Crynodeb

  • Terwyn Tomos o Landudoch yn ennill Y Stôl Farddoniaeth

  • Llyfr y Flwyddyn - Elidir Jones yn ennill y categori plant a phobl ifanc ac Ifan Morgan Jones yn ennill y categori ffuglen

  • Llywydd y Dydd, Toda Ogunbanwo, yn dweud bod hiliaeth yn dal i fodoli yng Nghymru

  1. Gwyliwch gân o gyngerdd arbennig Bryn Bachwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Heno fe fydd Bryn Fôn yn perfformio mewn cyngerdd arbennig ar Radio Cymru, gyda'i fand Bryn Bach.

    Dyma ragflas o'r cyngerdd wrth i'r band berfformio Strydoedd Aberstalwm, un o glasuron y cyfansoddwr Alun 'Sbardun' Huws.

    bryn fon
  2. Ynys Fadog yw'r nofel hwyaf yn y Gymraeg!wedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Ynys Fadog yw'r nofel hwyaf yn y Gymraeg ond yn y cyfnod clo mae Dewi Llwyd wedi'i darllen.

    Sgwrs arbennig rhwng Dewi Llwyd a Jerry Hunter nawr ar Radio Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Llwyddiant yn codi arian er effaith coronafeirwswedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Pwyllgor apêl arall lwyddodd i daro eu targed yn gynnar ydy Aberystwyth.

    "Mae 'di mynd yn dda iawn. Ni'n ffodus iawn yn Aberystwyth ar gylch bod 'na bobl sy'n ymroi i godi arian," meddai'r cadeirydd Megan Jones Roberts.

    "Hyd yn hyn ry'n ni wedi codi £71,870, mae £8,000 arall i ddod o Gyngor Tref Aberystwyth ac mae'r holl wobrau sydd wedi eu haddo hefyd yn mynd tuag at ein targed, a dwi yn gobeithio y byddan ni erbyn mis Awst nesa gyda £85,000 yn y gronfa.

    "Fuon ni yn ffodus iawn... £55,000 oedd ein targed ni, ond fe basio'n ni hwnnw ers tro byd."

    Aberystwyth

    Er y llwyddiant, mae coronafeirws wedi cael effaith ar drefniadau pwyllgorau eraill.

    Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans o bwyllgor Llandysul eu bod wedi dod yn "eithaf agos ati".

    "Roedd gennym ni darged o £100,000 yn yr ardal hon ac fe fyddwn ni wedi cyrraedd y targed oni bai am orfod gohirio'r ddau, dri digwyddiad fyddai wedi digwydd erbyn nawr, ond maen siŵr y gallwn ni ailedrych i'w cynnal nhw mewn rhai misoedd.

    "Rydyn ni tua £2,000 yn brin, ond mae'n rhaid cofio y bydd yna fwy o gystadleuaeth nawr gyda chymaint o fudiadau wedi colli arian dros y cyfnod clo, falle y bydd mwy o fudiadau eraill yn gofyn am arian hefyd."

  4. Llyfr y Flwyddyn - llongyfarchiadau i Ifan Morgan Joneswedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Llenyddiaeth Cymru

    Ifan Morgan Jones sydd wedi cipio’r categori Ffuglen, gyda Babel (Y Lolfa).

    Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous yw Babel, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae’n adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol.

    Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.

    Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.

    Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2008.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Llyfr y Flwyddyn - llongyfarchiadau i Elidir Joneswedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Llenyddiaeth Cymru

    Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Elidir Jones sy’n cipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni gydag Yr Horwth (Atebol).

    Mae Yr Horwth y nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc. Mae bwystfil yn bygwth y wlad a’r unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

    Daw Elidir Jones o Fangor ond mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Yn 2019, cyhoeddwyd ei ail nofel, Yr Horwth, a’r nofel graffeg i blant Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, y ddau wedi eu dylunio gan Huw Aaron. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd Peff, ei addasiad o Fing gan David Walliams.

    Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a’r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Fe wnaeth ennill y Rhuban Glas agor drysau'wedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n hanner can mlynedd ers i Dai Jones, Llanilar ganu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a chipio'r Rhuban Glas.

    Mewn erthygl ar dudalen Cylchgrawn BBC Cymru Fyw heddiw mae Dai yn hel atgofion am y dydd arbennig hwnnw yn 1970.

    dai jonesFfynhonnell y llun, bbc
  7. Llyfr y Flwyddyn - enillwyr categorïau nos Iauwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Llenyddiaeth Cymru

    Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn sydd wedi cipio'r categori barddoniaeth eleni yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

    Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones gan Alan Llwyd oedd yn fuddugol yn y categori ffeithiol greadigol.

    Mae'r ddau enillydd yn derbyn gwobr o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

    Gwnaed y cyhoeddiad am 19:30 nos Iau ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw.

    Mae'r ddau hefyd yn gymwys am wobr Barn y Bobl Golwg360 a phrif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru ar ddydd Sadwrn, 1 Awst rhwng 12:30 a 13:00.

    Tlws Llyfr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru

  8. Ydi'r Eisteddfod yn gadael gwaddol?wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Wrth drafod eisteddfodau’r gorffennol mae Beryl Vaughan yn dweud bod Meifod yn ddewis naturiol yn 2015 wedi llwyddiant 2003.

    Ond mae'n dweud bod y brwdfrydedd a fu yn yr ardal yn 2015 wedi cilio bellach.

    Mae Frank Oldfield, cadeirydd Eisteddfod y Fenni yn canmol nawdd hael Cyngor Gwent.

    Wrth drafod Eisteddfod Caerdydd, mae Ashok Ahir yn dweud bod y brifwyl, gan ei fod yn y bae, wedi denu pobl newydd.

    Mae'r tri chadeirydd yn dweud petai'r eisteddfod yn dod i'w hardal eto y byddent yn hoffi rhoi cyfle i bobl eraill fod yn gadeiryddion.

    Beryl Vaughan
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Beryl Vaughan yn arwain y gwaith o gasglu arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau

  9. Rhestr fer dau gategori arall Llyfr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Llenyddiaeth Cymru

    Y prynhawn yma bydd enillwyr dau gategori Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi sef y categori ffuglen a'r categori llyfrau i blant a phobl ifanc.

    Y tair ffuglen sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw

    • Gwirionedd - Elinor Wyn Reynolds
    • Babel - Ifan Morgan Jones
    • Iaith y Nefoedd - Llwyd Owen

    Yn y Gwobr Plant a Phobl Ifanc y tair sydd ar y rhestr fer yw

    • Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth, Elidir Jones
    • Genod Gwych a Merched Mentrus, Medi Jones-Jackson
    • Llyfr Adar Mawr y Plant, Onwy Gower
    Llyfr y Flwyddyn
  10. Her Maes B Radio Cymru 2wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Radio Cymru 2

    Fel rhan o raglen Caffi Maes B ar Radio Cymru 2, mae Garmon ab Ion a Sian Eleri wedi gosod her ‘Maes B o Bell’ i bedwar cerddor.

    Fe fydd gan Kizzy Crawford, Ifan Jones, Rich Roberts a Mari Mathias 24 awr i gyfansoddi a recordio caneuon newydd. Ond wrth gwrs, bydd rhaid gwneud y cyfan o bell gan gyfansoddi a recordio ar-lein.

    I ddilyn yr her ewch draw i gyfrif Instagram Maes B, dolen allanol.

    I weld amserlen Radio Cymru 2 yn llawn cliciwch fan hyn.

    maes b
  11. 'Ai uffern yw lockdown yn Gymraeg?'wedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Wel wythnos Guto Dafydd oedd hi y llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth iddo ennill Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Goron.

    Mae'n siŵr bod nifer ohonom wedi uniaethu â phrofiadau dychmygol ei deulu o garafanio a gyfeiriwyd atynt yn y nofel fuddugol.

    Ac ydi mae'r saga yn parhau mewn drama newydd ar gyfer Gŵyl AmGen.

    Ydi brawddegau fel hyn yn canu cloch tybed?

    'Ai uffern yw lockdown yn Gymraeg?'

    '10 o'r gloch y bore yw hi - a 'dan ni eisoes ar y gwin!'

    'Paid â dod i'n swyddfa mewn tywel - dwi ar zoom!'

    Mae modd gwrando ar y ddrama yma.

    Guto DafyddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  12. Carreg filltir yn 2020.....fel yn 1995wedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    BBC Cymru Fyw

    1995 oedd y flwyddyn pan gyrhaeddodd yr internet yr Eisteddfod gyntaf...

    steddfodFfynhonnell y llun, bbc
  13. Pwyllgorau apêl Tregaron yn taro ail darged ariannolwedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wedi ei gohirio tan y flwyddyn nesaf, mae'r pwyllgorau apêl lleol wedi parhau i godi arian.

    Erbyn heddiw maen nhw wedi cyrraedd yr ail darged ariannol o £400,000, ac mae'r arian yn dal i lifo i'r coffrau.

    Daeth y pandemig i roi stop ar gyfarfodydd y pwyllgorau lleol ym mis Mawrth, ond roedden nhw wedi taro'r targed cyntaf o godi £300,000 wyth mis yn gynnar.

    Oherwydd hynny fe gafodd y targed ei ymestyn i £400,000, ac mae hwnnw bellach wedi'i gyrraedd hefyd.

    Bu Catherine Hughes o bwyllgor lleol Tregaron yn siarad gyda rhaglen y Post Cyntaf y bore 'ma, gan ddweud: "Ro'n ni wedi cael targed o £17,500 ac wedi bwrw hwnnw ymhell cyn y Covid, a gyda rhagor o weithgareddau i'w cynnal ry'n ni yn gobeithio dyblu'r targed.

    "Ond dyw e ddim cweit yr un peth, erbyn hyn dŷ'n ni ddim yn gallu cwrdd â'n gilydd, mae'n rhaid meddwl am ffyrdd gwahanol wrth i bethau lacio a bydd yn rhaid trial dod 'nôl at ein gilydd i weld sut alle'n ni symud ymlaen."

    Tregaron
  14. 'Siôn Eirian - Mab mans go anghyffredin'wedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Gŵyl AmGen

    Ddiwedd mis Mai bu farw'r prifardd Siôn Eirian yn 66 oed yn dilyn salwch byr ac mae un o sesiynau bore Gwener yr Ŵyl AmGen yn cofio amdano.

    Yn ôl Betsan Llwyd "roedd e'n fab mans go anghyffredin" ac yn torri tir newydd.

    Roedd yn ddramodydd, sgriptiwr a nofelydd llwyddiannus, ac fe enillodd goron Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol.

    Cafodd ei eni yn Hirwaun, ond fe'i magwyd yn Mrynaman ac yna yr Wyddgrug.

    Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1971, cyn cipio'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd saith mlynedd yn ddiweddarach.

    Yn 24 oed ar y pryd, mae'n parhau i fod ymhlith yr ieuengaf erioed i ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.

    sion eirianFfynhonnell y llun, Llun Teulu
  15. A fydd brechlyn erbyn Eisteddfod Tregaron 2021?wedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bore 'ma, fe ddywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan ei bod yn gobeithio'n fawr y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yng Ngheredigion flwyddyn nesaf.

    "Ond ar yr un pryd mae'n rhaid paratoi at ail don o'r haint," meddai, "a dim ond brechlyn all sicrhau rhoi terfyn ar y pandemig."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Wedi paratoi am flwyddyn fawr'wedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Eisteddfod Aberystwyth yn 1992 oedd y tro diwethaf i'r brifwyl ymweld â Cheredigion.

    I bobl fusnes Tregaron, ar ddechrau 2020 roedd yr Eisteddfod yn cynnig cyfleoedd mawr - roedd cyffro a llawer o edrych ymlaen.

    Mae Anwen Evans yn berchen ar siop gigydd yng nghanol y dref.

    "Ro'n i wedi bod yn siarad gyda Cywain er mwyn bod yn rhan o'r siop ar y maes, ac roedd llawer o baratoi yn digwydd a gweithio mas beth fyddwn ni'n gallu gwneud a sut oeddwn ni yn mynd i wneud e," meddai.

    "Ro'n i'n meddwl 'it's gonna be a big year'. Ond i ni doedd e ddim jyst am un wythnos.

    "Wi'n gweld e fel pobl yn dod i'r ardal dros yr haf i gyd. Dod i weld yr ardal cyn yr Eisteddfod a dod 'nôl ar ôl yr Eisteddfod."

    Anwen Evans
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Anwen Evans wedi bwriadu agor bwyty newydd mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod

  17. Rhys yn disgrifio ei gyfnod clowedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Radio Cymru 2

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Siom o feddwl am gaeau gwag Tregaron'wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Er bod gohirio eleni yn "anorfod" dan yr amgylchiadau, yn ôl Elin Jones - cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod - mae 'na dal rywfaint o siom wrth i'r wythnos ei hun gyrraedd.

    "Mae'r siom yn fwy erbyn hyn o feddwl nawr ry'n ni nawr yn ystod yr wythnos hynny," meddai Ms Jones, sydd hefyd yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Cymru.

    "Mae'r siom o feddwl am y caeau gwag yna yn Nhregaron ac am y diffyg yna o'r holl weithgaredd roedden ni i gyd wedi bod yn cynllunio yn ein meddyliau."

    Tregaron
  19. Pa un o fois Parc Nest sy'n ennill?wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 31 Gorffennaf 2020

    Mae her wedi ei osod i fechgyn Parc Nest - T James Jones, John Gwilym Jones ac Aled Gwyn i ysgrifennu darn o farddoniaeth cynganeddol i Barc Nest.

    Y beirniad cudd yw Tudur Dylan Jones (mab John Gwilym).

    Maent oll yn brifeirdd - enillodd Aled Gwyn y goron 25 mlynedd yn ôl yn Abergele. Yn yr un eisteddfod enillodd Tudur Dylan y gadair a John Gwilym oedd yr archdderwydd.

    Doedd yna ddim enillydd clir heddiw yng nghystadleuaeth Radio Cymru - mae'r tri yn gyfartal ac yn cael marciau llawn gan y beirniad.

    Mae modd gweld y cerddi yma.

    bois Parc Nest