Crynodeb

  • Terwyn Tomos o Landudoch yn ennill Y Stôl Farddoniaeth

  • Llyfr y Flwyddyn - Elidir Jones yn ennill y categori plant a phobl ifanc ac Ifan Morgan Jones yn ennill y categori ffuglen

  • Llywydd y Dydd, Toda Ogunbanwo, yn dweud bod hiliaeth yn dal i fodoli yng Nghymru

  1. Seren Jones yw llywydd ddydd Sadwrnwedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Seren Jones yw llywydd dydd Sadwrn.

    Un o Gaerdydd yw Seren ac mae'n ohebydd, cyflwynydd a chynhyrchydd yn Uned Podlediadau Newyddion y BBC yn Llundain.

    Mae Seren hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr The BSA (The Black Swimmers Association) - elusen a sefydlwyd i dynnu sylw at bwysigrwydd nofio fel sgil achub bywyd hanfodol, ac annog mwy o bobl mewn cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i ddysgu sut i nofio.

    Seren Jones
  2. 'Hoffwn i weld y diwrnod lle geith unrhyw leiafrif symud i ogledd Cymru'wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Yn ôl Toda, sydd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain, addysg yw'r man cychwyn a dysgu am hanes ein gwlad, y da a'r drwg.

    "Mae canran fawr o boblogaeth Cymru a Phrydain yn teimlo fel bod nhw yn cael esgusodi eu hunain o'r hanes yma achos doedd yna ddim llawer o gaethweision ar dir Prydain yn gorfforol," meddai yn ei araith.

    "Ond pe byddai plant yn cael gwybod am hanes pobl ddu, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwneud campau fel Colin Jackson ac Abdulrahim Abby Farah, mae'n hyderus y byddant yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio iaith hiliol," meddai.

    Mae'n gorffen drwy ddweud: "Hoffwn i weld y diwrnod lle geith unrhyw leiafrif symud i ogledd Cymru a theimlo y ca'n nhw groeso a chefnogaeth yma."

    Disgrifiad,

    Araith Llywydd dydd Gwener Gŵyl AmGen, Toda Ogunbanwo

  3. 'Dioddefwyr hiliaeth ddim yn siarad allan digon'wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Dyw hi ddim yn wir i ddweud bod profiadau [o hiliaeth] ddim yn digwydd yng Nghymru meddai.

    Ond am nad ydy'r rhai sydd wedi profi'r peth yn siarad dyna yw'r argraff sy'n cael ei roi meddai Toda, wnaeth symud i Benygroes o Harlow yn Essex pan oedd yn saith oed.

    "Mae'n hawdd dweud bod y petha yma ddim yn bodoli yng Nghymru.

    "Ond y rheswm am hynny yw dydi dioddefwyr hiliaeth ddim yn siarad allan ddigon."

    Ychydig wythnosau yn ôl roedd y teulu yn y penawdau newyddion ar ôl i graffiti swastika gael ei beintio ar ddrws garej eu tŷ.

    Mae'n dweud iddo sylweddoli wedi'r weithred symbolaeth y peth.

    Teulu Toda
    Disgrifiad o’r llun,

    Ychydig wythnosau yn ôl cafodd graffiti swastika ei baentio ar ddrws garej tŷ teulu Toda

  4. 'Dwi wedi profi hiliaeth fy hun,' medd Llywydd y Dyddwedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Yn ei neges mae Todo Ogunbanwo yn dweud bod hiliaeth yn dal i fodoli yng Nghymru a dyw dioddefwyr ddim yn siarad digon am eu profiadau.

    Dyw rhai "ddim yn cofio, neu heb sylwi" bod eu gweithredoedd neu eu geiriau yn hiliol.

    "Dwi wedi cael plant yn poeri yn fy nŵr heb i mi wybod, dwi wedi cael plant yn llechio yogurt arna fi - a hynny heb fawr o ymateb gan yr athrawon.

    "Ma' cwffio a sefyll i fyny dros dy hun yn mynd yn anoddach pan wyt ti yn un person gwahanol mewn 500," ychwanegodd.

  5. Toda Ogunbanwo yw llywydd Dydd Gwenerwedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Llywydd dydd Gwener yw Toda Ogunbanwo o Benygroes yng Ngwynedd.

    Symudodd ei deulu yno i fyw o Harlow yn Essex pan oedd Toda yn saith mlwydd oed.

    Mae bellach yn 20 oed ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain ac yn gobeithio bod yn hyfforddwr chwaraeon.

    Yn ddiweddar, daeth cymuned Penygroes at ei gilydd i gefnogi teulu Toda wedi i graffiti hiliol gael ei ysgrifennu ar ddrws garej eu tŷ yn y pentref.

    Mae ei fam, Maggie, yn gogyddes sy'n adnabyddus yn yr ardal.

    Ddydd Sul diwethaf hi oedd yn cyflwyno oedfa Radio Cymru.

    Toda Ogunbanwo
  6. 'Does dim cae, does dim ciwio'wedi ei gyhoeddi 08:53 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ceri Wyn Jones yw awdur y cywydd croeso:

    Dewch, oll, drwy eich radio chi

    ac ar-lein, yn griw ‘leni:

    does dim cae, does dim ciwio,

    na glaw; does dim drws ar glo

    na cham, dim ond cerdd a chân

    ar gyfer Cymru gyfan.

    Sbort Awst a sbri artistig

    a gewch fesul sgwrs a gig

    wrth i sêr yr iaith â’i sîn,

    ar adeg anghyffredin,

    greu gŵyl sy’n gri o’r galon

    fod angen yr AmGen hon.

    Disgrifiad,

    Cywydd gan Ceri Wyn Jones ar gyfer Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw

  7. Croeso i ddydd Gwener Gŵyl AmGen 2020wedi ei gyhoeddi 08:47 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Roedd nifer ohonom wedi meddwl y bydden ni y penwythnos yma yn pacio i fynd i Dregaron ond oherwydd haint coronafeirws mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cael ei gohirio tan 2021.

    Dim maes na phafiliwn felly ond peidiwch â phoeni drwy gydol y penwythnos mae modd blasu pob math o weithgareddau eisteddfodol yn yr Ŵyl AmGen sy'n bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru.

    Mae'r cyfan yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd i fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.

    Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.

    Cewch flas o ddigwyddiadau diwrnod llawn cyntaf Gŵyl AmGen 2020 yma gydol y dydd.

    Toc wedi pump bydd enw enillydd y Stôl Farddoniaeth yn cael ei gyhoeddi.

    stol farddoniaethFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol