Crynodeb

  • Pryder am ddyfodol swyddi Airbus ym Mrychdyn oherwydd y pandemig

  • Llywodraeth Cymru'n gofyn i Ryanair beidio hedfan o Gaerdydd yr wythnos hon

  • Y Sioe Frenhinol i gael ei chynnal ar-lein eleni oherwydd Covid-19

  • Tafarndai yn Aberystwyth yn rhoi'r gorau iddi yn gyfan gwbl oherwydd yr argyfwng

  1. Ysgrifennydd Cymru'n amddiffyn cymorth i'r diwydiant awyrwedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi amddiffyn camau Llywodraeth y DU i warchod y diwydiant awyr yn dilyn y newyddion am swyddi Airbus.

    Dywedodd eu bod eisoes wedi rhoi £10bn i helpu'r diwydiant drwy'r argyfwng Covid-19.

    Ond roedd penderfyniad Airbus i ddiswyddo staff yn seiledig ar ble roedden nhw'n gweld y diwydiant yn mynd "yn y pump i 10 mlynedd nesaf", meddai.

    Ychwanegodd nad oedd Brychdyn yn cael ei dargedu'n benodol ar gyfer y swyddi fyddai'n mynd.

    simon hart
  2. Airbus: Galw ar Lywodraeth y DU i ymyrrydwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ymhlith y rheiny sydd wedi mynegi pryder am golli swyddi Airbus, gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn "defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael" i roi cymorth i'r gweithwyr.

    Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates ei fod yn "newyddion gwbl drychinebus".

    "Mae’r sector mewn argyfwng a rhaid i Lywodraeth y DU weithredu’n gyflym ac yn bendant nawr er mwyn achub y diwydiant a’i gadwyn gyflenwi," meddai.

    "Rydyn ni wedi gweld arwyddion o hyn ers wythnosau a rhaid wrth gamau ar fyrder ar lefel y DU er mwyn atal yr argyfwng hwn rhag gwaethygu fwy fyth."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Pryder am swyddi Airbuswedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae pryder am ddyfodol swyddi gweithwyr Airbus ym Mrychdyn, wedi i'r cwmni awyrennau gyhoeddi y byddan nhw'n diswyddo 1,700 o weithwyr ym Mhrydain.

    Bydd hynny'n rhan o 15,000 o swyddi fydd yn cael eu colli yn fyd-eang, wrth i Airbus ymateb i newidiadau yn y farchnad yn dilyn y pandemig coronafeirws.

    Mae'r safle ym Mrychdyn, Sir y Fflint yn cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau'r cwmni ac yn cyflogi 6,000 o weithwyr.

    Nid oes cadarnhad eto faint o'r swyddi hynny fydd yn cael eu colli.

    airbusFfynhonnell y llun, AFP/Getty Images
  4. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i chi unwaith eto i'n llif byw dyddiol gyda'r diweddaraf ar y pandemig o Gymru a thu hwnt.

    Fe ddown ni â rhai o brif benawdau'r bore i chi yn y man.