Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022
A dyna ni am heddiw - ar ddiwrnod hanesyddol yng Nghymru.
Fe wnaeth y tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint - gan fynd heibio y record flaenorol am yr eildro mewn diwrnod.
Cafodd y record ei thorri'n gynt ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 35.3C yn ardal Gogerddan, Ceredigion.
Mae tymheredd heddiw yn uwch na darogan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Cymru.
Ydi mae'n gynnes ac yn ôl y rhagolygon fe fydd hi'n gynnes eto fory.
Cymerwch ofal - diolch am ddarllen.
Mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Hwyl am y tro.