Crynodeb

  • Torfeydd yn un miloedd yn Llundain ar gyfer angladd gwladol y Frenhines Elizabeth II yn Abaty Westminster

  • Traddodi'r Frenhines yng Nghapel San Siôr yng Nghastell Windsor

  • Seremoni breifat am 19:30 ar gyfer y teulu Brenhinol yn unig i orffen digwyddiadau'r dydd

  • Rhai yn ymgasglu mewn lleoliadau ar draws Cymru i weld yr angladd

  • Canslo apwyntiadau gan fod hi'n Ŵyl y Banc

  1. O Abaty Westminster i Hyde Park heibio Palas Buckinghamwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Nesaf bydd yr orymdaith angladdol yn teithio o Hyde Park i Abaty Westminster.

    Mae arch y Frenhines bellach yn dychwelyd i'r Cerbyd Gwn Gwladol ar gyfer yr orymdaith i Wellington Arch, Hyde Park Corner.

    Bydd yn teithio heibio'r Mall a Phalas Buckingham cyn cyrraedd Wellington Arch.

    Ers marwolaeth y Frenhines mae miloedd wedi bod yn ymgasglu y tu allan i Balas Buckingham - nifer yn gadael blodau er cof amdani.

    Plas BuckinghamFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Cloi y gwasanaeth yn Abaty Westminsterwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    I gloi'r gwasanaeth cenir yr anthem 'God Save the King' ac mae pibydd y Frenhines yn chwarae cerddoriaeth bwrpasol - galargan a ddewiswyd gan y Frenhines ei hun.

    pibydd
  3. Cyfnod o dawelwch ar draws y DUwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r gwasanaeth angladdol yn Abaty Westminster bellach ar fin dirwyn i ben.

    Mae'r 'Caniad Olaf' - y Last Post yn nodi cyfnod o ddwy funud o dawelwch ar draws y DU.

    Munud o dawelwch yn yr Abaty
    Disgrifiad o’r llun,

    Munud o dawelwch yn yr Abaty

  4. 'Angladd gwladol heb ei ail'wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    "Allen ni i gyd gofio angladdau brenhinol diweddar, gan gynnwys y Frenhines Diana, Dug Caeredin a Margaret," meddai'r hanesydd Mari William ar Newyddion S4C.

    "Mae’n siŵr mai angladd Diana oedd ar y raddfa fwyaf.

    "Ond mae hwn hyd yn oed yn fwy, angladd gwladol sydd heb ei weld ers un Winston Churchill yn 1965."

    angladd
  5. Teithio o Fôn i ddod i'r angladdwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae Andrea Hughes a'i theulu wedi bod yn aros ers 06:30 y bore ac yn "benderfynol o aros am y diwrnod".

    Disgrifiad,

    Mae Andrea Hughes o Ynys Môn wedi dod lawr yn arbennig ar gyfer yr angladd.

  6. 'Neb eisiau galaru ar ben eu hunain'wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Colette Hume
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae tua 50 o bobl wedi ymgynnull yma yn Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr yn ardal Treganna, Caerdydd i wylio'r gwasanaeth ar sgrin fawr.

    Cafodd geiriau'r emynau eu printio, ac maen nhw'n cymryd rhan yn y canu.

    Mae eistedd yma yn yr eglwys yn gwylio'r angladd wedi bod yn brofiad annisgwyl o agos atoch.

    Roedd gwrando ar y canu fan hyn wrth wylio'r galarwyr yn Abaty Westminster bron yn gwneud i chi deimlo fel eich bod chi yno.

    Fel y dywedodd un o'r rheiny sydd yma wrtha i cyn dechrau'r gwasanaeth: "Does neb eisiau galaru ar eu pen eu hunain. Mae'n rhaid i ni fod gyda'n gilydd."

    Canton
  7. Nifer o'r rhai a gafodd eu cydnabod yn y rhestr Anrhydeddau yn y gynulleidfawedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae bron i 200 o bobl a gafodd eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn gynharach eleni yn bresennol yn y gynulleidfa - yn eu plith y rhai a wnaeth gyfraniadau rhyfeddol i’r ymateb i bandemig Covid-19, ac sydd wedi gwirfoddoli yn eu cymunedau lleol.

    Dim ond adeg y Nadolig y tueddai'r Frenhines i areithio ond fe wnaeth hi araith yn ystod y pandemig.

    Yn gynharach eleni fe gafodd hi ei hun Covid ac fe gafodd rheolau'r pandemig effaith ar angladd ei gŵr - Dug Caeredin.

    AngladdFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd yn rhaid i'r Frenhines eistedd ar ben ei hun yn angladd Dug Caeredin yn sgil rheolau Covid

  8. 'Ei heglwys hi yw hon'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    A hithau wedi gweithio fel swyddog personol i Ddeon Abaty Westminster am bron i chwarter canrif, fe gwrddodd Non Vaughan O'Hagan â'r Frenhines "droeon".

    Ar achlysuron fel gwasanaeth flynyddol y Gymanwlad, "fe fydde hi'n cael cyfle i ymlacio ryw 'chydig bach" yn y Deondy cyn neu ar ôl y gwasanaeth.

    Fel eglwys â'r statws Royal Peculiar, dan awdurdod y teyrn y daw'r abaty, yn hytrach nag esgob, "felly ei heglwys hi yw hon a wi'n credu bod hwnna'n hyfryd... bod yr angladd yn digwydd yn fan hyn heddi".

    Er bod Non wedi hen arfer â digwyddiadau mawr yn yr Abaty, gan gynnwys priodas y Tywysog William â Kate Middleton, dywedodd wrth raglen Dros Frecwast bod teimlad "tipyn yn wahanol" oriau cyn yr angladd.

    "O'n i'n edrych ar yr heddlu'n pasio fan hyn - bob un ohonyn nhw'n gwisgi menig gwyn," meddai. "'Dwi'n credu mae'r ffurfioldeb sy' yn yr awyr a'r awyrgylch ar hyn o bryd yn drawiadol ofnadw."

  9. Newid defodau 'o ddiddordeb i haneswyr'wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r hanesydd Dr Elin Jones yn dweud ei bod hi'n "ddiddorol" nodi pa newidiadau sydd i'r drefn angladdol ers i'r un diwethaf gael ei gynnal.

    "Wedi’r cyfan mae hi’n 70 o flynyddoedd ers i ni gladdu teyrn, a bydd y defodau yna wedi newid, a dwi’n meddwl mai hynny fydd o ddiddordeb i haneswyr y dyfodol," meddai ar BBC Radio Cymru.

    "Achos angladd yw angladd, ac mae’r gwaith o angladd yn mynd i fod yr un peth pwy bynnag ydych chi.

    "Ond mae arwyddocâd y seremonïau hyn a’u pwysigrwydd at y dyfodol, fel maen nhw’n adlewyrchu newidiadau cymdeithasol, yn mynd i fod o ddiddordeb mawr i haneswyr."

    angladdFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Canol Caerdydd yn llonydd yn ystod yr angladdwedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae canol y brifddinas yn dawel a'r Farchnad ar gau ar ŵyl y banc.

    Marchnad Caerdydd
    Westgate Street
    Stryd y Castell
  11. Dim gwahoddiad i'r Arlywydd Putinwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Ers y rhyfel yn Wcráin does yna ddim perthynas ddiplomataidd rhwng Rwsia a'r DU ac felly dyw'r Arlywydd Putin ddim yn yr angladd.

    Dyw'r DU chwaith ddim yn meithrin perthynas ddiplomataidd lawn â gwledydd Syria, Venezuela nac Afghanistan ac felly doedd yna ddim gwahoddiad iddyn nhw.

    Does yna neb chwaith yn bresennol o Belarus na Myanmar.

    Roedd yna gryn feirniadaeth bod Arlywydd China Xi Jinping wedi cael gwahoddiad oherwydd ymdriniaeth llywodraeth China o leiafrifoedd Uyghur.

    Yn ôl ffynonellau yn San Steffan roedd swyddogion o China wedi'u gwahardd rhag mynd i weld corff y Frenhines yn gorffwys ond ddydd Sadwrn fe wnaeth llywodraeth China gadarnhau bod yr Is-lywydd Wang Qishan yn dod i'r angladd.

    Llys-genhadon sy'n cynrychioli Gogledd Korea a Nicaragua yn hytrach nag arweinwyr.

    PutinFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyw'r Arlywydd Putin ddim yn bresennol yn yr angladd

  12. 'Pwysig i bobl alaru'wedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae'r ficer Mark Ansall, Deon ardal Aberystwyth, wedi bod yn sôn am agor Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth, i ddangos y gwasanaeth a’r ymateb sydd wedi bod i farwolaeth y Frenhines.

    "Mae wedi ein synnu ni beth yw ymateb pobl i farwolaeth y Frenhines. Mae llawer o bobl wedi dod i mewn i lofnodi'r llyfr cydymdeimlad, dros 100 mewn gwirionedd.

    "A ddoe roedden ni wedi gweld llawer o ymwelwyr wedi dod i'r gwasanaeth yma - nifer yn gwisgo du - yn nodi beth sydd wedi digwydd, ond hefyd eisiau teimlo eu bod nhw'n rhan o'r gymuned yma."

    Disgrifiad,

    Mark Ansall

  13. Ffydd Elizabeth II yn hynod gadarnwedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    BBC Radio Cymru

    "Doedd gan Elizabeth II ddim cywilydd o’i ffydd, roedd yn ei arddel o Sul i Sul, ond hefyd yn barod iawn i arddel Crist ar lafar," medd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

    "Yn 2017 yn ei neges Nadolig fe ddywedodd i Dduw anfon Iesu nid fel athronydd nac fel cadfridog ond fel achubydd oedd yn gallu maddau.

    "Maddeuant, meddai, yw calon y ffydd Gristnogol, yn adfer perthynas deuluol, yn ail-greu cyfeillgarwch a chymodi cymunedau, ac mewn maddeuant rydyn ni yn profi nerth cariad Duw."

    Ddydd Gwener yn Eglwys Gadeiriol Llandaf fe wnaeth Archesgob Cymru, Andy John, hefyd gyfeirio at gadernid ei ffydd.

    Mae'r Archesgob ymhlith y gwesteion sy'n bresennol yn yr angladd heddiw.

    Archesgob Cymru, Andy John, yn Llandaf ddydd Gwener
    Disgrifiad o’r llun,

    Archesgob Cymru, Andy John, yn Llandaf ddydd Gwener

  14. Perthynas agos gan y Frenhines ag Abaty Westminsterwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Yn draddodiadol yn Abaty Westminster mae brenhinoedd a breninesau Prydain yn cael eu coroni - ac yma y coronwyd y Frenhines Elizabeth II yn 1953.

    Yma hefyd y priododd hi â'r Tywysog Philip yn 1947.

    priodasFfynhonnell y llun, Getty
  15. Pwy arall o Gymru sydd wedi eu gwahodd i'r angladd?wedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae 'na restr hir o tua 50 i 60 westeion o Gymru sydd wedi cael eu gwahodd i'r angladd.

    Ar wahan i Mark Drakeford a Llywydd y Senedd, Elin Jones, mae Andrew RT Davies (Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig), Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru), Jane Dodds (Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) a Liz Saville Roberts AS (Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan) wedi cael gwahoddiad. Bydd Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, hefyd yno.

    Hefyd ar y rhestr mae:

    Judith Paget - Prif Weithredwr GIG Cymru

    Syr Wyn Williams - Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

    Helena Herklots - Comisiynydd Pobl Hŷn

    Rocio Cifuentes - Comisiynydd Plant

    Barnwr Ray Singh CBE - Cyngor Hil Cymru

    Aled Edwards - Prif Weithredwr Cytûn

    Daniel Morgan - Cadeirydd Cyngor Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig

    Mae nifer yn rhagor o wahanol sefydliadau ac elusennau hefyd.

    torfFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Pwy arall sydd yn yr angladd?wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Yn cynrychioli Senedd Cymru, mae'r Llywydd Elin Jones a'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    Yn ogystal â'r teulu brenhinol, ffrindiau a staff mae aelodau o deuluoedd brenhinol eraill Ewrop - yn eu plith teuluoedd brenhinol gwledydd Belg, yr Iseldiroedd, Sbaen, Norwy, Sweden, Denmarc a Monaco.

    Mae nifer o arweinwyr gwledydd y Gymanwlad ac arweinwyr gwledydd Ewrop a thu hwnt wedi teithio i Lundain ar gyfer un o'r achlysuron mwyaf mewn hanes - yn eu plith arweinyddion Awstralia, Seland Newydd, Canada, Bangladesh, Sri Lanka ac India.

    Yma hefyd mae Arlywydd America, Joe Biden a'i wraig Jill.

    Fe gafodd y gwahoddiadau eu hanfon y penwythnos diwethaf.

    IseldiroeddFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Brenin Willem-Alexander a'r Frenhines Maxima o'r Iseldiroedd ymhlith y gwesteion

  17. Cynulleidfa yn gwylio yn Aberystwythwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Sara Gibson
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae tua 50 o bobl wedi dod i Eglwys Sant Mihangel yn Aberytwyth i wylio’r gwasanaeth, a chael lluniaeth.

    Fe dawelodd y gynulleidfa, a bu rhai yn dal dwylo, eraill yn ddagreuol, pan welson nhw’r arch yn dod allan i olau dydd a chael ei gosod ar y cerbyd.

    Aberystwyth
  18. Daw darlleniad Prif Weinidog y DU o Efengyl Ioanwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Roedd Prif Weinidog y DU, Liz Truss, yn un o'r bobl olaf i weld Y Frenhines.

    Heddiw mae'n darllen yn ei hangladd.

    Daw ei darlleniad o Efengyl Ioan, Pennod 14 "Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon".

    Liz Truss
  19. Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: 'Sioc cael fy newis i fynd i'r angladd'wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Andrew Millar
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Andrew Millar ei ddewis drwy falot o’r aelodau hynny a enwebodd eu hunain i fynd

    Ymhlith y rhai sy'n bresennol yn yr angladd mae Andrew Millar, sy'n cynrychioli Merthyr Tudful a Rhymni, yn Senedd Ieuenctid Cymru.

    Cafodd ei ddewis drwy falot o’r aelodau hynny a enwebodd eu hunain i fynd.

    Cyn teithio i Lundain dywedodd Andrew Millar: “Mae’n anrhydedd mawr cael cynrychioli nid yn unig y Senedd, ond pobl ifanc o bob rhan o Gymru.

    “Mae’n wahoddiad anghredadwy ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i dalu teyrnged i’w Mawrhydi.

    “Mae’n sioc i fod yr un a ddewiswyd, ond hefyd yn fraint.”

    Roedd Andrew, 16, hefyd yn bresennol ar gyfer ymweliad Y Brenin yn y Senedd ddydd Gwener.

    Disgrifiad,

    Y Brenin Charles III yn annerch y Senedd yn y Gymraeg

  20. Y dorf ar eu traed yn Hyde Parkwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Sion Pennar
    Gohebydd BBC Cymru

    Yma yn Hyde Park hefyd mae miloedd yn gwylio ar ddwy sgrin fawr.

    Pan gododd y gynulleidfa o fewn yr Abaty, fe gododd y rhan fwyaf o'r dorf yma hefyd.

    Mae tawelwch llethol yma.

    Hyde Park