Crynodeb

  • Y tymheredd yn cyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg - y record flaenorol yng Nghymru oedd 35.2C, a osodwyd yn 1990

  • System awyru newydd ar waith yn y Sioe yn Llanelwedd

  • Pobl yn heidio i lan môr wrth i'r haul dywynnu

  • Rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a ddydd Mawrth

  • Llywodraeth y DU wedi datgan argyfwng cenedlaethol yn sgil y tywydd llethol

  1. Croesowedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Croeso aton ni ar ddiwrnod sy'n argoeli i fod yn un o'r rhai poethaf ar gofnod yng Nghymru.

    Mae rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol mewn grym ar gyfer Cymru gyfan heddiw a fory.

    Fe allai'r tymheredd gyrraedd 36C.

    Byddwn ni'n dod â'r newyddion a'r cyngor meddygol diweddaraf i chi o'r Sioe Frenhinol a thu hwnt.

    Mae'n BRAF iawn cael eich cwmni chi.

    Sioe Fawr