Crynodeb

  • Y diweddaraf gan ein gohebwyr ar y maes yn Nhregaron

  • Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama

  • Lisa Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas

  • Parti Pinc yn y Pafiliwn i nodi Diwrnod Mas ar y Maes

  • Gwilym, Adwaith, Mellt, Alffa a Cherddorfa'r Welsh Pops i berfformio yng Ngig y Pafiliwn

  1. Gwibio o gwmpas y Maeswedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Mae Jac wrth ei fodd yn yr ardal chwaraeon

    Jac ar ei feic
  2. Cyflwyno llywyddion anrhydeddus y Brifwylwedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Llywyddion anrhydeddus y Brifwyl

    Cafodd llywyddion anrhydeddus y Brifwyl eu cyflwyno yn swyddogol brynhawn Iau.

    Neli Jones, Bethan Bryn, Ben Lake, Delyth Hopkins Evans, Elin Jones - Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith - Owain Schiavone a Rhiannon Lewis.

    Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gofio am Selwyn Jones, gŵr Neli, a oedd i fod yn llywydd anrhydeddus.

    Elin Jones yn siarad ar ran y llywyddion eraill
  3. Hanesydd y dyfodol?wedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Mae staff 'Cadw' yn dod â hanes yn fyw i'r genhedlaeth nesaf...

    Bachgen bach yn mwynhau gwylio hanes yn dod yn fyw ar stondin Cadw
    Disgrifiad o’r llun,

    Bachgen bach yn mwynhau gwylio hanes yn dod yn fyw ar stondin Cadw

  4. Cyfle am ymarfer corff yn y 'Steddfodwedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Chwaraeon ar y maes
    Chwaraeon ar y maes
  5. Cymeriadau adnabyddus?wedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Protestwyr newid hinsawdd grŵp Extinction Rebellion yn dynwared gwleidyddion ar y Maes.

    Protestwyr Extinction Rebellion
  6. Hoe fach i rieni - draw atoch chi griw Cyw!wedi ei gyhoeddi 15:06 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Criw Cyw yn diddanu'r plantos

  7. LHDTC+: 'Dal ffordd i fynd' i fod yn gynhwysolwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Paned o Gê

    Mae'r Cymry'n "licio meddwl" eu bod nhw'n gynhwysol tuag at bobl LHDTC+, ond mae "dal ffordd i fynd" i sicrhau bod pobl o fewn y gymuned yn gyfforddus yn mynegi eu hunain.

    Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron, dywedodd Iestyn Wyn o Stonewall Cymru fod agweddau yn y Brifwyl bellach yn "anhygoel" o groesawgar ar y cyfan.

    Ond mae 'na dal rai pobl, meddai, sydd ag agweddau o "peidiwch rhoi o yn ein gwynebau ni", yn enwedig os ydy'n nhw'n ystyried rhywun yn "rhy queer neu'n rhy camp".

    "'Dan ni angen derbyn pawb am bwy ydyn nhw, pa bynnag ffordd maen nhw'n gwisgo, yn siarad," meddai.

    Iestyn Wyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Iestyn Wyn o Stonewall Cymru

    LHDTC+: 'Dal ffordd i fynd' i fod yn gynhwysol

    Mae agwedd o "peidiwch rhoi o yn ein wynebau ni" yn dal i fodoli gan rai, meddai Iestyn Wyn o Stonewall Cymru.

    Read More
  8. Sbin gwahanol ar ddawnsio gwerin!wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Rhoi sbin gwahanol ar ddawnsio gwerin

  9. Cannoedd yn rali Cymdeithas yr Iaith Gymraegwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Rali Cymdeithas yr Iaith - 'Nid yw Cymru ar Werth'

  10. Tro cyntafwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  11. Rhai o gystadleuwyr y Rhuban Glas eleniwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Llinos Haf
    Disgrifiad o’r llun,

    Llinos Haf Jones

    Owain Rowlands
    Disgrifiad o’r llun,

    Owain Rowlands

  12. Twm Siôn Cati, y lleidr penffordd, yn denu torfwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Sioe Twm Sion Cati

    Roedd hi'n llawn yn Theatr y Maes wrth i sioe Arad Goch, Twm Siôn Cati, ddenu torf.

    Y lleidr penffordd yw un o gymeriadau mwyaf eiconig Tregaron.

  13. Jeremy Miles yn anghytuno â sylwadau Robert Buckland am "bolisïau llawdrwm" ail daiwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Wrth siarad â Cymru Fyw, fe wrthododd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, sylwadau Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, fod polisïau Llywodraeth Cymru ar drethi ail dai yn "rhy lawdrwm".

    Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd hawl gan gynghorau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a thai gwyliau yn sgil cynlluniau newydd gan y llywodraeth.

    Jeremy Miles
    Disgrifiad o’r llun,

    Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles

    "Dwi ddim yn cytuno gyda hynny," dywedodd Mr Miles ddydd Iau wrth ymateb i sylwadau Mr Buckland.

    "Mae gyda ni ystod o opsiynau, ac mae gyda ni sefyllfa mae angen i ni fynd i'r afael â hi. Mae angen i bob cymuned allu defnyddio'r toolkit, os hoffech chi.

    "Mae'n uchelgeisiol, mae'n ddewr, ond dyw e ddim yn llawdrwm."

  14. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali ar y Maeswedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Yn sgil yr "argyfwng" ail dai, mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali 'Nid yw Cymru ar Werth' ar y Maes.

    Un o’r rheiny fu’n annerch y dorf oedd Cai Phillips o Geredigion, a siaradodd am yr heriau i bobl ifanc oedd yn ceisio prynu tŷ yn eu bro leol.

    “Os bod perchnogion ail dai yn gadael oherwydd y trethiant uwch, gwynt teg ar eu hol nhw,” meddai.

    Dywedodd Walis Wyn George, cyn-brif weithredwr Tai Eryri a Grŵp Cynefin, fod y camau diweddaraf i drethu ail dai ond am arafu’r twf, nid ei wyrdroi.

    “Ni fydd hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y niferoedd, na chwaith mwy o dai i bobl leol,” meddai.

    Mae'n cyd-fynd â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Iau am sefydlu comisiwn newydd i lunio argymhellion polisi i ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

    rali ar y Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae dros 200 o bobl yn y rali

  15. Peidiwch â gwneud hyn adref!wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Tipyn o arbrawf ffrwydrol gyda TSE yn digwydd yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg...

    Arbrawf ffrwydrol yn y Pentref Gwyddoniaeth
  16. 'Llawenydd'wedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  17. Prysuro yn y siopau gemwaithwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Cyfle i Rhian ar un stondin gemwaith i gael hoe yn ystod prysurdeb amser cinio...

    Rhian ar ei stondin
  18. Cymylau bygythiol ac ychydig o fwd dan draedwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Cymylau a mwd

    Dyw hi ddim yn haul i gyd ar y Maes... mae dal rhywfaint o fwd dan draed ond mae'n sych. Er, mae'r cymylau duon yn edrych braidd yn fygythiol!

  19. 'Cywilydd nad yw drama Kitchener Davies o Dregaron yn cael ei pherfformio eleni'wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Wrth drafod cyfraniad Kitchener Davies ym Mhabell y Cymdeithasau, dywedodd M Wynn Thomas ei bod hi’n "gywilydd" nad yw ei ddrama, Meini Gwagedd, yn cael ei pherfformio yn y Brifwyl eleni.

    Mae'r ddrama yn "chwalu’r myth am y werin wledig," dywedodd, ac roedd Kitchener Davies yn enedigol o ardal Tregaron.

    Cafodd sylw arbennig ei roi yn y ddarlith i gyfraniad Kitchener Davies yn sefydlu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda hefyd.

    M Wynn Thomas
  20. Sgwrs a chân yng Nghaffi Maes Bwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Arlwy Caffi Maes B

    Sgwrs rhwng Lewys Wyn, Gwyn Rosser, Mabli Gwynne a Tegwen Bruce-Deans yng Nghaffi Maes B.

    Gwyn Rosser yn canu un o’i ganeuon cyn i un o linynnau’r gitâr dorri!