Cerbyd y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cyrraedd Llandafwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022
Dyma oedd yr olygfa wrth i'r Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog gyrraedd Llandaf ychydig funudau yn ôl.
Charles III wedi gwneud ei ymweliad cyntaf â Chymru fel Brenin, gyda'r Frenhines Gydweddog Camilla
Bu'r ddau yn mynychu gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, cyn i'r Brenin gwrdd â'r dorf tu allan
Ar ymweliad â Bae Caerdydd bu'n annerch y Senedd yn Gymraeg wrth dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad
Bu'r pâr Brenhinol yn cwrdd â'r dorf eto yn dilyn derbyniad yng Nghastell Caerdydd
Roedd torf fawr oedd yn gefnogol wedi ymgasglu tu allan, ond protestwyr yno hefyd
Daw wedi marwolaeth Brenhines Elizabeth II yn 96 oed
Dyma oedd yr olygfa wrth i'r Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog gyrraedd Llandaf ychydig funudau yn ôl.
Y Brenin Charles, pan yn dywysog, wnaeth atgyfodi'r traddodiad o gael telynores swyddogol.
Ei delynores swyddogol gyntaf oedd Catrin Finch a hynny yn 2000.
Mae lle amlwg i'r delyn yn nigwyddiadau heddiw - yng Nghadeirlan Llandaf cenir y delyn gan Alis Huws, y delynores swyddogol bresennol.
Daw Alis o'r Foel ger Llanfair Caereinion ac astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae'r Brenin bellach wedi cyrraedd.
Wrth i'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog fynd mewn i'r Gadeirlan Llandaf bydd y Caplan yn arwain yr orymdaith i’r Gadeirlan drwy'r drws gorllewinol.
Fel rhan o'r orymdaith bydd Beibl William Morgan yn cael ei gario.
Bydd y gerddoriaeth organ sydd wedi’i chwarae hyd yma yn stopio wrth i’r Brenin ddod i mewn i’r Gadeirlan.
Wrth i’r gynulleidfa sefyll bydd ffanffer yn cael ei seinio.
Bydd saith o ffanfferwyr o flaen yr Uwch Allor. Y ffanffer yw Reigate in F Major.
Bydd Beibl William Morgan yn cael ei osod ar yr Uwch Allor ar gyfer y gwasanaeth.
Ar laniad y Brenin ym Mhontcanna fe gafodd y gynnau eu tanio - mae'r Brenin bellach ar eu ffordd i Landaf.
Dyw Cadeirlan Llandaf ddim yn ddieithr i'r Brenin newydd.
Yn 1982 fe ddaeth yma i wasanaeth coffa a diolchgarwch i’r milwyr Cymreig a gollodd eu bywydau yn y Falklands.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1991 ymwelodd â Llandaf eto - y tro hwn ar gyfer apêl y Gadeirlan i godi arian am waith adfer ar yr adeilad. Dyma hefyd oedd digwyddiad cyhoeddus cyntaf y Tywysog William yng Nghymru.
Ym Mai 1995 fe ddaeth i Landaf i wasanaeth nodi 50 mlynedd ers Diwrnod VE.
Roedd e a'i rieni yn bresennol yn y gwasanaeth i nodi agoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ac yn 2002 fe ddaeth i wasanaeth diolchgarwch i’r Gwarchodlu Cymreig - gwasanaeth a oedd yn nodi 20 mlynedd ers rhyfel y Falklands.
Fe ddaeth e hefyd i Landaf yn 2019 - 50 mlynedd ers ei arwisgo.
Bu’n noddwr Apêl Organ Eglwys Gadeiriol Llandaf o 2007 pan gafodd yr organ wreiddiol ei tharo gan fellten.
Mae'r hofrennydd y Brenin newydd wedi glanio mewn cae chwarae ar gyrion Llandaf, a'r ymweliad Brenhinol ar ddechrau'n swyddogol!
Hefyd ar ymweliad cyntaf â Chymru heddiw mewn rôl newydd mae Prif Weinidog y DU, Liz Truss.
Mae hi wedi bod yn teithio'r wlad gyda'r Brenin newydd ar ei ymweliadau â'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae arwyddion fod y gynnau ar fin cael eu tanio, a hynny’n golygu y bydd y Brenin yn glanio yng Nghymru cyn hir.
Gwahoddedigion yn unig fydd yn y gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, er bod rhai miloedd wedi casglu ar y strydoedd o amgylch y safle.
Wrthi'n cymryd eu seddi yno mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford a Llywydd y Senedd Elin Jones - dau a fydd hefyd yn mynychu angladd y Frenhines yn Llundain ddydd Llun.
Mae arweinwyr y grwpiau Seneddol - Andrew RT Davies, Jane Dodds ac Adam Price - hefyd yn bresennol yn y gwasanaeth.
Gwahoddedigion yn unig fydd yn y gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, a fydd yn cynnwys anerchiad gan Archesgob Cymru, Andrew John.
Deon dros dro Llandaf, Michael Komor, fydd yn arwain y gwasanaeth a bydd Esgob Llandaf, June Osborne, yn arwain y gweddïau.
Bydd cynrychiolwyr eglwysi a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru hefyd yn darllen gweddïau a bydd yna ddarlleniad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Bydd côr yn perfformio anthem, Gweddi Gymreig - wedi ei chyfansoddi gan Paul Mealor gyda geiriau gan Dr Grahame Davies.
Bydd Alis Huws a Catrin Finch yn cyfeilio - dwy sydd wedi gwasanaethu fel telynores swyddogol y Brenin newydd pan roedd yn Dywysog Cymru.
Ar "ddiwrnod hanesyddol" mae Ariadne, sydd ar flaen y dorf yn Llandaf, yn gobeithio siarad Cymraeg gyda'r Brenin os yw'n dod heibio.
Dywedodd nad yw ei theulu yn dilyn y Teulu Brenhinol o reidrwydd, ond ei bod yn teimlo ei bod angen bod yno er mwyn "cynrychioli'r iaith Gymraeg".
Ychwanegodd ei bod yn teimlo y gallai'r Teulu Brenhinol ymwneud yn fwy â Chymru a'r iaith, a'i bod felly yn bwysig i'r Brenin newydd ddod yma.
Archesgob Cymru, Andy John, fydd yn traddodi'r anerchiad yn Eglwys Gadeiriol, Llandaf.
Yn ôl John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, Radio Cymru: “Gwasanaeth Anglicanaidd fydd e’n bennaf... ond yn sicr gydag elfennau Cymraeg... ddim mor gynhwysol â rhai o’r gwasanaethau eraill ry'n wedi cael yn y gadeirlan, ond bydd yna weddïau a darlleniadau…a rhyw draean yn y Gymraeg, o beth rwy’n deall.
“Rwy’n meddwl fod gan yr Archesgob dasg anodd oherwydd mae’r gwasanaethau yn St Giles ac yn St Anne’s yn Belfast ….roedd ganddynt rhywbeth arbennig i'w ddweud….er enghraifft, yn sôn am ei chysylltiad arbennig gyda Balmoral… neu ei rôll hi yn dod â chymod i Ogledd Iwerddon.
"Mae wedi gwneud llai yng Nghymru, yn naturiol, oherwydd bod yna Dywysog felly, a dyw hi erioed wedi byw yng Nghymru, felly mae’n anos cael ongl wahanol i’r Archesgob, ond rwy’n sicr y bydd yn llwyddo i'w chofio yn ei ffordd ei hun.”
Un sydd yn y dorf yn Llandaf ydy Kay Williams o'r Fenni.
"O'n i'n teimlo hoffen i weld y Brenin newydd," meddai, gan ychwanegu ei bod hefyd wedi mynychu ymweliad y Frenhines ar ei Jiwbilî Arian yn 1977.
Dywedodd ei bod yn teimlo ei bod yn "bwysig iawn" fod y Brenin yn ymweld â Chymru, ac y dylai'r Teulu Brenhinol ymweld yn amlach.
Mae modd gwylio'r ymweliad yn fyw ar frig ein llif byw hefyd.
Cliciwch ar yr eicon chwarae uchod, a bydd modd gwylio'r cyfan heb i chi adael y llif byw.
Ben bore, roedd rhai o'r telynorion fydd yn perfformio yn ystod y dydd wrthi'n paratoi ger y Senedd.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd un o'r telynorion, Nia Evans, mai alawon Cymreig â "naws drist" fydd yn cael eu chwarae yn y cefndir.
"Wrth gwrs heddiw mae Prydain i gyd gyda llygaid ar y digwyddiad felly mae hynny yn gyffrous."
Cyn iddi wawrio hyd yn oed, roedd nifer y tu allan i Gadeirlan Llandaf yn edrych ymlaen at ymweliad y Brenin newydd.
Fe gyrhaeddodd Jenny a Jude am 03:30 y bore gyda Lynda a Karen yn cyrraedd am 05:00.
"Dw i eisiau talu teyrnged i'r diweddar Frenhines. Mae'n teimlo fel y peth iawn i'w wneud," dywedodd Jude.
Bydd y Brenin yn ymweld â thri lleoliad yng Nghaerdydd - y cyntaf fydd Eglwys Gadeiriol Llandaf ac ydi mae'n prysuro ar y strydoedd gerllaw.
Mae cyn-Lywydd y Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn credu bod arwisgiad arall, tebyg i'r un ym 1969, yn "hynod annhebygol".
Pan ofynnwyd iddo ar BBC Newsnight a oedd yn meddwl y byddai arwisgiad, dywedodd: "Rwy'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond nid wyf yn meddwl y dylwn ei gyhoeddi ar Newsnight.
"Rwy'n meddwl ei fod yn annhebygol iawn," ychwanegodd. "Bydd parti, byddwn i’n ddychmygu, ar gyfer Tywysog a Thywysoges newydd Cymru ond yn bersonol dydw i ddim yn ffafrio stynt arall yng Nghastell Caernarfon."
Mae protest ‘dawel’ yn erbyn y Frenhiniaeth hefyd wedi ei threfnu heddiw tu allan i Gastell Caerdydd gan gyn-AS Plaid Cymru Bethan Sayed.
Fe wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas feirniadu hynny’n chwyrn.
"Dyw hi ddim yn ddiwrnod da o gwbl i brotest. Mae'n beth gwirion iawn i'w wneud oherwydd rydyn ni dal mewn cyfnod o alaru,” meddai.
Rhyw 2,000 o bobl fydd yn cael mynediad i Gastell Caerdydd heddiw, gyda disgwyl rhai miloedd yn rhagor tu allan.
Dyma fydd pen y daith i'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog ar eu hymweliad heddiw, ac mae disgwyl iddyn nhw gyfarch y cyhoedd cyn teithio 'nôl i Lundain.
Wrth i'r ciw adeiladu'n sydyn tu allan, ein gohebydd Meleri Williams ydy un o'r ychydig bobl sydd wedi cael mynediad i'r castell yn gynnar y bore 'ma.