyd at 7 Mehefin, ble mai 35.1% o brofion gafodd eu dychwelyd o fewn diwrnod, cyn i'r gyfradd wythnosol wella'n raddol i 41.8% a 43.5% yn yr wythnosau wedi hynny.

    ProfionFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Y Ddraig Goch yn curo'r Covidwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Mae rhywun ym Mhenrhyndeudraeth wedi bod yn brysur yn dangos eu doniau celf!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. 60 o swyddi yn y fantol gyda chwmni Cambrian Printerswedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Geredigion, y Llywydd Elin Jones yn dweud ei bod wedi cael gwybod bod tua 60 o swyddi yn y fantol gyda chwmni Cambrian Printers.

    Dywedodd bod gweithwyr y cwmni wedi cael gwybod bod bwriad i symud y gwaith cynhyrchu o Lanbadarn Fawr ar gyrion Aberystwyth i'r Coed Duon, Sir Caerffili.

    Dywedodd Cambrian Printers mewn datganiad bod trafodaethau ar gyfnod cynnar, ac nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  5. Airbus: Pryder am fusnesau'r economi ehangachwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi ymateb i'r newyddion am swyddi Airbus drwy fynegi "pryder mawr" am yr effaith ar rannau eraill o'r economi.

    Dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi FSB Cymru fod "teuluoedd cymunedau a busnesau bach" ar hyd gogledd Cymru oedd yn "dibynnu ar Airbus".

    "Wrth i'r sefyllfa ddatblygu rydyn ni'n gobeithio gweld cefnogaeth lawn yn cael ei gynnig i'r staff sydd wedi'u heffeithio yn ogystal â'r busnesau bach allai deimlo effaith y penderfyniad yma," meddai.

    "Rydyn ni eisiau gweld llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd ar y dasg hon."

  6. Merched y Wawr yn crynhoi'r cyfnod Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Merched y Wawr

    Mae Merched y Wawr wedi bod yn annog eu haelodau i grynhoi cyfnod y coronafeirws iddyn nhw mewn 100 gair, a ninnau newydd basio'r garreg filltir honno o ddyddiau ers dechrau'r cyfnod clo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Hyd at 20 mewn angladdau yng Ngwentwedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Cyngor Casnewydd

    Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd hyd at 20 o bobl nawr yn cael mynychu angladdau yn siroedd Gwent.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cymorth i fusnesau gwely a brecwastwedi ei gyhoeddi 15:33 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Yn y Senedd dywedodd Dafydd Elis-Thomas, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ei fod yn awyddus i glywed enghreifftiau o fusnesau gwely a brecwast sydd heb elwa o grantiau Covid-19.

    Daeth ei ateb wedi i Mark Isherwood, AS Ceidwadol rhanbarth Gogledd Cymru ofyn pa gymorth oedd ar gael i fusnesau gwely a brecwast.

    "Dydyn nhw ddim yn gymwys ar gyfer cymalau 1 na 2 grantiau'r llywodraeth," meddai.

    Ychwanegodd fod y sefyllfa yn wahanol yn Yr Alban a Lloegr lle mae busnesau gwely a brecwast yn gymwys i gael grantiau.

    dafydd elis-thomasFfynhonnell y llun, bbc
  9. Sut beth yw priodi dan y cyfngiadau presennol?wedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Teulu'n gwylio dros y we, dathlu gyda phicnic mewn maes parcio - sut beth yw priodi dan y cyfyngiadau Covid-19 presennol?

    Dyma oedd profiad Elizabeth ac Ian Choi ar eu diwrnod mawr nhw yn ddiweddar!

    Disgrifiad,

    Sut beth yw priodi dan gyfyngiadau Covid-19?

  10. Prisiau tai yn gostwngwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    BBC News UK

    Roedd prisiau tai ar draws y DU 0.1% yn is ym mis Mehefin na'r un cyfnod y llynedd, yn ôl cymdeithas adeiladu Nationwide.

    Dyma'r tro cyntaf i brisiau ostwng flwyddyn-ar-flwyddyn ers mis Rhagfyr 2012, a hynny wrth i'r pandemig barhau i effeithio ar y farchnad dai.

    Er bod cyfyngiadau wedi llacio rhywfaint bellach, am lawer o'r cyfnod clo doedd dim modd mynd i weld tai ac felly fe arafodd gwerthiant yn sylweddol.

    gwerthu taiFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Gweithwyr gofal eto i dderbyn eu bonws o £500wedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am nad yw bonws o £500 sydd wedi'i addo i bob gweithiwr gofal yng Nghymru wedi'i dalu eto - ddeufis union ers y cyhoeddiad.

    Dywedodd llefarydd y blaid ar ofal cymdeithasol, Janes Finch-Saunders: "Tra'i fod wedi'i gynnig gydag amcanion da, daeth yn amlwg yn fuan bod y sefydliad Llafur wedi methu miloedd o weithwyr ymroddedig gan fethu ag ystyried y byddai angen talu treth ac yswiriant gwladol arno.

    "Yr wythnos ddiwethaf daeth i'r amlwg y gallai rhai dderbyn cyn lleied â £125.

    "Ond ddeufis yn ddiweddarach does neb wedi derbyn y bonws."

    Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r taliadau gael eu gyrru yn fuan.

    Ychwanegodd llefarydd eu bod yn parhau i geisio cael Llywodraeth y DU i ymrwymo na fydd yn rhaid i'r 64,000 o weithwyr fydd yn derbyn y bonws dalu treth ar y £500.

    Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Beirniadu'r UDA am brynu'r stoc gyfan o gyffur Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    BBC News

    Mae gweinidog busnes Llywodraeth y DU, Nadhim Zahawi wedi galw ar lywodraethau a chwmnïau i gydweithio pan mae'n dod at rannu triniaethau coronafeirws.

    Daw hynny wedi i'r UDA brynu bron yr holl stoc byd eang o gyffur remdesivir am y tri mis nesaf.

    Mae'r cyffur wedi profi'n effeithiol wrth leihau'r amser mae'n cymryd i adfer o Covid-19.

    Ychwanegodd Mr Zahawi fod y DU wedi "gwneud y peth iawn" wrth brynu llawer o'r cyffur dexamethasone, sy'n cael ei ddefnyddio i drin y cleifion Covid-19 mwyaf difrifol.

    Ond mynnodd mai'r ateb gorau oedd cael gwledydd i "weithio gyda'i gilydd".

    "Wrth geisio cystadlu, dwi'n meddwl ein bod ni'n tanseilio'n holl strategaethau yn y bon," meddai.

    remdesivirFfynhonnell y llun, Reuters
  13. Marwolaethau yn gostwng yn raddolwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae'r tueddiad hirdymor yn dangos nifer y marwolaethau dyddiol yn gostwng o'i lefel uchaf yng nghanol Ebrill.

    Mae'r graff isod yn dangos y diwrnod y bu farw'r cleifion, yn hytrach na'r dyddiad y cafon nhw eu cyhoeddi.

    Graff
  14. Ble yng Nghymru oedd y marwolaethau?wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Gyda nifer y marwolaethau sydd wedi'u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi cyrraedd 1,516, dyma ble ddigwyddodd y marwolaethau hynny.

    Y bwrdd iechyd sydd â'r nifer fwyaf o farwolaethau ydy Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ond dyna'r bwrdd iechyd mwyaf o ran maint hefyd.

    Map
  15. Chwech yn rhagor wedi marw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae chwech o bobl yn rhagor wedi marw ar ôl cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf.

    Mae hynny'n dod â'r cyfanswm i 1,516.

    Cafodd 32 o achosion newydd o'r feirws eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 15,775 o bobl wedi cael prawf positif yng Nghymru bellach.

  16. Herio Boris Johnson ar Airbuswedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Draw yn San Steffan, mae Boris Johnson hefyd wedi bod yn cael ei holi yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog am y swyddi fydd yn mynd yn Airbus.

    Dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty nad oedd pobl eisiau clywed "sloganau", ond yn hytrach gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu.

    Ychwanegodd fod swyddi eraill yng Nghymru hefyd yn y fantol gan gynnwys rhai gyda British Airways, GE, a Rolls Royce.

    Mewn ymateb dywedodd Mr Johnson fod "cynllun buddsoddi gwerth £600bn" i gael ac y byddai'n sicrhau "swyddi, swyddi, swyddi".

    boris johnsonFfynhonnell y llun, Ty'r Cyffredin
  17. 34% o fusnesau Cymru wedi gwneud cais am gymorthwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Skates bod 34% o'r dros 260,000 o fusnesau yng Nghymru wedi gwneud cais am gymorth gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.

    Yn ôl y gweinidog mae hyn yn cymharu â 14% o fusnesau yn Lloegr a 21% yn Yr Alban.

    Dywedodd bod y ffigyrau yn dangos bod Llywodraeth Cymru "wedi cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr ar y cyd â Llywodraeth y DU unrhyw le yn y DU.

  18. 'Cefnogaeth i bob person sydd wedi'u diswyddo'wedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd pecyn cefnogaeth personol ar gael i bob person sy'n colli eu swydd o ganlyniad i'r pandemig, meddai Gweinidog yr Economi.

    Dywedodd Ken Skates wrth y gynhadledd y bydd arian ar gael i helpu unrhyw un sydd wedi colli eu swydd i ganfod swyddi newydd.

    "Bydd unrhyw un sydd wedi'u diswyddo yn derbyn pecyn cefnogaeth wedi'i deilwra iddyn nhw er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw'r arweiniad cywir i'w cael yn ôl yn gweithio, neu os ydyn nhw'n dymuno sefydlu eu busnes eu hunain," meddai.

  19. 'Dim bygythiad i ddyfodol Maes Awyr Caerdydd'wedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Skates yn mynnu nad yw dyfodol hir dymor Maes Awyr Caerdydd dan fygythiad oherwydd y pandemig.

    Er bod Caerdydd, fel eraill ar draws y DU, wedi dioddef o'r diffyg teithwyr dros y misoedd nesaf, dywedodd nad oedd gan y maes awyr cymaint o ddyled ag eraill.

  20. Llywodraeth Cymru wedi gwneud 'buddsoddiad anhygoel' yn Airbuswedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud "buddsoddiad anhygoel" ar safle Airbus ym Mrychdyn a'r sector yn ehangach, meddai Ken Skates.

    "Rydyn ni wedi cefnogi pob busnes sy'n ymwneud ag Airbus ym Mhrydain i bob pwrpas - rheiny sy'n ffurfio rhan o'r gadwyn gyflenwi yn y sector awyrofod," meddai yn y gynhadledd.

    "Ry'n ni wedi buddsoddi miloedd ar filoedd ar brentisiaethau yn Airbus, ac yn allweddol, wedi agor y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn ddiweddar."

    Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ymestyn hyfforddiant prentisiaid a'u bod y gobeithio canfod ffordd o gefnogi'r rhai oedd i fod i ddechrau eleni.

    Aeth ymlaen i ddweud nad oedd unrhyw un wedi rhagweld effaith ddinistriol coronafeirws ar y sector.