Crynodeb

  • Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi 'bonws' i gyflogwyr sy'n cael eu staff ffyrlo yn ôl i'r gwaith

  • Mr Sunak hefyd yn cyhoeddi cymorth i bobl ifanc, a thorri TAW i'r diwydiant lletygarwch

  • Prif weithredwr y GIG yng Nghymru'n cynghori pobl i wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus

  • Pedwar marwolaeth arall ac 13 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru

  • Cartrefi gofal wedi eu "siomi'n arw" yn ystod y pandemig, gyda pholisi profi Llywodraeth Cymru'n "ddiffygiol"

  • Cyhoeddi canllawiau newydd ar sut i gynnal priodasau yng nghanol y pandemig

  • Galw am lacio rhai o'r cyfyngiadau Covid-19 mewn carchardai er mwyn osgoi drwgdeimlad

  • Cau strydoedd rhai o brif drefi Ceredigion er mwyn gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter cymdeithasol

  1. 'Angen llacio cyfyngiadau Covid-19 mewn carchardai'wedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Ymgyrchwyr yn dweud y gallai parhau â'r cyfyngiadau arwain at ddrwgdeimlad, tra bod teuluoedd yn poeni am fesurau iechyd a diogelwch.

    Read More
  2. Cau rhai o brif strydoedd Ceredigion i draffigwedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod nhw'n bwriadu cau rhai o'r strydoedd yn nhrefi'r sir i gerbydau yn ystod y dydd er mwyn creu 'parthau diogel' ar gyfer cerddwyr.

    Y bwriad yw ei gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter diogel o'i gilydd yng nghanol y trefi wrth i fwy o dwristiaid ddechrau ymweld â'r sir.

    Dywedodd y cyngor fod angen gwneud hynny oherwydd bod gan "y rhan fwyaf o drefi'r sir gynllun stryd hanesyddol gyda throedffyrdd cul a thraffig yn rhedeg trwyddynt".

    Ychwanegodd yr awdurdod lleol y bydd y newidiadau'n "golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr".

    canol tref AberystwythFfynhonnell y llun, Google
  3. Cynnal seremonïau priodas 'mewn lleisiau isel'wedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer priodasau a seremonïau partneriaethau sifil yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Cafodd y gwaharddiad ar briodasau ei godi ar 22 Mehefin, ond fe fydd unrhyw seremoni yn gorfod cael ei chynnal yn unol â rheolau newydd am y tro.

    Yn eu plith mae'r angen i lanhau modrwyau priodas cyn cael eu rhannu, cyhoeddi addunedau priodas mewn lleisiau tawel, a chaniatáu nifer cyfyngedig o westeion.

    Ni fydd canu torfol yn cael ei ganiatáu yn ystod y seremoni chwaith, a fydd dim modd chwaith cynnal gwledd briodasol yn dilyn y seremoni am y tro.

    Disgrifiad,

    Sut beth yw priodi dan gyfyngiadau Covid-19?

  4. Llywodraeth Cymru 'heb baratoi'r sector gofal'wedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Wales

    Mae perchennog un cartref gofal yng Nghasnewydd a gollodd 21 o bobl i Covid-19 wedi dweud fod y pandemig wedi amlygu'r angen i gysylltu iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach,

    Dywedodd Karen Healey, sy'n rhedeg cartref Tregwilym Lodge, fod Llywodraeth Cymru "wedi paratoi'r gwasanaeth iechyd ond heb baratoi'r sector gofal".

    "Os nad ydyn ni'n datrys hynny 'dyn ni am gael yr un broblem eleni a bydd bywydau'n cael eu colli eto," meddai ar BBC Radio Wales Breakfast.

    "Dwi ddim eisiau beio unrhyw un ond beth dwi eisiau ydy cynllun , a'r gallu i ni weithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod ni'n barod am unrhyw bandemig arall."

    Yn ei ymateb yntau i'r adroddiad mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dweud ei bod hi'n "anodd peidio dod i'r casgliad" fod beth sydd wedi digwydd i gartrefi gofal yn ystod y pandemig yn "drasiedi".

    "Mae'n fy mhoeni i rywfaint nad yw Llywodraeth Cymru'n derbyn o leiaf bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud," meddai.

  5. Cartrefi gofal wedi'u 'siomi'n arw' yn ystod y pandemigwedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    Fe gafodd cartrefi gofal eu "siomi'n arw" yn ystod y pandemig coronafeirws, yn ôl adroddiad gan aelodau o'r Senedd.

    Dywedodd y pwyllgor iechyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn rhy araf i'r argyfwng a bod eu polisi tuag at brofi preswylwyr ar y dechrau yn "ddiffygiol".

    Mae 28% o'r marwolaethau coronafeirws yng Nghymru yn breswylwyr cartrefi gofal, ac yn ôl yr adroddiad fe gymerodd hi'n rhy hir i ddechrau mesurau profi addas yno.

    Gwrthod y casgliad wnaeth y llywodraeth.

    gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Bore dawedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni ble byddwn ni unwaith eto'n dod â'r diweddaraf i chi yn ystod y dydd am y pandemig Covid-19 o Gymru a thu hwnt.

    Yn gyntaf, dyma rai o benawdau'r bore.