Crynodeb

  • Pob ysgol yng Nghymru i ailagor yn llawn - lle bo hynny'n bosib - ar 1 Medi

  • Creu 900 o swyddi dysgu ychwanegol er mwyn helpu disgyblion yn dilyn y cyfnod clo

  • Rhybudd gan elusen fod ymfudwyr sy'n ffoi rhag trais yn y cartref mewn perygl o golli eu cefnogaeth wedi'r pandemig

  • Profiad mam o Sir Gâr sydd dal heb gael ei synnwyr arogl yn ôl ers cael Covid-19

  • Rheilffordd Yr Wyddfa i ddechrau rhedeg eto, ond methu mynd i'r copa oherwydd cyfyngiadau

  1. Croeso gan undeb penaethiaidwedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae'r undeb sy'n cynrychioli penaethiaid, NAHT, wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg am ragor o gyllid i gyflogi athrawon.

    Dywedodd eu hysgrifennydd cyffredinol Rob Kelsall: "Mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf os ydyn ni am drwsio'r niwed mae'r pandemig wedi'i wneud i addysg ein plant a phobl ifanc."

  2. Cyllid ar gyfer 900 o staff dysgu ychwanegolwedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Y newyddion mawr heddiw yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer 900 o staff dysgu ychwanegol, er mwyn helpu'r disgyblion sydd wedi colli mwy na thymor o'u hastudiaethau oherwydd y cyfnod clo.

    Bydd y pecyn cymorth £29m yn targedu disgyblion difreintiedig a phlant sy'n sefyll arholiadau, meddai'r llywodraeth.

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi bod dan bwysau i egluro a fydd disgyblion yn dychwelyd yn llawn amser ym mis Medi.

    Mae disgwyl iddi gyhoeddi rhagor am y cynlluniau hynny yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru amser cinio.

    kirsty williamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni heddiw ar ddydd Iau, 9 Gorffennaf.

    Fe ddown ni â'r diweddaraf i chi ar y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y dydd - yn gyntaf, dyma rai o straeon y bore 'ma.