Crynodeb

  • Parciau chwarae a'r farchnad dai i gael ailagor cyn hir

  • Tafarndai, caffis a bwytai yn yr awyr agored, siopau trin gwallt a rhai symudol yn ailagor drwy apwyntiad o ddydd Llun

  • Tafarndai, caffis a bwytai i ailagor yn llawn a gweini dan do o 3 Awst

  • Disgwyl arwydd i'r diwydiant harddwch ehangach, gan gynnwys tatwyddion, i ddechrau paratoi i ailagor o 27 Gorffennaf

  1. 'Croeso' i ymwelwyr yn ôl i Gymruwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r prif weinidog wedi dweud ei fod yn "croesawu" yr ymwelwyr fydd yn dychwelyd i Gymru'r penwythnos yma am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod clo.

    Ond mae'n pwysleisio y dylai'r ymwelwyr hynny barchu eu cymunedau lleol a pharhau i ddilyn y canllawiau Covid-19.

    Dywedodd fod llawer o gymunedau sy'n dibynnu ar dwristiaeth wedi gweld colli'r ymwelwyr, ond hefyd ymhlith y rheiny sydd wedi "poeni fwyaf" am y feirws yn ymledu i'w hardal.

  2. 'Pryder' y cyhoedd am ddychwelyd i fannau cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford fod "pryder" ymysg y cyhoedd yng Nghymru "am ddychwelyd i lefydd lle roeddynt yn teimlo na fyddai eu hiechyd a'u lles yn derbyn gofal priodol".

    Pan ofynnwyd iddo os oedd peidio ailagor busnesau lletygarwch dan do tan 3 Awst yn peryglu miloedd o swyddi, dywedodd y dylai'r sector dreulio'r tair wythnos nesaf yn sicrhau fod camau priodol mewn lle i sicrhau fod y newidiadau'n llwyddo.

    "Rwyf yn sicr y byddant yn canolbwyntio ar yr hyn mae modd iddynt ei wneud, yn hytrach na chanolbwyntio ar y pethau nad oes modd iddynt ei wneud.

    "Drwy wneud hynny, fe fydd dyfodol disglair o'u blaenau."

  3. Tafarndai a bwytai 'wedi cael digon o amser i baratoi'wedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn pwysleisio bod tafarndai wedi cael y canllawiau sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer ailagor y tu allan o ddydd Llun.

    Wrth ymateb i gwestiwn yn holi a oedden nhw wedi cael digon o gyngor, dywedodd y prif weinidog fod y sector "wedi cael wythnosau i baratoi i ailagor tu allan, nid tridiau".

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau penodol, ond bod hyn eisoes wedi'i drafod gyda'r sector.

    "Mae unrhyw awgrym nad yw'r sector yn gwybod beth sydd angen ei wneud ddim yn dal dŵr," meddai.

  4. 'Mwy o risg' wrth ailagor busnesau lletygarwch dan dowedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd modd i dafarndai, caffis a bwytai ailagor eu drysau a chynnig gwasanaeth llawn dan do o 3 Awst os bydd nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau i ostwng meddai Mark Drakeford.

    "Mae tair wythnos gan y sector i baratoi ar gyfer ailagor tu fewn a dros y tair wythnos nesaf dwi eisiau gweld y diwydiant yn paratoi, ac...i wneud hynny mewn ffordd sydd yn dangos i ni fod nhw'n gallu gwneud hyn mewn ffordd llwyddiannus a saff hefyd."

    Pwysleisiodd fod "mwy o risg os 'dych chi'n agor tu fewn", ac felly bod angen i fusnesau ddechrau'r paratoadau nawr.

  5. Llacio'r rheol 2m 'i rai busnesau'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd y rheol dau fetr yn parhau i fod mewn lle yng Nghymru ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

    Ond fe fydd y rheol yn cael ei llacio rywfaint ar gyfer rhai busnesau, fel siopau trin gwallt, ble nad oes modd cadw'r pellter hwnnw.

    Dan yr amgylchiadau hynny bydd gofyn am fesurau ychwanegol, gan gynnwys gwisgo masgiau, er mwyn amddiffyn rhag y feirws.

  6. Busnesau harddwch yn cael dechrau paratoiwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn cadarnhau y bydd meysydd chwarae, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored yn gallu ailagor yn raddol o 20 Gorffennaf.

    Mae hefyd yn dweud y gall y busnesau canlynol ddechrau paratoi i ailagor o 27 Gorffennaf ymlaen os yw'r feirws yn parhau dan reolaeth:

    • Busnesau harddwch eraill gan gynnwys salonau trin ewinedd a pharlyrau harddu, salonau lliw haul, tylino, tyllu’r corff, tatŵs, electrolysis neu aciwbigo;
    • Sinemâu dan do, amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau;
    • Llety twristiaeth â chyfleusterau sy'n cael eu rhannu, fel safleoedd gwersylla (o 25 Gorffennaf);
    • Ailagor y farchnad dai yn llawn.

    Os yw hynny i gyd yn mynd yn iawn, meddai, bydd tafarndai a bwytai hefyd yn cael ailagor dan do o 3 Awst.

  7. Beth sy'n cael ailagor ddydd Llun?wedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r prif weinidog yn cadarnhau y bydd y busnesau canlynol yn gallu agor o ddydd Llun ymlaen, os ydyn nhw'n dilyn y canllawiau ar ddiogelu rhag coronafeirws:

    • Salonau trin gwallt a barbwyr, gan gynnwys trinwyr gwallt symudol;
    • Tafarndai, bwytai a chaffis awyr agored;
    • Sinemâu awyr agored;
    • Atyniadau i ymwelwyr dan do (ag eithrio rhai atyniadau tanddaearol);
    • Mannau addoli.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud newidiadau i’r rheoliadau i ganiatáu ymgynulliadau mwy o hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored, os ydyn nhw'n cael eu rheoli a’u goruchwylio gan unigolyn sy’n gyfrifol am chwaraeon, gweithgareddau hamdden eraill a dosbarthiadau.

    Bydd hyn yn caniatáu cynnal chwaraeon a gweithgareddau hamdden, megis dosbarthiadau ffitrwydd a dawnsio, yn yr awyr agored, yn ogystal â chydaddoli.

    MD
  8. 'Y bygythiad ddim wedi mynd'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mark Drakeford yn dweud fod Cymru dal yn "gwneud cynnydd da wrth atal y feirws rhag lledaenu".

    Dywedodd bod cau'r ysgolion ar gyfer y gwyliau haf ymhen ychydig wythnosau yn golygu bod "mwy o le" i ailagor sectorau eraill.

    "Mae oherwydd yr ymdrechion rydyn ni wedi eu gwneud gyda’n gilydd ein bod yn gallu codi’r cyfyngiadau ac ailagor rhagor o’n cymdeithas a’n heconomi," meddai.

    "Fodd bynnag, dyw bygythiad coronafeirws ddim wedi mynd, a dim ond os ydyn ni i gyd yn ymddwyn mewn modd cyfrifol y byddwn ni’n gallu diogelu Cymru.

    "Mae hyn yn golygu parhau i gadw pellter cymdeithasol a meddwl yn ofalus am lle rydyn ni’n mynd a pham."

  9. Y gynhadledd ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gynhadledd gyda Mark Drakeford ar fin dechrau - gallwch ddilyn y cyfan fan hyn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Theatr y Sherman ar gau tan 2021wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i fod ar gau tan dymor y gwanwyn 2021, yn sgil y pandemig coronafeirws.

    Mewn datganiad, dywedodd y theatr: "Mewn ymdrech i sicrhau goroesiad a chynaliadwyedd y theatr yn yr hir dymor, ac yn sgîl y sefyllfa a achoswyd gan argyfwng Cofid 19, mae Theatr y Sherman wedi gwneud y penderfyniad anodd i barhau i fod ar gau tan y Gwanwyn, 2021.

    "Mae’r rhan fwyaf o’r perfformiadau a oedd wedi eu trefnu ar gyfer Hydref 2020 wedi eu aildrefnu ar gyfer 2021, gan gynnwys cynyrchiadau Nadolig y Sherman, A Christmas Carol ac Y Coblynnod a’r Crydd/The Elves and the Shoemaker, cynhyrchiad o addasiad Brad Birch o An Enemy of the People a’r cynhyrchiad cyntaf erioed o The Merthyr Stigmatist gan Lisa Parry mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatre Uncut.

    "Bydd Theatr y Sherman mewn cysylltiad gyda phawb oedd wedi archebu tocynnau ar gyfer Hydref 2020 yn fuan iawn.

    Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, “Mae hi wedi bod yn dri mis ers i ni allu croesawu cynulleidfaoedd i’r Sherman.

    "Mae’n benderfyniad torcalonnus i orfod ymestyn ein cyfnod o fod ar gau tan 2021. Ond mae’r sefyllfa rydym yn ei hwynebu yn real ac yn ddirfodol. Drwy gadw’r adeilad ar gau rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau goroesiad y Sherman a’r sector theatr Gymreig: y gobaith yw fod gwneud penderfyniadau anodd nawr yn golygu y gallwn osgoi gwneud rhai anoddach yn y dyfodol."

    theatr sherman
  11. Covid-19 'yn debygol o ledaenu' yn y gampfawedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    LBC

    Mae Mr Drakeford eisoes wedi rhybuddio fodd bynnag fod angen cymryd gofal mawr cyn ailagor campfeydd gan fod tystiolaeth yn dangos eu bod nhw'n llefydd ble mae coronafeirws "yn debygol iawn o leadenu".

    Bydd campfeydd yn yr awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun, a dywedodd y prif weinidog y bydd y llywodraeth yn treulio'r dair wythnos nesaf yn "trafod gyda pherchnogion campfeydd dan do i weld sut allen nhw ailagor yn saff".

    "Mewn campfa mae'r math o beth 'dych chi'n ei wneud yn golygu'ch bod chi'n anadlu'n drwm, ac rydyn ni wedi gweld mewn rhannau eraill o'r byd [fod Covid-19 yn ymledu yn y fath sefyllfa]," meddai wrth LBC radio.

    "Dyna pam fod awyrgylch swnllyd yn beryglus ar gyfer coronafeirws, achos dyna pryd mae pobl yn dechrau gweiddi ac mae eu hanadl nhw'n mynd yn bellach."

    campfaFfynhonnell y llun, Jack Cardy
  12. Mwy o fanylion gan Drakeford yn y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ymhen rhyw dri chwarter awr bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn siarad yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru i amlinellu camau nesaf llacio'r cyfnod clo.

    Rydyn ni eisoes yn gwybod am rai o'r pethau y mae disgwyl iddo gyhoeddi - ond fydd 'na ambell syrpreis arall i fyny ei lawes?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Angen i staff iechyd benywaidd gael PPE sy'n ffitio'n well'wedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Plaid Cymru

    Mae Aelod o'r Senedd Rhondda, Leanne Wood wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau offer diogelwch i staff iechyd sydd yn ffitio merched yn benodol.

    Dywedodd bod y rhan fwyaf o'r offer yn rhai cyffredinol, ond bod arolwg wedi awgrymu bod dros hanner y menywod sy'n gorfod defnyddio PPE yn dweud ei fod yn amharu ar eu gwaith weithiau.

    Ychwanegodd bod cael offer sy'n ffitio'n iawn yn hollbwysig o ystyried bod y rhan fwyaf o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn fenywod, a bod dau draean o'r rheiny sydd wedi dal Covid-19 yn ferched.

    Ond dywedodd bod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething eisoes wedi ysgrifennu ati yn dweud bod "y diwydiant yn ystyried nad yw hi'n angenrheidiol cynhyrchu PPE sy'n benodol ar sail rhyw oherwydd yr ystod eang o feintiau sydd ar gael".

  14. Gyrru adref o Rwsia drwy'r pandemigwedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    O'r Sgwâr Coch yn Moscow i gamlesi Amsterdam mae Gareth Davies wedi cael cyfle unigryw i weld rhai o ddinasoedd a threfi Ewrop yn wag o dwristiaid a chysgu dan y sêr ar ei daith epig adref i Gymru o Rwsia.

    Ar ôl bron i ddwy flynedd yn gweithio fel athro a phrifathro yn Moscow mae wedi gyrru drwy ogledd Ewrop ynghanol pandemig Covid-19 i ddod adref at ei wraig a'u hefeilliaid chwe mis oed ym Mlaenau Ffestiniog.

    Roedd ei wraig Sara, oedd hefyd yn dysgu yn Moscow, eisoes wedi dod adref ar ddiwedd 2019 er mwyn geni eu meibion, Gryffudd a Morgan.

    GarethFfynhonnell y llun, Gareth Davies/Chris Hebbron
  15. Cyngor Torfaen 'wedi colli £1.5m mewn tri mis'wedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Cyngor Torfaen

    Mae Cyngor Torfaen yn dweud eu bod nhw'n wynebu colledion o dros £1.5m yn ystod tri mis cyntaf y pandemig.

    Dywedodd yr adroddiad cabinet fod y colledion rhwng Ebrill a Mehefin eleni o ganlyniad i sawl ffactor, gan gynnwys costau cynyddol prydau ysgol am ddim, cartrefi gofal, a gofal cymdeithasol.

    Roedd disgwyl i'r cyngor hefyd golli incwm sylweddol o safleoedd diwydiannol a masnachol.

    Ond dywedodd yr adroddiad bod hynny wedi bod yn llai na'r disgwyl oherwydd pecynnau cymorth i fusnesau.

    cyngor torfaen
  16. Uned gofal dwys 'wedi dod yn agos iawn at y dibyn'wedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Mae'r meddyg oedd yn gyfrifol am uned gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn dweud eu bod wedi dod yn "agos iawn at y dibyn" ar un adeg yn ystod y pandemig.

    Dr David Hepburn oedd un o'r gweithwyr iechyd cyntaf yng Nghymru i gael ei daro'n wael gyda Covid-19.

    Yn yr wythnosau yn dilyn ym mis Mawrth, fe welodd yr uned gofal dwys yr oedd e'n gyfrifol amdani don o gleifion yn ddifrifol wael, wrth i'r coronafeirws daro de-ddwyrain Cymru yn gynnar ac yn galed.

    Mae Dr Hepburn wedi bod yn sôn am ei brofiadau yn ystod cyfnod y coronafeirws.

    david hepburn
  17. 'Cyfrifoldeb busnesau unigol' i ddod o hyd i gyngor ar ailagorwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Mark Drakeford wedi dweud bod "llwyth o wybodaeth mas yna", mewn ymateb i feirniadaeth bod Llywodraeth Cymru heb gynnig digon o gyngor i fusnesau ar sut i ailagor yn saff.

    Dywedodd y prif weinidog fod "rhywfaint o gyfrifoldeb ar fusnesau unigol sydd am ailagor i sortio'r wybodaeth yna mas dros eu hunain".

    "Mae'r Cyngor Trin Gwallt wedi cyhoeddi canllawiau manwl i fusnesau trin gwallt ar sut i ailagor yn saff," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.

    "Rydyn ni wedi gweithio'n galed gyda'r diwydiant lletygarwch yma yng Nghymru."

    trin gwalltFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Clybiau ffermwyr ifanc 'yn wynebu colledion o £140,000'wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru wedi dweud y gallen nhw fod yn wynebu colledion o hyd at £140,000 eleni oherwydd effaith Covid-19.

    Dywedodd naw o'r 10 ffederasiwn wnaeth ymateb i gais rhalgen Post Cyntaf BBC Radio Cymru eu bod yn disgwyl gwneud colledion eleni.

    Ychwanegodd cadeirydd pwyllgor un o siroedd y mudiad fod y dyfodol yn "fregus ofnadwy" ac y dylai Llywodraeth Cymru roi cymorth ariannol.

    Mae'r gweinidog materion gwledig wedi dweud y bydd y llywodraeth yn trafod gyda'r ffermwyr ifanc.

    Criw Clwb Llanwenog, Ceredigion yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2019Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae nifer o sioeau ac eisteddfodau'r ffermwyr ifanc wedi'u canslo eleni

  19. Dim angen i deithwyr fynd i gwarantinwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Mae Golwg360 yn adrodd na fydd angen i deithwyr sydd yn dychwelyd i, neu'n ymweld â'r DU o wledydd penodol fynd i gwarantin am bythefnos o heddiw ymlaen.

    Mae 73 o wledydd ar y rhestr, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau ddoe fod yr un rheolau'n berthnasol i Gymru bellach, os yw teithwyr yn cyrraedd yma o dramor.

    Mae hyn yn golygu nad oes angen i bobl sydd yn dychwelyd o wledydd fel Ffrainc, Yr Eidal a Groeg orfod hunanynysu ar ôl dod adref.

    Roedd y rheolau mewn grym yn Lloegr ers tro, ac mae'n caniatáu i deithwyr beidio treulio cyfnod dan gwarantin os yn dod o un o'r 73 gwlad dan sylw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Ganllath o gopa'r mynydd...wedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Fydd na ddim tŷ bach ar agor i chi, os am fentro i gopa'r Wyddfa yr haf hwn.

    Dyma gyngor amserol felly i gerddwyr sydd am gerdded yno yn y misoedd i ddod:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter