Crynodeb

  • Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi 'bonws' i gyflogwyr sy'n cael eu staff ffyrlo yn ôl i'r gwaith

  • Mr Sunak hefyd yn cyhoeddi cymorth i bobl ifanc, a thorri TAW i'r diwydiant lletygarwch

  • Prif weithredwr y GIG yng Nghymru'n cynghori pobl i wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus

  • Pedwar marwolaeth arall ac 13 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru

  • Cartrefi gofal wedi eu "siomi'n arw" yn ystod y pandemig, gyda pholisi profi Llywodraeth Cymru'n "ddiffygiol"

  • Cyhoeddi canllawiau newydd ar sut i gynnal priodasau yng nghanol y pandemig

  • Galw am lacio rhai o'r cyfyngiadau Covid-19 mewn carchardai er mwyn osgoi drwgdeimlad

  • Cau strydoedd rhai o brif drefi Ceredigion er mwyn gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter cymdeithasol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni ar y llif byw am heddiw - diolch am ymuno â ni unwaith eto.

    Bydd tudalen newyddion Cymru Fyw yn parhau i ddod â'r straeon diweddaraf i chi heno, ac fe fyddwn ni yn ôl 'fory gyda rhagor o'r datblygiadau yn ymwneud â'r pandemig coronafeirws.

    Ond am y tro, noswaith dda i chi.

  2. Hoff lyfrau y cyfnod clowedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Rhai o awduron Cymru yn trafod y llyfrau maen nhw wedi eu mwynhau dros y misoedd diwethaf

    Read More
  3. Annog pobl i ‘Ailddarganfod Ynys Môn yn Ddiogel’wedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Cyngor Môn wedi annog pobl leol ac ymwelwyr i ‘Ailddarganfod Ynys Môn yn Ddiogel’ wrth i'r cyfyngiadau teithio gael eu codi yng Nghymru.

    Dywedodd yr awdurdod lleol eu bod nhw'n disgwyl i'r ynys "brysuro’n arw dros yr wythnosau nesaf" wrth i lety hunangynhaliol gael ailagor eto ar y penwythnos, a bwytai a thafarndai gael gweini yn yr awyr agored o ddydd Llun.

    Oherwydd hynny, maen nhw wedi gofyn i bobl:

    • Ddod yn ôl pan fydd hi’n ddistawach ac yn fwy diogel os yw rhywle yn edrych yn brysur
    • Barchu eraill ar yr arfordir, mewn siopau ac yn y gymuned
    • Gadw at y llwybrau troed a’r llwybrau ceffylau
    • Ddefnyddio meysydd parcio a mannau cyhoeddus, yn hytrach na thir preifat ac ochr ffyrdd
    • Ymchwilio o flaen llaw i sicrhau bod cyfleusterau a busnesau ar agor, a pharatoi'n briodol ar gyfer y tywydd a’r llanw
    • Fynd â’u sbwriel adref gyda nhw.
    Ynys LawdFfynhonnell y llun, Gav Hardie
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ynys Lawd ger Caergybi yn un o'r atyniadau poblogaidd ar Ynys Môn

  4. Atyniadau dan do 'yn ystyried camau cyfreithiol'wedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Mae Cymdeithas Atynfeydd Ymwelwyr Cymru (WAVA) wedi dweud eu bod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru am nad ydy atynfeydd dan do yn cael ailagor.

    Bellach mae atyniadau awyr agored yn cael ailagor eto, ond dydy'r cyfyngiadau heb lacio ar gyfer rhai dan do.

    Dywedodd cadeirydd WAVA, Ashford Price fod "sefyllfa hurt yn bodoli ble mae siopau i gyd ar agor" ond bod llawer o atyniadau twristaidd ddim.

    Daw hynny, meddai, er fod y busnesau yna wedi cymryd camau i warchod rhag Covid-19, a chyfyngu ar nifer yr ymwelwyr fyddai'n cael dod ar y tro.

    Ychwanegodd ei bod hi'n hollol hanfodol fod atyniadau'n gallu gwneud y mwyaf o'r hyn sy'n weddill o fisoedd Gorffennaf ac Awst, cyn i blant ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

  5. Parcio am ddim i barhau i staff iechydwedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd staff iechyd yn colli'r hawl i barcio am ddim mewn ysbytai, yn dilyn adroddiadau fod hynny am ddigwydd yn Lloegr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Dim ond 75 o staff cartrefi gofal sydd wedi cael prawf gwrthgyrff'wedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth wedi galw am flaenoriaethu gweithwyr cartrefi gofal pan mae'n dod at brofion gwrthgyrff Covid-19.

    Dywedodd y blaid eu bod wedi gweld data yn awgrymu bod 26,000 o weithwyr allweddol wedi cael y prawf i ddangos a ydyn nhw wedi cael y feirws, gydag 11.7% o'r rheiny yn bositif.

    Ond dim ond 75 o'r profion hynny gafodd eu cynnal ar staff mewn cartrefi gofal.

    Dywedodd Mr ap Iowerth fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy "tryloyw" wrth rannu data ar y profion gwrthgyrff a'u strategaeth ar gyfer profi.

  7. 'Cyfnod eithriadol o heriol i bawb'wedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Dim syndod efallai i weld bod Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn falch iawn o gyhoeddiad y Canghellor Rishi Sunak heddiw.

    Dywedodd y byddai'n "ailadeiladu ein heconomi wrth i ni bownsio'n ôl o'r pandemig coronafeirws"."Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i bawb yng Nghymru," meddai.

    "Rydym wedi cefnogi unigolion, busnesau a chymunedau ledled Cymru a bydd ein penderfyniadau yn arwain at hanner biliwn o bunnau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, yn ddod â'u harian cymorth Covid-19 ychwanegol i £2.8bn."Mae'r Canghellor wedi darparu pecyn cymorth gwych sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer adferiad economaidd Cymru."

    simon hart
  8. Dilyn Lloegr ar dreth prynu tŷ?wedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Rhagor gan Catrin Haf Jones:

    "Cwestiwn arall i Lywodraeth Cymru fydd beth i'w wneud ynglŷn â'r treth ar brynu tŷ.

    "Yn Lloegr, o fory ymlaen, fydd y treth ar brynu tŷ hyd at £500,000 yn cael ei esgusodi.

    "Yng Nghymru, â'r dreth wedi ei ddatganoli, a fydd y Llywodraeth fan hyn yn dilyn yr un drefn i adfywio'r farchnad dai?

    "Yn ôl ffigyrau un sy'n well mewn mathemateg na finne, byddai prynu tŷ gwerth £499,000 yng Nghymru yr wythnos nesa' yn golygu £17,375 mewn treth - tra bod dim i'w dalu yn Lloegr.

    "Ond gwerth cofio mai eithriadau yw tai drud felly fan hyn - pris cyfartalog tŷ yng Nghymru, medd un arwerthwr adnabyddus, yw £183,000.

    "Fe fydd £500 miliwn ychwanegol i Gymru, medd Swyddfa Cymru, yn sgil cyhoeddiad Rishi Sunak heddiw.

    "Ond wedi rhybuddion cyson Mark Drakeford nad yw'r 'ffigyrau penawdol' yn adlewyrchu'r geiniog galed, bydd yn rhaid aros i weld beth yw'r cam nesa' gan Lywodraeth Cymru."

  9. Cwestiynau i'r ddwy lywodraethwedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Dyma ddadansodiad ein Gohebydd Seneddol, Catrin Haf Jones o gyhoeddiad Rishi Sunak heddiw.

    "Ail gymal y cynllun i warchod gweithwyr ac arbed yr economi - dyna sut oedd y Canghellor Rishi Sunak am ddisgrifio'r cyhoeddiad heddiw, gyda chadarnhad bod y cynllun cynnal swyddi - y furlough - i ddod i ben yn yr Hydref.

    "Ond roedd 'na gynllun arall lan ei lawes - bonws i gyflogwyr, o £1,000 am bob gweithiwr fyddan nhw'n cadw ar waith tan Ionawr nesa'.

    "Cwestiynu’r cynllun wnaeth Llafur - pa mor effeithiol fydd hynny wrth sicrhau bod y sectorau cywir yn cael eu targedu?

    "Ond wrth i’r cynllun cynnal swyddi ddod i ben fydd gweithwyr yn gobeithio bod digon o addewid mewn £1,000 i'w gwarchod nhw drwy'r misoedd anodd sydd i ddod.

    "Bydd y cynllun hwnnw'n weithredol yng Nghymru, fel yn Lloegr - ynghyd â chronfa gwerth £2 biliwn i roi profiad gwaith i bobl 16-24 oed, a'r toriad mewn Treth ar Werth i'r sector lletygarwch ac atyniadau twristaidd.

    "Fe fydd yr addewid i dalu 50% o bris bwyta allan o ddydd Llun i ddydd Mercher yn berthnasol yng Nghymru hefyd.

    "Ond tra bod bwytai a thafarndai dal ond yn cael agor yn yr awyr agored fan hyn, bydd mwy fyth o bwysau ar Lywodraeth Cymru nawr i ganiatau i'r sector agor yn llawn erbyn i'r cynllun ddod i rym fis Awst."

  10. Cynnal llawdriniaethau arferol yn fuanwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Yng nghyfarfod llawn y Senedd wrth ateb cwestiwn arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, am ddychwelyd i gynnal llawdriniaethau arferol mewn ysbyty dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio y bydd triniaethau gofal sylfaenol yn digwydd yn fuan.

    Ond rhaid cofio, meddai, y bydd llawer o gyfyngiadau mewn theatrau ysbyty yn parhau ond y nod yw cynnal cymaint o driniaethau â phosib.

    Ddydd Gwener, meddai, byddaf yn nodi bod y cyfyngiadau yn cael eu llacio ymhellach a bydd hynny yn cynnal triniaethau y mae pobl wedi bod yn disgwyl amdanynt ers cryn amser.

  11. Gostyngiad dros dro i'r dreth stamp?wedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Roedd cyhoeddiad Rishi Sunak yn cynnwys gostyngiad dros dro i'r dreth stamp - rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli i Gymru.

    Ond faint o groeso fyddai 'na i gam tebyg yn fan hyn?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Sut brofiad oedd anfon y plant i'r ysgol am y tro cyntaf ers 105 diwrnod?wedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Beth fydd y drefn efo'r toiledau, beth fydd yn y bocs bwyd a chwestiynau eraill wrth ail-ddechrau'r ysgol

    Read More
  13. £500m o arian ychwanegol i Gymruwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod cyhoeddiad y Canghellor Rishi Sunak amser cinio yn golygu bydd Llywodraeth Cymru yn cael £500m o arian ychwanegol.

    Yn ôl Llywodraeth y DU maen nhw wedi darparu £2.8bn o arian i weinidogion Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, Barcroft Media
  14. Marwolaethau fesul ardal bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Dyma'r map diweddaraf sy'n dangos nifer y marwolaethau o ganlyniad i Covid-19 fesul ardal bwrdd iechyd.

    map
  15. Nifer y marwolaethau'n parhau i ddisgynwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Dyma'r graff sy'n dangos nifer y marwolaethau yng Nghymru o Covid-19 yn dilyn prawf positif o'r haint.

    Fel y gwelwch chi, mae'r patrwm yn parhau i ddisgyn, gyda'r cyfartaledd treigl 7-diwrnod bellach ar ei isaf ers mis Mawrth.

    graff
  16. Llai o farwolaethau na ffigyrau'r ONSwedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Er gwybodaeth, mae'r ffigyrau marwolaeth diweddaraf gan ICC dros 800 yn is na'r un diwethaf i gael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystagedau Gwladol.

    Yn ôl yr ONS roedd 2,391 o bobl wedi marw yng Nghymru hyd at 19 Mehefin o Covid-19.

    Y rheswm am y gwahaniaeth ydy bod ffigyrau'r ONS yn cynnwys pob marwolaeth ble mae coronafeirws wedi cael ei grybwyll ar y dystysgrif farwolaeth.

  17. Pedwar marwolaeth arall o Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau pedwar marwolaeth pellach o ganlyniad i Covid-19, gan ddod â'u cyfanswm hyd yma i 1,538.

    Cafodd 13 achos newydd ei gadarnhau, gan godi'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 15,913.

    Ond mae'r ffigyrau hyn ond yn cynnwys achosion ble cafodd Covid-19 ei gadarnhau yn dilyn prawf labordy, ac rydyn ni'n gwybod fod y gwir ffigyrau'n uwch.

    Cafodd 3,625 o brofion eu cynnal ddoe.

  18. Cymru am elwa fwyaf?wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    ITV Cymru

    Mae Llywodraeth y DU yn honni mai Cymru wnaiff elwa fwyaf o'r toriad i TAW mewn rhai sectorau - o bosib oherwydd y cymorth i'r sector lletygarwch a thwristiaeth?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Gofyn am fwy o fanylderwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans eisiau mwy o fanylder ar y cynllun i helpu pobl ifanc.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Canmol cynllun adfywio'r economiwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    David TC Davies, fel y byddai rhywun yn disgwyl, yn canmol cynllun Mr Sunak.