Crynodeb

  • Cadarnhad fod y cyfyngiadau teithio yng Nghymru'n dod i ben ddydd Llun

  • Cynhadledd i'r wasg gyda Mark Drakeford amser cinio i drafod y newidiadau diweddaraf

  • Y Prif Weinidog yn dweud nad yw ailagor lleoliadau celfyddydol "ar y gorwel" ar hyn o bryd

  • Ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn yn ailagor yn dilyn achosion o Covid-19 ymhlith staff

  1. Dal am ddenu INEOS i Gymruwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn sgil sawl cyhoeddiad yr wythnos hon am golli swyddi mewn gwahanol ddiwydiannau, dywedodd Mr Drakeford nad oedd newid wedi bod i gynlluniau INEOS ar gyfer ffatri geir ym Mhen-y-bont.

    Dywedodd y Prif Weinidog mai'r bwriad o hyd oedd "dod a'r cwmni i Gymru".

    "Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag INEOS," meddai.

    "Does dim cyhoeddiad ffurfiol gan y cwmni dwi'n ymwybodol ohono. Rydyn ni'n parhau mewn trafodaethau gyda'r cwmni."

  2. Beth yw'r 'rheolau euraidd'?wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    • Gweithio o adref pan fo hynny'n bosib
    • Osgoi teithio diangen - ond does dim cyfyngiad o ran pellter o ddydd Llun ymlaen
    • Cadw pellter cymdeithasol - dau fetr yw'r canllaw o hyd yng Nghymru
    • Golchi dwylo'n aml
    • Cwrdd ag aelodau aelwydydd eraill yn yr awyr agored.
  3. "Rhaid i ni gyd parhau i ddilyn y rheolau euraidd"wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Er bod y rheol aros yn lleol yn dod i ben ddydd Llun, fe bwysleisiodd Mr Drakeford yr angen i bobl barhau i ddilyn y rheolau, os am allu codi rhagor o gyfyngiadau.

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y gallai bwytai a thafarndai agor mannau tu allan o 13 Gorffennaf, cyn belled â bod y gostyngiad yn nifer achosion Covid-19 yn parhau.

    "Rydw i eisiau gwneud mwy i adfer y rhyddid rydym ni oll wedi gorfod ei ildio," meddai.

    "Rydw i eisiau gweld adferiad rhagor o economi Cymru, ond bydd hynny'n dibynnu nid yn unig ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, ond ar ddinasyddion Cymru.

    "Rhaid i ni gyd ddilyn y rheolau euraidd i gadw ein hunain a Chymru'n ddiogel."

  4. Dim marwolaethau yn Yr Albanwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Yr Alban, ble mae sawl diwrnod wedi bod heb farwolaethau wedi'u cofnodi bellach, dywedodd Mr Drakeford fod hynny'n "bosib" yng Nghymru hefyd.

    "Rydyn ni wedi bod yn agos at gyrraedd sero ar sawl diwrnod," meddai.

    Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yn gallu cyhoeddi bod Cymru wedi cyrraedd yr un sefyllfa.

  5. Rhif R 'yn mynd yn llai defnyddiol'wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn dweud bod y Rhif R dal o dan 1 yng Nghymru, a'i fod "rhywle rhwng 0.7 a 0.9".

    Ond wrth i nifer yr achosion gwympo, meddai, mae defnyddio'r Rhif R yn mynd yn llai defnyddiol.

    Fodd bynnag, mae'n dweud fod yr ystadegau a thystiolaeth ehangach yn dangos fod y pandemig yn cilio, ac felly bod modd llacio'r rheolau o ddydd Llun.

  6. 'Bron yn amhosib delio gyda Llywodraeth y DU'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mewn ymateb i gwestiwn am deithio dramor, mae Mr Drakeford yn dweud mai "cyfrifoldeb Llywodraeth y DU" yw'r trefniadau gyda gwledydd eraill.

    Ond dywedodd ei fod "bron yn amhosibl delio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig achos dy'n nhw ddim 'di dod i benderfyniadau cryf".

    "Dwi dal yn ansicr am beth maen nhw'n mynd i gyhoeddi," meddai.

    Pan fydd Llywodraeth Cymru'n cael gwybod, meddai, bydd prif swyddog meddygol Cymru wedyn yn cynghori nhw ar beth i'w wneud.

    "Mae wedi bod yn wythnos anodd dros ben, achos beth mae Llywodraeth y DU wedi gwneud unwaith eto yw cyhoeddi rhywbeth, ac ar ôl cyhoeddi, meddwl am sut mae'n nhw'n mynd i'w redeg."

  7. Dathlu cyfraniad y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y penwythnos yma fe fydd y gwasanaeth iechyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 72 oed.

    Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd y dathliadau eleni yn fwy gwerthfawrogol nag erioed, o ystyried yr ymdrechion yn ystod y pandemig.

    Bydd adeiladau cyhoeddus yn cael eu goleuo'n las, gyda phobl hefyd yn clapio eu gwerthfawrogiad hefyd ddydd Sul.

    mark drakeford
  8. Codi'r cyfyngiadau teithiowedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Oherwydd hynny, meddai'r Prif Weinidog, mae'r cyfyngiadau ar aros yn lleol am gael eu codi o ddydd Llun.

    Bydd modd i bobl felly deithio ar draws Cymru i weld anwyliaid ac ymweld ag atyniadau.

    Bydd modd i bobl hefyd greu 'cartrefi estynedig' o ddydd Llun ymlaen, gan uno gydag un cartref arall.

    Ond mae Mr Drakeford yn pwysleisio nad yw hynny'n golygu fod coronafeirws wedi diflannu.

  9. Dim diwrnod heb farwolaethau etowedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog yn dechrau'r gynhadledd drwy ddangos graffiau sy'n dangos bod nifer yr achosion a marwolaethau o Covid-19 yn parhau i ostwng ar y cyfan.

    Fodd bynnag, meddai, does dim un diwrnod wedi bod eto ble nad oes rhywun wedi marw o coronafeirws yng Nghymru.

    Ond mae'n dweud fod y gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i ymdopi gyda'r pandemig, ac nad oedd adeg pan oedd yr haint wedi mynd yn drech ar y GIG.

  10. Y gynhadledd i'r wasg ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gynhadledd i'r wasg gyda Mark Drakeford ar fin dechrau - gallwch ddilyn y cyfan yn fyw yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Teithio yn ôl y rheolau yn Rhydamanwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Cau maes parcio traeth wedi trafferthion diweddarwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Cyngor Bro Morgannwg

    Bydd maes parcio traeth Aberogwr ar gau dros y penwythnos yma er mwyn atal grwpiau mawr o bobl rhag ymgasglu yna, yn groes i'r rheolau i atal lledaeniad coronafeirws.

    Dyna un o'r mesurau y mae Cyngor Bro Morgannwg wedi'u cyflwyno ym mannau arfordirol y sir wedi ffrwgwd diweddar ar y traeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Y Barri.

    Mae'r ffordd i draeth Aberogwr ar gau am y tro i bawb heb law am breswylwyr Seaview Drive.

    Bydd swyddogion cyngor a heddlu yn yr ardal dros y penwythnos i ddelio ag unrhyw drafferthion, gyda hawl i gymryd alcohol oddi ar bobl.

    Mae'r cyngor hefyd yn ystyried camau tymor hir i reoli trefniadau parcio yn well yn Aberogwr, Ynys y Barri, Cosmeston a rhodfa Penarth, ac yn bwriadu eu trafod gyda thrigolion y cymunedau dan sylw.

    Dywedodd arweinydd y cyngor, Neil Moore fod angen sicrhau bod cyrchfannau arfordirol "yn parhau i fod yn ddeniadol... i gynnig profiad o ansawdd i ymwelwyr, heb gael effaith niweidiol ar drigolion a chymunedau".

    Torfeydd traeth Aberogwr
  13. Ailagor y celfyddydau 'ddim ar y gorwel'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud nad yw ailagor lleoliadau celfyddydau "ar y gorwel o gwbl" ar hyn o bryd.

    Wrth siarad â phwyllgor Senedd, dywedodd nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r grym i "gefnogi sector gyfan fydd methu ailddechrau gwaith yn y ffordd mae eraill yn gallu".

    Ychwanegodd Mr Drakeford eu bod yn ceisio cael Llywodraeth y DU i "galibradu" y cynllun ffyrlo ar gyfer gweithwyr cyflogedig a hunan-gyflogedig.

    Ond er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7m tuag at gronfa cadernid i'r cefyddydau, meddai, cyfaddefodd na fyddai hynny'n ddigon ar gyfer y sector.

    Canolfan y MileniwmFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd Canolfan y Mileniwm ar gau tan o leiaf Ionawr 2021

  14. Heriau ailagor bwytai a thafarndaiwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Wales

    Gyda bwytai a thafarndai yn cael masnachu yn yr awyr agored eto ymhen pythefnos, fe fydd rhai eisoes yn dechrau paratoi.

    Ond i eraill fel Jim Patel, sy'n rhedeg bwyty'r Vegetarian Food Studio yng Nghaerdydd, fe fydd hyd yn oed hynny'n ormod o her.

    "Does gennym ni ddim gofod tu allan o gwbl - 'dyn ni'n lwcus fel busnes teulu ein bod ni dal yn gallu gwasanaethu cwsmeriaid gyda phrydau parod a cludfwyd," meddai ar BBC Radio Wales Breakfast.

    Ychwanegodd Noel Clements, sy'n rhedeg tafarn y Cob and Pen yn Y Rhyl, y bydd y rheol 2m a gwaith papur ychwanegol yn her.

    "Os ydw i'n gallu cael 25 o bobl mewn ac mae rhywun yn dod i'r drws dwi 'di 'nabod ers 20 mlynedd ac allai ddim eu gadael i mewn, maen nhw am deimlo'n rhwystredig," meddai.

    "Byddai'n well gen i gymryd mis arall a'i gael o'n iawn na gorfod mynd yn ôl ar ein hunain mewn deufis."

  15. 826 o breswylwyr cartrefi gofal wedi marw o Covid-19wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Mae dros 800 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru wedi marw o Covid-19 unai yn yno neu yn yr ysbyty ers dechrau'r pandemig, yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf.

    Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd tystysgrif marwolaeth 826 o bobl yn crybwyll coronafeirws rhwng 2 Mawrth a 12 Mehefin.

    Roedd hynny'n cynrychioli 28% o gyfanswm y marwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal dros y cyfnod hwnnw.

    Cafwyd y marwolaeth cyntaf mewn cartref gofal o Covid-19 yng Nghymru ar 17 Mawrth, a'r diwrnod gwaethaf oedd 12 Ebrill pan fu farw 26 person (23 mewn cartref gofal a thri yn yr ysbyty).

  16. Ceidwadwyr yn galw am ddiddymu cyfyngiadau teithio heddiwwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r rheol pum milltir o heddiw ymlaen, fel bod pobl yn gallu manteisio drwy deithio'r penwythnos yma.

    Dywedodd yr Aelod o'r Senedd, Darren Millar fod y llywodraeth wedi "gwrando o'r diwedd" ar alwadau cyson ei blaid i ddiddymu'r cyfyngiadau teithio.

    "Mae'r llywodraeth Lafur yma yn benderfynol o hyd o gyflwyno newidiadau i'w cyfyngiadau coronafeirws ar ddyddiau Llun," meddai.

    "Ond o wneud hynny mae cyfleoedd i gyfarfod, gwneud busnes a theithio yn cael eu colli am benwythnos arall."

    Darren Millar
  17. Mark Drakeford yn y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg heddiw, i esbonio mwy am y penderfyniad i ddiddymu'r rheol 'aros yn lleol'.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Effaith ehangach' o golli swyddi Airbuswedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Wales

    Mae darlithydd busnes o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi pwysleisio mai nid gweithwyr Airbus yn unig fydd yn cael eu heffeithio o golli'u swyddi.

    Dywedodd Dr Jan Green y byddai'r effaith yn cael ei deimlo "ar draws yr ardal" a'i bod hi'n anodd gweld "unrhyw agwedd bositif" i'r newyddion.

    "Mae'r bobl yna'n gwario'u harian yng ngogledd ddwyrain Cymru gyda'u siopa, hamdden, gwasanaethau ceir, popeth mae cartref arferol yn gwario arno," meddai.

    "Bydd hynny i gyd yn dod dan bwysau ac felly mae'r effaith yn lledaenu i'r rhanbarth gyfan sydd yn bryder.

    "Allwch chi ddim trwsio hyn drwy 'sgwennu siec. Os nad oes marchnad ar gyfer eich cynnyrch, pa mor hir allwch chi aros?"

    airbusFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. 'Dim lot allwn ni wneud' am swyddi Airbuswedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Wales

    Ddoe cafwyd cadarnhad y bydd dros 1,400 o'r swyddi fydd yn cael eu colli yn Airbus yn rhai sydd wedi'u lleoli yn Sir y Fflint.

    Bore 'ma ar BBC Radio Wales Breakfast dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David TC Davies fod "dim lot allwn ni wneud" i achub y swyddi hynny os nad oedd y galw am adeiladu awyrennau yno bellach oherwydd y pandemig.

    Mynnodd fod Llywodraeth y DU wedi gwneud beth allen nhw i gefnogi busnesau, gan gynnwys drwy'r cynllun ffyrlo, er y cyhuddiad fod gwledydd fel Ffrainc a'r Almaen wedi cynnig cymorth penodol i'r diwydiant awyr.

    "Beth allwn ni ddweud yw bod traean o'r 15,000 o swyddi [fydd yn mynd yn Airbus ar draws y byd] yn cael eu colli yn Ffrainc," meddai Mr Davies.

    "Mae hynny'n awgrymu fod beth bynnag yw'r pecyn cymorth maen nhw wedi'i roi at i gilydd yn sicr heb warchod swyddi.

    "Dim ots faint o arian 'dyn ni'n ei roi mewn i'r diwydiant awyr, dydyn ni ddim am weld mwy o bobl yn hedfan er mwyn achub y swyddi yna ac mae hynny'n drasiedi."

    gweithwyr Airbus BrychdynFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae ffatri Airbus ym Mrychdyn yn cynhyrchu adenydd ar gyfer eu hawyrennau

  20. 'Dim penderfyniad' ar bontydd awyrwedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ar y pwnc yna gyda llaw, dydy Llywodraeth Cymru dal ddim wedi gwneud penderfyniad ar 'bontydd awyr'.

    Dyna'r syniad sydd wedi cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth y DU ble mae cytundebau teithio wedi'u sefydlu gyda gwledydd penodol, a ble fydd teithwyr ddim yn gorfod mynd i gwarantin pan maen nhw'n dychwelyd i Brydain.

    Ddoe fe ddywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan eu bod nhw'n "edrych ar y rhestr o wledydd ar hyn o bryd".

    "Fe fyddwn ni'n parhau i adolygu'r broses yna," meddai.

    "Ond dydyn ni'n sicr ddim yn ceisio oedi'r broses ar hyn o bryd ac mewn byd delfrydol, hoffen ni weld y DU gyfan yn gwneud yr un peth ar hyn."

    Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd