Crynodeb

  • Cadarnhad fod y cyfyngiadau teithio yng Nghymru'n dod i ben ddydd Llun

  • Cynhadledd i'r wasg gyda Mark Drakeford amser cinio i drafod y newidiadau diweddaraf

  • Y Prif Weinidog yn dweud nad yw ailagor lleoliadau celfyddydol "ar y gorwel" ar hyn o bryd

  • Ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn yn ailagor yn dilyn achosion o Covid-19 ymhlith staff

  1. Hwyl fawr am wythnos arallwedi ei gyhoeddi 17:35 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Fe fyddwn ni'n ôl fore Llun gyda'r newyddion diweddaraf unwaith eto am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Diolch am ddilyn, ond cofiwch y bydd unrhyw ddatblygiadau pellach ar brif dudalen Cymru Fyw weddill y dydd a gydol y penwythnos

  2. Gair i gall tan ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Newid ar y gorwel, felly, ond ddim cweit eto...wedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Paratoi i ailagor Yr Wyddfawedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Mae swyddogion yn paratoi i ailagor holl safleoedd Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys yr Wyddfa, Cader Idris a Chwm Idwal, o ddydd Llun ymlaen.

    Dywedodd llefarydd: "Dros y dyddiau nesaf byddwn hefyd yn ymgyrchu ynghylch pwysigrwydd bod yn gyfrifol pan yn ymweld ag Eryri er mwyn parhau i warchod ac amddiffyn ein cymunedau wrth i ni gymryd y cam cyntaf tuag at y 'normal newydd'.

    "Bydd y ffaith bod y cyfyngiad pum milltir yn parhau i fod yn weithredol dros y penwythnos yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer yr ail-agor ddydd Llun".

    Llynnoedd yr Wyddfa
  5. Ofnau am effaith y cyfnod clo ar hyder cwsmeriaidwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Mae cyhoeddiadau diweddar i lacio nifer o gyfyngiadau dros y dyddiau nesaf yn "gam i'r cyfeiriad cywir" ond yn "hanner ateb" mewn gwirionedd wrth i fusnesau baratoi i ailafael ynddi, yn ôl Siambr Fasnach De Cymru.

    Dywed y corff ei fod yn croesawu codi'r rheol pum milltir a dechrau llacio'r cyfyngiadau ar y sectorau lletygarwch a thwristiaeth ailagor.

    Ond mae yna hefyd "bryder fod ymddygiad cwsmeriaid yn debygol o fod wedi newid yn ystod y cyfnod clo ac mae gwario arian a chefnogi'r economi leol yn ddibynnol ar hyder cwsmeriaid".

    Ychwanegodd: "Mae sut mae'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yn paratoi ar gyfer ailagor ac ymateb i'r mesurau yn hanfodol o ran codi hyder cwsmeriaid."

  6. Ymchwil i effaith Covid-19 ar ddiagnosis canserwedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio prosiect ar draws y DU sy'n edrych ar effaith y pandemig ar ddiagnosis canser.

    Maen nhw'n dweud fod y neges gychwynnol i 'aros adref', ynghyd ag atal rhaglenni sgrinio canser, wedi cyflyru pobl i feddwl "y gall canser aros".

    Bydd yr astudiaeth yn edrych ar ffactorau allai arwain at fwy o ganserau'n ymddangos neu'n cael diagnosis hwyr - gan gynnwys pobl yn diystyru symptomau, amharodrwydd i weld meddyg teulu oherwydd ofn dal coronafeirws, a pheidio cymryd camau i fyw bywyd iachach.

    Dywedodd y prif ymchwilydd yr Athro Kate Brain, seicolegydd iechyd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd fod effaith Covid-19 "yn debygol o fod yn sylweddol" gan arwain at "atgyfeiriadau gohiriedig, colli sgrinio a diagnosis canser cyfnod hwyr".

    Ychwanegodd: "Ni all canser aros - hyd yn oed yng nghanol pandemig. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â symptomau sy'n peri pryder i gysylltu â'u meddyg teulu."

    Dywedodd Cancer Research UK yng Nghymru y bydd yr ymchwil "amhrisiadwy" yma'n help i roi hyder i bobl geisio help ar gyfer symptomau sy'n destun pryder.

    Fe wnaeth nifer yr atgyfeiriadau brys am brofion canser gostwng yng Nghymru"i tua thrydydd o'r lefelau arferol" ym mis Ebrill.

  7. Galw am eglurder dros ailagor ysgolion ym mis Mediwedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Mae undeb y prifathrawon, NAHT Cymru yn galw am eglurder ar frys gan Lywodraeth Cymru ynghylch eu cynlluniau i ailagor ysgolion ym mis Medi.

    Mewn llythyr i'r llywodraeth mae'r undeb wedi mynegi rhwystredigaeth nad ydyn nhw eto wedi cyhoeddi manylion eu cynlluniau.

    Mae'r llythyr yn galw am eglurder dros ganllawiau pellter cymdeithasol a chynlluniau tymor hir i helpu disgyblion adennill tir sydd wedi'i golli o beidio gallu mynd i'r ysgol.

    Dywed yr undeb fod angen y manylion hyn erbyn dydd Llun nesaf ar yr hwyraf er mwyn rhoi digon o amser i ysgolion baratoi ac addasu'n briodol.

    Gyda phythefnos yn unig cyn diwedd tymor yr haf, dywed yr undeb: "Mae'n annerbyniol fod ysgolion, rhieni a disgyblion ddim yn gwybod mor hwyr â hyn yr hyn y dylen ni fod yn paratoi ar ei gyfer yn nhymor yr Hydref."

    DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Cyn ymweld â choetir neu warchodfa natur...wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    ... dyma wybodaeth ddefnyddiol, cyn i safloedd ddechrau ailagor o ddydd Llun ymlaen.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Gwanwyn tawel iawn i Aberteifiwedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Mae cynghorydd yn Aberteifi wedi trydar graff sy'n dangos effaith y pandemig ar drefi fel ei un ef sydd yn dibynnu'n fawr ar ymwelwyr fel arfer.

    Er bod cynnydd bychan ym mis Mehefin, mae'r ystadegau'n dangos yn glir fod y dref wedi bod yn dawel iawn yn ystod y gwanwyn eleni wrth i'r cyfyngiadau ddod i rym.

    Ceredigion yw'r sir yng Nghymru sydd wedi gweld y gyfradd isaf o achosion Covid-19 o bellffordd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Caniatáu criced unwaith eto?wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi awgrymu y gallai chwaraeon di-gyffwrdd yn yr awyr agored gael ei ganiatáu yn yr adolygiad nesaf o reolau Covid-19 wythnos nesaf.

    Dywedodd y prif weinidog fod hynny "ar y rhestr o bethau rydyn ni'n ystyried", ond y byddai'n dibynnu ar beth arall oedd yn cael ei lacio hefyd.

    Gallai hynny olygu bod modd chwarae gemau fel criced unwaith eto, yn ogystal â chynnal gweithgareddau campfa tu allan bod clybiau rhedeg yn cael cwrdd.

    pel gricedFfynhonnell y llun, SNS
  11. Rhwymo theatr i amlygu argyfwngwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Mae Theatr Sherman yng Nghaerdydd ymhlith nifer ar draws y DU sydd wedi eu 'rhwymo' â thâp pinc heddiw i dynnu sylw at yr argyfwng o fewn y sector.

    Ar y tâp mae'r geiriau 'hiraethu am theatr byw', sy'n adlewyrchu'r ffaith fod theatrau wedi gorfod canslo perfformiadau ers canol Mawrth.

    Maen nhw hefyd yn debygol o fod ymhlith yr adeiladau olaf i gael ailagor wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.

    Mae theatrau ar draws y DU wedi gorfod rhoi gweithwyr ar y cynllun ffyrlo, ac mae sawl theatr amlwg yn Lloegr eisoes wedi cyhoeddi nad oes dewis ond cau am byth.

    Theatr Sherman, Caerdydd
    Rhwymo Theatr Sherman
  12. 'Ti eisiau bod mewn bybl gyda fi?'wedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Mae trio penderfynu pwy i fod yn ei chartref estynedig yn dipyn o benbleth i Fflur Evans

    Read More
  13. Trenau ddim am stopio mewn rhai gorsafoedd bychanwedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Trafnidiaeth Cymru

    Fydd 'na ddim trenau yn stopio yn rhai o orsafoedd bychan Cymru o gwbl o'r wythnos nesaf ymlaen, oherwydd pryderon am ddiffyg lle i gadw pellter cymdeithasol ar y platfform.

    Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd y newid mewn lle "am gyfnod byr", oherwydd yr angen i allu agor dau ddrws ar y trên.

    Bydd y gorsafoedd fydd ar gau yn cynnwys Y Fali, Llanfairpwll a Chonwy yn y gogledd, Gilfach Fargoed ar linell Rhymni, a Dinas y Bwlch ym Mhowys.

    Ond mae Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi galw'r penderfyniad yn un "afresymol", gyda chynghorwyr yn dweud y bydd yn rhaid i bobl nawr deithio ar fysus i'w gorsaf agosaf.

    llanfairpwllFfynhonnell y llun, AFP
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gorsaf enwog Llanfairpwll ymhlith y rheiny fydd teithwyr methu ei defnyddio

  14. £7.6m ar gyfer 10 ystafell ysbyty ynysigwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae deg ystafell ynysu gydag un gwely yr un wedi cael eu hadeiladu yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar gost o £7.6m.

    Pwrpas yr uned HCID yw trin cleifion gyda'r afiechydon heintus mwyaf difrifol.

    Pan gafodd y cais am gyllid i'r uned ei chyflwyno ar 12 Mawrth roedd Covid-19 ar restr y DU o'r afiechydon mwyaf heintus, ond wythnos yn ddiweddarach cafodd ei dynnu oddi arno.

    Ond dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y byddai'r uned yn parhau i fod yno "yn y tymor hir" petai angen delio gydag afiechydon heintus difrifol yn y dyfodol.

    unedau ynysu
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwaith yn digwydd i baratoi'r unedau ynysu

  15. Marwolaethau'n parhau i ostwngwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    A dyma'r graff diweddaraf yn dangos patrwm y marwolaethau yng Nghymru dros amser - fel y gwelwch chi, mae'r niferoedd wedi parhau i ddisgyn yn gyson ers y brig yng nghanol mis Ebrill.

    graff marwolaethau
  16. Marwolaethau fesul ardal bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Dyma'r map sy'n dangos nifer y marwolaethau ym mhob ardal yng Nghymru.

    Y gogledd sydd wedi gweld y nifer uchaf, ond yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae'r boblogaeth uchaf hefyd.

    map marwolaethau
  17. Dau yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod dau yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael prawf Covid-19 positif yn y 24 awr ddiwethaf.

    Mae hyn yn golygu bod y cyfanswm o farwolaethau yng Nghymru erbyn hyn yn 1,525.

    Mae 26 o achosion positif newydd o'r feirws wedi eu cofnodi medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    15,841 yw cyfanswm yr achosion o coronafeirws yng Nghymru hyd yma, ac fe gafodd 2,129 o brofion eu cynnal ddydd Mercher.

    Bellach mae 189,478 o brofion wedi eu cynnal ar 143,389 o unigolion.

    Roedd 127,548 prawf yn negyddol.

  18. Galw am ganllawiau cliriach ar wisgo mygydauwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r penderfyniad i lacio'r rheolau teithio, ond wedi dweud bod hynny'n golygu fod cyngor hylendid mor bwysig ag erioed.

    "Beth sy'n bwysig rŵan ydy beth mae pobl yn ei wneud pan maen nhw'n cyrraedd rhywle," meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd y blaid ar iechyd.

    "Bydd ymbellhau, golchi dwylo a gwisgo gorchudd wyneb yn dod yn fwy pwysig fyth."

    Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld canllawiau cliriach ar wisgo mygydau mewn ardaloedd cyfyngedig.

  19. Dim disgwyl gwahaniaeth ar y 'coridorau awyr'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb rhagor o gwestiynau ar 'goridorau awyr' Llywodraeth y DU, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru'n anghytuno ag unrhyw un o dros 50 o wledydd oedd ar y rhestr.

    Ond dywedodd fod dal rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r newidiadau.

    "Dydw i ddim yn disgwyl i Lywodraeth y DU lunio rhestr fyddai'n achosi niwed i iechyd pobl Cymru," meddai.

    "Ond mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni ofyn i'n prif swyddog meddygol i asesu'r rhestr yn annibynol.

    "Petai'n dod i gasgliad arall fe fydden ni'n dilyn ei gyngor, ac yn codi'r peth gyda Llywodraeth y DU gyntaf cyn ystyried beth allen ni wneud yng Nghymru."

  20. Cyhoeddiad posib ynghylch y rheol dau fetr "wythnos nesaf"wedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'n bosib y bydd yna arweiniad pellach wythnos nesaf ynghylch y rheol sy'n golygu fod angen i bobl gadw dau fetr ar wahân, yn ôl Mr Drakeford.

    Ond fe rybuddiodd taw ond dan amgylchiadau penodol, gyda mesurau diogelwch eraill mewn grym, y byddai'n "gywir" i newid y rheol o ddau fetr i un metr.

    "Rydym yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ond yr hyn rwy'n disgwyl i ni wneud yw: mai dau fetr yw'r cyngor gorau - rydych yn fwy diogel gyda phellter o ddau fetr na un metr.

    "Ond dan rai amgylchiadau fe allai fod yn bwysig am resymau ymarferol i leihau'r pellter, ac yn yr achos hynny byddwn yn disgwyl mesurau diogelwch pwysig eraill.

    "Dyna'r broses rydym yn gweithio arno yma yng Nghymru a bydden ni'n gallu dweud rhagor ynghylch hynny yn ystod yr wythnos i ddod."

    Mae'r rheol dau fetr yn cael ei llacio yn Lloegr o fory ymlaen.

    Arwydd dau fetrFfynhonnell y llun, Getty Images