Crynodeb

  • Charles III wedi gwneud ei ymweliad cyntaf â Chymru fel Brenin, gyda'r Frenhines Gydweddog Camilla

  • Bu'r ddau yn mynychu gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, cyn i'r Brenin gwrdd â'r dorf tu allan

  • Ar ymweliad â Bae Caerdydd bu'n annerch y Senedd yn Gymraeg wrth dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad

  • Bu'r pâr Brenhinol yn cwrdd â'r dorf eto yn dilyn derbyniad yng Nghastell Caerdydd

  • Roedd torf fawr oedd yn gefnogol wedi ymgasglu tu allan, ond protestwyr yno hefyd

  • Daw wedi marwolaeth Brenhines Elizabeth II yn 96 oed

  1. Archesgob Cymru: 'Braint bod yn rhan o'r cyfan'wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Ar ddiwedd y gwasanaeth yn Llandaf dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John: "Roedd yn wasanaeth parchus ac yn hyfryd greadigol.

    "Roedd 'na deimlad hefyd o barch tuag at gyfraniad y cyn-Frenhines ond roedd yna gynhesrwydd hefyd at y Brenin, ac i gyfuno y ddau beth roedd yn sgil o ran y Gadeirlan. Roedd yn fraint i fod yn rhan ohono."

    AJ
  2. Y fyddin wedi cyrraedd y Senedd i groesawu’r Breninwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Fel rhan o'r paratoadau ym Mae Caerdydd, mae’r fyddin wedi cyrraedd y Senedd yn barod i groesawu’r Brenin a'r Frenhines Gydweddog.

    Disgrifiad,

    Mae’r fyddin wedi cyrraedd y Senedd

  3. Elizabeth wedi 'adeiladu pontydd' rhwng Iwerddon a'r DUwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Wedi ei ymweliad â'r Alban, aeth y Brenin Charles i Ogledd Iwerddon ddydd Mawrth ble bu'n cwrdd ag arweinwyr pum plaid wleidyddol fwyaf y wlad.

    Dywedodd Bethan Kilfoil, sy'n newyddiadurwr gyda RTE yn Iwerddon, fod y Frenhines wedi creu cysylltiadau cryfach rhwng Iwerddon a'r DU, ac y bydd Charles angen gweithio i gael yr un lefel o barch yno.

    "Mi wnaeth y Frenhines Elizabeth adeiladu pontydd rhwng y ddwy wlad, ynghyd â Mary McAleese, yr arlywydd pan ddaeth hi draw i Ddulyn ar ei hymweliad," meddai.

    "Dwi'n meddwl y bydd Charles yn gweld mai ei rôl o fydd parhau ac adeiladu ar y berthynas yna, ond dwi ddim yn gwybod os fydd y croeso a'r berthynas gyda Charles yr un mor gynnes a brwdfrydig ag yr oedd o gydag Elizabeth."

    Bethan Kilfoil
  4. Ymweliad gwahanol iawn 10 wythnos yn ddiweddarachwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    10 wythnos yn ôl, roedd Charles III yn ymweld â Threorci ac yn agor adeilad newydd y BBC, a hynny fel Tywysog Cymru.

    Ond heddiw, bydd yn cyfarch torfeydd fel Brenin a dyna arwyddocâd y diwrnod yn ôl ein gohebydd Huw Thomas.

    Disgrifiad,

    Huw Thomas

  5. Y Brenin yn cwrdd â'r dorf yn Llandafwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Cyn gwneud y daith i'r Senedd mae'r Brenin wedi gadael ei gerbyd er mwyn cyfarfod ag aelodau o'r dorf helaeth sydd wedi casglu ar strydoedd Llandaf, gan gynnwys disgyblion Ysgol y Wern yn y brifddinas.

    Charles
    Charles
    Charles
  6. 'Dim lle i Deulu Brenhinol yn ein hoes gyfoes'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Hefyd yn ystod ymweliad y Brenin Charles â'r Alban bu BBC Cymru yn siarad â Llinos Wyn Jones, sy'n wreiddiol o Don-teg ger Pontypridd, ond sydd wedi byw yng Nghaeredin ers dros ddegawd.

    "Mae 'na arferiad o ŵyl y Fringe yma yna amlwg, a 'da ni wedi cael hwnnw yn ddiweddar, felly mae rhywbeth cyfoes fel 'na yn cael ei ddilyn gan rywbeth fel hyn, sy'n rhywbeth eitha' anacronistig i fi a dweud y gwir, yn eitha' swreal," meddai.

    "Mae yn creu argraff ar rywun, wrth gwrs - dim ots pa ochr 'da chi - ond mae o hefyd yn dangos yn gryf pwy sydd yn ein rheoli, ac mae o'n atgoffa ni'n fawr o ein lle."

    Llinos Wyn JonesFfynhonnell y llun, Llinos Wyn Jones

    Ychwanegodd: "Mae o fatha rhyw ŵyl o alaru, sydd hefyd i fi yn swreal. Mae 'na lot o emosiynau, lot o wynebau hirion, ond dwi dal methu deall pam.

    "Dwi'n meddwl, yn weledol, ydy, mae o'n edrych fel bod 'na griw enfawr o bobl wedi dod at ei gilydd, ond fel canran o boblogaeth y ddinas, dydy o ddim yn ganran mor fawr â hynny.

    "Mae nifer yma yn Yr Alban yn teimlo'n gryf nad oes yna le i Deulu Brenhinol yn ein hoes gyfoes ni."

  7. Y Frenhines wedi bod yn 'gysondeb yn ein bywydau ni'wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Cymru ydy'r wlad olaf i'r Brenin newydd ymweld â hi'r wythnos hon, wedi iddo deithio i ardal Caeredin yn Yr Alban a Belfast yng Ngogledd Iwerddon.

    Ar ei ymweliadau â'r llefydd hynny, bu BBC Cymru yn casglu'r farn am y Frenhines a'r Frenhiniaeth gan Gymry sydd wedi ymgartrefu yno.

    Yn wreiddiol o orllewin Cymru, mae'r anesthetydd Nia Wyn Wylie bellach yn byw yng Nghaeredin gyda’i gŵr a dau o feibion ifanc.

    Nia Wyn Wylie

    "Mae'n cenhedlaeth ni falle yn llai o Royalists na'r cenedlaethau hŷn," meddai.

    "Ymysg fy ffrindiau i fan hyn sai'n credu bo' nhw yn cytuno rhyw lawer gyda'r Frenhiniaeth, ond fi'n credu bod nhw wedi bod yn rhyw fath o gysondeb yn ein bywydau ni, yn enwedig gyda'r Frenhines Elizabeth yno am 70 mlynedd.

    "Fi'n credu bod y cysondeb yna wedi dod â bach o gysur i rai ohonom ni dros y blynyddoedd eitha' caled diwetha' 'ma.

    "Er falle bod pobl ddim yn cytuno'n gyfangwbl gyda nhw, mae'n bwysig i ddod i ddangos parch ac i ddathlu bywyd eitha' anghredadwy."

  8. Y gwasanaeth yn Llandaf yn dirwyn i benwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Gyda'r gwasanaeth yn Llandaf yn dirwyn i ben, bydd y Brenin Charles a'r Frenhines Gydweddog Camilla yn teithio i Fae Caerdydd, ble byddan nhw'n derbyn Cynnig o Gydymdeimlad yn y Senedd.

    Charles a Camilla
  9. Y Frenhines ag 'etifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth a defosiwn'wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn talu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II yn ystod y gwasanaeth yn Llandaf, dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John ei fod yn anrhydeddu "etifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth a defosiwn, sydd heb gyfartal yn hanes ein cenedl".

    Ar ddiwedd y gwasanaeth canwyd emyn enwog William Williams, Pantycelyn - 'Guide me, o thou Great Redeemer' i'r emyn-dôn Cwm Rhondda ac yna fe unodd y dorf i ganu yr anthem genedlaethol 'Hen Wlad fy Nhadau' ac yna 'God Save the King'.

    Disgrifiad,

    Archesgob Cymru Andrew John

  10. Y dorf yn dechrau cael mynd mewn i'r castellwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Wedi sawl awr o giwio i nifer, mae'r dorf wedi dechrau cael eu gadael mewn i Gastell Caerdydd - lleoliad ymweliad olaf y Brenin a'r Frenhines Gydweddog heddiw.

    Mae'r nifer fydd yn cael mynd i mewn i'r castell wedi'i gyfyngu i 2,000, ond mae disgwyl mwy o dorf tu allan.

    Disgrifiad,

    Y ciw tu allan i’r castell yn dechrau symud a 2,000 yn cael mynd mewn

  11. Darlleniad gan y Prif Weinidog o Lyfr Cyntaf y Brenhinoeddwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn y gwasanaeth yn Llandaf bu'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn darllen yn Gymraeg o Lyfr Cyntaf y Brenhinoedd.

    Yr ail emyn-dôn a ganwyd yn y Gadeirlan oedd Blaenwern.

    Disgrifiad,

    Darlleniad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford

  12. Archesgob Cymru: 'Roedd hi'n gysur i gymuned Aberfan'wedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Gan gyfeirio at ei hymweliad ag Aberfan wedi trychineb 1966 dywedodd Archesgob Cymru: "Canfu cymuned Aberfan ei phresenoldeb yn gysur mawr a byddai Ei Mawrhydi yn dychwelyd bedair yn fwy o weithiau i’r gymuned hon."

    Cyfeiriodd hefyd at y flwyddyn 2006 pan agorodd y Frenhines adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ac wrth gwblhau cyfeiriodd at ei ffydd Gristnogol ddofn.

    "Diolchwn i Dduw am y ffydd hon a’r bywyd hwn, a fu’n llawn graslondeb a doethineb," meddai.

    AberfanFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Frenhines yn Aberfan yn Hydref 1966

  13. 'Ni fyddwn byth yn edrych ar jar o farmaled yn yr un ffordd eto'wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    "Canfu Prif Weinidogion ei bod yn gyfrinachwraig werthfawr y gallent ymddiried ynddi," ychwanegodd Archesgob Cymru.

    Cyfeiriodd hefyd at ei gwybodaeth o ddigwyddiadau'r byd a dywedodd bod ei chadernid ar gyfnodau o her cenedlaethol yn rhoi sicrwydd.

    Nid oedd hyn erioed yn fwy gwir na phan ddarlledodd neges i’r genedl yn ystod y pandemig, meddai.

    "Gwelsom hefyd frenhines a fedrai ein synnu a’n llawenhau.

    "Ni fyddwn byth yn edrych ar jar o farmaled yn yr un ffordd eto nac yn edrych ar Mr Bond heb gofio am 2012 a’r naid honno i’r gwagle."

    Paddington
    Disgrifiad o’r llun,

    Ar ddechrau dathliadau'r Jiwbilî Blatinwm fe wnaeth y Frenhines gael te gyda Paddington yr arth

  14. Archesgob Cymru: 'Bywyd o raslondeb a doethineb'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn ystod ei anerchiad yng Nghadeirlan Llandaf dywed Archesgob Cymru, Andrew John, bod bywyd Elizabeth II yn "fywyd o raslondeb a doethineb".

    Gan gydymdeimlo â'r Brenin a'i deulu dywed ei bod yn anrhydedd eu croesawu i'r gwasanaeth.

    "Heddiw anrhydeddwn etifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth ac ymroddiad heb ei ail yn hanes ein cenedl," meddai.

    "Ar draws y wlad mae llawer wedi cydnabod yr effaith a gafodd y ddiweddar Frenhines ar ein bywyd cyhoeddus yn ogystal ag ar fywydau unigolion; ar sut, o’r dyddiau cynnar, y trawsnewidiodd y frenhiniaeth gan ddod â hygyrchedd i wlad oedd yn dal yng nghysgod anrhaith rhyfel.

    "Mae ei sgiliau diplomatig yn hysbys iawn ond roedd ganddi’r gallu i gysylltu gyda’r dyn/menyw ar ‘Omnibws Clapham’ neu efallai ar y bws ym Merthyr Tudful - gyda’r person ar y stryd, gyda sylw oedd yn gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich deall a’ch gwerthfawrogi," ychwanegodd.

    ArchesgobFfynhonnell y llun, Ye Eglwys yng Nghymru
  15. Y dorf yn cynyddu o amgylch y Seneddwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Wrth i'r gwasanaeth fynd yn ei flaen yng Nghadeirlan Llandaf, mae hi'n prysuro hefyd yn lleoliad nesaf ymweliad y Brenin newydd, sef y Senedd ym Mae Caerdydd.

    Torf Senedd
  16. Nifer y tu allan yn Llandaf yn yr heulwen yn ystod y gwasanaethwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Llandaf
  17. 'Da ni wedi bod yn ymarfer a 'da ni’n barod i fynd'wedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Mae'r Swyddog Dean Hughes o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn paratoi aelodau’r fyddin ar gyfer ymweliad y Brenin.

    “Dwi ddim yn nerfus o gwbl. ‘Da ni wedi bod yn ymarfer a 'da ni’n barod i fynd,” meddai wrth ein gohebydd Carl Roberts ym Mae Caerdydd.

    Disgrifiad,

    Mae Swyddog Dean Hughes o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn rhan o'r paratoadau

  18. 'Gwasanaeth yn dathlu amrywiaeth Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Dywed Ainsley Griffiths o'r Eglwys yng Nghymru y "bod y gwasanaeth yn un Anglicanaidd… yn glasurol mewn llawer ystyr ond bydd yna gynrychiolwyr hefyd o’r eglwysi eraill a chymunedau ffydd eraill Cymru - hynny'n dangos bod Cymru yn Gymru amrywiol, ac yn cydnabod hynny ac yn dathlu hwnna.”

    Y Prif Weinidog sy'n darllen yn gyntaf - ac mae e'n darllen yn Gymraeg o Lyfr y Brenhinoedd.

    Mae'r Arglwydd Raglaw Morfudd Meredith yn darllen yn Saesneg o Efengyl Mathew.

    Aisley Griffiths
  19. Y Frenhines wedi bod yng Nghadeirlan Llandaf bum gwaithwedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Fe wnaeth y Frenhines Elizabeth II ymweld â’r Gadeirlan yn Llandaf bum gwaith yn ystod ei theyrnasiad.

    Y tro olaf iddi ymweld oedd adeg y Jiwbilî Ddiemwnt yn 2012.

    Fe ymwelodd â’r Gadeirlan am y tro cyntaf yn Awst 1960 i ddathlu gorffen y gwaith o adnewyddu wedi cyrchoedd bomio’r Ail Ryfel Byd. Cyfansoddwyd anthem yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Syr Arthur Bliss, Meistr Cerddoriaeth y Frenhines.

    Fe ddaeth hi hefyd i'r Gadeirlan yn 1966 gyda'r Fam Frenhines, yn 1977 i wasanaeth cenedlaethol o ddiolchgarwch i nodi Jiwbilî Arian y Frenhines a hefyd yn 1999 i wasanaeth a oedd yn nodi agoriad y Cynulliad Cenedlaethol.

    Llandaf
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Frenhines a Dug Caeredin yn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Llandaf ar gyfer gwasanaeth o ddiolchgarwch ar ddiwrnod cyntaf eu taith â Chymru fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî Ddiemwnt

  20. Emyn Pantyfedwen yn atseinio drwy'r Gadeirlanwedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Emyn Pantyfedwen yw'r cyntaf i gael ei ganu yn y Gadeirlan - geiriau’r diweddar Parch W Rhys Nicholas, ‘Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw’ a thôn Eddie Evans.

    Cofiwch bod y cyfan i'w glywed ar Radio Cymru, ar S4C ac yma ar ein llif byw.

    gwasnth