Crynodeb

  • Pryder am ddyfodol swyddi Airbus ym Mrychdyn oherwydd y pandemig

  • Llywodraeth Cymru'n gofyn i Ryanair beidio hedfan o Gaerdydd yr wythnos hon

  • Y Sioe Frenhinol i gael ei chynnal ar-lein eleni oherwydd Covid-19

  • Tafarndai yn Aberystwyth yn rhoi'r gorau iddi yn gyfan gwbl oherwydd yr argyfwng

  1. Dros 300 o geisiadau i'r gronfa cadernidwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Skates wedi dweud bod dros 300 o geisiadau wedi cael eu prosesu yn y 72 awr ddiwethaf ar gyfer rhan nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

    Bydd rhagor o daliadau'n cael eu gwneud yfory o'r cynllun, sy'n cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau drwy'r argyfwng.

    "Rydyn ni'n disgwyl i dros £3m fynd allan i fusnesau ar hyd a lled Cymru," meddai'r gweinidog.

    Ychwanegodd y byddai trydydd rhan y cynllun, yn yr hydref, yn canolbwyntio ar dwf ac adfer hyder mewn sawl sector.

  2. 'Cyfrifoldeb unigol' i hedfan gyda Ryanair ai peidiowedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Gweinidog yr Economi wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd y "rhan fwyaf" o deithwyr ddim yn teithio i Faes Awyr Caerdydd ar gyfer hediadau Ryanair.

    Daw hynny wedi iddi ddod i'r amlwg fod y cwmni'n bwriadu hedfan o Gaerdydd i Faro a Malaga ddydd Gwener - cyn i'r canllawiau 'aros yn lleol' gael eu llacio yng Nghymru.

    Dywedodd Mr Skates ei fod yn "gyfrifoldeb unigol" i benderfynu a oedden nhw am hedfan ai peidio, a bod llawer o'r hediadau wedi'u bwcio llynedd.

    Ond gallai rhai teithwyr fod yn hedfan am resymau personol, meddai, ac roedd hawl ganddyn nhw i wneud hynny.

  3. Lleihau'r wythnos waith?wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Skates ei bod hi'n "hollol hanfodol" fod Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak yn cynnig cymorth i'r diwydiant.

    Fe gyfeiriodd at esiamplau o wledydd fel Ffrainc ble mae'r llywodraeth eisoes wedi cynnig cymorth ariannol i'r sector.

    Awgrymodd rai camau allai helpu'r diwydiant awyr, gan gynnwys dileu'r Dreth Teithwyr Awyr dros dro, ac annog cwmniau i wneud eu gwaith cynnal a chadw yma yn y DU.

    "Mae angen i ni symud yn sydyn a gyda'n gilydd - ar draws ffiniau daearyddol a gwleidyddol - i warchod y sector, bywoliaeth pobl sy'n gweithio ynddo a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y diwydiant awyrofod," meddai.

    Ychwanegodd y gallai'r llywodraeth hefyd leihau'r wythnos waith, o bosib i bedwar diwrnod - syniad sydd wedi cael ei awgrymu er mwyn hybu'r economi yn dilyn Covid-19.

  4. Skates i gynnal uwch-gynhadledd yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Gweinidog yr Economi y byddai'n cynnal uwch-gynhadledd yn y gogledd yn yr wythnosau nesaf er mwyn asesu dyfodol hir dymor y safle.

    Ychwanegodd Ken Skates y bydd hyn yn helpu'r llywodraeth i baratoi ymlaen llaw gyda sectorau fel awyrofod, moduro a gwneud nwyddau "ar ôl Covid, ar ôl Brexit a gyda'r nod o fod yn garbon niwtral".

    Dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd "cyfran sylweddol" o'r 1,700 o'r swyddi Airbus fydd yn cael eu colli yn y DU ym Mrychdyn.

    Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmnïau fydd wedi'u heffeithio yn y gadwyn gyflenwi trwy'r Gronfa Cadernid Economaidd.

    "Byddwn yn parhau i gefnogi'r cynlluniau hir dymor ar gyfer y diwydiant yma yng Nghymru," meddai.

    ken skates
  5. 'Nid dyma ddechrau'r diwedd' i Airbuswedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates yn dechrau drwy drafod y newyddion am golli swyddi yn Airbus.

    Dywedodd ei fod yn derbyn fod y cwmni'n "cynllunio ar gyfer colli cyfran sylweddol o'r rheiny ym Mrychdyn" yn Sir y Fflint.

    "Mae'n amlwg beth sydd wedi achosi hyn - mae'r pandemig Covid-19 wedi cael effaith sydyn a thrychinebus ar y diwydiant awyr ac awyrofod ar draws y byd," meddai.

    Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru'n "sefyll ochr yn ochr" gyda gweithwyr ac undebau, yn ogystal a chwmniau eraill oedd wedi'u heffeithio.

    "Nid dyma ddechrau'r diwedd i Airbus ym Mrychdyn," meddai.

  6. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cynhadledd Llywodraeth Cymru ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Yr arlwy ar Dros Ginio heddiwwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Yr Ardd Fotaneg i ailagor i'r cyhoedd ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gâr wedi cyhoeddi y bydd yn ailagor i'r cyhoedd ddydd Llun.

    Y disgwyl yw y bydd gorchymyn Llywodraeth Cymru i "aros yn lleol" yn dod i ben ar y diwrnod hwnnw.

    "Diolch yn fawr iawn i'n holl aelodau, ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr, ffrindiau a phawb arall am fod yn driw i ni trwy'r cyfnod rhyfedd ac anodd hwn," meddai eu datganiad.

    "Gyda'n 568 erw, rydym yn fwy na hyderus y byddwn yn gallu bodloni'r holl ganllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol, ond byddwch yn sylwi ar rai newidiadau sydd wedi'u cynllunio i gadw pawb yn ddiogel."

    Bydd y safle yn agored rhwng 10:00 a 18:00 saith diwrnod yr wythnos.

    Gardd FotanegFfynhonnell y llun, GFGC/Darren Boxer
  10. Drakeford yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi Airbuswedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Yng nghyfarfod y Senedd mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi galw am "gefnogaeth benodol i'r sector" gan Lywodraeth y DU yn dilyn y newyddion am golli swyddi Airbus.

    Ychwanegodd AS Alun a Glannau Dyfrdwy, ble mae ffatri Airbus yn y gogledd, Jack Sargeant bod angen i Boris Johnson weithredu "yn syth".

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n "siarad ag unrhyw weinidog Llywodraeth y DU i wneud yr achos dros y math o gefnogaeth benodol i'r sector sydd ei angen - fel mae llywodraethau Ffrainc a'r Almaen wedi'i wneud - i ddangos bod gan y sector sydd gennym yng Nghymru, sy'n arwain y byd, gefnogaeth gan y llywodraethau yma ar bob lefel".

    Ychwanegodd bod gan Airbus "ddyfodol llwyddiannus o'i blaen os ydyn ni'n gallu cael y cwmni trwy'r misoedd nesaf".

    Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Paul Davies ei bod yn "allweddol bod gwaith rhynglywodraethol yn digwydd yn syth".

    Mark Drakeford
  11. Ailagor mwy o siopau John Lewiswedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Gyda mwy a mwy o fusnesau nawr yn ailagor, mae John Lewis wedi cyhoeddi y bydd rhagor o'u siopau nhw hefyd yn agor eu drysau unwaith eto.

    O ddydd Llun 13 Gorffennaf ymlaen bydd 10 o'u siopau ar draws y DU yn ailagor, gan gynnwys yng Nghaerdydd a Chaer.

    Fel siopau eraill, bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiadau ar niferoedd y siopwyr mewn grym.

    john lewisFfynhonnell y llun, Reuters
  12. Upper Crust i ddiswyddo 5,000 o staffwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    BBC News UK

    Mae'r cwmni sydd yn berchen ar siopau bwyd parod Upper Crust yn dweud y byddan nhw'n diswyddo 5,000 o bobl ar draws y DU.

    Daw hynny oherwydd gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr yng ngorsafoedd trenau a meysydd awyr y wlad, ble mae'r rhan fwyaf o'u siopau.

    Dywedodd SSP Group eu bod nhw'n disgwyl mai ond un o bob pump o'u siopau fydd wedi ailagor eto erbyn yr hydref.

    upper crustFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae siopau Upper Crust yn olygfa gyfarwydd i deithwyr ar draws y DU

  13. Colli swyddi Airbus yn 'ergyd enfawr i'n rhanbarth'wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Yn ymateb i'r newyddion am swyddi Airbus, dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Wrecsam, Lesley Griffiths ei fod yn "ergyd enfawr i'n rhanbarth".

    "Bydd yr effeithiau yn bendant i'w teimlo yn Wrecsam a thrwy'r holl gadwyn gyflenwi yn lleol," meddai.

    "Mae'n amser mor bryderus i'r gweithlu ffyddlon ac rwy'n meddwl amdanyn nhw a'u teuluoedd ar yr amser anodd yma.

    "Byddaf yn gweithio gyda'r cyrff perthnasol ac yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi cymuned Airbus."

    Lesley Griffiths
  14. 'Angen gwybod y drefn' gyda chlystyrau o achosionwedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd Ynys Môn, wedi dweud fod angen bod yn barod i weld clystyrau o achosion mewn gwahanol ardaloedd am "fisoedd" eto.

    Daw hynny yn dilyn nifer sylweddol o achosion mewn ffatri cig ar yr ynys yn ddiweddar, gydag AS Plaid Cymru yn dweud bod rhai gweithwyr wedi gorfod "aros yn rhy hir am brofion".

    "Roedden ni'n iawn, yma ar Ynys Môn, i beidio cyfyngu pethau'n bellach dwi'n meddwl," meddai ar raglen BBC Radio Wales Breakfast.

    "Ond fe fydd angen i hynny ddigwydd rywle rywbryd, a phan mae hynny'n digwydd mae angen i ni wybod beth ydy'r drefn.

    "Fe gafodd pobl eu hatgoffa nad ydy'r feirws wedi mynd yn llai peryglus yn sydyn reit."

    Rhun ap Iorwerth
  15. Covid-19: Bregusrwydd claf 'yr un mor bwysig ag oedran'wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Mae bregusrwydd claf yn ffactor yr un mor bwysig ag oedran neu gyflyrau iechyd blaenorol o ran y risg o farw yn sgil Covid-19., yn ôl ymchwil gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.

    Cafodd achosion 1,564 o gleifion ysbyty mewn 10 safle yn y DU ac un yn Yr Eidal eu dadansoddi gan arbenigwyr ym maes gofal geriatrig.

    Mae'r casgliadau'n awgrymu cydberthynas rhwng bregusrwydd â'r risg o farw a'r amser y mae claf yn ei dreulio yn yr ysbyty.

    Mae hynny, medd yr ymchwilwyr, yn dangos bod asesu pa mor eiddil yw claf yn hanfodol er mwyn llywio penderfyniadau clinigol wrth drin Covid-19.

    ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Nifer o dafarndai Aberystwyth 'i aros ar gau'wedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Hyd yn oed pan fydd Llywodraeth Cymru'n caniatáu i dafarndai ailagor eto, mae disgwyl i nifer sylweddol aros ar gau wedi i'r pandemig gael effaith sylweddol ar y diwydiant.

    Yn ôl rhai o berchnogion busnesau ardal Aberystwyth, does "dim synnwyr ariannol" mewn ailagor, ac mae o leiaf tair ohonyn nhw'n bwriadu cau yn gyfan gwbl.

    Yn eu plith mae gwesty'r Conrah, gyda'r perchennog Geraint Hughes yn dweud y byddai'n "costio mwy i fi ailagor na aros ar gau".

    Ychwanegodd Sara Beechey o'r Hen Lew Du eu bod yn "betrusgar" ynglŷn ag ailagor, a'i bod yn "anodd gweld sut mae cadw pellter cymdeithasol mewn tafarn fel un ni".

    hen lew duFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Dydy hi ddim yn glir pryd fydd tafarn yr Hen Lew Du yn ailagor unwaith eto

  17. 'Economi leol wedi'i adeiladu ar lwyddiant Airbus'wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Rhagor o ymateb nawr i'r newyddion am swyddi Airbus, gan gynnwys David Jones, cyn-bennaeth Coleg Cambria sydd wedi gwneud llawer o waith gyda phrentisiaid y cwmni yn y gorffennol.

    "Y si yn lleol dros yr wythnos diwethaf oedd bod penderfyniad fel hyn yn anochel ac mae pethau wedi newid mor gyflym," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

    "Mae'n sioc fawr a'r impact ar yr ardal yn mynd i fod yn fawr iawn... mae'r economi leol wedi ei adeiladu ar lwyddiant a maint Airbus."

    Ychwanegodd: "Y nod nawr yw neud yn siŵr bod yna ymateb positif, a'r ymateb hwnnw fyddai ennill cytundeb i adeiladu adenydd newydd fydd yn cael eu cynhyrchu mewn pum mlynedd.

    "Mae yna newidiadau mawr yn mynd i fod yn y sector awyrofod am y bydd adenydd y dyfodol yn cael eu cynhyrchu mewn modd hollol wahanol.

    "Mae pwy bynnag sy'n cael y cytundeb hwn yn arwyddocaol iawn i ddyfodol hirdymor y safle yng ngogledd ddwyrain Cymru."

  18. Colli swyddi Airbus 'yn drychinebus i Gymru'wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Unite

    Mae undeb Unite wedi galw ar Airbus i oedi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar ddiswyddo gweithwyr yn y DU.

    Daw hynny'n dilyn pryder am gynlluniau'r cwmni i dorri 1,700 o swyddi, gan gynnwys ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

    Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Unite Cymru y dylai'r cwmni geisio trafod gyda Llywodraeth y DU gyntaf i weld pa gymorth sydd ar gael tan i'r argyfwng presennol fod drosodd.

    Ychwanegodd y gallai'r "canlyniadau i Gymru fod yn drychinebus" os oedd gweithwyr "rhagorol" y cwmni yn colli eu swyddi.

  19. Cynnal y Sioe Fawr ar-leinwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Sioe Frenhinol Cymru

    Fe fydd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn cael ei chynnal yn rhithiol oherwydd coronafeirws.

    Fel arfer mae'r digwyddiad blynyddol yn denu bron i 250,000 o bobl i Lanelwedd ym Mhowys, ond bu'n rhaid ei chanslo eleni oherwydd y pandemig.

    Dywedodd y trefnwyr fodd bynnag eu bod yn awyddus i ddathlu'r diwydiant amaeth ar-lein.

    Bydd y digwyddiad ar-lein yn dechrau am 20 Gorffennaf, ac yn para am wythnos.

    sioe frenhinolFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Ffrae dros hediadau Ryanair o Gaerdyddwedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Gorffennaf 2020

    Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gwmni Ryanair ohirio hediadau sydd wedi'u trefnu at ddydd Gwener.

    Mae'r cwmni yn hysbysebu hediadau i Malaga, yn Sbaen a Faro, ym Mhortiwgal, o Faes Awyr Caerdydd - er bod y canllawiau 'aros yn lleol' yn parhau mewn grym.

    Mae disgwyl i'r cyfyngiad hwnnw gael ei godi o ddydd Llun nesaf, ond dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n "credu y dylai'r hediadau yma ddigwydd" am y tro.

    Fodd bynnag, mae Ryanair yn dweud y byddan nhw'n "gweithredu fel yr arfer ar 3 a 4 Gorffennaf" a bod y hediadau'n mynd oherwydd bod rhai teithwyr eisiau dychwelyd i Brydain.

    ryanairFfynhonnell y llun, Niall Carson/PA