'Mae'n bwysig i bobl gymryd y tywydd poeth o ddifri''wedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022
Wrth i arbenigwyr ragweld tywydd eithriadol o dwym yng Nghymru dros y ddeuddydd nesaf, dywed y Gweinidog Iechyd ei bod hi'n hynod o bwysig i bobl gymryd y tywydd o ddifri'.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd eisoes o dan bwysau, medd Eluned Morgan, ac felly mae'n hynod bwysig fod pobl yn yfed digon o ddŵr ac yn aros yn y cysgod, pan yn bosib.