Crynodeb

  • Cadarnhad fod y cyfyngiadau teithio yng Nghymru'n dod i ben ddydd Llun

  • Cynhadledd i'r wasg gyda Mark Drakeford amser cinio i drafod y newidiadau diweddaraf

  • Y Prif Weinidog yn dweud nad yw ailagor lleoliadau celfyddydol "ar y gorwel" ar hyn o bryd

  • Ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn yn ailagor yn dilyn achosion o Covid-19 ymhlith staff

  1. Teithwyr yn cyrraedd Caerdydd i hedfan i Malagawedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Maes Awyr Caerdydd

    Mae degau o deithwyr wedi cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ar gyfer hediad gan Ryanair i Malaga.

    Daw hynny er bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r cwmni ganslo'r hediad gan fod y canllawiau 'aros yn lleol' dal mewn grym - cais gafodd ei anwybyddu.

    Dywedodd Paul, un o'r teithwyr sydd wedi cyrraedd y maes awyr, wrth y BBC fod angen i Lywodraeth Cymru "ailasesu beth maen nhw'n ei wneud" gan mai "prin yw'r bobl sy'n cadw i'r rheol pum milltir" bellach.

    Dywedodd cwpl arall oedd ddim am gael eu henwi eu bod yn hedfan i Malaga "am resymau busnes" a bod ganddyn nhw fenyg a mygydau i'w cadw nhw'n saff.

    Mae disgwyl i'r hediad o Malaga gyrraedd Caerdydd am 09:55, a gadael am 10:20.

    Paul
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Paul ei fod yn hedfan i Malaga oherwydd gwaith adeiladu ar ei dŷ gwyliau

  2. Canmol 2 Sisters am eu hymateb i'r achosionwedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi wedi diolch i gwmni 2 Sisters am wneud y penderfyniad hwnnw i gau'r safle pan doedd "dim gorfodaeth i wneud hynny".

    "Rydan ni wedi bod mewn cysylltiad dim ond er mwyn rhannu pryderon lleol a gofyn am sicrwydd bod pob dim yn ei le i ddiogelu'r gweithwyr ac Ynys Môn yn ehangach," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

    "Mae'r rhain wedi bod yn drafodaethau agored iawn ac mae'r cwmni wedi gweithredu ar ei gofynion ac wedi rhoi sesiynau hyfforddi a chamau eraill ar waith er mwyn cefnogi'r gweithwyr.

    "Rydw i wedi cael sicrwydd bod y cyfan wedi ei gymryd o ddifrif a'i bod nhw eisiau gweld y ffatri yma fel esiampl i gwmnïau eraill ddysgu sut i weithredu yn y cyfnod anodd yma."

    Ychwanegodd fod "dim tystiolaeth" ar hyn o bryd fod coronafeirws wedi ymledu i'r gymuned o ganlyniad i'r clwstwr o achosion yn y ffatri yn Llangefni.

    "Ond mae'r penderfyniad fel awdurdod i beidio agor ysgolion tan yr wythnos nesa yn rhoi wythnos ychwanegol i ni fod 100% sicr o fod yn hyderus," meddai.

    "Rydan ni eisiau'r hyder hwnnw yn y risg nad oes yna ymlediad cymunedol wedi bod oherwydd yr achosion hyn."

    Llinos Medi
  3. 'Llawer rhy gynnar' i wybod tarddiad achosion ffatri ieirwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Mae 2 Sisters wedi dweud y bore 'ma ei bod hi dal yn "llawer rhy gynnar" i wybod beth oedd achos ymlediad yr haint yn y ffatri.

    Ond mewn datganiad dywedodd y cwmni nad oedd ganddyn nhw ddewis ond cau'r safle "yn sydyn" ar ôl i'r achosion ddod i'r amlwg.

    Ers hynny, medden nhw, maen nhw wedi gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau iechyd a diogelwch a safonau bwyd, ac undebau i ddatblygu mesurau diogelwch newydd.

    Ychwanegodd y cwmni eu bod yn disgwyl i'r holl weithwyr ddilyn y canllawiau newydd, hyd yn oed y rheiny sydd wedi cael y feirws, gan "nad ydyn ni'n gwybod eto" a yw hynny'n golygu fod ganddyn nhw imiwnedd.

    ffatri 2 SistersFfynhonnell y llun, Google
  4. Ailagor ffatri fwyd ym Môn wedi achosion Covid-19wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Yn y cyfamser mae ffatri prosesu bwyd 2 Sisters ar Ynys Môn yn ailagor heddiw, a hynny yn dilyn clwstwr o achosion Covid-19 yno fis diwethaf.

    Fe wnaeth rheolwyr y ffatri benderfynu cau'r safle yn Llangefni yn llwyr am bythefnos wrth i nifer yr achosion ymysg y gweithlu gynyddu.

    Cafodd 217 o weithwyr brawf positif am Covid-19, allan o'r gweithlu o 560.

    Dywedodd y cwmni y bydd y safle yn cael ei ailagor yn raddol dros yr wythnos nesaf.

    2 Sisters
  5. Newidiadau eraillwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Nid dyna'r unig newid mawr sydd eisoes wedi'i gyhoeddi'r wythnos hon chwaith.

    Ddoe cafwyd cadarnhad y bydd hawl gan dafarndai a bwytai i ailagor tu allan o 13 Gorffennaf.

    Bydd modd i atyniadau twristiaid hefyd ailagor o 6 Gorffennaf - ar yr amod achosion o coronafeirws yn parhau i ostwng.

    tafarnFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Does dim dyddiad eto ar gyfer ailagor tafarndai yn llawn

  6. Diddymu'r canllaw 'aros yn lleol'wedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    Rydyn ni eisoes yn gwybod beth fydd un o brif bwyntiau trafod y gynhadledd i'r wasg heddiw - cadarnhad gan Lywodraeth Cymru fod y cyfyngiadau teithio'n cael eu codi o ddydd Llun ymlaen.

    Mae disgwyl i Mark Drakeford fynd i fwy o fanylion ynghylch hynny amser cinio.

    Er hynny, mae'r llywodraeth wedi pwysleisio fodd bynnag fod angen i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol, a pharchu'r lleoedd a'r cymunedau y maen nhw'n ymweld â nhw.

    Bydd y newid sy'n golygu fod dau gartref yng Nghymru yn cael ffurfio "un cartref estynedig"a chwrdd â'i gilydd yn eu cartrefi hefyd yn dod i rym o ddydd Llun ymlaen.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  7. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'r llif byw heddiw ble byddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi unwaith eto ar sefyllfa'r coronafeirws o Gymru a thu hwnt.

    Yn gyntaf, dyma rai o benawdau'r bore.