Crynodeb

  • Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi 'bonws' i gyflogwyr sy'n cael eu staff ffyrlo yn ôl i'r gwaith

  • Mr Sunak hefyd yn cyhoeddi cymorth i bobl ifanc, a thorri TAW i'r diwydiant lletygarwch

  • Prif weithredwr y GIG yng Nghymru'n cynghori pobl i wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus

  • Pedwar marwolaeth arall ac 13 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru

  • Cartrefi gofal wedi eu "siomi'n arw" yn ystod y pandemig, gyda pholisi profi Llywodraeth Cymru'n "ddiffygiol"

  • Cyhoeddi canllawiau newydd ar sut i gynnal priodasau yng nghanol y pandemig

  • Galw am lacio rhai o'r cyfyngiadau Covid-19 mewn carchardai er mwyn osgoi drwgdeimlad

  • Cau strydoedd rhai o brif drefi Ceredigion er mwyn gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter cymdeithasol

  1. Sylwadau cloi Mr Sunakwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Wrth gloi ei araith dywedodd Mr Sunak nad mater o "economeg" yw hyn ond "gwerthoedd".

    "Rwy'n credu yng nghryfder a gwydnwch pobl Prydain," meddai.

    Ychwanegodd: "Wnawn ni ddim cael ein diffinio gan yr argyfwng hwn ond gan ein hymateb iddo."

  2. Arian i annog cyflogi prentisiaidwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Mae Canghellor y DU, Rishi Sunak wedi gwneud ambell i gyhoeddiad arall hefyd gan gynnwys bod y llywodraeth am roi £2,000 i gwmnïau i'w hannog i gyflogi prentisiaid.

    Bydd y cwmnïau hefyd yn cael £1,500 i gyflogi rhai dros 25 oed, meddai.

  3. 'Adolygu' argymhellion ar gartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i'r adroddiad heddiw ar gartrefi gofal, mae Dr Goodall yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru'n "adolygu" yr argymhellion ac ymateb i'r pryderon.

    Dywedodd bod swyddogion iechyd "wir wedi ceisio" sicrhau bod pwyslais ar gartrefi gofal.

    Ychwanegodd ei fod eisiau "sicrhau" bod cymorth i'r sector gofal mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyllid, offer diogelwch, a staffio.

  4. 'Wir angen ystyried gwisgo masg'wedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl at Dr Andrew Goodall, wrth iddo ateb cwestiynau gan aelodau o'r wasg.

    Mae prif weithredwr y gwasnaeth iechyd yng Nghymru'n dweud bod "wir angen i'r cyhoedd ystyried" gwisgo masgiau pan maen nhw mewn ardaloedd cyhoeddus cyfyngedig.

    Er nad oes gorfodaeth i wisgo masg yng Nghymru, dywedodd Dr Goodall fod Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori gwneud.

    Ychwanegodd fod yr WHO yn adolygu eu cyngor ar sut mae'r feirws yn lledaenu yn yr awr.

  5. Torri treth ar werthwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Yn sgil y pandemic mae’r sector lletygarwch wedi ei effeithio yn ddrwg meddai Rishi Sunak.

    Dywedodd felly ei fod am dorri treth ar werth (TAW) ar gyfer bwyd, llety ac atyniadau.

    “Bydd TAW yn cael ei leihau o ddydd Mercher nesaf tan Ionawr 12 o 20% i 5%,” meddai.

    rishi sunakFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
  6. Cynllun gwaith i bobl ifancwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Cyhoeddiad arall y mae wedi gwneud yw cynllun i annog pobl ifanc i allu cael gwaith.

    Bydd y cynllun yn “talu cyflogwyr i greu swyddi newydd i unrhyw un rhwng 16-14 oed sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir,” meddai’r Canghellor.

    Ychwanegodd y byddant yn swyddi “teidi” a’i fod yn annog cyflogwyr i gymryd rhan yn y cynllun.

  7. Bonws i gyflogwyrwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Mae’r canghellor newydd gyhoeddi “bonws” i gyflogwyr sydd yn dod a gweithwyr oedd ar y cynllun saib o'r gwaith, neu ffyrlo, yn ôl i’r gwaith.

    Os bydd y cyflogwr yn dod a rhywun yn ôl i’r gwaith a’u bod dal yn cael ei cyflogi ym mis Ionawr bydd y llywodraeth yn talu £1,000 o fonws i’r cwmni.

    “Os ydych chi yn cefnogi eich gweithwyr fe wnawn ni eich cefnogi chi,” meddai.

  8. Nifer am golli gwaithwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Dywedodd y canghellor bod y mesurau cefnogaeth economaidd mae’r llywodraeth wedi cyflwyno ymhlith y rhai mwyaf yn y byd.

    Ond er hyn mae’n cydnabod bod y DU yn wynebu heriau “dwfn” ac y bydd yna nifer “arwyddocaol” o swyddi yn diflannu.

  9. 'Neb heb obaith' medd Sunakwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Yn y cyfamser, mae'r Canghellor Rishi Sunak wrthi'n datgan cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr economi yn sgil y feirws.

    Dywedodd y bydd y llywodraeth yn gwneud “popeth allwn ni” er mwyn arbed swyddi.

    “Fydd neb yn cael eu gadael heb obaith,” meddai.

    “Pan fydd problemau yn codi fe wnawn ni eu hwynebu. Pan fydd yna angen am gefnogaeth fe wnawn ni ei ddarparu. Pan fydd heriau yn codi, fe wnawn ni eu datrys.”

    rishi sunakFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
  10. Sgrinio canser wedi ailddechrauwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Dr Goodall fod mwy o bobl yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth iechyd oherwydd amheuaeth o ganser.

    Dywedodd fod y pandemig wedi lleihau capasiti ar gyfer triniaethau canser, ond bod y gwasanaeth yn ceisio cyflwyno "modelau newydd o ofal".

    Roedd rhai triniaethau, gan gynnwys enosgopi, yn anodd oherwydd y risg o ymledu'r haint.

    Ond dywedodd bod sgrinio ar gyfer canser serfigol, canser y fron a chanser y coluddyn wedi ailddechrau.

    Ychwanegodd ei fod yn bwriadu cynnal cynhadledd ganser yn nes ymlaen yn yr wythnos i drafod eu cynlluniau.

  11. Paratoi at y gaeafwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae’r byrddau iechyd yn paratoi ar gyfer y gaeaf nawr meddai Dr Andrew Goodall.

    Dywedodd y byddai eu cynlluniau yn cynnwys gwneud yn siŵr eu bod digon o gapasati pe byddai yna ail don o’r pandemig neu fod yna gynnydd yn yr achosion o’r Coronafeirws.

    dr andrew goodall
  12. Trefniadau newydd ar gyfer adrannau brys?wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Dr Goodall yn dweud eu bod yn cymryd "nifer o gamau" i gynyddu capasiti, gan gynnwys clinigau diagnostig cyflym, fel bod pobl sydd â phroblemau iechyd eraill onibai am Covid-19 hefyd yn gallu cael gofal yn saff.

    Dywedodd bod ysbytai yn edrych ar drefniadau gwahanol ar gyfer gofal brys, "er enghraifft, wrth gyflwyno system ffonio'n gyntaf ar gyfer adrannau brys er mwyn lleihau ciwiau a goresgyn heriau ymbellhau cymdeithasol".

    "Hoffwn bwysleisio bod gwasanaethau brys wastad ar gael i bobl sydd angen gofal a trhiniaeth achub bywyd," meddai.

  13. Dros hanner gwlâu gofal dwys yn wagwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Dr Andrew Goodall yn dechrau drwy nodi bod pob awdurdod lleol yng Nghymru "yn adrodd llai o achosion positif" bellach, a hynny er bod "mwy a mwy o brofion bob dydd".

    Mae 529 o gleifion Covid-19 yn ysbytai Cymru bellach, sydd 60% yn is na'r brig ym mis Ebrill.

    Ychwanegodd bod capasiti ychwanegol mewn ysbytai bellach, gyda dros hanner y gwlâu gofal dwys yn wag.

    Mae mwy o wasanaethau iechyd eraill hefyd ar gael i gleifion bellach wrth i'r pandemig Covid-19 gilio, meddai.

  14. Cynhadledd a chyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dr Andrew Goodall, prif weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, fydd yn arwain cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru y prynhawn 'ma.

    Tua'r un pryd, fe fydd y Canghellor Rishi Sunak yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin i amlinellu rhagor o gamau er mwyn helpu busnesau a gweithwyr yn ariannol drwy'r pandemig.

    Fe wnawn ni'ch diweddaru chi gyda'r prif bwyntiau gan y ddau fel maen nhw'n dod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 'Trafodaethau cyson' yn parhau ag Airbuswedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud fod Llywodraeth y DU yn parhau i gynnal "trafodaethau cyson" gydag Airbus yn ystod y pandemig.

    Daw hynny wedi i'r cwmni awyrennau gyhoeddi y bydd 1,400 o swyddi'n mynd yn eu safle ym Mrychdyn.

    Ond dywedodd Mr Hart fod y diwydiant awyrofod wedi derbyn "rhwng £6bn-£10bn o gymorth Llywodraeth y DU hyd yma", a'u bod yn agored i "drafodaethau pellach".

    Daeth hynny mewn ymateb i gwestiwn gan yr AS Llafur, Nia Griffith ynghylch cymorth penodol i helpu'r diwydiant i adfer yn dilyn Covid-19.

    airbusFfynhonnell y llun, Reuters
  16. Drakeford ddim am wneud masgiau'n orfodolwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na fyddai gwisgo masgiau yn "datrys popeth" wrth daclo'r coronafeirws.

    Dywedodd wrth Aelodau o'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i adolygu'r dystiolaeth.

    Ond ychwanegodd bod y prif swyddog meddygol Dr Frank Atherton yn poeni y byddai pobl oedd yn gwisgo mygydau yn "ymddwyn mewn ffyrdd allai gynyddu'r risg" o ymledu'r haint.

    Dywedodd Caroline Jones o Blaid Brexit ei bod hi eisiau gweld masgiau yn dod yn orfodol mewn mannau cyhoeddus gan fod y feirws yn ymledu drwy "anadlu a siarad" yn ogystal â pheswch a thisian.

    masgFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Galw am ddyddiad ailagor lletygarwch dan dowedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    BBC Wales Politics

    Mae'r corff sy'n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru wedi annog y llywodraeth i gyhoeddi dyddiad ar gyfer ailagor y diwydiant lletygarwch dan do.

    Dywedodd TUC Cymru fod llawer o weithwyr yn poeni am eu swyddi pan fydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben.

    Bydd tafarndai a bwytai yn cael ailagor y tu allan o 13 Gorffennaf, ac mae gweinidogion wedi dweud y bydd penderfyniad pellach ar ailagor dan do yn cael ei wneud ar ôl gweld effaith hynny.

    tafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Trafod cyflogau gweithwyr ffatri achosion Covid-19wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Unite

    Bydd cynrychiolwyr o undeb Unite yn cyfarfod â chwmni Rowan Foods heddiw am y tro cyntaf ers pythefnos i drafod tâl absenoldeb.

    Roedd y ffatri fwyd yn Wrecsam yn ganolbwynt i glwstwr o achosion o Covid-19, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod 289 o achosion bellach wedi'u cadarnhau.

    Ond codwyd pryderon pan ddywedodd rhai gweithwyr wrth BBC Cymru eu bod wedi gorfod parhau i weithio wrth aros am ganlyniadau eu profion.

    Roedd y cwmni hefyd ond wedi bod yn rhoi tâl salwch statudol i weithwyr oedd i ffwrdd oherwydd y feirws, gan arwain at bryderon fod rhai ddim yn aros adref gan na allen nhw fforddio gwneud hynny.

    rowan foods
  19. Galw am 'system orfodol o wisgo masgiau'wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw "symud tuag at system orfodol o ran gwisgo masgiau mewn amgylchiadau cyhoeddus y tu fewn" wrth i'r mesurau Covid-19 gael eu llacio.

    "Mae'r wybodaeth ddiweddara' gan wyddonwyr a'r penderfyniad gan Sefydliad Iechyd y Byd i dderbyn bod yna awgrym nawr bod y firws yn gallu cael ei gludo ar yr aer, yn golygu bod yn rhaid i ni symud tuag at y math o bolisi ru'n ni'n weld ar fasgiau yn yr Alban a chael canllawiau," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

    "Mae'n rhaid i ni ymateb yn fuan iawn i'r dewis sy'n dod a rhoi canllawiau i gwmnïau a siopau ac adeiladau cyhoeddus o ran systemau awyru ac yn y blaen am y gall hyn fod yn ffordd arall amddiffyn pobl."

    Ychwanegodd y bydd ef ei hun yn gwisgo mwgwd yn y Senedd heddiw pan mae'n debygol o fod "yn agos at bobl eraill".

    adam price
  20. Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i'r Baewedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Bydd rhai o Aelodau Senedd Cymru'n cael dychwelyd i'r siambr ddydd Mercher am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

    Yn ystod y cyfnod clo mae cyfarfodydd y Senedd wedi cael eu cynnal ar Zoom.

    Fe fydd y sesiwn 'hybrid' ddydd Mercher yn gweld rhai aelodau yn mynychu'r cyfarfod yn adeilad y Senedd, tra bod eraill yn cysylltu ar-lein.

    Bydd modd i uchafswm o 20 aelod fod yn y siambr ar unrhyw adeg, gyda'r 40 arall yn gallu ymuno ar Zoom.

    Aelodau'r Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Aelodau wedi bod yn cwrdd ar-lein ers dechrau'r cyfnod clo