2 funud o amser ychwanegolwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2022
Cymru 1-0 Wcráin
2 funud i fynd o'r hanner cyntaf ac mae Cymru'n parhau ar y blaen, ond mae Wcráin yn parhau i gynyddu'r pwysau ar amddiffyn Cymru.
Cyffro ar draws Cymru wrth i'r tîm cenedlaethol drechu Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Bydd Cymru yn yr un grŵp â Lloegr, UDA ac Iran
Mae trechu Wcráin yn golygu "mwy i Gymru 'na dim ond pêl-droed"
Cic rydd gan Bale a pheniad i'w rwyd ei hun gan Yarmolenko yn rhoi Cymru ar y blaen
100 tocyn am ddim i ffoaduriaid Wcráin
Cymru 1-0 Wcráin
2 funud i fynd o'r hanner cyntaf ac mae Cymru'n parhau ar y blaen, ond mae Wcráin yn parhau i gynyddu'r pwysau ar amddiffyn Cymru.
Cymru 1-0 Wcráin
Diolch byth, dihangfa arall i Gymru?
Chwaraewch ymlaen medd y dyfarnwr ar ôl trosedd bosib yng nghwrt cosbi Cymru gan Joe Allen ar Yarmoleno!
Sgorio, S4C
Mae Nic Parry newydd atgoffa pawb nad yw Cymru byth yn colli yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan yn sgorio'r gôl gyntaf.
Cymru 1-0 Wcráin
33 Munud
Cic rydd gan Bale, a peniad i'w rwyd ei hun gan Yarmolenko!!
Cymru 0-0 Wcráin
Cerdyn Melyn
Chwaraewr Everton, Yarmolenko yw'r chwaraewr nesaf i lyfr y dyfarnwr wedi 32 munud ar ôl iddo wneud cysylltiad â wyneb Dan James gyda'i fraich.
BBC Cymru Fyw
Wayne Hennessey yw'r chwaraewr prysuraf ar y cae hyd yma.
Unwith eto mae Wcráin yn cael ergyd at gôl ond golwr Cymru sydd yno i achub y tîm cartref.
Cymru 0-0 Wcráin
Mae Malcolm Allen yn gymharol fodlon gyda’r hyn mae wedi ei weld hyd yma ond yn rhybuddio gall y tywydd gael dylanwad wrth i’r gêm fynd ymlaen.
“Does dim dwywaith fod y glaw yn cael effaith. Mae’r cyffyrddiad cyntaf yna am fod yn allweddol."
Mae golwr Wcráin, Bushchan wedi'i anafu ac mae'n edrych yn anghyfforddus, felly mae mainc Wcráin yn ystyried i'w dynnu i ffwrdd o'r maes.
Owain Tudur Jones
S4C
Mae Owain Tudur Jones wedi gweld gwendid posib yn nhîm Wcráin ... y golwr Bushchan.
"Mae angen cael y peli 'ma i fewn at Kiefer Moore a rhoi'r golwr dan bwysau" meddai.
Am ddechrau i'r gêm! Mae Cymru ac Wcráin yn edrych yn ymosodol a hyderus.
Mae'r ddau dîm yn fodlon ergydio o bell a herio ei gilydd.
A fydd Cymru'n gallu cynnal y cyflymder yma?
Cymru 0-0 Wcráin
Kath Morgan
Cyn-chwaraewr rhyngwladol a sylwebydd
Quote MessageMae rhaid ni fod yn ofalus. Mae rhaid ni glirio y llinellau, s'dim angen bod yn bert s'dim angen medru trio cymryd y bêl ymlaen, jyst clirio y bêl a clirio y llinellau yna fe wneith hynny fi'n credu setlo Cymru lawr.
Cymru 0-0 Wcráin
Mae Wcráin yn cynyddu’r pwysau ar amddiffyn Cymru, Dyma eu hail gic gornel o fewn y deng munud cyntaf.
Mae'r maes yn llithrig hefyd sy'n achosi trafferthion i ambell chwaraewr!
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageRoedd e'n gyffyrddiad siomedig gan Joe Allen - oedd e wedi colli meddiant o'r bêl, ac yn cael ei ddenu mewn i roi y dacl yna mewn. A doedd e ddim yn cael dim gafael ar y bêl o gwbl.
Cerdyn Melyn
Joe Allen yn gweld y garden felen am dacl hwyr ac wedyn Dan James am gwyno o fewn y ddwy funud gyntaf!
Mae'r bêl yng nghefn y rhwyd ond doedd y dyfarnwr Mr Lahoz ddim yn barod.
Dihangfa gynnar i Gymru.
BBC Cymru Fyw
Co' ni off, 90 munud i ffwrdd o Qatar .... gobeithio!
Dyna ni, Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei bloeddio gan y chwaraewyr a'r cefnogwyr ... dyma ni mae pawb yn barod!
Dyma oedd gan Nic Parry, sylwebydd S4C i'w ddweud ar ôl i Dafydd Iwan ganu Yma o Hyd:
"Dwi erioed, mewn unrhyw gêm bêl-droed wedi gweld emosiwn fel yr hyn dwi newydd ei brofi. Fe oedd tair mil a hanner o gefnogwyr Wcráin yn chwifio eu baner ac roedd Yma o Hyd hefyd yn golygu rhywbeth iddyn nhw."
Mae'r ddau dîm ar y cae, anthem Wcráin sydd gyntaf!
Kath Morgan
Cyn-chwaraewr rhyngwladol a sylwebydd
Mae Kath Morgan yn un o'r tîm sylwebu ar BBC Radio Cymru
Quote MessageNi yn gwbod pa mor agos yw'r tîm yma fel uned o ffrindiau a cyd-chwaraewyr. Dyma yw'r cyfle i'r chwaraewyr yma i serennu.
Mae Dafydd Iwan wedi dechrau canu 'Yma o Hyd' i gyfeiliant y cefnogwyr wrth iddi arllwys y glaw yng Nghaerdydd.
Mae heddiw yn benllanw y daith i'r cefnogwyr.
Mae Noah a Stephen wedi teithio o Fethesda ac yn edrych ymlaen.