Crynodeb

  • Torfeydd yn un miloedd yn Llundain ar gyfer angladd gwladol y Frenhines Elizabeth II yn Abaty Westminster

  • Traddodi'r Frenhines yng Nghapel San Siôr yng Nghastell Windsor

  • Seremoni breifat am 19:30 ar gyfer y teulu Brenhinol yn unig i orffen digwyddiadau'r dydd

  • Rhai yn ymgasglu mewn lleoliadau ar draws Cymru i weld yr angladd

  • Canslo apwyntiadau gan fod hi'n Ŵyl y Banc

  1. Tawelu clychau Abaty Westminster drwy'r prynhawnwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Yn Hyde Park, bydd yr arch yn cael ei rhoi yn yr Hers Wladol ar gyfer y daith i Windsor.

    Wrth i’r Hers Wladol adael Wellington Arch, bydd yr orymdaith yn rhoi Salíwt Frenhinol a bydd yr anthem 'God Save the King' yn cael ei chwarae eto.

    Bydd y Brenin ac aelodau’ o'r Teulu Brenhinol wedyn yn gadael am Windsor.

    Unwaith fydd gorymdaith yr arch a gorymdaith y Brenin wedi gadael Wellington Arch am Windsor, bydd clychau Abaty Westminster wedi’u pylu’n llawn (fully muffled) drwy’r prynhawn - dim ond ar ôl angladd brenhines neu frenin y mae hyn yn digwydd.

    Bydd yr Hers Wladol yn mynd drwy Lundain gan basio atyniadau fel Cofeb Albert a’r Amgueddfa Astudiaethau Natur.

    Yna fe fydd yn mynd drwy orllewin Llundain cyn cyrraedd cefn gwlad.

    Mae digwyl i'r hers gyrraedd Windsor am 15:00 ac yno bydd gorymdaith arall yn digwydd.

    rhieni
    Disgrifiad o’r llun,

    Yn ystod yr orymdaith fe basiodd yr arch gofgolofnau er cof am rieni Elizabeth II

  2. Rôl y lluoedd arfogwedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    graffeg milwrol
  3. 'Tynnu cymuned at ei gilydd'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    "Mae’r ffaith bod pobl eisiau bod yn y ciw i weld yr arch yn dangos bod pobl eisiau bod yn rhan o hanes," meddai Non Vaughan-O’Hagan, cyn-gynorthwyydd personol i Ddeon Westminster, ar Newyddion S4C.

    "Mae hynny’n tynnu cymuned at ei gilydd.

    "Ar lefel rhyngwladol mae’n eithriadol bod y byd wedi dod yma.

    "Gobeithio yn sgil hyn i gyd, gan nad oes agenda o gwbl, gobeithio bod y sgyrsiau i gyd sy’n digwydd yn gallu tyfu profiadau newydd i ni gyd."

    ciw brenhinol
  4. Dr Elin Jones: 'Y gwasanaeth yn urddasol iawn'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    BBC Radio Cymru

    Roedd popeth am y gwasanaeth yn Abaty Westminster "oni bai am un anthem" yn "hollol draddodiadol" yn ôl yr hanesydd Dr Elin Jones.

    "Emynau hollol Gristnogol, y gwasanaeth yn draddodiadol ac yn Anglicanaidd, ac roedd y gerddoriaeth hefyd yn draddodiadol.

    "Gyda'r cysylltiadau yna gyda ei phriodas hi, o'n i'n meddwl bod e'n emosiynol iawn ac roedd y cyfan yn hardd iawn, yn urddasol iawn ac yn draddodiadol dros ben."

    gwasnthFfynhonnell y llun, PA Media
  5. Yr orymdaith yn cael effaith ar rai hediadau o Heathrowwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae rhai hediadau i ac o faes awyr Heathrow wedi eu hatal am gyfnod - er mwyn peidio amharu ar yr orymdaith angladdol wrth iddi fynd i Hyde Park.

    Dyw'r amharu ddim yn fawr, medd llefarydd ar ran y maes awyr ond mae'n debyg bod British Airways wedi canslo 50 hediad.

    HeathrowFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Yr arch wedi'i gwneud 30 mlynedd yn ôlwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae’r arch wedi’i gwneud o dderw o Loegr ac wedi’i leinio â phlwm.

    Cafodd ei chreu 30 mlynedd yn ôl ac mae wedi bod ym meddiant yr ymgymerwyr brenhinol presennol, Leverton & Sons, ers 1991.

    arch
  7. Torfeydd yn Windsor yn barodwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r torfeydd eisoes wedi dechrau ymgynnull yn Windsor, ble bydd arch y Frenhines yn teithio heibio y prynhawn yma.

    Disgrifiad,

    Catrin Haf Jones sydd ar The Long Walk yn Windsor

  8. Distawrwydd ar Stryd Fawr Bangorwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Fel nifer o drefi a dinasoedd eraill ar draws Cymru, mae Stryd Fawr Bangor hefyd yn llethol o dawel heddiw.

    Mae nifer o siopau a busnesau ar gau yn ystod y dydd oherwydd yr angladd.

    Bangor
    Bangor
  9. 'Person annwyl iawn'wedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Un o'r bobl sydd ar y Mall y prynhawn 'ma yw Ann Jones, Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched.

    Mae hi wedi cwrdd â'r Frenhines droeon a bu'n rhannu ei hatgofion gyda'n gohebydd Iwan Griffiths.

    Disgrifiad,

    Ann Jones, Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched

  10. Yr orymdaith yn teithio i sŵn Big Ben a thanio gynnauwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r orymdaith angladdol yn cerdded tua Hyde Park o dan arweiniad Heddlu Marchogol Brenhinol Canada – y Mounties. Mae yna saith grŵp ohonyn nhw - pob un â'i fand ei hun.

    Mae aelodau o’r lluoedd arfog o’r DU a’r Gymanwlad, yr heddlu a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn cymryd rhan.

    Mae'r Brenin a rhai aelodau o'r Teulu Brenhinol yn dilyn arch y Frenhines tra bod Camilla, y Frenhines Gydweddog, Tywysoges Cymru, Iarlles Wessex a Duges Sussex yn ymuno â’r orymdaith mewn ceir.

    Dyw hi ddim yn orymdaith dawel gan bod y Magnelwyr Brenhinol yn tanio gynnau yn Hyde Park bob munud ac hefyd mae Big Ben yn canu bob munud.

    Mae disgwyl i'r orymdaith gyrraedd Hyde Park erbyn 13:00.

    teithio
    Disgrifiad,

    Y Brenin a'r teulu brenhinol yn dilyn taith yr arch

  11. Sŵn y gwn yn tanio ger Hyde Park yn 'rymus'wedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Sion Pennar
    Gohebydd BBC Cymru

    Yma yn Hyde Park dechreuodd y torfeydd glapio pan gafodd arch y Frenhines ei chodi a'i chario allan o'r Abaty.

    Mae sŵn y gwn yn tanio gerllaw yn rymus.

    Rwan mae nifer yn gadael y parc i fynd i weld a allan nhw ddal cip o'r orymdaith sy'n pasio gerllaw.

    gorymdeithio
  12. 'Meddwl y byddai'n byw am byth'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Ymhlith y miloedd o bobl sydd eisoes ar y Mall mae Myfanwy Bunting, 50, ei gŵr Dean a'u merch Eden, 8, a deithiodd o Fro Morgannwg ddoe.

    "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i Eden wybod ein bod ni wedi cael brenhines fenywaidd ar yr orsedd am 70 mlynedd," meddai Myfanwy.

    "Fe wnaeth hi waith arbennig."

    Fel nifer o bobl, mae Myfanwy yn dal i ddod i arfer gyda'r syniad na fydd Elizabeth II yn teyrnasu mwyach.

    "Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n anfarwol a'i bod hi am fyw am byth."

    teulu Bunting
  13. Claire Jones: Cerddoriaeth 'drawiadol'wedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r cyn-delynores frenhinol, Claire Jones wedi bod yn adlewyrchu ar y gerddoriaeth a gafwyd yn y gwasanaeth.

    "Roedden nhw'n ddewisiadau hynod o drawiadol ynglŷn â’r sefyllfa ry’n ni ynddo heddiw," meddai ar Newyddion S4C.

    "Dwi’n siŵr iawn y byddai’r Brenin wedi bod yn agos iawn at ddewis pob darn o gerddoriaeth, o’r trwmpedi i Gôr Abaty Westminster.

    "Roedd yr organyddion yn wych yn eu gwaith heddiw.

    "Wrth ystyried y pwysau oedd arnyn nhw gyda’r byd yn gwylio, fel cerddor proffesiynol dwi’n gwybod yn iawn sut mae hi i chwarae mewn achlysur sydd â lot o bwysau.

    "Dwi’n siŵr bod nifer o oriau wedi’u treulio yn paratoi am hyn.

    "Roedd darn Judith Weir yn drawiadol iawn ac yn enwedig darn Hubert Parry.

    "Pan roeddwn i’n gweithio i’r Brenin, y Tywysog Charles fel oedd e ar y pryd, roedd e’n hoff iawn o gerddoriaeth Hubert Parry.

    "Felly roedd yna nifer o atgofion o’r ochr artistig a cherddorol, a’r elfen Albaneg gyda phibydd y Frenhines yn chwarae’n drawiadol iawn ar y diwedd."

    teulu
  14. Dau funud o dawelwch yn Wrecsamwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Matthew Richards
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae gweithwyr brys yn Wrecsam ymhlith y rheiny fu'n cymryd rhan yn y dau funud o dawelwch.

    Fe wnaeth naw o ddiffoddwyr tân Green Watch, sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Adnoddau'r Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans, sefyll y tu allan o flaen eu cerbydau.

    Ochr yn ochr â nhw roedd staff a pharafeddygon o'r gwasanaeth ambiwlans hefyd.

    swyddogion tan Wrecsam
  15. Blodau ar yr arch wedi eu dewis yn ofaluswedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r dorch sydd ar arch y Frenhines yn cynnwys blodau gafodd eu dewis gan y Brenin Charles.

    Wedi'u torri o erddi Palas Buckingham, Clarence House a Highgrove House, mae'r blodau a'r dail wedi'u dewis oherwydd eu symbolaeth.

    BlodauFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y blodau

    Maen nhw’n cynnwys rhosmari - i gofio - a myrtwydd a gafodd ei dyfu o sbrigyn yn nhusw priodas y Frenhines.

    Yn eu plith mae na dderw o Loegr i symboleiddio cryfder cariad, pelargoniums, rhosod yr ardd a dahlias.

    Mae'r blodau yn liwiau o aur, pinc, coch tywyll a gwyn, i adlewyrchu’r Faner Frenhinol.

    Mae'r nodyn sydd ar y dorch yn cynnwys neges sy'n dweud: "Er cof cariadus a theyrngar" ac mae wedi ei llofnodi gan y Brenin Charles.

  16. Staff Palas Buckingham yn dod allanwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae staff y teulu brenhinol wedi dod allan o Balas Buckingham i sefyll ger y llwybr ble bydd yr arch yn ymdeithio.

    staff Palas Buckingham
  17. Llwybr yr orymdaith i Wellington Archwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    gfx
  18. Gwylio'r angladd mewn sinemawedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Chris Dearden
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae tua 55 o bobl wedi dod i Theatr Colwyn i wylio'r angladd ar y sgrin fan hyn.

    Dywedodd staff bod nifer o bobl wedi dod oherwydd fel arall bydden nhw'n gwylio'r peth o adref, ond mae teuluoedd a grwpiau eraill yma hefyd.

    Dydy'r theatr ddim yn llawn - mae'n gallu dal tua 300 - ond mae awyrgylch dymunol ond tawedog yma.

    theatr Bae Colwyn
  19. Y Gwarchodlu Cymreig yn ymarfer ar y Mallwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Nesaf fe fydd arch y Frenhines yn teithio i Gornel Hyde Park - heibio'r Mall.

    Disgrifiad,

    Y Gwarchodlu Cymreig yn ymarfer

  20. Y Frenhines 'wedi cadw cwmni i mi'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae Harry Squibs, 57, o Borthcawl yn un o'r rheiny sydd wedi bod yn gwneud ei ffordd ar hyd Pall Mall.

    Dywedodd fod y Frenhines "wedi cadw cwmni i mi ar Ddydd Nadolig".

    "Mae 'na sawl rheswl [pam nes i ddod], mwy i wneud gyda fy mherthnasau oedd yn y lluoedd arfog - pob un o'r tri, y fyddin, y llu awyr a'r llynges," meddai.

    "Fe fu sawl un ohonyn nhw farw'n ddiweddar. Hefyd roedd fy mam yn byw yma pan oedd hi'n ifanc, a bu hi farw'n ddiweddar gyda dementia."

    Y torfeydd yn gwneud eu ffordd tuag at Hyde Park
    Disgrifiad o’r llun,

    Y torfeydd yn gwneud eu ffordd tuag at Hyde Park