Crynodeb

  • Parciau chwarae a'r farchnad dai i gael ailagor cyn hir

  • Tafarndai, caffis a bwytai yn yr awyr agored, siopau trin gwallt a rhai symudol yn ailagor drwy apwyntiad o ddydd Llun

  • Tafarndai, caffis a bwytai i ailagor yn llawn a gweini dan do o 3 Awst

  • Disgwyl arwydd i'r diwydiant harddwch ehangach, gan gynnwys tatwyddion, i ddechrau paratoi i ailagor o 27 Gorffennaf

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni am heddiw ar y llif byw - diolch i chi am ymuno.

    Roedd digon i gnoi cil drosto yng nghyhoeddiad Mark Drakeford yn gynharach ar y mesurau fydd yn cael eu llacio yng Nghymru - ac ambell beth y bydd rhaid aros ychydig yn hirach i'w wneud hefyd.

    Fe fyddwn ni yn ôl unwaith eto'r wythnos nesaf gyda'r diweddaraf i chi ar sefyllfa'r pandemig yng Nghymru, a bydd y prif straeon hefyd ar gael ar wefan Cymru Fyw dros y penwythnos.

    Ond dyna'r cyfan am y tro - tan hynny, mwynhewch eich penwythnos!

  2. Achosion Covid-19 diweddaraf: Rhagor o fanylionwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Yn dilyn y cyhoeddiad nad oedd unrhyw mwy o farwolaethau coronafeirws wedi eu cofnodi dros y 24 awr diwethaf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae modd darganfod mwy am niferoedd a lleoliadau'r achosion positif newydd sydd wedi eu cofnodi isod:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Pryd gaiff colegau addysg bellach ailagor?wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    golwg360

    Mae Golwg360 yn adrodd bod Colegau Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro'r cynlluniau i adael iddyn nhw ailagor colegau addysg bellach, dolen allanol.

    Daw hynny'n dilyn cyhoeddiad y llywodraeth ddoe ar ailagor ysgolion yn llawn erbyn mis Medi.

    Yn ôl Colegau Cymru mae angen i golegau ailagor ar yr un diwrnod ag ysgolion, ac mae angen angen amser arnyn nhw i baratoi.

  4. Busnesau Ceinewydd 'yn anhapus â chau strydoedd'wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mae perchennog busnes yng Ngheinewydd wedi beirniadu Cyngor Cereidigon dros gynlluniau i gau prif stryd y dref am gyfnodau yn ystod y dydd.

    Fe benderfynodd y cyngor gyflwyno'r mesur i gau rhai strydoedd yng nghanol Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth a Cheinewydd er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter cymdeithasol.

    Mae'n golygu y bydd y strydoedd dan sylw ar gau i gerbydau rhwng 11:00 a 18:00 o ddydd Llun ymlaen.

    Ond dywedodd postfeistr Ceinewydd John Barrett, sydd hefyd yn rhedeg y siop yno, fod busnesau'r dref yn flin iawn ynghylch y newid.

    "Mae llawer o anghrediniaeth bod hyn wedi cael ei godi arnom ni ar adeg pan 'dyn ni i fod yn ceisio paratoi i ailagor," meddai.

    "Rydyn ni i fod yn llacio cyfyngiadau ac ailddechrau pethau eto, ond ymateb cyntaf Cyngor Ceredigion yw i gau twristiaeth yn y trefi twristiaeth."

    Dywedodd y cynghorydd Dafydd Edwards mai'r bwriad oedd nid i "gau busnesau ond sicrhau bod modd iddyn nhw weithredu'n saff".

    traeth ceinewydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r traeth yng Ngheinewydd yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr

  5. Drakeford 'wedi symud allan o'i gartref' yn ystod y pandemigwedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Mae'r prif weinidog wedi dweud ei fod wedi gorfod symud allan o'i gartref cyn y cyfnod clo am fod aelod o'i deulu yn gorfod gwarchod eu hunain.

    Dywedodd Mark Drakeford: "Dwi ddim wedi bod yn byw yn fy nhŷ fy hun yn ystod y profiad yma oherwydd pobl eraill sydd wedi bod â chyflyrau mwy difrifol."

    Ychwanegodd bod aelodau o'i deulu wedi bod yn dioddef o Covid-19, a bod hynny hefyd wedi pwyso ar ei feddwl.

    "Dwi'n gweithio'r rhan fwyaf o'r amser, felly mae cydbwyso gofynion y bobl sy'n agos atoch a gwybod popeth maen nhw'n mynd drwyddo yn ogystal â phopeth sy'n rhaid i chi wneud - maen nhw'n ddyddiau anodd," meddai.

    mark drakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Dros 1,700 o ddirwyon gan Heddlu Dyfed-Powyswedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhoi mwy o ddirwyon am dorri rheoliadau Covid-19 nag unrhyw lu arall, yn ôl ffigyrau swydogol.

    Dywedodd y llu eu bod wedi cyflwyno dros 1,700 o ddirwyon yn ystod y cyfnod clo i bobl oedd wedi torri'r cyfyngiadau teithio.

    Cafodd dros dau draean o'r rheiny eu rhoi i bobl oedd wedi teithio o du allan i ganolbarth Cymru - gyda'r rhan fwyaf ohonynt ym Mhowys, ardal sy'n cynnwys Bannau Brycheiniog.

    Dywedodd yr heddlu eu bod wedi anfon dros 1,000 o geir adref o ardal Ystradfallte, sy'n adnabyddus am ei rhaeadrau, ar un penwythnos ym mis Mai.

    Ychwanegodd y dirprwy brif gwnstabl, Claire Parmenter eu bod wedi ceisio addysgu teithwyr yn gyntaf yn hytrach na'u dirwyo, yn enwedig pan oedd gwahaniaethau rhwng y rheolau yng Nghymru a Lloegr yn dechrau ymddangos.

    "Er bod pobl ar y cyfan wedi gwrando ar y cyngor gan y llywodraeth, yn anffodus fe gawson ni ambell achos ble roedd pobl yn benderfynol o dorri'r rheolau," meddai.

    heddlu
  7. Dros 70 o swyddi newyddiadurol yn y fantolwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Wales Online

    Mae dros 70 o weithwyr cwmni Reach wedi cael gwybod fod eu swyddi dan fygythiad oherwydd pwysau ar y diwydiant newyddion oherwydd y pandemig coronafeirws.

    Mae cangen Media Wales y cwmni yn gyfrifol am rai o bapurau newydd amlycaf Cymru gan gynnwys y Western Mail a'r Daily Post, yn ogystal â gwefan WalesOnline.

    Mae undeb yr NUJ wedi beirniadu Reach, sydd wedi dweud eu bod am dorri 550 o swyddi ar draws y DU, am beidio manylu ar faint o'r rheiny allai fod ymhlith staff yng Nghymru.

    Maen nhw hefyd yn anhapus â chynlluniau i gyfuno Media Wales gydag adrannau sy'n gyfrifol am Swydd Caer, canolbarth Lloegr a Sir Lincoln.

    "Mae staff wedi rhoi popeth yn ystod y pandemig yma i greu cynnyrch o safon i brint ac ar-lein, ac eto dydyn nhw dal heb glywed faint ohonyn nhw mae'r cwmni eisiau diswyddo," meddai Martin Shipton wrth siarad ar ran staff Media Wales yr NUJ.

    Western Mail
  8. Swyddi newydd i gwmni hylif diheintio dwylowedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Mae cwmni sydd yn creu hylif diheintio dwylo ym Modelwyddan wedi cyflogi 30 o weithwyr ychwanegol er mwyn ateb y galw am eu cynnyrch o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.

    Dywedodd Sarah Lord, cyfarwyddwr cwmni McKLords: "Mewn blwyddyn gyffredin fe fyddem yn gweld archeb o 6,000,000 o boteli'r flwyddyn, ond ers dechrau Mawrth, mae hyn wedi cynyddu i dros 15,000,000 ac mae'r galw yn cynyddu."

    Bydd safle'r cwmni ar Barc Busnes Bodelwyddan yn cael ei ehangu o ganlyniad i'r cynydd yma medd y cwmni.

    LlawFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Prysuro yn Eryriwedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Mae'n ymddangos fod ymwelwyr a cherddwyr wedi heidio am Eryri heddiw wedi i'r gwaharddiad ar deithio gael ei godi'n ddiweddar.

    Dyma oedd y sefyllfa ym Mhen-y-Pass ychydig yn gynharach.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Llacio cyfyngiadau: Ymateb Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi bod yn ymateb i amserlen ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar lacio cyfyngiadau dros y tair wythnos nesaf.

    Dywedodd Mr Price: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei rymoedd datganoledig wrth fabwysiadu agwedd bwyllog tuag at lacio'r cyfnod clo.

    "Rhaid i'r cynnydd hwn yn rhyddid y cyhoedd fod ar y cyd gyda rhaglen profi, olrhain ag amddiffyn sydd yn gallu ateb y galw cynyddol amdano.

    "Heb y gallu i ddelio'n sydyn gydag unrhyw achosion o gynnydd mewn niferoedd, mae'r 'system rhybudd cynnar' yma yn cael ei thanseilio, ac yn waeth na hyn, byddwn mewn perygl o ddychwelyd i amgylchiadau cyfnod clo."

    Ychwanegodd: "Rhaid i ni gael strategaeth llawer gliriach o ran defnyddio'r capasiti profi presennol, ac mae'n rhaid i ni gyflymu'r broses o gael canlyniadau.

    "Wrth i'r diwydiant twristiaeth ailagor ac wrth i deithio ddod yn fwy cyffredin, mae'r mecanwaith gennym yn ei le i nid yn unig ennyn hyder y cyhoedd ond i atal atgyfodiad y feirws, ond rhaid gweithio'n galed i gryfhau'r darian amddiffynnol hon."

  11. Caniatáu pêl-droed ond ddim rygbi?wedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ymhlith cyhoeddiadau'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw, daeth cadarnhad bod pobl yn cael ymgynull ar gyfer rhai sesiynau chwaraeon yn yr awyr agored o ddydd Llun ymlaen.

    Bydd hyn yn cynnwys pethau fel dosbarthiadau ffitrwydd a dawns i ddigwydd.

    Ond mae WalesOnline wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai'r rheolau newydd olygu bod modd chwarae pêl-droed unwaith eto, ond ddim rygbi, dolen allanol.

    Dywedodd Mr Drakeford fod y canllawiau newydd yn caniatáu "chwaraeon cyswllt isel, felly mae pêl-droed yn iawn".

    "Mae sgrym rygbi yn beth gwahanol," meddai.

    "Bydd coronafeirws yn hapus iawn o weld pobl yn gwneud hynny, felly dydy hynny ddim yn rhan o beth 'dyn ni'n ailagor."

    Ychwanegodd y dylai pobl droi at gyrff rheoli'r chwaraeon unigol i weld yn union beth fydd yn cael ei ganiatáu ym mhob camp.

    sgrym rygbi
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae sgrymio'n broblem pan mae'n dod at ganiatáu rygbi eto, meddai Mark Drakeford

  12. Amserlen i ailagor Amgueddfeydd Cymruwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Amgueddfa Cymru

    Mae saith amgueddfa genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19.

    Mewn datganiad heddiw, dywedodd swyddogion sydd yn gyfrifol am yr amgueddfeydd y bydd tiroedd awyr-agored Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar agor am bedwar diwrnod yr wythnos (Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul) o 4 Awst.

    Bydd rhaid i’r tai hanesyddol a’r ardaloedd chwarae aros ar gau oherwydd y cyfyngiadau presennol, ac fe fydd angen i ymwelwyr archebu tocyn o flaen llaw.

    “Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, rydym hefyd yn bwriadu ailagor amgueddfeydd cenedlaethol eraill Cymru yn raddol. Bydd hyn yn digwydd mewn dau gam, a bydd yn dibynnu ar gyfraddau’r feirws dros yr wythnosau nesaf."

    Y bwriad yw ailagor Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod wythnos 24 Awst, ac fe fydd Amgueddfa Wlân Cymru, Big Pit ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ailagor o 1 Medi.

    Amgueddfa
  13. Rhybudd i gerddwyr 'beidio bod yn or-hyderus'wedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi atgoffa pobl i barhau i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol os ydyn nhw'n ymweld ag Eryri'r penwythnos yma.

    Dyma fydd y penwythnos cyntaf i ymwelwyr o bell allu dod i'r ardal ers codi'r cyfyngiadau 'aros yn lleol', gyda rhagolygon o dywydd braf dros y dyddiau nesaf hefyd yn debygol o ddenu pobl.

    "Mae coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad," meddai'r ditectif uwcharolygydd Gareth Evans.

    "Cofiwch bod ein timau achub mynydd i gyd yn wirfoddolwyr, ac oherwydd Covid-19, gall bod llai ohonynt gan fod llawer yn gweithio fel gweithwyr allweddol.

    "Dilynwch y rheolau, mwynhewch yr ardal yn saff, a pharchwch y cymunedau lleol."

    Ychwanegodd Chris Lloyd o Gymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru y dylai pobl wisgo'n briodol a chadw at lwybrau cyfarwydd er mwyn lleihau'r risg o orfod cael eu hachub.

    "Peidiwch â bod yn or-hyderus," meddai.

    "Mae'n bosib nad ydych chi wedi cerdded y bryniau ers rhai misoedd ac nad ydych chi mor ffit ag o'r blaen."

    cerddwyr yn eryriFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Dim angen 'rhuthro' i ailagor egwlysiwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Bydd eglwysi ac addoldai yn gallu ail-agor ar gyfer gwasanaethau o ddydd Sul nesaf, yn cynnwys cynnal bedyddiadau a Chymun Sanctaidd am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod cloi.

    Mae gan addoldai'r hawl i agor ar gyfer gweddïau preifat, priodasau ac angladdau yn barod.

    Mewn datganiad, dywedodd esgobion yr Eglwys yng Nghymru: “Mae ymagwedd bwyllog at ail-agor, sydd wedi’i seilio’n gadarn ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, yn hanfodol. Yr hyn a gyhoeddwyd yw rhoi caniatâd. Nid oes unrhyw ofyniad, gan Lywodraeth Cymru nac Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, i ail-agor ar hyn o bryd.

    “Er ein bod i gyd yn ymlawenhau y gallwn yn awr ddychwelyd i addoli yn ein heglwysi, rydym yn annog eglwysi lleol i beidio rhuthro i ail-agor. Dim ond os gallwch wneud hynny’n effeithlon ac yn ddiogel o fewn y canllawiau y dylech ystyried ail-agor. Dylid cyfateb eich trefniadau agor gyda’ch gallu i drin y mesurau diogelwch gofynnol."

    Ychwanegodd John Davies, Archesgob Cymru: “Mae hyn yn newyddion da hir-ddisgwyliedig a rydym yn ein groesawu ac mae’n arwydd ein bod ar ein ffordd i sicrhau adferiad o’r pandemig wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon nac yn ddifater. Mae’n rhaid i ni symud yn bwyllog ac yn ofalus a bydd addoliad yn wahanol i’r hyn yr ydym wedi arfer ag ef yn y gorffennol."

    EglwysFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Diffyg cofnodion cywir' yn broblem wrth olrhain gweithwyrwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford yn y gynhadledd ddyddiol i'r wasg nad oes bellach “bryder ynglŷn â throsglwyddiad cymunedol o coronafeirws mewn dwy ffatri fwyd yn y gogledd".

    Dywedodd Mr Drakeford fod y cyngor diweddaraf "wir yn awgrymu ein bod fwy na thebyg wedi mynd heibio'r amser mwyaf pryderus" o ran y sefyllfa yn ffatrïoedd Rowan Foods yn Wrecsam a 2 Sisters yn Llangefni.

    Roedd yn obeithiol y byddai diweddariad gan y tîm rheoli achosion yn ddiweddarach heddiw am achosion Rowan Foods yn "cadarnhau bod y mesurau yr oeddem yn edrych i'r cwmni eu gweithredu wedi'u gweithredu, ac y gall barhau i weithredu yn y ffordd newydd yma".

    Dywedodd y prif weinidog fod y profiad wedi dangos pwysigrwydd cadw cofnodion cywir ar gyfer olrhain "pan ydych chi'n gweithio gyda phoblogaeth sy'n aml yn dod o wledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig".

    "Rhai o'r bobl rydyn ni wedi cael trafferth fwyaf i gysylltu â nhw yw pobl lle nad yw enwau a chyfeiriadau wedi'u cofnodi'n iawn, lle mae sillafu enwau pobl yn niferus ac amrywiol, lle nad yw rhifau ffôn wedi'u cofnodi'n gywir," meddai.

    "Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu rhywbeth am fod yn barod i gyfathrebu mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.

    "Oherwydd i rai o'r gweithwyr yn Rowan Foods mae gallu gweld gwybodaeth yn eu hiaith eu hunain, eu hiaith frodorol, yn bwysig a byddwn yn fwy parod i wneud hynny'n gyflymach os byddwn yn wynebu achos tebyg yn y dyfodol."

    Rowan Foods
    Disgrifiad o’r llun,

    Safle Rowan Foods

  16. Dim un farwolaeth newydd Covid-19 wedi ei chofnodiwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw farwolaeth Covid-19 wedi eu cofnodi yn ystod y 24 awr ddiwethaf yn eu datganiad ystadegol dyddiol.

    Dyma'r ail dro'r wythnos hon i ddim un farwolaeth gael ei chofnodi.

    Roedd 10 achos newydd positif wedi eu cofnodi dros yr un cyfnod - gan ddod â'r cyfanswm i 15,939 achos drwy Gymru.

    Hyd yma mae 154,561 unigolyn wedi eu profi, gyda 2,632 prawf yn cael eu cynnal ddoe.

    1,540 yw nifer y marwolaethau Covid-19 sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru hyd yma.

  17. Ceidwadwyr: 'Bywoliaeth pobl yn y fantol'wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies wedi dweud bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru wedi bodloni chwech o'r 10 o ofynion oedd gan ei blaid.

    Ond ychwanegodd eu bod yn "siomedig gyda'r oedi diangen wrth weithredu rhai o'r newidiadau" gan gynnwys ailagor gwersylloedd, salonau harddwch, ac ymweliadau tai.

    "Rydyn ni hefyd yn siomedig nad oes eglurdeb ar orchuddio wynebau, llacio ar ymbellhau cymdeithasol, a gwersi a phrofion gyrru yng Ngymru," meddai.

    Ychwanegodd: "Os ydyn ni'n parhau i fod ar ôl [Llywodraeth y DU] bydd bywoliaethau pobl yn y fantol yn ddiangen."

    Paul Davies
  18. Achubwyr Gwylwyr y Glannau 'methu bod ym mhobman'wedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    RNLI

    Mae Gwylwyr y Glannau wedu rhybuddio pobl i gymryd gofal o gwmpas yr arfordir y penwythnos yma.

    Daw hynny gyda disgwyl y bydd llawer mwy o ymwelwyr yn heidio i draethau Cymru nawr bod y cyfyngiadau teithio wedi'u llacio.

    Dywedodd yr RNLI eu bod wedi achub bywydau yn Sir Benfro a Bro Morgannwg dros yr wythnosau diwethaf, gyda gwylwyr Abertawe hefyd yn cael eu galw i sawl digwyddiad difrifol.

    "Ond all ein achubwyr ddim bod ym mhobman yr haf yma," meddai Chris Cousens o'r mudiad.

    "Dyna pam 'dyn ni'n annog pawb i gymryd gofal arbennig o'u hunain a'u teuluoedd pryd bynnag maen nhw'n agos at neu yn y dŵr."

    achubwyrFfynhonnell y llun, RNLI
  19. Mygydau'n cynnig 'ychydig iawn o fudd os o gwbl'wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford wedi mynnu nad yw'r cyngor yng Nghymru ar wisgo mygydau yn gwrthddweud ei hun.

    Dywedodd bod angen "pwyso a mesur y risg", a bod Prif Swyddog Meddygol Cymru yn credu mai "ychydig iawn o fudd i iechyd cyhoeddus os o gwbl" sydd i orchuddio'r wyneb.

    "Fodd bynnag, rydyn ni'n parhau i edrych ar y dystioaleth," meddai.

    Ychwanegodd ei fod yn gobeithio dweud mwy am fygydau a thrafnidiaeth cyhoeddus ddydd Llun.

    "Ond dylai neb feddwl bod gwisgo mwgwd yn ffordd o osgoi cyfrifoldeb dros wneud yr holl bethau eraill, sy'n eich gwarchod chi rhag coronafeirws yn llawer gwell na fyddai mwgwd fyth yn gwneud," meddai.

    masgFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. TUC Cymru'n croesawu camau llacio cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Mae TUC Cymru wedi rhyddhau datganiad yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am lacio cyfyngiadau ar fusnesau dros y tair wythnos nesaf.

    Dywedodd y datganiad: "Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, sydd yn adleisio ein galwadau'n gynharach yr wythnos hon.

    "Mae gweithwyr lletygarwch yn pryderu am ddyfodol eu swyddi ac am ddiswyddiadau.

    "Bydd y cyhoeddiad heddiw'n darparu rhywfaint o sicrwydd i'r sector i osgoi mwy o ddiswyddiadau yn y dyfodol.

    "Raid i ddiogelwch gweithwyr fod yn flaenoriaeth. Ni ddylai unrhyw weithiwr fod mewn perygl er mwyn diogelu dyfodol busnes."

    Ychwanegodd y datganiad: "Rhad i bob busnes gyflawni asesiad risg Covid-19 penodol a rhoi camau diogelwch priodol mewn grym."