Digon i'w weld yn Y Lle Celfwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022
Efallai bod hi'n ddiwrnod mynd i'r Lle Celf heddiw ac mae 'na wledd yn eich disgwyl.
Dyma gipolwg o'r gwaith buddugol eleni.
Meinir Pierce Jones yn ennill Medal Goffa Daniel Owen
Beirniadu toiledau a glendid 'anaddas' y 'Steddfod
Maes B yn agor a gwersyllwyr yn edrych ymlaen
Galw am drefnu mwy o eisteddfodau lleol
Efallai bod hi'n ddiwrnod mynd i'r Lle Celf heddiw ac mae 'na wledd yn eich disgwyl.
Dyma gipolwg o'r gwaith buddugol eleni.
Mae pennaeth cwmni diogelwch Maes yr Eisteddfod yn erfyn ar bobl i ddilyn arwyddion traffig ac osgoi "stopio mewn llefydd dwl" er mwyn osgoi tagfeydd.
Dywedodd Emlyn Jones fod rhai fel petaen nhw eisiau "parcio ar lwyfan y Pafiliwn" wrth geisio mynd mor agos i'r Maes â phosib.
Mae dau brif faes parcio gan yr Eisteddfod ar gyfer ymwelwyr, un i'r gogledd a'r llall ar gyfer teithwyr o'r de, a system unffordd hefyd yng nghanol Tregaron.
Oes mae 'na alw mawr am wasanaeth y glanhawyr toiledau wedi cwynion a mae nhw wedi cyrraedd!
Mae Max ac Aaron yn gweithio i gwmni yng Nghaerfyrddin.
Mae Defi o Gwm Rheidol wrth ei fodd yn chwarae yn y pridd ym Mhentre Ceredigion fore Mawrth.
Roedd yna seibiant i'r chwiorydd Sue a Lina, a Geraint a Johnny wrth iddyn nhw gael paned o goffi ar y Maes fore Mawrth.
Mae'r pedwar yn rhan o glwb rhedeg Llanerchaeron sy'n rhedeg y Park Run bob dydd Sadwrn.
Y penwythnos yma bydd naws arbennig o Gymreig yn y Park Run yn Aberaeron gyda'r Eisteddfod ymweld â Cheredigion.
Dyma Eisteddfod gyntaf Kathod sy'n disgrifio eu hunain fel "casgliad o fenywod creadigol Cymraeg" sydd wedi ffurfio dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae dydd Mawrth yn ddiwrnod prysur i'r merched sy'n gymysgedd o gerddorion, artistiaid a llenorion sy'n dod ynghyd i greu.
Troelli ar y Maen Llog oedd y ddawnswraig Elan Elidyr, un o'r Kathod yn ei wneud ganol bore wrth ffilmio fideo gerddoriaeth ar gyfer traciau newydd.
Heno am 19.30, bydd y Kathod yn meddiannu'r Babell Lên am noson o farddoniaeth llafar, bîts a cherddoriaeth.
Beth sy'n odli efo Miaw? yw enw'r noson a rhai o'r Kathod fydd yn cymryd rhan yw Kayley Saydenham, Llio Maddocks, Mel Owen a Talulah Thomas.
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, yn dweud yn y gynhadledd i’r wasg bod yr Eisteddfod yn gweithio gyda’r cwmni hylendid i sicrhau bod y toiledau ar y maes yn cael eu glanhau yn amlach.
Ond dywedodd fod y nifer a darpariaeth y cyfleusterau fel y maen nhw yn ddigonol, a hynny er gwaethaf y cwynion.
Bydd biniau ar gyfer gwastraff fel nwyddau hylendid yn cael eu gwagio’n amlach, meddai, ac mae hylif saniteiddio ar gael tu allan i’r toiledau ar gyfer glanhau dwylo.
Ychwanegodd y byddai’r Eisteddfod yn gweithio gyda phobl sy’n aros ar y maes carafanau er mwyn eu hatgoffa o’r “etiquette” ar gyfer cadw’r ardaloedd tŷ bach a chawodydd yn lanach - gyda rhai yn gyrru eu ceir i’r tai bach, ac eraill yn gwisgo welis mwdlyd i fynd i’r gawod.
Mae Aled Phillips o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru’n annerch y gynhadledd i’r wasg, ar ran y mudiad sy’n cynrychioli eisteddfodau lleol y wlad.
Nes ymlaen y prynhawn yma bydd y mudiad yn cyflwyno tystysgrifau i rai o’r bobl hynny sydd wedi gwirfoddoli’n ddiflino yn eu hardaloedd dros y blynyddoedd.
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, ar y maes heddiw yn lansio ymgyrch ‘Mwy na Geiriau’.
Bwriad hyn, meddai, yw sicrhau bod pobl “yn cael cynnig actif” o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gymraeg, yn hytrach na bod rhaid “gofyn”.
Ychwanegodd y bydd hyn yn cymryd amser, ac y bydd yr heriau’n cynnwys yr “angen i newid diwylliant”. “Ond ni’n disgwyl bydd y gwasanaeth yna’n cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.”
Mae degau o bobl wedi cwyno ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y Maes am gyfleusterau "anaddas" y tai bach yn yr Eisteddfod.
Mae'r Eisteddfod wedi dweud bod "cynlluniau amgen mewn lle" gan fod "pethau wedi gwaethygu eto".
Amser cinio ddydd Mawrth am 12, bydd Côr Cardi Gân yn perfformio ar Lwyfan y Maes.
Grŵp o gantorion sy'n dod o ardaloedd ar draws Ceredigion yw aelodau Cardi-Gân ac maent yn cwrdd yn Theatr Felinfach bob nos Fercher i ymarfer.
Ond heddiw, ar stondin y Drindod Dewi Sant maen nhw'n cynhesu eu lleisiau!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Tro'r unawdwyr yw hi bore 'ma yn y Brifwyl ac ymhlith y cystadleuwyr ar yr Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Uwchdenor 19-25 mae Erin Swyn.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd un ddynes ar y Maes mai dyma'r "'Steddfod waethaf" iddi weld o ran cyfleusterau tai bach a glendid.
"Mae o'n annerbyniol, mae o - a dweud y gwir yn onest - yn israddol i be dan ni'n ddisgwyl i unrhyw berson, boed yn anabl neu fel arall.
"Mae o'n amrywio ymhob Eisteddfod, ond o'n profiad ni, hwn 'di'r gwaetha 'dan ni wedi ei brofi erioed.
"Ma' nhw'n brin, a 'dach chi'n gorfod meddwl cyn mynd i'r gawod sut dach chi'n mynd i gopio yn y gawod, does 'na ddim lle i hongian dim byd.
"Mae'r cyfleusterau'n anaddas iawn i lond cae o gannoedd o garafanau."
Mae degau o bobl wedi cwyno ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y Maes am gyfleusterau "anaddas" y tai bach yn yr Eisteddfod.
Mae prinder lle mewn toiledau anabl, diffyg cyfleusterau hylendid ar gyfer mislif a dim dŵr ar gyfer golchi dwylo ymhlith rhai o'r cwynion.
Dywedodd un Eisteddfodwr mewn neges ar grŵp Rhwydwaith Menywod Cymru ar Facebook bod mynd â phlant bach i'r tai bach yn "anodd iawn" hefyd.
Dywedodd yr Eisteddfod bod "cynlluniau amgen mewn lle" gan fod "pethau wedi gwaethygu eto".
Daw yr amddiffyniad yn sgil cwynion gan nifer o bobl fod y cyfleusterau hylendid yn "anaddas".
Read MoreMae'r cystadlu wedi dechrau draw yn y Pafiliwn ar fore Mawrth yr Eisteddfod.
Y gystadleuaeth gyntaf yw'r unawd bariton / bas i rai dros 19 ac o dan 25 oed.
Gwyliwch fan yma.
Y ciwiau i'r Pafiliwn yn dechrau ffurfio ar gyfer cystadleuaeth yr Unawd 19-25 oed.
Mae'n debyg bod rhai carafanwyr dal yn eu gwlâu ar y maes carafanau.
"Ychydig yn wlyb, ond y tir yn sychu'n gyflym," yw neges un sydd wedi deffro!
Mae yna ychydig bach o gerddoriaeth werin ger y brif fynedfa i groesawu ymwelwyr i’r maes y bore 'ma.
Roedd yna drafferthion i rai cerbydau ben bore ond roedd cymorth ar gael.
Fel hyn roedd y maes yn edrych ben bore a hithau braidd yn gymylog.
'Pwdel' yw'r gair yn Nhregaron, gyda llaw, am fwd - gair sy'n fenthyciad o'r Saesneg 'puddle' ond mae'n fwy brwnt na hynny!