Pennod newydd i Mas ar y Maes 🌈wedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2022
Cafodd Mas ar y Maes ei sefydlu yn Eisteddfod Caerdydd 2018 fel gŵyl ddathlu'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws fel rhan o'r Eisteddfod.
Ond eleni, mae'n ehangu! Yn dilyn grant o bron i £150,000 eleni gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r cynllun yn gwahodd partneriaid newydd i gyd-weithio.

Y partneriaid sy'n ymuno ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Stonewall Cymru a’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru fydd Glitter Cymru, Pride Cymru, Pontio Bangor, a chynrychiolaeth eang o bartneriaid hunangyflogedig creadigol LHDTC+.
Y nod yw cyflwyno diwylliant Cymraeg a Chymreig i gymunedau ehangach LHDTC+ ac arddangos cynnwys newydd cwiar Cymraeg yng ngweithgaredd Pride Cymru a Glitter Cymru yn y dyfodol.
Cofiwch am y Parti Pinc yn y Pafiliwn am 23:00 sy'n rhan o'r ŵyl eleni!