Crynodeb

  • Pob ysgol yng Nghymru i ailagor yn llawn - lle bo hynny'n bosib - ar 1 Medi

  • Creu 900 o swyddi dysgu ychwanegol er mwyn helpu disgyblion yn dilyn y cyfnod clo

  • Rhybudd gan elusen fod ymfudwyr sy'n ffoi rhag trais yn y cartref mewn perygl o golli eu cefnogaeth wedi'r pandemig

  • Profiad mam o Sir Gâr sydd dal heb gael ei synnwyr arogl yn ôl ers cael Covid-19

  • Rheilffordd Yr Wyddfa i ddechrau rhedeg eto, ond methu mynd i'r copa oherwydd cyfyngiadau

  1. 'Angen amynedd gan fod y canllawiau'n dod mor hwyr'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    UCAC

    Mewn ymateb i gyhoeddiad y gweinidog addysg, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb addysg UCAC ei fod yn "edrych ymlaen at weld cyhoeddi’r canllawiau ar gyfer ailagor".

    "Fodd bynnag, gyda’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi mor hwyr yn y dydd bydd angen peth amynedd wrth baratoi ar gyfer yr ailagor yn ystod wythnosau cyntaf tymor yr hydref," meddai Dilwyn Roberts-Young.

    Yn sgil yr addewid i greu 900 o swyddi addysg ychwanegol, ychwanegodd fod yr undeb yn "croesawu’r buddsoddiad".

    "Bydd angen cynllunio gofalus er mwyn ymateb i anghenion ysgolion a sicrhau cyfleoedd i athrawon llanw a newydd gymhwyso.

    "Rydym yn croesawu bod y Gweinidog Addysg yn cydnabod gwaith arwrol penaethiaid, athrawon a holl staff ysgolion dros y misoedd diwethaf."

  2. Dim dirwyon am beidio anfon plant i'r ysgolwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Kirsty Williams yn dweud na fydd rhieni'n cael eu dirwyo i ddechrau os nad ydyn nhw'n anfon eu plant i'r ysgol ym mis Medi.

    Ond dywedodd y bydd ysgolion yn cael eu hannog i gysylltu gyda rhieni oedd yn bryderus, er mwyn esbonio'r camau sy'n cael eu cymryd i wneud ysgolion mor ddiogel rhag Covid-19 â phosib.

    Pan fydd y sefyllfa yn dychwelyd i normal, meddai, yna bydd y llywodraeth yn ystyried ailgyflwyno dirwyon.

  3. 'Hyderus' bod modd recriwtio athrawonwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Kirsty Williams yn dweud ei bod hi'n hyderus y bydd modd recriwtio'r staff ychwanegol fydd eu hangen er mwyn ailagor ysgolion ym mis Medi.

    Dywedodd y gallai staff ychwanegol ddod o raddedigion newydd, y gweithlu cyflenwi presennol, a phobl o du allan i fyd addysg sydd efo'r sgiliau perthnasol.

    kirsty williams
  4. Systemau un ffordd a glanhau cyson i barhauwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Kirsty Williams yn dweud y dylai pob ysgol barhau i gael systemau mewn lle sy'n lleihau'r risg o ledu'r feirws - fel glanhau cyson a chael systemau un ffordd.

    Os oes rhybuddion cynnar sy'n dangos fod nifer o achosion o'r feirws yn lleol, meddai, dylai ysgolion cyfagos gael mesurau priodol yn barod.

    Mae'n cadarnhau y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf.

    O ran gofal plant, mae'n dweud y bydd mwy o gyhoeddiadau'n cael eu gwneud maes o law ond fod y llywodraeth yn edrych ar gynyddu maint grwpiau ac i "symud tuag at weithrediadau llawn yn raddol".

  5. Beth am ymbellhau cymdeithasol yn yr ysgol?wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y gweinidog addysg fod y grŵp sy'n rhoi cyngor gwyddonol i'r llywodraeth wedi argymell y dylai ysgolion "fwriadu agor ym mis Medi gyda 100% o ddisgyblion yn bresennol yn gorfforol ar safleoedd ysgolion, yn amodol ar ddirywiad parhaus a chyson Covid-19 yn y gymuned".

    Dim ond pellter cymdeithasol cyfyngedig fydd o fewn grwpiau, meddai Kirsty Williams, ac fe all y grwpiau hynny gynnwys "tua 30 o blant".

    "Bydd peth cymysgu uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwng plant mewn gwahanol grwpiau cyswllt hefyd yn anorfod," meddai.

    "Dylai pellter cymdeithasol i oedolion aros yn unol â'r rheoliadau a'r canllawiau.

    "Bydd gofyn i ysgolion leihau'r risg o drosglwyddo trwy gymryd mesurau lliniaru eraill."

    Ychwanegodd Kirsty Williams fod ysgolion a chyngorau sir eisoes yn gweithio ar gynlluniau i groesawu disgyblion erbyn dechrau mis Medi, ac y dylai pobl gysylltu gyda'u hysgolion a'u hawdurdodau lleol am ddiweddariadau.

  6. Ysgolion Cymru i ailagor yn llawn ar 1 Mediwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae gweinidog addysg Cymru wedi cyhoeddi y bydd pob ysgol yn ailagor yma yn llawn - lle bo hynny'n bosib - ar 1 Medi.

    Dywedodd Kirsty Williams fod y profiad o'r wythnosau diwethaf a chyngor gwyddonol wedi ei harwain at y cyhoeddiad.

    "Dylai pob ysgol all gael pob disgybl i mewn o ddechrau'r tymor wneud hynny," meddai yng nghynadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru.

    "Bydd cyfnod o hyblygrwydd wrth gydnabod y gallai ysgolion fod eisiau canolbwyntio ar flaenoriaethu rhai blynyddoedd yn benodol - fel y rhai sy'n newydd i ysgolion uwchradd, y rhai sy'n sefyll arholiadau yr haf nesaf neu'r rhai mewn dosbarthiadau derbyn.

    "Mae hyn eisoes yn digwydd mewn llawer o ysgolion, ac rydym wedi bod yn dysgu o ymarfer mewn mannau eraill.

    "Bydd hefyd yn caniatáu amser, hyd at bythefnos, ar gyfer unrhyw gynllunio ac ad-drefnu."

  7. Y gynhadledd ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gynhadledd i'r wasg gyda'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ar fin dechrau - fe ddown ni â'r prif bwyntiau i chi yma ar y llif byw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. 'Tair miliwn o bobl yn yr UDA wedi cael Covid-19'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    BBC World News

    Mae dros dair miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau bellach wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19, yn ôl Prifysgol Johns Hopkins.

    Bellach mae dros 131,000 o farwolaethau o ganlyniad i'r wedi'u adrodd yno, a ddydd Mawrth cafwyd y nifer uchaf eto o achosion newydd mewn un diwrnod.

    Serch hynny, mae'r llywodraeth yno eisiau bwrw 'mlaen ag ailagor rhai sefydliadau gan gynnwys ysgolion.

    Mynnodd yr Arlywydd Donald Trump fod y wlad "mewn lle da" wrth ddelio gyda'r pandemig, a dywedodd yr is-Arlywydd Mike Pence na ddylai'r cyfyngiadau fod yn "rhy llym".

    claf mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Cyngor arall yn rhybuddio ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a bod yn ofalus os ydyn nhw'n ymweld â mannau harddwch Sir Ddinbych.

    Dywedodd y cyngor sir eu bod wedi agor eu prif fannau awyr agored ledled Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.

    Ynghyd â mannau harddwch eraill yng Nghymru, mae parciau gwledig Moel Famau a Loggerheads a Rhaeadr Y Bedol, Llangollen bellach ar agor am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

    horseshoeFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhaeadr Y Bedol, Llangollen

  10. Gofyn i ymwelwyr fod yn 'synhwyrol a pharchus'wedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i bobl sy’n bwriadu teithio i ganol a gorllewin Cymru o ddydd Llun i fod yn "ddiogel, yn synhwyrol ac yn barchus".

    Bydd pobl yn cael teithio yn bellach na phum milltir o 6 Gorffennaf wedi i Lywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau.

    Mae'r heddlu yn paratoi i gael nifer fawr o ymwelwyr i'r ardal o rannau eraill o Gymru a thu hwnt i'r ffin, gyda'r rhagolygon yn addo tywydd braf.

    Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro, Andy Reed ei fod yn "deall bod pobl bellach yn awyddus i fentro ymhellach i ffwrdd a mwynhau’r traethau, y mynyddoedd a chefn gwlad".

    “Rydyn ni'n gofyn i chi ein helpu ni trwy barchu'r ardaloedd rydych chi'n ymweld â nhw, a thrwy gynllunio'ch taith cyn i chi gychwyn," meddai.

    “Os ydych chi'n mynd i'r traeth yn Sir Benfro, er enghraifft, peidiwch ag anelu am un lle yn unig.

    "Gwnewch restr o draethau y gallech chi ymweld â nhw, a byddwch yn barod i newid eich cynlluniau os byddwch chi'n taro traffig oddi ar y briffordd."

  11. Gofyn am gadw arian o ffermydd gwyntwedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Mae prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i weld allen nhw gadw mwy o'r arian maen nhw'n ei wneud o ffermydd gwynt.

    Dywedodd Clare Pillman wrth bwyllgor amgylchedd y Senedd y byddai hynny'n helpu'r corff gyda'u problemau ariannol o ganlyniad i Covid-19.

    Ar hyn o bryd, meddai, mae CNC yn cadw £3m y flwyddyn o reoli a gweithredu ffermydd gwynt, ac yn rhoi £8m yn ôl i Lywodraeth Cymru.

    "Rydyn ni'n trafod ar hyn o bryd i weld a oes awydd o bosib i'n gadael i ni ei gadw yn y dyfodol," meddai.

    clare pillman
  12. Kirsty Williams yn y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams fydd yn siarad yn y gynhadledd am 12:30.

    Fe allwn ni ddisgwyl cwestiynau am y cyllid ychwanegol i recriwtio athrawon, a chynlluniau ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Medi, ymhlith eraill.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cynllun i drawsnewid strydoedd Wrecsamwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    BBC Wales News

    Gallai stryd fawr Wrecsam gael ei thrawsnewid er mwyn helpu busnesau'r dref i adfer yn dilyn y pandemig coronafeirws.

    Ymhlith y camau fydd yn cael eu ystyried gan y cyngor wythnos nesaf mae mesurau i greu mwy o le i gerddwyr, ac ymgyrch farchnata gwerth £50,000 i ddenu ymwelwyr.

    Gallai system talu-a-chasglu hefyd gael ei chyflwyno, yn ogystal â gadael i fusnesau ddefnyddio'r palmant i fasnachu.

    Maen nhw hefyd yn ystyried cau'r brif stryd yn ystod y nos er mwyn hybu busnesau fel bwytai a thafarndai fyddai'n elwa o hynny.

    Wrecsam o'r awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Dim trafod ystyrlon' rhwng Drakeford a Johnsonwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef y gallai'r berthynas gyda Llywodraeth y DU "fod wedi bod llawer gwell" yn ystod y pandemig.

    Dywedodd Eluned Morgan ei bod hi'n "amlwg nad oes yna drafod ystyrlon, rheolaidd wedi bod yn enwedig rhwng Boris Johnson a Mark Drakeford".

    "Rydan ni wastad wedi cadw'r drws ar agor ac mae'n drueni achos yn amlwg byddai hi wedi gwneud synnwyr i symud ymlaen fel un," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

    "Ond gan nad oedd yna drafod, rydan ni wedi mynd ein ffordd ein hunain ac wedi ymateb yn wahanol ac yn fwy pwyllog.

    "Rhan o'r rheswm am hyn yw am fod Llywodraeth Prydain wedi gwneud datganiadau heb drafod gyda ni cyn eu gwneud nhw."

    Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru'n penderfynu beth i'w wneud gyda'r arian ychwanegol o San Steffan maes o law.

    "Bydd yn rhaid pwyso a mesur nawr ble ry'n ni eisoes wedi gwario'r arian a sut y gallwn ni helpu'r sectorau fydd yn cael trafferthion ariannol yn y dyfodol."

    eluned morgan
  15. Llacio rhagor o fesurau Covid-19 yn yr Albanwedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    BBC News Scotland

    Yn ddiweddarach heddiw fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn cyhoeddi rhagor o fesurau fydd yn cael eu llacio wrth i'r wlad symud allan o'r cyfnod clo.

    Mae rhai cyfyngiadau eisoes wedi cael eu llacio, gyda siopau'n ailagor a'r cyfyngiadau teithio'n cael eu codi.

    Dros yr wythnosau nesaf bydd bwytai a thafarndai, yn ogystal ag atyniadau twristiaeth, hefyd yn ailagor.

    O ddydd Gwener ymlaen bydd pobl yn yr Alban hefyd yn cael cwrdd mewn grwpiau mwy y tu allan, a chyda dau gartref arall dan do.

    Bydd y rheol dau fetr hefyd yn cael ei llacio, ond bydd gwisgo masgiau mewn siopau hefyd yn dod yn orfodol.

    nicola sturgeonFfynhonnell y llun, PA Media
  16. 'Pum ffordd fydd Cymru'n elwa'wedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Fel cyd-destun, dyma'r pethau mae Swyddfa Cymru wedi amlinellu fel pethau fydd o fudd i Gymru o gyhoeddiad y Canghellor Rishi Sunak ddoe.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Llywodraeth Cymru'n cwestiynu'r ffigwr £500mwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Un o brif benawdau ddoe oedd y sôn am £500m ychwanegol fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiadau'r Canghellor Rishi Sunak ar ragor o gymorth i helpu pobl a busnesau drwy'r argyfwng.

    Ond ar ôl edrych drwy'r ffigyrau hynny, mae Llywodraeth Cymru nawr yn dweud nad yw'r cyhoeddiad wir yn golygu £500m yn ychwanegol, gan ei fod yn cynnwys rhywfaint o arian sydd eisoes wedi'i addo.

    Mae hynny'n cynnwys cyllid gafodd ei addo i'r celfyddydau a llywodraeth leol yn ddiweddar, yn ogystal ag arian o ganlyniad i wariant ar PPE yn Lloegr.

    Mewn gwirionedd felly, medden nhw, mae'r gwir ffigwr yn llai na hanner hynny.

    Ond mae Darren Millar, Aelod Ceidwadol Senedd Cymru dros Orllewin Clwyd, wedi disgrifio ymateb Llywodraeth Cymru fel un "angharedig" o ystyried bod "llawer o bethau yng nghyhoeddiad ddoe fydd yn help mawr i bobl ar draws Cymru".

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, Barcroft Media
  18. 'Dydw i dal heb gael fy arogl yn ôl ers Covid-19'wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    Mae mam o Sir Gâr wedi bod yn disgrifio sut beth yw hi i fyw gyda rhai o symptomau Covid-19 fisoedd ar ôl dal yr haint.

    Pan sylweddolodd Laura Wood nad oedd hi'n gallu blasu ei phaned o de na'r fynsen oedd ar ei phlât, roedd hi'n gwybod fod rhywbeth o'i le.

    Ond dim ond ar ôl i'w chwaer, sy'n nyrs, roi gwybod iddi fod hynny'n un o symptomau coronafeirws y cytunodd Laura i gael prawf, a chael gwybod ei bod wedi dal yr haint.

    "Ar y pryd roedd colli'r gallu i arogli ac i flasu ddim yn cael eu cydnabod fel rhai o'r symptomau," meddai Laura.

    Gallwch ddarllen mwy am ei phrofiad yma.

    laura wood
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Laura nawr yn cynnal prawf arogli bob diwrnod

  19. Pryder na fydd cefnogaeth i ymfudwyr yn parhauwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    At rai o'r straeon eraill, ac mae elusen wedi rhybuddio bod ymfudwyr sy'n ffoi rhag trais yn y cartref mewn perygl o golli eu cefnogaeth wedi'r pandemig.

    Dros y misoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol i gefnogi pobl sydd heb hawl i unrhyw arian cyhoeddus oherwydd eu statws mewnfudo.

    Ond am nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli, mae gweinidogion Cymru'n dweud y gallan nhw "ei chael yn anodd helpu pobl" pan na fydd rheswm iechyd cyhoeddus dros wneud hynny.

    Does gan unrhyw un sy'n mynd trwy'r system mewnfudo ddim hawl i arian cyhoeddus fel budd-daliadau.

    Mae hyn yn wir hyd yn oed am rai pobl sydd yn y DU yn gyfreithlon, er enghraifft os oes ganddyn nhw fisa myfyriwr neu fisa trwy briodas.

    traisFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Galw am eglurder ar ailagor ysgolion yn llawnwedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Wales

    Mae un rhiant wedi dweud wrth BBC Radio Wales Breakfast y byddai hi "wrth ei bodd" petai Llywodraeth Cymru'n cadarnhau y bydd ysgolion yn agor yn llawn unwaith eto ym mis Medi.

    Dywedodd Nicola Jenkins o Gaerdydd bod ei phlant, sy'n 7 a 9 oed, eisoes wedi dechrau dychwelyd am ddiwrnod yr wythnos, a'u bod wedi "mwynhau cymaint".

    "Ers mis Mawrth mae wedi bod yn gyfnod hir ac anodd i rieni, teuluoedd a phlant a dwi'n meddwl bod angen yr eglurder nawr," meddai.

    Ychwanegodd Neil Butler o undeb NASUWT fod angen i ysgolion "wybod nawr" beth fydd yn digwydd er mwyn gallu paratoi ar gyfer mis Medi.

    "Os yw'r feirws yn newid a bod angen gwneud newidiadau pellach wedyn fe allwn ni, ond rydyn ni angen cynllunio nawr," meddai.

    plant ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images