Cefnogwyr Wcráin law yn llawwedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2022
Mae cefnogwyr Wcráin wedi cyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd ac yn barod am y gêm fawr.
Cyffro ar draws Cymru wrth i'r tîm cenedlaethol drechu Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Bydd Cymru yn yr un grŵp â Lloegr, UDA ac Iran
Mae trechu Wcráin yn golygu "mwy i Gymru 'na dim ond pêl-droed"
Cic rydd gan Bale a pheniad i'w rwyd ei hun gan Yarmolenko yn rhoi Cymru ar y blaen
100 tocyn am ddim i ffoaduriaid Wcráin
Mae cefnogwyr Wcráin wedi cyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd ac yn barod am y gêm fawr.
Dywedodd Rob Page ychydig cyn y gêm.
"Rydym yn barod, a fedrwn ni ddim aros i ddechrau’r gêm.
"Mae gennym ni waith i'w neud. Mae Wcráin yn dîm da, rydym yn eu parchu nhw.
"Rydym eisiau cyrraedd Cwpan y Byd ac mae'n rhaid i ni wneud popeth posib i wireddu hynny."
Dyma rai lluniau o du allan Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i gefnogwyr Cymru ac Wcráin gyrraedd.
Dyw Cymru heb golli gartref mewn 18 gêm gystadleuol (ennill 12, 6 cyfartal).
Dyma'r rhediad hiraf o beidio colli gartref yn hanes y tîm cenedlaethol.
Dim ond saith gôl mae Cymru wedi ildio yn yr 18 gêm, drwy gadw 11 llechen lân.
Mae cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, yn dweud bod Wcráin yn haeddu "pob clod" am fynd i Barc Hampden ac ennill yn erbyn Yr Alban ganol wythnos - yn enwedig o ystyried amgylchiadau'r misoedd diwethaf.
"Fydd gweddill y byd eisiau i Wcráin ennill nos Sul, wrth gwrs, 'dan ni'n deall hynny," meddai.
Gydag ychydig dros hanner awr i fynd tan y gic gyntaf, mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn dechrau llenwi!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth siarad â’r wasg fe wnaeth Gareth Bale bwysleisio bod angen trin gêm heddiw fel unrhyw gêm arall.
Yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd y prynhawn yma fe fydd tîm sydd wedi arfer chwarae ac ennill y gemau mawr yn gyson.
Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi cyflawni rhyfeddodau pan fo Cymru eu hangen – allan nhw wneud hynny unwaith eto heno?
Eisteddfod yr Urdd sydd wedi bod yn hawlio'r sylw yn Nyffryn Clwyd gydol yr wythnos ond mae 'na rai cefnogwyr pêl-droed wedi dianc!
Cyn hir fe fydd y sylw yn troi i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigon yn Nhregaron - gobeithio bydd sylw i bêl-droed ar y maes i blesio'r cefnogywr yma!
Credir bod 100 o docynnau ar gyfer ffeinal y gemau ail gyfle ddydd Sul wedi eu rhyddhau am ddim i ffoaduriaid o Wcráin.
Mae'r holl docynnau i gefnogwyr cartref ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd - sy'n dal 33,000 o bobl - wedi eu gwerthu.
Mae 5% o'r tocynnau wedi eu neilltuo i Gymdeithas Bêl-droed Wcráin.
Y gred yw y bydd y tocynnau i ffoaduriaid yn dod ar ben y nifer sydd eisoes wedi eu neilltuo ar gyfer yr ymwelwyr.
Dim ond unwaith mae Wcráin erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Fe lwyddon nhw i gyrraedd yr wyth olaf yn 2006 yn yr Almaen.
Colli oedd eu hanes nhw bryd hynny o 3-0 yn erbyn yr Eidal yn Hamburg.
Mae Stryd Womanby yn enwog am fod yn gartref i gigs bywiog a swnllyd.
Ond cefnogwyr Cymru sy'n codi canu heddiw!
BBC Cymru Fyw
Mae Wcráin yn enwi yr un 11 chwaraewr lwyddodd i ennill yn erbyn yr Alban:
Bushchan, Karavaev, Zabarnyi, Matviienko, Mykolenko, Stepanenko, Zinchenko, Malinovsky, Yarmolenko, Tsygankov, Yaremchuk.
Y dyfarnwr heddiw yw Antonio Miguel Mateu Lahoz o Sbaen.
Dyfarnwr hynod brofiadol sydd eisoes wedi cael ei ddewis i fynd i Qatar fel un o ddyfarnwyr FIFA ar gyfer Cwpan y Byd eleni.
Dyw hi ddim yn syndod bod y brifddinas yn fôr o goch ac mae'n ddiwrnod mawr i'r cefnogwyr.
Un syndod efallai wrth edrych ar y tîm sy'n dechrau'r gêm yw bod Wayne Hennessey yn camu i mewn rhwng y pyst yn lle Danny Ward, sydd wedi chwarae'n gyson yn y gôl yn ddiweddar.
Be newch chi o'r newid yma?
Ar draws y cyfryngau cymdeithasol mae degau ar hyd y dydd wedi bod yn anfon eu dymuniadau da i'r tîm cenedlaethol ac mae neges arbennig gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford hefyd:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dyma'r 11 fydd yn dechrau'r gêm heddiw!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe fydd Dafydd Iwan yng nghanol y paratoadau yn Stadiwm y Ddinas cyn y gic gyntaf eto heddiw, gydag Yma o Hyd wedi tyfu yn anthem i dîm Cymru.
Fe wnaeth y cerddor rannu'r stori am hanes y gân gyda Cymru Fyw yn 2020.
"Roedd y refferendwm wedi methu yn '79 ac roedd llawer ohona ni yn ddigalon braidd ac mi chwaraeodd y canu ran i godi ysbryd yn ôl," meddai.
"Mi es i ar daith drwy Gymru efo Ar Log yn 1982 i gofio marw Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, ac mi gyfansoddais i rai caneuon ar gyfer y daith honno, fel Cerddwn Ymlaen ac mi roedd hi'n daith arbennig o lwyddiannus.
"Dwi'n cofio eistedd lawr yn y tŷ yn Waunfawr yn meddwl am y syniad yna ein bod wedi para 1600 o flynyddoedd ac wrth gwrs mi ddaeth yr ymadrodd 'yma o hyd' i'r meddwl a'r ymadrodd 'er gwaethaf pawb a phopeth'.
"Mae pob cân yn gorfod cael un syniad canolog, un bachyn, ac roedd y syniad yma o'r cychwyn mae'n debyg yn un oedd yn cydio."
Yr wythnos hon fe gafodd fersiwn newydd o’r gân ei rhyddhau gan Sage Todz. Gallwch wylio y fideo fan yma, dolen allanol.
Dyma lwybr y ddwy wlad i gyrraedd y gêm allweddol hon heddiw.
Fe wnaeth y ddwy wlad orffen yn ail yn eu grwpiau rhagbrofol gan sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.
Dim ond unwaith wnaeth Gymru golli yn y grwpiau a hynny yn erbyn Gwlad Belg.
Diolch i ddwy gôl wych gan Gareth Bale yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Awstria, mae gan Gymru gyfle i gamu ymlaen i Qatar gyda buddugoliaeth heddiw.
Fe orffennodd Wcráin yn ail y tu ôl i Ffrainc yn Grŵp D, cyn ennill yn erbyn yr Alban o 3-1 yn y gemau ail gyfle.