Crynodeb

  • Terwyn Tomos o Landudoch yn ennill Y Stôl Farddoniaeth

  • Llyfr y Flwyddyn - Elidir Jones yn ennill y categori plant a phobl ifanc ac Ifan Morgan Jones yn ennill y categori ffuglen

  • Llywydd y Dydd, Toda Ogunbanwo, yn dweud bod hiliaeth yn dal i fodoli yng Nghymru

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    A dyna ni ar ddydd Gwener yr Ŵyl AmGen lle dywedodd llywydd y dydd, Toda Ogunbanwo, fod hiliaeth yn dal i fodoli yng Nghymru a bod dioddefwyr ddim yn siarad digon am eu profiadau

    • Terwyn Tomos o Landudoch oedd enillydd y Stôl Farddoniaeth;

    • Elidir Jones oedd enillydd categori plant a phobl ifanc Llyfr y Flwyddyn;

    • Ifan Morgan Jones am ei nofel 'Babel' oedd enillydd y categori ffuglen.

    Bydd gweddill straeon newyddion y dydd ar wefan Cymru Fyw a bydd ein llif byw yn ôl bore fory ar gyfer digwyddiadau dydd Sadwrn Gŵyl AmGen.

    Diolch am ddarllen. Tan bore fory - hwyl fawr.

    Gwyl AmGen
  2. Gig Bryn Bach, yn arbennig i'r Ŵyl AmGenwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    YouTube

    Heno bydd Bryn Fôn yn perfformio mewn cyngerdd arbennig ar Radio Cymru, gyda'i fand Bryn Bach. Dyma Bryn Fôn a Ffion Emyr yn perfformio 'Yr Un Hen Gwestiynau'.

    Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    I osgoi fideo youtube

    Caniatáu cynnwys YouTube?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    Diwedd fideo youtube
  3. Roedd Eisteddfod 1920 yn Y Barri yn fuan wedi'r Rhyfel Mawrwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Faint oedd yn wahanol 100 mlynedd yn ôl a beth fyddai eisteddfodwyr 1920 wedi ei feddwl o ddigwyddiadau 2020 a'r Brifwyl wedi ei chanslo oherwydd pandemig dros y byd?

    Mae archif ffilm British Pathé yn dangos yr Archdderwydd Dyfed yn arwain seremoni agor Eisteddfod Genedlaethol 1920 oedd yn cael ei chynnal yn Y Barri.

    Ar wahân i rai o'r gwisgoedd traddodiadol a'r hetiau - ac ambell fwstash go nobl - does dim gymaint â hynny wedi newid o ran y seremoni ei hun.

    Tu hwnt i faes yr Eisteddfod, yn 1920 roedd y genedl yn dal i ddod dros colli rhwng 35,000 a 40,000 o ddynion ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd na ddirwasgiad ar y gorwel.

    Yn ei gyfrol ar y Brifwyl dywed y Prifardd Alan Llwyd: "Yng nghystadleuaeth y Goron yn Y Barri ym 1920 'roedd y testun, 'Trannoeth y Drin', yn gwahodd ymdrinaeth â'r Rhyfel a'i effaith, a chyfeiriodd yr enillydd James Evans at y meirw aflonydd,"

    Disgrifiad,

    Lluniau Pathé o seremoni agor yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Barri yn 1920 (does dim sain)

  4. Yn ail ac yn drydydd yn y gystadleuaeth ...wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Yn ail yng nghystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth roedd Morgan Owen o Ferthyr

    ac yn gydradd drydydd roedd Elan Grug Muse o Garmel, Caernarfon a Llŷr Gwyn Lewis.

    Yn fuddugol Pererin sef Terwyn Tomos o Landudoch.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Terwyn Tomos yw enillydd y Stôl Farddoniaethwedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Terwyn Tomos yw enillydd Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth – darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.

    Mae ei gywydd yn trafod ei filltir sgwâr a’i gymuned yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi yr hyn sydd o dan ei drwyn.

    Mae Terwyn yn gyn-athro sy’n dod o Blwyf Clydau ac wedi ymgartrefu yn Llandudoch.

    Mae’n fardd a ddechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau tua 15 mlynedd yn ôl ac wedi ennill 23 o gadeiriau, gan gynnwys cadeiriau Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

    Mae e hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa yn 2016 a 2018.

    Yr Archdderwydd a’r Prifardd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood – Prif lenor a Phrifardd - oedd yn feirniaid.

    Meddai Myrddin ap Dafydd: “Dyfnder y filltir sgwâr yw gweledigaeth y gerdd fuddugol gan Pererin.

    “Mae’n mynegi canfyddiad llawer mewn awdl fer. Mae rhyddid ar lwybrau’r cwm; mae heddiw’n ymestyniad o orffennol hardd; mae pobl yn gymuned. Mae’n lleol a chenedlaethol yr un pryd ac yn deilwng o’r Stôl Farddoniaeth.”

    Disgrifiad,

    Llongyfarchiadau i Terwyn Tomos - Enillydd Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth

  6. Y stolion wedi cael eu gwneud 'o unrhyw beth oedd wrth law'wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Cafodd y stolion eu creu gan Brif Dechnegydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Tony Thomas yn eu storfa yn Llanybydder.

    "Mae Tony'n hen law ar ailgylchu ac wedi defnyddio beth bynnag oedd wrth law yn y storfa i greu'r stolion," meddai Robyn Tomos, Swyddog Celf Gweledol yr Eisteddfod.

    "Mae'n ailgylchu bob cyfle - mae'n gas ganddo daflu unrhyw beth ac mae'n gallu gweld defnydd ym mhob peth y byddai eraill ei luchio.

    "Mae'n dal i ddefnyddio rhannau o'r hen bafiliwn Celf a Chrefft godwyd yng Nghasnewydd yn 1988. Mae'n ddyfeisgar ac yn ddychmygus iawn."

    Tlysau Gwyl AmgenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  7. Cipio'r dwbwl ddwywaith!wedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Mewn sgwrs ar Radio Cymru, y Prifardd Alan Llwyd, un sydd wedi ennill y gadair a'r goron ddwywaith yn dweud bod ganddo fwy o feddwl o'i waith wedi'r cyfnod pan oedd yn cystadlu.

    "Cyngor y llenor John Gwilym Jones iddo," meddai, "oedd ennill yn ifanc ac wedyn bwrw ymlaen â'i waith mewn bardd."

    Mae'r Prifardd Donald Evans yn dweud nad yw'n gallu credu ei fod wedi ennill y gadair a'r goron ddwywaith.

  8. 34 wedi ceisio am y Stôl Farddoniaethwedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae Gŵyl AmGen yn cynnig stôl am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith, ac i anrhydeddu dysgwr Cymraeg.

    Cyhoeddwyd manylion y cystadlaethau llenyddol ddechrau Mehefin ac roedd angen cyflwyno ceisiadau cyn 6 Gorffennaf.

    Roedd gofyn i'r ymgeiswyr ar gyfer y Stôl Farddoniaeth greu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.

    Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood yw'r beirniaid, ac roedd yna 34 o geisiadau.

    Stol FarddoniaethFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  9. Cyfansoddiadau Eisteddfod Tregaron dan glowedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ddiwedd Mawrth dywedodd swyddogion eu bod wedi penderfynu casglu pob cyfansoddiad a ddaeth i law ynghyd a'u cadw dan glo am flwyddyn cyn eu hanfon at y beirniaid ym mis Ebrill 2021.

    "Ni fyddai'n deg i ni dderbyn rhagor o geisiadau ar ôl y dyddiad cau, gan fod pawb sydd eisoes wedi cystadlu wedi cadw at y terfyn amser gwreiddiol.

    "Yr un yw'r drefn gyda'r cystadlaethau yn yr adran Celfyddydau Gweledol," medd llefarydd.

    Y tro diwethaf i'r brifwyl gael ei gohirio oedd yn 1914.

    Roedd y cyhoeddiad wedi dod ar y munud olaf ddyddiau ar ôl i Brydain fynd i ryfel ar 4 Awst - roedd yr eisteddfod fod i gael ei chynnal ddechrau Medi.

    T H Parry-Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Enw T H Parry-Williams a gadwyd yn gyfrinach mewn banc ym Mangor fel enillydd y Goron a'r Gadair yn 1914/1915

  10. Cyn-olygydd Radio Cymru hefyd yn adroddwraigwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    A phwy sy'n adnabod hon?

    Mae hi wedi darllen llawer eleni gan ei fod yn feirniad Llyfr y Flwyddyn a nos Fercher bu'n cyflwyno Pawb a'i Farn.

    Dyma Betsan Powys yn adrodd yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw yn 1980.

  11. Diwedd Bron Meirionwedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Cymru

    Hwyl fawr i ddramatics Bron Meirion 👋

    Gwrandewch ar bennod olaf o'r opera sebon Bron Meirion gan Tudur Owen a'r criw.

    bron meirion
  12. 'Urddo yn y ffordd draddodiadol ac urddasol yn 2021'wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ganol yr wythnos fe wnaeth yr Orsedd gyhoeddi enwau'r bobl oedd i fod i gael eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

    Dywedodd llefarydd ar ran Gorsedd y Beirdd y bydd y seremoni urddo'n cael ei chynnal ar faes y brifwyl yn Nhregaron yn 2021.

    "Y bwriad yw sicrhau ein bod yn gallu cyd-ddathlu eu llwyddiant a'u hanrhydedd ac edrych ymlaen at gyfnod pan allwn ddod ynghyd yn ddiogel er mwyn eu hurddo yn y ffordd draddodiadol ac urddasol y flwyddyn nesaf," meddai.

    Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maent yn cael eu rhannu i dair categori:

    • Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau
    • Y Wisg Las i rai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl
    • Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig
    Gorsedd 2021
  13. Yn feirniad heddiw ond yn 1978 roedd hi'n adroddwraig o friwedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Ry'n ni eisoes wedi gweld Tudur Dylan Jones yn adrodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978 ond roedd y ferch yma hefyd yn adroddwraig o fri.

    Ydych chi'n ei hadnabod hi?

    Wel neb llai na Mererid Hopwood - yn 2001 fe enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Dinbych gan fod y ferch gyntaf i wneud hynny.

    Yn 2003 ym Meifod enillodd y goron ac yn 2008 yng Nghaerdydd enillodd y fedal ryddiaith.

  14. Digon o weithgareddau - fel bod yn yr Eisteddfod!wedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Yr Ŵyl AmGen ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw yn ystod y penwythnos ond mae 'na lu o ddigwyddiadau hefyd yn yr Eisteddfod AmGen gydol yr wythnos.

    Y manylion yma, dolen allanol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Adnabod y prifardd yma a oedd yn cystadlu yn 1978?wedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Pwy yw hwn tybed?

    Fe oedd yn beirniadu gwaith brodyr Parc Nest yn gynharach heddiw.

    Ac mae ef ei hun yn perthyn i'r un llinach.

    Ie Tudur Dylan Jones sy'n adrodd darn o'r Ysgrythur yng Nghaerdydd yn 1978.

    Enillodd y gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad y Prifardd John Gwilym yn archedderwydd.

    Roedd yna gadair arall iddo yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 a Choron yn Eisteddfod Sir Fflint yn 2007.

  16. Cyfraniadau pwysig i'r drafodaeth gyhoeddus am hunaniaeth, hil, Cymreictod a chymdeithas'wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    BBC Radio Cymru

    Dywed Rhuanedd Richards, golygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw, bod y tri llywydd wedi eu dewis "fel rhan o'r ymrwymiad i ehangu'r cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig.

    Bydd eu hanerchiadau, meddai, yn "gyfraniadau pwysig i'r drafodaeth gyhoeddus am hunaniaeth, hil, Cymreictod a chymdeithas."

    Ychwanegodd: "Mi fydd yr ŵyl hon yn ddathliad o gyfoeth ac amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru heddiw.

    "Ydi, mae hynny'n ddatganiad bwriadol ar ein rhan ni, a'n hawydd i roi llwyfan mwy blaenllaw i siaradwyr Cymraeg o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig."

    Rhuanedd Richards
    Disgrifiad o’r llun,

    Mi fydd yr ŵyl hon yn ddathliad o gyfoeth ac amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru heddiw," medd Rhuanedd Richards

  17. Josh Nadimi, sy'n llawfeddyg, yw llywydd dydd Sulwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Josh Nadimi sy'n 28 oed ac yn llawfeddyg yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd sydd wedi ei ddewis i fod yn llywydd dydd Sul.

    Daw Josh yn wreiddiol o Lantrisant. Aeth i'r ysgol gynradd Gymraeg yno ac yna Ysgol Gyfun Llanhari.

    Ar ôl graddio mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl bu'n ymarfer meddygaeth yng ngogledd orllewin Lloegr am dair blynedd cyn dod nôl i Gymru i ddechrau hyfforddiant fel llawfeddyg.

    Mae'n arbenigo mewn trawma ac orthopedeg ac wedi ei benodi yn Trauma Fellow yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd.

    Peiriannydd electroneg sy'n wreiddiol o Iran yw ei dad ac mae ei fam yn enedigol o Geredigion ac yn athrawes.

    Ateb y Galw: Llywydd Gŵyl AmGen, Josh Nadimi

    Josh Nadimi
  18. Sioe Tudurwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Cofiwch bod Tudur Owen yn darlledu yn fyw heddiw ar Radio Cymru...ac bydd yn dod ag ysbryd yr Eisteddfod yn fyw ar donnau'r radio.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'Mae'r Cardis wedi bod yn hael iawn'wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Un sy'n bendant yn falch o weld llwyddiant pwyllgorau apêl Eisteddfod Tregaron ydy Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer yr ŵyl, Llywydd y Senedd Elin Jones.

    "Mae'r Cardis wedi bod yn hael iawn, wedi bod yn codi arian yn brysur ac yn hwyliog ers y cyhoeddiad bod yr Eisteddfod yn dod i Geredigion," meddai.

    "Wedi cwrdd â'r targed cyntaf o £300,000 yn gymharol hawdd ac wedi gosod ail darged i'n hunain o £400,000 a chyn y cyfnod Covid fe godwyd yr arian hynny hefyd ac mae mwy i ddod mewn eto wrth i ni werthu'r nwyddau sy'n weddill.

    "Mae'r Cardis wedi cael hwyl arni yn codi'r arian, a thrueni wrth gwrs nad yw'r Eisteddfod yn digwydd eleni ar gaeau Tregaron, ond gyda gobaith y bydd yr Eisteddfod yn digwydd y flwyddyn nesa fe fydd y Cardis yn mynd ati eto i baratoi ar gyfer hynny yn 2021."

    Elin Jones