Crynodeb

  • Pob ysgol yng Nghymru i ailagor yn llawn - lle bo hynny'n bosib - ar 1 Medi

  • Creu 900 o swyddi dysgu ychwanegol er mwyn helpu disgyblion yn dilyn y cyfnod clo

  • Rhybudd gan elusen fod ymfudwyr sy'n ffoi rhag trais yn y cartref mewn perygl o golli eu cefnogaeth wedi'r pandemig

  • Profiad mam o Sir Gâr sydd dal heb gael ei synnwyr arogl yn ôl ers cael Covid-19

  • Rheilffordd Yr Wyddfa i ddechrau rhedeg eto, ond methu mynd i'r copa oherwydd cyfyngiadau

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni ar y llif byw am y tro - diolch am ymuno â ni unwaith eto, wrth i ni fwrw golwg dros yr ymateb i'r cyhoeddiad ar ailagor ysgolion a mwy.

    Bydd y straeon diweddaraf yn parhau i fod ar wefan Cymru Fyw weddill y dydd, a byddwn ni yn ôl unwaith eto fory gyda'r diweddaraf i chi ar sefyllfa coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Ond am y tro, hwyl i chi.

  2. Trên Bach Yr Wyddfa ddim yn mynd i'r copawedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Fe fydd Rheilffordd Yr Wyddfa yn dechrau rhedeg eto o fory ymlaen wrth i'r atyniad ailddechrau gwasanaethau.

    Ond, fel sawl atyniad arall, maen nhw wedi gorfod cyflwyno cyfyngiadau - ac un o'r rheiny yw na fydd y trên yn mynd yr holl ffordd i'r copa.

    Oherwydd y pryder am fethu â chadw pellter cymdeithasol yn adeilad Hafod Eryri ar y copa, tri-chwater ffordd i fyny'r mynydd fydd y trenau'n mynd.

    Yn ôl Chris Jones, rheolwr refeniw y cwmni, maen nhw wedi gwneud popeth posib i warchod y cwsmeriaid.

    tren bach yr Wyddfa
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae sgriniau plastig wedi cael eu gosod yn y trenau fel rhan o'r newidiadau

  3. Swyddi GE: Cyhuddo Llywodraeth y DU o 'wylio o'r ochrau'wedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Unite

    Mae undeb Unite wedi ymateb yn ffyrnig i'r newyddion am golledion swyddi yn General Electric yn Nantgarw, gan feio Llywodraeth y DU am "wylio o'r ochrau".

    Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb yng Nghymru, fod y cyhoeddiad heddiw am ddiswyddo 369 o staff yn ergyd arall i economi Cymru.

    "Er ein bod ni'n derbyn fod pwysau mawr ar GE a'r sector awyrofod ar hyn o bryd, mae'n bwysig nad yw'r cwmni'n rhuthro i benderfyniad ar hyn," meddai.

    "Mae angen iddyn nhw oedi eu cynlluniau, gweithio gyda ni a phwyso ar Lywodraeth y DU am gymorth i'r sector awyrofod fel bod modd achub y swyddi hyn."

    safle GE NantgarwFfynhonnell y llun, Google
  4. Colli swyddi Celtic Manor yn 'ergyd ddinistriol'wedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd wedi disgrifio'r colledion swyddi yng ngwesty Celtic Manor fel "ergyd ddinistriol".

    "Mae grŵp Celtic Manor yn gyflogwr a chyfrannwr sylweddol i'r economi leol, ond fel llawer o fusnesau, maen nhw wedi'u heffeithio'n sylweddol gyda'r pandemig a'r cyfnod clo," meddai Jane Mudd.

    "Tra bod llawer yn cael ei wneud i gefnogi busnesau drwy'r argyfwng, mae'n rhaid i ni sylweddoli nad yw'n ddigon i rai, yn enwedig mewn sectorau penodol."

    Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn ceisio helpu'r rheiny fyddai'n chwilio am swyddi newydd, gan gynnwys gydag ailhyfforddi.

  5. 'Hen bryd' i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ailagor ysgolionwedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Rhagor o ymateb i'r cyhoeddiad ar ailagor ysgolion, y tro hwn gan Blaid Cymru.

    Mae eu llefarydd ar addysg, Sian Gwenllian yn dweud ei bod hi'n "hen bryd" i'r cyhoeddiad ddod.

    "Bydd gan ysgolion rŵan jyst dros 50 diwrnod i baratoi eu safleoedd a chroesawu disgyblion yn ôl yn saff," meddai.

    "Dwi ac eraill yn aros am y canllawiau'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

    "Mae'r 900 o swyddi newydd hefyd i'w groesawu ar gyfer y sector.

    "Y cyflymaf allwn ni sefydlu'r swyddi yma yn ein system addysg, y gorau allwn ni leihau'r bwlch cyrhaeddiad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael eu gadael ar ôl oherwydd y pandemig yma."

  6. GE i ddiswyddo 369 o bobl yn Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Mae cwmni GE Aviation wedi cadarnhau y bydd 369 o swyddi'n cael eu colli ar eu safle yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf.

    Mae hyn ar ben y 180 o weithwyr sydd eisoes wedi gadael y cwmni ar ddiswyddiad gwirfoddol ers dechrau'r pandemig.

    Mewn datganiad dywedodd y cwmni fod y penderfyniad wedi'i wneud oherwydd "effaith digynsail Covid-19 ar y diwydiant awyr masnachol".

    "Rydyn ni'n gwerthfawrogi ymroddiad ein gweithwyr yn ystod y cyfnod yma, ac yn difaru gorfod cyflwyno'r cynigion yma."

    GE Nantgarw
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae GE Aviation yn cynnal a chadw injanau awyrennau ar eu safle yn Nantgarw

  7. Rheolau cwarantîn Lloegr yn berthnasol i Gymruwedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd y rhestr o wledydd sydd wedi'u heithrio o reolau cwarantîn y DU yn berthnasol yng Nghymru yn ogystal â Lloegr.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cytuno i'r rheoliadau, sy'n ymwneud â dwsinau o wledydd.

    Mae'n golygu y gall pobl ddychwelyd o deithiau i wledydd fel Ffrainc, yr Eidal a Groeg heb orfod hunan-ynysu.

    Dydyn nhw heb ddilyn Yr Alban wrth eithrio Sbaen a Serbia o'r rhestr.

    Daw'r rheoliadau i rym o 10 Gorffennaf.

    Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi bod yn feirniadol iawn o Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf am y ffordd yr oedden nhw wedi cyfathrebu a delio gyda'r rheoliadau.

    gwyliauFfynhonnell y llun, EPA
  8. Cadarnhau 16 achos newydd o coronafeirwswedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cadarnhau 16 achos newydd o Covid-19 heddiw.

    Mae'n golygu fod cyfanswm y bobl sydd wedi cael prawf positif o Covid-19 wedi'i gadarnhau gan ICC bellach yn 15,929.

    Ond mae gwir nifer y bobl sydd wedi dal yr haint yn llawer uwch, am nad ydy pob achos yn ystod y pandemig wedi cael ei gadarnhau gyda phrawf labordy.

  9. Dau yn rhagor wedi marw gyda Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae dau yn rhagor o bobl wedi marw gyda Covid-19, meddai ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Bellach mae 1,540 o bobl wedi marw gyda'r feirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, meddai'r corff.

    Ond mae'r ffigwr yn dipyn uwch mewn gwirionedd oherwydd dulliau cofnodi amrywiol.

    llun
    llun
  10. Agor ysgolion: 'Nifer o bethau ymarferol i'w datrys'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae 'na bwysau cynyddol wedi bod ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer mis Medi gyda'r mwyafrif o ysgolion yn cau am yr haf mewn ychydig dros wythnos.

    Bydd cael popeth yn ei le i groesawu pob disgybl yn ôl tymor nesaf yn her, yn enwedig gan na fydd canllawiau manwl yn cael eu cyhoeddi gan y llywodraeth tan yr wythnos nesaf.

    Roedd cael y disgyblion yn ôl i gyd yn ymddangos yn anochel ar ôl i bob rhan arall o'r Deyrnas Unedig ddweud mai dyna oedd eu nod.

    Ond mae nifer o bethau ymarferol i'w datrys yn y cyfamser gan gynnwys trafnidiaeth ysgol.

    A gallai unrhyw gynnydd yn y feirws dros wyliau'r haf danseilio’r cynlluniau mewn rhai ardaloedd.

  11. Boots a John Lewis i ddiswyddo staffwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae Boots wedi cyhoeddi y byddan nhw'n diswyddo 4,000 o staff yn sgil gwerthiant is oherwydd y pandemig coronafeirws.

    Mae'n golygu y gallai tua 7% o weithwyr y cwmni ar draws Prydain golli eu swyddi.

    Bydd Boots hefyd yn cau 48 o'u siopau optegydd ar draws y DU.

    Yn y cyfamser mae John Lewis yn dweud y byddan nhw'n cau wyth o'u siopau - pob un ohonynt yn Lloegr - gan olygu bod swyddi 1,300 o bobl yn y fantol.

    bootsFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Y cyfnod yma wedi rhoi pwysau aruthrol ar blant'wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad gan y gweinidog addysg heddiw.

    Dywedodd Sally Holland: "Dwi'n mawr obeithio y bydd y llywodraeth hefyd yn parhau i rannu’r negeseuon o gyngor gwyddonol i dawelu meddyliau er mwyn sicrhau fod teuluoedd a’u plant yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi’n iawn i ddychwelyd mis Medi.

    "Mae trafnidiaeth yn parhau i fod yn sialens ac fe fyddaf yn parhau i wthio ar y llywodraeth i sicrhau fod canllawiau clir i alluogi plant, awdurdodau lleol, rheiny sy’n darparu trafnidiaeth, ysgolion a cholegau fedru cynllunio’n iawn ar gyfer mis Medi.

    "Heb os, mae’r cyfnod yma wedi rhoi pwysau aruthrol ar blant, eu teuluoedd a chymuned ysgol gyfan."

    Sally Holland
  13. Agor ysgolion: Ymateb yr undebauwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae rhagor o undebau wedi croesawu cyhoeddiad y gweinidog addysg i ailagor ysgolion Cymru ar 1 Medi.

    Dywedodd Nicola Savage o GMB fod Llywodraeth Cymru wedi dangos "arweiniad gwirioneddol yn yr argyfwng, ac wedi trafod yn dryloyw ac yn adeiladol".

    Dywed Paul Whiteman o undeb NAHT fod y cyhoeddiad yn "foment arwyddocaol".

    Ychwanegodd Ruth Davies, llywydd NAHT a phennaeth ysgol gynradd Waunarlwydd ger Abertawe mai "dyma’r rhan hawdd"

    "Yr her fwyaf a’r cam nesaf hanfodol fydd i Lywodraeth Cymru roi'r manylion logistaidd i gyd-fynd â’r cynllun eang; bydd arweiniad clir a chynhwysfawr yn hanfodol i'w lwyddiant. Disgwyliwn weld hyn yn y dyddiau nesaf," meddai.

    Bydd staff cymorth ysgolion yn ganolog i lwyddiant y dychweliad llawn i ysgolion ym mis Medi a rhaid i ganllawiau gweithredu Llywodraeth Cymru adlewyrchu hyn, meddai undeb Unison.

    "Mae cogyddion, glanhawyr, gofalwyr, cynorthwywyr dysgu, staff gweinyddol, goruchwylwyr amser cinio yn mynd i fod yn ganolog i'r dychweliad diogel i ysgolion ac mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod," meddai Rosie Lewis o Unison Cymru.

    Mae undeb addysg TUC Cymru hefyd wedi cefnogi'r cyhoeddiad.

    plant yn dysgu adrefFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ers misoedd mae'r rhan fwyaf o blant Cymru wedi bod yn dysgu o adref

  14. 'Ysgafnhau'r baich ar staff addysg bregus'wedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae undeb NEU Cymru wedi croesawu'r arian ychwanegol ar gyfer cyflogi mwy o staff yn sgil y cyhoeddiad y bydd ysgolion yn dychwelyd yn llawn ym mis Medi.

    Dywedodd David Evans o'r undeb: "Rydyn ni yn credu, os bydd mwy o blant yn cael eu croesawu yn ôl i'r ysgol, y bydd angen mwy o staff, a gwneud defnydd o adeiladau cyhoeddus eraill fel llyfrgelloedd er mwyn cynyddu capasiti.

    "Bydd hyn yn golygu bod gweithwyr addysg sy'n hunan ynysu neu'n fregus i barhau i gynnig cefnogaeth o adref, tra'n cadw'n saff - gan leihau'r baich ar ein gwasanaeth iechyd."

  15. Llywodraeth Cymru 'wedi gwrando o'r diwedd'wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Yn ôl at y cyhoeddiad ar ailagor ysgolion, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb drwy gwestiynu pam na allai Kirsty Williams fod wedi dweud hyn yn gynharach.

    Dywedodd Suzy Davies, llefarydd y blaid ar addysg, fod Llywodraeth Cymru "wedi gwrando o'r diwedd".

    "Gobeithio nawr y byddan nhw'n cadw at hyn," meddai.

    "Mae awdurdod y gweinidog yn ogystal â hawl plant i addysg eisoes wedi'i danseilio gyda'r llanast dros bedwaredd wythnos 'nôl yn yr ysgol yr haf yma."

    suzy davies
  16. Celtic Manor i ddiswyddo 450 o staffwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Mae gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n disgwyl diswyddo 450 o staff allan o'u gweithlu llawn amser o 995.

    Dywedodd y cwmni fod yr argyfwng Covid-19 wedi taro'r busnes yn wael, yn enwedig y diwydiant lletygarwch.

    Mae staff all gael eu heffeithio bellach wedi cael gwybod a bydd proses ymgynghori nawr yn digwydd.

    "Bydd popeth yn cael ei wneud i gefnogi'r rheiny sydd wedi'u heffeithio," meddai'r cwmni.

    Celtic ManorFfynhonnell y llun, Ian Caper
  17. 'Dim modd dweud nad oes unrhyw risg o gwbl'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Kirsty Williams wedi cydnabod nad oes posib "dweud bod ailagor ysgolion yn llawn yn peri dim risg o gwbl".

    Ond dywedodd y gweinidog ei bod wedi "pwyso a mesur y risg" ac y bydd ysgolion yn gwneud beth allan nhw i'w leihau.

    Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn parhau i adolygu cyfraddau heintio yn y gymuned, ac y gallai blynyddoedd ysgol neu ysgolion gyfan orfod cau eto a dysgu o adref petai'r sefyllfa'n gwaethygu.

    Dywedodd bod angen i ysgolion gynllunio o flaen llaw "er mwyn lleihau'r risg o darfu ar addysg".

    ysgolFfynhonnell y llun, PA Media
  18. 'Dim gwrthwynebiad' gan undebau addysgwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Addysg ei bod wedi cael "llawer o sgyrsiau" gydag undebau addysg ac awudrodau lleol am y cynlluniau i ailagor ysgolion yn llawn ym mis Medi.

    Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda'u rhanddeiliaid, "ond rydw i'n falch iawn o weld cyhoeddiadau positif Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cyflogi'n athrawon a rhedeg ein hysgolion, yn croesawu'r penderfyniad heddiw".

    Doedd undebau dysgu ddim wedi dangos unrhyw "wrthwynebiad" i'w chynlluniau, meddai.

    "Byddwn yn rhannu canllawiau drafft er mwyn iddyn nhw allu cyfrannu cyn iddo gael ei gyhoeddi ddydd Llun."

  19. 'Plant ddim yn trosglwyddo coronafeirws'wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw'n "ymddangos" bod plant yn trosglwyddo coronafeirws i’w gilydd nac i oedolion, meddai’r gweinidog addysg.

    "Rwy’n credu y gall rhieni fod yn hyderus ynglŷn ag anfon eu plant yn ôl i’r ysgol," meddai Kirsty Williams.

    "Mae gennym bellach gyfnod sylweddol o brofiad o sut y gallwn weithredu ein hysgolion mewn ffordd ddiogel, gan gofio bod dros 500 o ysgolion wedi bod yn agored i gefnogi plant gweithwyr allweddol a phlant bregus trwy gydol y pandemig hwn, ac rydym wedi rheoli hynny'n ddiogel."

    Ychwanegodd nad yw'n ymddangos bod plant, "yn enwedig plant iau, yn trosglwyddo'r afiechyd i'w gilydd, nac ymlaen i oedolion, felly gallan nhw fod yn hyderus eu bod yn anfon eu plant i amgylcheddau a fydd yn ddiogel".

    kirsty williams
  20. Mwy o wersi dwbl?wedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Kirsty Williams yn dweud y bydd canllawiau manylach yn cael eu cyhoeddi er mwyn esbonio sut all ysgolion geisio cadw pellter cymdeithasol rhwng grwpiau o fewn ysgolion ble'n bosib.

    Gallai hynny gynnwys addasu amserlenni a chynlluniau gwersi, er enghraifft drwy wersi dwbl, er mwyn osgoi faint o symud sydd o gwmpas yr ysgol.

    Bydd hefyd angen cynllunio trefniadau cludiant, meddai, gan gynnwys o bosib cyfyngu ar nifer y disgyblion sy'n gallu bod ar fysus ysgol.