Busnesau twristiaeth yn paratoi i 'ailagor yn saff'wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 10 Gorffennaf 2020
Wrth i'r sector dwristiaeth ailagor ymhellach ddydd Sadwrn - gyda llety gwyliau yn croesawu ymwelwyr eto - y neges i bobl sy'n aros yng Nghymru yw gwneud hynny'n ddiogel a rhoi ystyriaeth i gymunedau lleol.
Wrth i westai, bythynnod gwyliau a pharciau carafanau ddechrau prysuro fe fydd poblogaeth sawl rhan o Gymru yn cynyddu'n sylweddol.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi annog pobl sy'n ymweld â chefn gwlad, traethau ac ardaloedd o harddwch naturiol i wneud hynny'n ddiogel.
Yn y canolbarth mae darparwyr llety yn ceisio taro cydbwysedd gofalus rhwng ailgychwyn eu busnesau a denu pobl i mewn, tra'n amddiffyn ardal sydd wedi cael lefel isel o achosion Covid-19.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 302 o achosion wedi'u cadarnhau ym Mhowys, a dim ond 59 yng Ngheredigion.