Crynodeb

  • Y diweddaraf gan ein gohebwyr ar y maes yn Nhregaron

  • Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama

  • Lisa Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas

  • Parti Pinc yn y Pafiliwn i nodi Diwrnod Mas ar y Maes

  • Gwilym, Adwaith, Mellt, Alffa a Cherddorfa'r Welsh Pops i berfformio yng Ngig y Pafiliwn

YN FYW llif tudalen 1

  1. Dyna ni am ddiwrnod arall - hwyl fawr!wedi ei gyhoeddi 17:22 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Diolch am ddilyn y cyfan unwaith eto ar ddydd Iau yr Eisteddfod. Bydd criw Cymru Fyw yn ôl 'fory!

    Arwydd Tregaron

    Bu'n ddiwrnod arall o uchafbwyntiau... a rhagor i ddod heno wrth gwrs.

    Gruffydd Siôn Ywain yw enillydd y Fedal Ddrama.

    Lisa Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas.

    Mae Gwilym, Adwaith, Mellt, Alffa a Cherddorfa'r Welsh Pops yn paratoi i berfformio yng Ngig y Pafiliwn heno.

    I gloi'r cyfan bydd Parti Pinc yn y Pafiliwn am 23:00 heno.

    Welwn ni chi 'fory! 😎

  2. Draw i Lwyfan y Maes heno?wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Mae'n prysuro yno wedi seremoni'r Fedal Ddrama. Fyddwch chi ymhlith y dorf?

    Llwyfan y Maes
  3. Pâr o drowsus newydd?wedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Mae digon o ddewis... os y'ch chi'n hoffi pinc!

    Trowsus pinc
  4. Rhai o luniau swyddogol dydd Iauwedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Dyn yn darllen cylchgrawnFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyfle i ymlacio!

    Merch yn neidioFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Hapus ei byd

  5. Edmygu llais Mared Williamswedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Roedd Caffi Maes B yn llawn wrth wrando ar Mared Williams. Fe fydd hi hefyd yn canu gyda’i band ar Lwyfan y Maes yfory.

    Mared Williams
  6. Drama 'ffraeth, ddadleuol, emosiynol'wedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    GSY

    Llongyfarchiadau mawr i Gruffydd Siôn Ywain, enillydd y Fedal Ddrama eleni.

    Daeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 15 o ymgeiswyr a chafodd ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron ddydd Iau.

    Mae Gruffydd, sy'n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yn Llundain, hefyd yn derbyn rhodd ariannol o £750.

    Wrth draddodi ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Janet Aethwy fod y ddrama fuddugol yn "stori afaelgar wedi ei saernïo'n gelfydd".

    GSY

    "Mae'n ddrama hyderus a chrefftus sy'n portreadu perthynas cwpwl gwrywaidd sy'n chwilio am fam fenthyg er mwyn creu teulu, a'u perthynas hwy gyda ffrind benywaidd," meddai Janet Aethwy am y ddrama fuddugol.

    "Mae'r themâu yn gyfredol a dadleuol a pherthnasol i gynulleidfa heddiw ac mae'r cymeriadau yn gwbl gredadwy, yn gelfydd a chrwn.

    "Mae'r ddeialog yn ffraeth ac yn emosiynol ac yn llifo'n wych.

    "Mae'r dramodydd yn defnyddio ei gymeriadau i wthio'r plot yn ei flaen yn araf a phwyllog ac mae sicrwydd y bwriad wrth adeiladu'r stori yn dal ein sylw wrth i ni fuddsoddi yn nhynged y cymeriadau."

  7. Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022
    Newydd dorri

    GSY

    Llwyddodd y dramodydd o Ddolgellau i lunio "stori afaelgar wedi ei saernïo'n gelfydd", medd y beirniaid.

    Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama

    Llwyddodd y dramodydd o Ddolgellau i lunio "stori afaelgar wedi ei saernïo'n gelfydd", medd y beirniaid.

    Read More
  8. Gwyliwch seremoni'r Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Cliciwch yma i wylio.

    seremoni'r Fedal Ddrama
  9. Y Fedal Ddrama - y manylionwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Mi fyddwn ni'n clywed ymhen rhai munudau a oes teilyngdod yn seremoni'r Fedal Ddrama.

    Janet Aethwy, ar ran ei chyd-feirniaid Sharon Morgan a Sera Moore Williams, fydd yn datgelu, os oes teilyngdod, ffugenw'r buddugol.

    Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan a doedd dim unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

    Seremoni fer fydd hon a dyw'r Archdderwydd na'r Orsedd ddim yn rhan o'r seremoni.

    Mae'r buddugol yn ennill y fedal (er cof am Urien Wiliam) a £750 o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.

    Drama sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol fydd y ddrama fuddugol.

    Medal Ddrama AmGen 2021
    Disgrifiad o’r llun,

    Medal Ddrama AmGen 2021

  10. Gwyliwch yr holl gystadlu ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Cofiwch y gallwch chi wylio'r holl gystadlu ar y llwyfan yma.

    Mae seremoni'r Fedal Ddrama yn dechrau nawr.

    Ysgol Gerdd Ceredigion
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgol Gerdd Ceredigion - Côr Merched heb fod yn llai nag 20 mewn nifer

  11. Sgwrs rhwng nofelwyr ar Lwyfan y Llannerchwedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Llwyfan y Llannerch

    Daeth nifer draw i Lwyfan y Llannerch i glywed sgwrs rhwng rhai o nofelwyr Gwasg Carreg Gwalch.

    Haf Llywelyn, Angharad Tomos, Rebecca Thomas a Gareth Evans oedd yno yn trafod pa mor berthnasol yw ein hanes i bobl ifanc Cymru heddiw?

  12. Pam fod y Blaid Lafur yn parhau i ddominyddu yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Yr Athro Richard Wyn Jones fu'n trafod y cwestiwn ym Mhabell Cymdeithasau 2 brynhawn yma.

    Roedd y lle dan ei sang wrth i Richard egluro pam fod y blaid wedi ennill etholiad ar ôl etholiad yng Nghymru.

    Richard Wyn Jones
  13. Ffrwyth llafur y cyfnod clo o Awstralia a Chymru'n dod yn fyw yn Nhregaronwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Yn ystod y cyfnod clo, bu Jenny M Thomas (Bush Gothic) ac Angharad Jenkins (Calan) yn cydweithio.

    Roedd y naill yn Awstralia a'r llall yng Nghymru.

    Daeth y ddwy at ei gilydd am y tro cyntaf i chwarae yn y Tŷ Gwerin.

    Jenny M Thomas ac Angharad Jenkins ar lwyfan y Tŷ Gwerin
  14. Adwaith yn gobeithio 'ysbrydoli cenhedlaeth newydd' o ferchedwedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    AdwaithFfynhonnell y llun, Adwaith
    Disgrifiad o’r llun,

    Adwaith yw Heledd Owen, Holly Singer a Gwenllian Anthony

    Bydd band Adwaith yn perfformio yng Ngig y Pafiliwn heno ac yn cloi Maes B am y tro cyntaf erioed eleni.

    Wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd y dair o Gaerfyrddin eu bod yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched yng Nghymru.

    Saith mlynedd yn ôl yn 2015 fe ddychwelodd y gitarydd Holly Singer, y basydd Gwenllian Anthony a'r drymiwr Heledd Owen o Eisteddfod Meifod gyda'r un freuddwyd ar eu meddyliau - creu Adwaith.

    "Wnaethon ni ddechrau'r band ar ôl dod yn ôl o Maes B - felly mae'n teimlo fel full circle moment," meddai Gwenllian Anthony.

    "Nes i fyth gweld ni yn headlinio Maes B. Fi'n teimlo fel weithiau… yn amlwg ni yn y sin Cymraeg ond ei fod e yn one foot in, one foot out."

    Adwaith ydi'r ail grŵp benywaidd yn unig i gloi nos Sadwrn fawr Maes B.

    Darllenwch ragor yma.

  15. Gig y Pafiliwn - fyddwch chi yno?wedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Gwilym, Adwaith, Mellt, Alffa a Cherddorfa'r Welsh Pops fydd yn serennu ar y llwyfan yng Ngig y Pafiliwn heno 🎺🎶

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Lisa Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glaswedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Llongyfarchiadau mawr i Lisa.

    Lisa Dafydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Lisa Dafydd

  17. Cofio am y cynhyrchydd Lowri Gwilymwedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Tafarn y Talbot - sgwrs i gofio Lowri Gwilym

    Yn nhafarn y Talbot, Tregaron brynhawn Iau roedd yna gyfle i gofio am y cynhyrchydd Lowri Gwilym. Hi gafodd y syniad i ffurfio rhaglen Beti a’i Phobol.

    Yn ddiweddarach bu’n gomisiynydd S4C. Cafodd ei magu’n rhannol ym Mro’r Eisteddfod - yn Nhrefenter.

  18. Meddwlgarwch i blant yn yr haulwedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Sesiwn meddwlgarwch i blant

    Mae criw Cyw yn arwain sesiwn meddwlgarwch yn y Pentref Plant tra bod yr haul yn gwenu'n braf.

    Pentre Plant
  19. Y Drindod yn dathlu'r 200wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd ers ei sefydlu - Maes yr Eisteddfod yn lle gwych i ddenu pawb at ei gilydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Y diddanu'n parhau yng Nghaffi Maes Bwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Elis Derby fu wrthi...

    Elis Derby