Tafodiaith Tregaron - wedi dechrau arfer?wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst 2022
Ydych chi wedi arfer â rhai o'r ymadroddion lleol eto?
Mae yna gymorth ar y Maes.
A chofiwch hefyd am gwis Tafodiaith Tregaron.
Meinir Pierce Jones yn ennill Medal Goffa Daniel Owen
Beirniadu toiledau a glendid 'anaddas' y 'Steddfod
Maes B yn agor a gwersyllwyr yn edrych ymlaen
Galw am drefnu mwy o eisteddfodau lleol
Ydych chi wedi arfer â rhai o'r ymadroddion lleol eto?
Mae yna gymorth ar y Maes.
A chofiwch hefyd am gwis Tafodiaith Tregaron.
Mae pabell Cytûn yn atyniad poblogaidd ar y Maes a'r croeso'n gynnes.
Wedi 23 mlynedd fe fydd y Parchedig Aled Edwards yn gadael ei swydd ac mae Cytûn yn chwilio am brif weithredwr newydd.
Ond nid dyma diwedd y daith eisteddfodol i Aled Edwards, mae'n siŵr!
Mae bar wedi agor mewn tŷ yn Nhregaron am wythnos yn unig - a'r perchnogion wedi addurno'n addas i ddenu ambell un sy'n pasio drwy'r dre.
Does dim llawer o drigolion Cwm Deri ar ôl yn y cwm heddiw.
Mae llawer iawn ohonyn nhw gan gynnwys Anita, Ffion, Tesni, Jinx a Cai yn mwynhau ar faes yr Eisteddfod.
Heddiw roedden nhw ar stondin S4C yn ateb cwestiynau'r gwylwyr!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd gêm newydd i blant ei lansio yn Y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gynharach heddiw.
Amcan y gêm 'dr.doctor' yw rhoi blas ar fod yn ddoctor go iawn i blant.
Drwy gêm o gardiau a chliwiau mae angen trafod symptomau a cheisio dyfalu beth yw'r diagnosis.
Dyma'r gêm gyntaf o'r fath yn y Gymraeg.
Yn Nhregaron mae lleoliad y Brifwyl ond mae'r sir gyfan wedi bod yn brysur iawn yn addurno a chroesawu.
Dyma sydd i'w weld ym mhentref Pisgah ger Aberystwyth.
Fflur Davies sydd wedi agor y gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed.
Ifan, sy'n bump oed, yn cofleidio un o eiconau Cymru, Mistar Urdd.
Dyw Ifan ddim wedi gorfod teithio'n bell i gyrraedd y maes gyda Nain a Taid, gan ei fod yn byw ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth.
Mae Eisteddfod Ceredigion yn brifwyl arbennig i ddau frawd o Dregaron sef Huw a Cyril Evans.
Mae'r ddau yn cael eu hurddo eleni i'r Orsedd, er anrhydedd - mae Huw yn derbyn y wisg werdd a Cyril y wisg las.
Mae Huw Evans yn byw yn Llundain ac yn denor adnabyddus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd.
Mae Cyril Evans, sy'n byw yn Nhregaron, yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg ac i fywyd a diwylliant ei filltir sgwâr.
Y babell Platiad yn llenwi amser cinio gyda phobl yn dod i fwynhau seibiaint a bwyd cynnes.
Mae'r efeilliaid Ffion a Rhianna, 11, ac Ifan sy'n ddwy, yn mwynhau pizza yn y pentre' bwyd.
Be well na bwyd ar Faes y Brifwyl?
"Roedd seremoni'r coroni bnawn ddoe yn achlysur arbennig iawn ac yn gyfle i ddathlu cyflawniad Esyllt Maelor mewn casgliad eithriadol o gerddi," medd Gerwyn Wiliams.
"Diolch am y fraint o fod ymhlith eu darllenwyr cyntaf gyda dau gyd-feirniad mor hynaws â Cyril Jones a Glenys Mair Roberts."
Math o Aberystwyth (pump oed), yn edrych ar ôl ei chwaer a'i frawd bach, Leisia a Wil.
Mae Abel Rees wrth ei fodd yn cystadlu yn y ddawns stepio unigol i fechgyn o dan 18 oed.
Deio o'r Felinheli ar drothwy ei ben-blwydd yn un oed yn dod i adnabod bro'r Eisteddfod gan gynnwys Y Talbot yn Nhregaron!
Mae angen trefnu eisteddfodau lleol mewn ardaloedd lle does 'na ddim gŵyl ar hyn o bryd.
Dyna neges Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wrth iddyn nhw gyflwyno eu hadroddiad blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Er gwaetha' heriau'r pandemig, mae'r gymdeithas yn dweud bod pethau'n argoeli'n dda o ran nifer yr eisteddfodau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru rhwng nawr a diwedd y flwyddyn.
"O'r 35 i 40 oedden ni'n disgwyl, dwi'n meddwl bod rhywbeth fel 70% ohonyn nhw'n mynd i gael eu cynnal o fis medi tan fis Rhagfyr," meddai swyddog datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Aled Wyn Phillips.
Gobaith cadeirydd y gymdeithas yw ehangu nifer yr eisteddfodau fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol.
"Dwi'n hunan wedi rhoi sialens i ambell ardal i ddechrau eisteddfodau," meddai Megan Jones-Roberts.
"Ni'n meddwl am Gaerfyrddin... mae 'na steddfodau yn Sir Gaerfyrddin, ond ddim yng Nghaerfyrddin ei hunan," meddai Ms Jones-Roberts.
"Da ni'n meddwl am Gaernarfon - does dim steddfod yng Nghaernarfon... na'r Bala.
"Fi'n siŵr 'sa ni'n rhoi fwy o bwysau arnyn nhw, bydde 'na steddfodau yn cychwyn yn yr ardaloedd hyn."
Ar Lwyfan y Llannerch y prynhawn 'ma roedd yna gyfle i glywed Esyllt Maelor yn sôn mwy am ei cherddi buddugol.
Ddydd Llun fe gafodd hi glod uchel iawn gan dri beirniad cystadleuaeth y Goron ac mae un ohonynt wedi ymuno â hi.
Cyril Jones (dde) oedd yn traddodi'r feirniadaeth ddoe.
Yno hefyd mae Gwenallt Llwyd Ifan, cadeirydd y pwyllgor llên ac enillydd Cadair Eisteddfod AmGen 2021.
Canlyniadau a chlipiau uchafbwyntiau // Results round-up.
Read MoreMae'r gystadleuaeth Perfformio Darn Digri Agored wedi pontio cenedlaethau.
Ymysg y cystadleuwyr ddydd Mawrth roedd Mair Jones o Dregaron - roedd hi'n perfformio Y Trip gan Abiah Roderick.
Arferai Mair weithio yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth a mae'n byw dros y clawdd i faes yr Eisteddfod.
Anti Nel a'i ymbarel gan Del Rees oedd dewis digri Gwion Dafydd Bowen o Sir Benfro.
Mae Gwion yn 10 oed ac yn mynychu ysgol Bro Preseli.
Deris Williams, sef mam-gu sydd wedi hyfforddi Gwion. Mae Mair wedi hyfforddi hi ei hun.
Gwion oedd yn fuddugol heddiw a Mair yn ail.
Roedd Rhys Owen Jones o Gorwen yn drydydd.
Neithiwr bu clybiau ffermwyr ifanc Ceredigion yn perfformio eu sioe 'Maes G' yn y Pafiliwn.
Roedd 19 o glybiau Ceredigion yn rhan o'r cynhyrchiad oedd yn rhoi tro cyfoes i'r chwedl am Faes Gwyddno a'r cantref coll.
Un a gafodd ei blesio gan y sioe oedd cyflwynydd Radio Cymru, Geraint Lloyd.
Wrth siarad amdani ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Da iawn aelodau CFFI Ceredigion ar tîm cynhyrchu, sioe briliant!"
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.