Cerdyn melyn i Chris Mephamwedi ei gyhoeddi 45+2 mun
Cerdyn melyn arall i Gymru - y tro hwn i Chris Mepham.
Un drosedd yn ormod gan amddiffynnwr canol Cymru, a bydd yn rhaid iddo fod yn ofalus trwy gydol yr ail hanner.
Gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022
Tim Weah yn sgorio unig gôl yr hanner cyntaf i UDA
Gareth Bale yn sgorio o'r smotyn gyda 10 munud yn weddill
Bydd Cymru'n herio Iran ddydd Gwener, ac yna Lloegr nos Fawrth nesaf
Cerdyn melyn arall i Gymru - y tro hwn i Chris Mepham.
Un drosedd yn ormod gan amddiffynnwr canol Cymru, a bydd yn rhaid iddo fod yn ofalus trwy gydol yr ail hanner.
Torcalon i'r cefnogwyr yma ym Methesda!
Cic gornel i Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf - eu cyntaf o'r gêm.
Cymru sy'n cael pen iddi, ond dyw hi'n dod i ddim - cic gôl i UDA.
I roi halen yn y briw ar bum munud gwael, mae'r capten Gareth Bale newydd gael y cerdyn melyn cyntaf i Gymru...
Gwennan Harries
Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C
Rhaid dilyn y rhediad yna. Mae 'na ormod o le i rhywun ar y safon yma. Gormod o amser.
Mae hwnna’n gôl siomedig iawn i ildio.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
'Dan ni'n rhy ara' deg, 'dan ni heb ddod i gyflymdra'r gêm.
Mae UDA yn haeddu bod ar y blaen achos 'dan ni wedi bod yn ofnadwy.
Torcalon i Gymru!
Tim Weah yn rhwydo wedi pas dda i'w lwybr gan Pulisic!
Mae'n deg dweud, roedd y gôl yn dod...
mae cefnogwyr a chwaraewyr yr Unol Daleithiau yn galw am gerdyn melyn i Chris Mepham.
Fe aeth yr amddiffynnwr i mewn yn drwm ar Christian Pulisic, ond trosedd yn unig oedd hi yn ôl y dyfarnwr.
Efallai yn ffodus o ystyried bod UDA eisoes wedi cael dau gerdyn melyn!
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Os y'n ni'n edrych ar gyfraniad Bale ar hyn o bryd, dyw e heb gyfrannu unrhyw beth.
Dyw Bale ddim yn medru cadw rheolaeth o'r bêl a dyw Dan James ddim yn gallu brwydro am y bêl.
Dim ond chwech neu saith chwaraewr ni'n gweld. Does dim gwasanaeth o'u blaen nhw, dyw nhw ddim yn gallu creu unrhyw beth.
Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar
Mae’r awyrgylch ychydig yn nerfus yn y stadiwm, gyda’r UDA wedi dechrau’n gryfach.
Roedd yr eiliad ble bu bron iddyn nhw sgorio o flaen cefnogwyr Cymru’n sicr yn foment o bryder!
Ond mae’r Wal Goch yn cadw mwy o sŵn hyd yma - ‘USA, USA’ ydy unig gri y gwrthwynebwyr!
Hanner awr ar y cloc, a'r UDA yn bendant fydd hapusaf hyd yma.
Maen nhw'n edrych yn fwy peryglus na Chymru, ac mae Cymru'n ei chael hi'n anodd cadw'r bêl yn hanner yr Americanwyr.
Ond mae un peth da - mae hi'n parhau'n ddi-sgôr!
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Bydd yn rhaid i Rob Page ymateb hanner amser i'r diffyg patrwm pasio ac ymosod, yn ôl Kath Morgan.
Mae'r tîm yn edrych yn ddi-brofiad, meddai.
Mae Cymru'n dechrau cael ychydig o'r bêl o'r diwedd, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud unrhywbeth gyda hi.
Fyddai cael Kieffer Moore i fyny'r cae yn ei gwneud yn haws i gael mwy o'r bêl yn hanner y gwrthwynebwyr?
Gwennan Harries
Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C
“Mae Cymru methu cael unrhyw sylfaen yn y gêm yma - mae America yn ennill pob pêl.
"Ampadu yw’r unig un sy’n symud i greu gwagle. Rhaid i’r chwaraewyr eraill 'neud rhyw fath o symudiad“
Dylan Griffiths
Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar
Mae Cymru'n dal i'w chael hi'n anodd i ddod o hyd i batrwm pasio yn ôl y sylwebydd Dylan Griffiths.
"Pan 'dan ni'n dechrau chwarae efo tempo uchel, 'dan ni'n dîm da, ond ar y funud dydy'r pasio ddim yn ddigon da," ychwanegodd Iwan Roberts.
Mae Cymru'n dechrau cael mwy o argraff, er heb gael unrhyw gyfleoedd o bwys hyd yma.
Ond mae UDA wedi cael dau gerdyn melyn - Serginio Dest a Weston McKennie yn llyfr y dyfarnwr.
Cyfleoedd gwirioneddol cynta'r gêm i'r Unol Daleithiau!
Fe wnaeth Joe Rodon benio croesiad yn syth at ei golwr ei hun - ond yn ffodus i Gymru roedd hi'n syth at Wayne Hennessey!
Eiliadau'n unig yn ddiweddarach roedd cyfle arall o groesiad o'r ochr arall, ond fe wnaeth ergyd Josh Sargent daro ochr y rhwyd.
UDA sydd wedi rheoli'r 10 munud agoriadol!
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Ychydig funudau wedi'r chwiban gyntaf ac mae'r sylwebydd Iwan Roberts yn teimlo bod angen ychydig o batrwm ar y chwaraewyr.
"Dwi'n meddwl os allwn ni gael rhyw feddiant, rhyw batrwm o basio, jyst i'r chwaraewyr gael teimlad o'r bêl.
Ond dywedodd nad yw'r chwaraewyr ifanc wedi ei siomi ar ddechrau'r gêm.
"Maen nhw'n dangos egni."