Manon Steffan Ros wedi gwirioni ar 'Capten'wedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022
Y beirniaid oedd Manon Steffan Ros, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd - er nad oedd Mr Llywelyn bresennol ar lwyfan y Pafiliwn oherwydd Covid-19.
Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Manon Steffan Ros eu bod yn "chwilio am nofel a fyddai'n deilwng o wobr sy'n cario enw Daniel Owen, un o'r awduron mwyaf medrus, synhwyrus a gafaelgar yn hanes Cymru".
"Roedd ein disgwyliadau felly'n uchel," meddai.
"Mae'n draddodiad wrth draddodi beirniadaeth i rannu'r gwaith i wahanol ddosbarthiadau, ond ma' arna i ofn na fydda i'n gwneud hynny heddiw, gan fod y dosbarthiadau hynny wedi bod yn reit wahanol gan y tri beirniad.
"Ond ma'n saff dweud mod i o'r farn bendant fod y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni, a 'mod i wedi cael mwynhad gwirioneddol wrth ddarllen bob un.
Enw'r nofel fuddugol yw Capten.