Crynodeb

  • Gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022

  • Tim Weah yn sgorio unig gôl yr hanner cyntaf i UDA

  • Gareth Bale yn sgorio o'r smotyn gyda 10 munud yn weddill

  • Bydd Cymru'n herio Iran ddydd Gwener, ac yna Lloegr nos Fawrth nesaf

  1. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 3 mun

    Trosedd gynnar gan Joe Rodon, ac mae cyfle i UDA roi'r bêl i mewn i'r cwrt cosbi...

    Ond yn ffodus, fe wnaethon nhw smonach ohoni, ac mae Cymru'n clirio'r bêl yn hawdd o'r croesiad.

    Yr un peth sy'n digwydd eto o gic gornel sy'n dilyn.

  2. A dyma ni'n mynd!wedi ei gyhoeddi 1 mun

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Ry'n ni ar fin dechrau!wedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae'r lluniau swyddogol o'r timau wedi'u cymryd, a'r capteiniaid wedi cwrdd yn y canol.

    Un peth ar ôl felly - y gic gyntaf!

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Bois Bro Teifi'n barod am "ddathlu gwyllt" yn Llangrannogwedi ei gyhoeddi 18:59 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Yn gwmni i'n gohebydd yn y gorllewin, Aled Scourfield, mae rhai o fechgyn Blwyddyn 7 Ysgol Bro Teifi.

    Maen nhw'n barod am "noson wyllt" yn gwylio'r gêm yng Ngwersyll yr Urdd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Dymuniadau da gan wyneb cyfarwydd...wedi ei gyhoeddi 18:58 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae dymuniadau da wedi bod yn cyrraedd carfan Rob Page o bob cyfeiriad heddiw - yn cynnwys gan yr actor Michael Sheen!

    Disgrifiad,

    Bu Michael Sheen yn gefnogol iawn o ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd

  6. Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei morio!wedi ei gyhoeddi 18:56 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    A dyma'r anthemau!

    Yr Unol Daleithiau fydd gyntaf, ac yna Hen Wlad Fy Nhadau am y tro cyntaf erioed mewn Cwpan y Byd!

    Doedd canu'r anthemau cyn gemau ddim yn rhywbeth oedd yn digwydd yn 1958.

  7. Y gic gyntaf yn nesáu...wedi ei gyhoeddi 18:53 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae 'na dipyn o sioe yn mynd ymlaen yn y stadiwm - tlws Cwpan y Byd anferth yng nghanol y stadiwm a phopeth!

    Mae'r chwaraewyr yn y twnnel yn barod i ddod i'r maes...

    CwpanFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Y canu wedi hen ddechrau yn y stadiwmwedi ei gyhoeddi 18:49 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae'r aros bron ar ben... a'r cefnogwyr yn y stadiwm yn codi'r to!

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

    Ond mae'r nerfau yn amlwg hefyd!

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Ramsey: Disgwyl 'gêm anodd' yn erbyn UDAwedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Ar drothwy gêm gyntaf Cymru, fe ddywedodd Aaron Ramsey bod cael "dechrau da" yn hollbwysig.

    "Mae'r cystadlaethau yma i gyd am fomentwm, a ni'n gwybod mae'n mynd i fod yn gêm anodd.

    "Ond ni'n canolbwyntio ar ein hunain a gobeithio dechrau gyda win."

    Disgrifiad,

    Mae Aaron Ramsey yn gobeithio "gwneud i'n gwlad deimlo'n fach" wrth herio UDA nos Lun

  10. 'Yr un teimlad â ges i yn Bordeaux'wedi ei gyhoeddi 18:44 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    O'n i byth yn meddwl 'swn i'n gweld Cymru yn yr Euros, o'n i byth yn meddwl 'swn i'n gweld Cymru yng Nghwpan y Byd," meddai'r sylwebydd Iwan Roberts.

    "Mae reit debyg, yn fy marn i, er bod Cwpan y Byd yn gystadleuaeth fwy - dwi'n cael yr un teimlad â ges i yn Bordeaux."

    Ond ychwanegodd fod y cefnogwyr wedi cael eu "sbwylio" yn ddiweddar gyda llwyddiant Cymru a bod hynny'n rhoi pwysau ar y chwaraewyr i wneud yn dda unwaith eto.

    "Mae'r cefnogwyr yn disgwyl cyrraedd y llwyfan mwya'."

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. 'Hetiau bwced, llyfrau, baneri Cymru'n gwerthu allan'wedi ei gyhoeddi 18:40 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Elen a Curig

    Mae wedi bod yn gyfnod prysur i Bartneriaeth Ogwen wrth werthu cynnyrch Cymru cyn Cwpan y Byd.

    “Ma'i 'di bod yn ofnadwy o brysur yn Siop Ogwen efo hetia' bwced, llyfra', mygs, baneri Cymru - bob math o bethau sydd gynnon ni ar werth," dywedodd Elen Williams.

    "Mae bob dim di gwerthu allan mwyn neu lai - mae pawb jest yn edrych ymlaen!”

    Mae Curig (yn yr het) yn gobeithio gweld ei hoff chwaraewr Gareth Bale yn sgorio heno!

  12. 'Mae'r gêm agoriadol mor bwysig'wedi ei gyhoeddi 18:36 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    "Mae hon yn bennod arbennig eto yn ein hanes," medd Osian Roberts, fu'n aelod o dîm hyfforddi Cymru yn Euro 2016.

    Fe fydd cyn-is-hyfforddwr Cymru yn dadansoddi gemau Cwpan y Byd Qatar 2022 yn arbennig ar gyfer Cymru Fyw.

    Wrth i gêm gyntaf Cymru agosáu, dywedodd nad oedd modd diystyru pwysigrwydd y gêm gyntaf.

    Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Osian Roberts yn aelod o dîm hyfforddi Cymru yn Euro 2016

  13. Y Wal Goch wedi cyrraedd Stadiwm Ahmad bin Ali!wedi ei gyhoeddi 18:34 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Reuters
  14. Mae Dafydd Iwan yn ddyn poblogaidd yn Doha!wedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Roedd Dafydd Iwan ymhlith y môr o goch yn y parti yng ngwesty'r Intercontinental cyn y gêm.

    Wrth siarad yn ei grys Cymru gyda Carl Roberts ar BBC Radio Cymru, dywedodd fod y lle "fel nefoedd!"

    "Mae'n wallgof, ond lefel yr ymroddiad i gefnogaeth tîm Cymru yn rhyfeddol.

    "Maen nhw'n bobl sy' jyst yn mwynhau pêl-droed... mae'r ysbryd yn anferthol."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Rob Page yn 'glynu at ei air' a gwobrwyo chwaraewyrwedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dydy hi ddim yn syndod o gwbl i Kath Morgan fod Wayne Hennessey wedi ei enwi yn rhan o'r tîm, ar ôl ei berfformiad yn erbyn Wcráin yn yr haf.

    "Mae Rob Page eisoes wedi dweud y bydd yn gwobrwyo chwaraewyr ac mae'n glynu at ei air.

    "Fi'n siŵr byddai Danny Ward yn siomedig a meddwl y bydde' fe'n haeddu dechre'.

    "Ond y gwir yw, mae'n rhaid i ni ymddiried yn y chwaraewyr yma ac yn Rob Page fel rheolwr."

    HennesseyFfynhonnell y llun, FIFA
  16. Dafydd Iwan a Chôr Dyffryn Clwyd yn canu yn Dohawedi ei gyhoeddi 18:23 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae'r Urdd wedi trydar fideo o Gôr Dyffryn Clwyd yn canu Yma o Hyd gyda Dafydd Iwan yn Doha.

    Mae'r côr yn Qatar trwy’r wythnos yn perfformio a chynrychioli’r Urdd mewn amryw o ddigwyddiadau corfforaethol Llywodraeth Cymru a digwyddiadau cymdeithasol yn y fanzones.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    A dyma nhw yn cyrraedd y stadiwm yn ddiweddarach!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  17. Dim hawl i wisgo het baner yr enfys yn y stadiwm?wedi ei gyhoeddi 18:20 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae cefnogwyr LHDTQ+ Cymru wedi creu het bwced gyda baner yr enfys arno ar gyfer Cwpan y Byd eleni.

    Ond maen nhw'n dweud fod cefnogwyr wedi cael eu hatal rhag eu gwisgo nhw yn y stadiwm.

    Roedd cyn-gapten Cymru yr Athro Laura McAllister yn un oedd yn gwisgo'r het ar ei ffordd i mewn i'r stadiwm, a dywedodd wrth ein gohebydd fod staff wedi ceisio gwneud iddi gael gwared â hi.

    Stadiwm
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Dwi'n dod o Florida - ond yn cefnogi Cymru!'wedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Wrth i'r Wal Goch gyrraedd Doha ddoe, un aelod annisgwyl oedd Alston Pugh.

    "Dwi'n dod o Orlando, Florida - ond dwi'n cefnogi Cymru mwy na'r UDA!" meddai.

    Dywedodd iddo ddechrau dilyn y tîm yn 2015.

    "Mae'r UDA yn cael eu ffafrio [gan y bwcis] ond wir, dwi'n meddwl mai Cymru aiff â hi. Dwi'n meddwl bod Cymru ychydig yn gryfach na'r UDA."

    Dyn ifanc gyda gwallt brown yn gwisgo crys Cymru melyn yn Doha
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Alston Pugh o Orlando, Florida yn hyderus y bydd Cymru'n trechu UDA nos Lun

  19. Neges gan bêl-droedwyr y dyfodolwedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Dyma'r tro cyntaf i genhedlaeth gyfan weld Cymru'n chwarae ar lwyfan y byd.

    Roedd neges rhai o ferched Clwb Pêl-Droed Bancffosfelen cyn y gêm agoriadol yn glir!

    Disgrifiad,

    Pob lwc i Gymru heno gan ferched CPD Bancffosfelen!

  20. Cwpan y Byd yn 'tynnu cymunedau at ei gilydd'wedi ei gyhoeddi 18:09 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Yn Neuadd Ogwen mae'r drysau newydd agor ar gyfer noson arbennig i bobl ddod i wylio a mwynhau'r gêm.

    Mae 'na ddigon o sŵn gan fand pres Pipewords hefyd!

    Dilwyn Llwyd

    “Mae’r drysau yn agor am chwech, wedyn cyn, ar ôl ac hanner amser mae gynnon ni fand pres yn chwarae - a 'dan ni i gyd yn edrych ymlaen at wylio’r gêm ar y sgrin fawr," dywedodd Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen.

    "Mae’n grêt i bentrefi lleol yng Nghymru bod hyn yn digwydd. Fydd na lot allan yn mwynhau. Yn tynnu cymunedau at ei gilydd a dathlu ein Cymreictod ni.”

    Bleddyn a'i fab

    Mae Bleddyn Williams a’i fab Osian yn edrych ymlaen "yn aruthrol".

    "Ma'i 'di bod yn amser hir," dywedodd. "Mae jest cal bod yma yn Neuadd Ogwen efo plant a’r teulu jest yn wych yndi!

    "Mae heddiw ‘di bod yn ddiwrnod hir – ddim jest i’r plant ond i’r athrawon hefyd."

    Yn ôl Osian mae’n gobeithio ac yn meddwl y bydd Cymru yn trechu Lloegr yr wythnos nesaf.